- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
21. Mae rheoliadau 22 i 30 yn gymwys—
(a)i'r graddau y maent yn ymwneud â cheiswyr, i'r graddau mai'r Cynulliad Cenedlaethol yw'r awdurdod cymwys perthnasol mewn perthynas â'u daliadau at ddibenion Rheoliadau IACS; a
(b)i'r graddau y maent yn ymwneud â lladd-dai, mewn perthynas â lladd-dai yng Nghymru.
22. Rhaid i geisydd gadw unrhyw lyfr, cofrestr (heblaw cofrestr sy'n cael ei chadw i gydymffurfio ag Erthygl 7(1) a (4) o Reoliad 1760/2000), bil, anfoneb, cyfriflen, derbynneb, tystysgrif, taleb, gohebiaeth neu ddogfen neu gofnod arall ynghylch anifail premiwm y mae wedi cyflwyno cais mewn perthynas ag ef am gyfnod o bedair blynedd o'r dyddiad y cafodd y cais ei gyflwyno.
23. Caiff person awdurdodedig, ar ôl dangos rhyw ddogfen a ddilyswyd yn briodol os gofynnir iddo wneud hynny, a honno'n dangos ei awdurdod, arfer pwerau a roddir gan reoliadau 24 a 25, ar bob adeg resymol, er mwyn—
(a)gweithredu unrhyw fesur rheoli penodedig; neu
(b)darganfod a oes tramgwydd o dan reoliad 28 wrthi'n cael ei gyflawni neu wedi'i gyflawni; neu
(c)sicrhau bod premiwm cigydda wedi'i roi, neu i gael ei roi, yn unol â'r canlynol yn unig—
(i)rheolau'r Gymuned; a
(ii)gofynion rheoliadau 8 a 9.
24.—(1) Caiff person awdurdodedig fynd ar unrhyw dir, heblaw tir sy'n cael ei ddefnyddio yn annedd yn unig, sydd, neu y mae'n credu'n rhesymol ei fod—
(a)yn cael ei feddiannu gan geisydd neu ei ddefnyddio ganddo neu ganddi i gadw anifeiliaid buchol; neu
(b)yn cael ei ddefnyddio ar gyfer lladd-dy, neu mewn cysylltiad ag un.
(2) Caiff person awdurdodedig sydd wedi mynd ar unrhyw dir yn rhinwedd y rheoliad hwn—
(a)archwilio a dilysu arwynebedd y tir neu unrhyw ran ohono;
(b)archwilio unrhyw adeilad, strwythur neu offer, gan gynnwys offer pwyso, ar y tir;
(c)archwilio a chyfrif unrhyw anifeiliaid buchol ar y tir a darllen eu tagiau clust neu eu marciau adnabod eraill;
(ch)archwilio unrhyw garcas, neu ran o garcas, o unrhyw anifail buchol ar y tir;
(d)gwneud unrhyw weithgaredd arall sy'n fesur rheoli penodedig; ac
(dd)archwilio'r tir er mwyn penderfynu a yw wedi'i orbori neu a oes dulliau bwydo atodol anaddas wedi'u defnyddio arno.
(3) Caiff person awdurdodedig sy'n mynd ar dir yn rhinwedd y rheoliad hwn fynd ag unrhyw bersonau eraill sy'n gweithredu o dan ei gyfarwyddiadau y mae'n credu bod eu hangen gydag ef neu hi.
25. Caiff person awdurdodedig—
(a)ei gwneud yn ofynnol i geisydd neu unrhyw swyddog, gweithiwr cyflogedig, gwas neu asiant i geisydd gyflwyno unrhyw ddogfen sy'n perthyn i'r ceisydd sydd yn ei feddiant neu o dan ei reolaeth a rhoi unrhyw wybodaeth ychwanegol ym meddiant y person hwnnw neu o dan ei reolaeth ynghylch cais y bydd y person awdurdodedig yn gofyn yn rhesymol amdanynt;
(b)ei gwneud yn ofynnol i weithredydd lladd-dy neu unrhyw swyddog, gweithiwr cyflogedig, gwas neu asiant i weithredydd lladd-dy gyflwyno unrhyw ddogfen lladd-dy yn ei feddiant neu o dan ei reolaeth a rhoi unrhyw wybodaeth ychwanegol ym meddiant y person hwnnw neu o dan ei reolaeth ynghylch busnes neu weithrediadau lladd-dy neu ynghylch unrhyw anifail buchol sydd wedi'i gigydda neu wedi'i gludo yno i'w gigydda y bydd y person awdurdodedig yn gofyn yn rhesymol amdanynt;
(c)archwilio unrhyw ddogfen ceisydd y cyfeirir ati yn is-baragraff (a), neu unrhyw ddogfen lladd-dy y cyfeirir ati yn is-baragraff (b), ac, os yw'n cael ei chadw drwy gyfrwng cyfrifiadur, mynd at unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw offer neu ddeunyddiau cysylltiedig sy'n cael neu sydd wedi cael eu defnyddio mewn cysylltiad â'r ddogfen ceisydd honno, neu'r ddogfen lladd-dy honno, yn ôl fel y digwydd, a'u harchwilio ac edrych i weld sut y maent yn gweithio;
(ch)gwneud unrhyw gopïau o unrhyw ddogfen ceisydd y cyfeirir ati yn is-baragraff (a), neu unrhyw ddogfen lladd-dy y cyfeirir ati yn is-baragraff (b), y gwêl yn dda; a
(d)cipio a chadw unrhyw ddogfen ceisydd y cyfeirir ati yn is-baragraff (a), neu unrhyw ddogfen lladd-dy y cyfeirir ati yn is-baragraff (b), y mae ganddo neu ganddi reswm dros gredu y gallant fod yn ofynnol fel tystiolaeth mewn achos mewn perthynas â chais ac, os yw unrhyw ddogfen ceisydd neu ddogfen lladd-dy o'r fath yn cael ei chadw drwy gyfrwng cyfrifiadur, ei gwneud yn ofynnol ei chyflwyno ar ffurf a all gael ei chymryd i ffwrdd.
26. Rhaid i geisydd, gweithredydd lladd-dy, unrhyw swyddog, gweithiwr cyflogedig, gwas neu asiant i geisydd neu i weithredydd lladd-dy ac unrhyw berson sydd â gofal anifeiliaid ar dir yr eir arno yn unol â rheoliad 24 roi i berson awdurdodedig y cymorth y mae'n gofyn yn rhesymol amdano i'w alluogi i arfer unrhyw bŵ er a roddir gan reoliad 24 neu 25 ac yn benodol, mewn perthynas ag unrhyw anifail buchol, rhaid iddynt drefnu bod yr anifail hwnnw'n cael ei osod mewn lloc a'i gadw'n ddiogel os gofynnir felly.
27. Bydd yn drosedd i berson—
(a)methu â chydymffurfio â rheoliad 22 heb esgus rhesymol;
(b)os yw cofrestriad lladd-dy ar gyfer cigydda anifeiliaid premiwm wedi'i ddileu, gwneud y canlynol heb esgus rhesymol—
(i)methu â chaniatáu i berson awdurdodedig ddodi copi o'r hysbysiad dileu yno mewn man amlwg y mae'n hawdd i bob person sy'n dod ag anifeiliaid i'r lladd-dy ei weld; neu
(ii)methu â chadw'r copi hwnnw o'r hysbysiad dileu yn y fan honno mewn cyflwr clir a darllenadwy nes bod blwyddyn o ddyddiad y dileu wedi dod i ben neu nes i'r lladd-dy gael ei gofrestru eto, p'un bynnag fydd gyntaf, neu newid neu ddifwyno'r hysbysiad;
(c)rhwystro person awdurdodedig yn fwriadol wrth iddo arfer pŵ er a roddir gan reoliad 24 neu 25;
(ch)methu, heb esgus rhesymol, â chydymffurfio â gofyniad a wneir o dan reoliad 25 neu gais a wneir o dan reoliad 26; neu
(d)gwneud datganiad, yn fwriadol neu'n ddi-hid neu roi unrhyw wybodaeth sy'n ffug neu'n gamarweiniol mewn manylyn perthnasol os yw'r datganiad yn cael ei wneud neu os yw'r wybodaeth yn cael ei rhoi er mwyn sicrhau bod premiwm cigydda'n cael ei roi iddo'i hun neu i unrhyw berson arall.
28.—(1) Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan reoliad 27(a), (b), (c) neu (ch) yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.
(2) Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan reoliad 27(d) yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.
29.—(1) Gall achos ynglŷn â thramgwydd o dan reoliad 27, gael ei ddwyn, yn ddarostyngedig i baragraff (2), o fewn y cyfnod o chwe mis o'r dyddiad y caiff yr erlynydd wybod am dystiolaeth sy'n ddigonol yn ei farn ef neu hi i haeddu achos.
(2) Ni all achos o'r fath gael ei ddwyn yn rhinwedd y rheoliad hwn fwy na deuddeng mis ar ôl i'r tramgwydd gael ei gyflawni.
(3) At ddibenion y rheoliad hwn, bydd tystysgrif a lofnodir gan neu ar ran yr erlynydd ac yn datgan y dyddiad y cafodd wybod am dystiolaeth a oedd yn ddigonol yn ei farn ef neu hi i haeddu'r achos yn dystiolaeth ddigamsyniol o'r ffaith honno.
(4) Bernir bod tystysgrif sy'n datgan y mater hwnnw ac sy'n ymhonni ei bod wedi'i llofnodi felly wedi'i llofnod felly oni phrofir i'r gwrthwyneb.
30.—(1) Pan yw corff corfforaethol yn euog o dramgwydd o dan reoliad 27, a phan brofir bod y tramgwydd hwnnw wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad swyddog i'r corff corfforaethol, neu y gellir ei briodoli i unrhyw esgeulustod ar ei ran, bydd y person hwnnw, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o'r tramgwydd ac yn agored i achos a chosb yn unol â hynny.
(2) At ddibenion paragraff (1), ystyr “swyddog” mewn perthynas â chorff corfforaethol y rheolir ei faterion gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforaethol hwnnw.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: