Rheoliadau'r Premiwm Cigydda (Cymru) 2001

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n dod i rym ar 25 Ebrill 2001, yn nodi mesurau gweithredu cenedlaethol ar gyfer y cynllun premiwm cigydda ar gyfer anifeiliaid buchol a gyflwynwyd gan Erthygl 11 o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1254/1999 ar y gyd-drefniadaeth ar gyfer y farchnad cig eidion a chig llo (OJ Rhif L160, 26.6.1999, t.21). Maent yn darparu ar gyfer gweinyddiaeth y cynllun mewn perthynas â daliadau a leolir yn gyfan gwbl yng Nghymru, a hefyd daliadau sydd yn rhannol yng Nghymru ac yn rhannol mewn man arall yn y Deyrnas Unedig, os yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cytuno y bydd y Bwrdd Ymmyrraeth Cynnyrch Amaethyddol yn gyfrifol am brosesu cais y ffermwr am y premiwm (rheoliadau 3 i 11). Maent yn darparu hefyd ar gyfer gorfodi'r cynllun mewn perthynas â daliadau o'r fath (rheoliadau 21 i 30).

Mae'r darpariaethau ynghylch y gwaith gweinyddu yn sefydlu'r weithdrefn ar gyfer cyflwyno ceisiadau am y premiwm (rheoliadau 4, 5 a 6), yn gosod sancsiynau am orbori a defnyddio dulliau bwydo atodol anaddas (a gynhwysir yn un o amodau'r cynllun yn rhinwedd Erthygl 3 o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1259/1999 sy'n sefydlu rheolau cyffredin ar gyfer cynlluniau cymorth uniongyrchol o dan y polisi amaethyddol cyffredin (OJ Rhif L160, 26.6.1999, t.113)) (rheoliadau 8 a 9), ac yn darparu ar gyfer dal y premiwm cigydda yn ôl neu ei adennill os caiff rheolau'r cynllun eu torri (rheoliadau 10 ac 11). I fod yn gymwys i gael y premiwm cigydda, mae rheoliad 7 yn ei gwneud yn ofynnol bod rhaid i anifeiliaid gael eu cigydda mewn lladd-dai sydd wedi'u cofrestru gyda'r Bwrdd Ymyrraeth Cynnyrch Amaethyddol. Mae rheoliadau 12 i 19 yn darparu ar gyfer cofrestru lladd-dai a leolir yng Nghymru; o'r rhain, mae rheoliadau 13, 14, a 19 yn nodi'r weithdrefn ar gyfer cofrestru a rheoliadau 15 i 18 yr amgylchiadau a'r weithdrefn ar gyfer dileu cofrestriad. Mae'r amodau y mae'n rhaid i ladd-dai cofrestredig gydymffurfio â hwy wedi'u nodi yn yr Atodlen i'r Rheoliadau. Mae'r darpariaethau ar gyfer gorfodi yn rheoliadau 21 i 31 hefyd yn gymwys mewn perthynas â chofrestru fel hyn.

Mae'r darpariaethau ynghylch gorfodi yn ei gwneud yn ofynnol i geiswyr gadw cofnodion penodol (rheoliad 22) ac yn rhoi pwerau mynediad, pwerau archwilio a phwerau casglu tystiolaeth i bersonau awdurdodedig (rheoliadau 24 a 25). Mae'r rhain yn cynnwys y pwerau sy'n angenrheidiol o dan Erthygl 6 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 3887/92 sy'n nodi rheolau manwl ar gyfer defnyddio'r system integredig gweinyddu a rheoli ar gyfer cynlluniau cymorth Cymunedol penodol. Ymdrin â thramgwyddo a chosbi y mae rheoliadau 28 i 30.

Mae Arfarniad Rheoleiddio wedi'i baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn, ac mae copi ohono ar gael oddi wrth Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Yr Adran Amaethyddiaeth, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.