10. Caiff y Bwrdd ddal yn ôl, neu adennill ar gais, y cyfan neu unrhyw ran o unrhyw bremiwm cigydda a hawliwyd oddi wrtho neu a roddwyd ganddo o dan unrhyw un o'r amgylchiadau canlynol—
(a)os na fyddai, neu os nad yw, rhoi premiwm cigydda i'r ceisydd o dan sylw yn cydymffurfio â rheolau'r Gymuned;
(b)os nad oedd anifail premiwm, ar unrhyw adeg rhwng cyflwyno'r cais mewn perthynas ag ef a'i gigydda—
(i)yn destun adnabyddiaeth a gymeradwywyd yn unol â gofynion erthygl 4(1) o Orchymyn Anifeiliaid Buchol (Adnabod, Marchnata a Chofnodion Bridio) 1990; neu
(ii)wedi'i adnabod â thag clust yn unol ag erthygl 8 neu 9 o Orchymyn Anifeiliaid Buchol (Cofnodion, Adnabod a Symud) 1995; neu
(iii)wedi'i gofrestru yn unol â rheoliad 5 o Reoliadau Gwartheg (Cofrestru Anifeiliaid Hŷn) (Cymru) 2000(1); neu yn unol ag unrhyw ddarpariaethau ar gyfer cofrestru o'r fath a gynhwysir yn unrhyw reoliadau cyfatebol sy'n gymwys yn Lloegr, yr Alban neu Gogledd Iwerddon; neu
(iv)wedi'i adnabod a'i gofrestru yn unol â Rheoliad y Cyngor 820/97 a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2629/97 sy'n nodi rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 820/97 ynghylch tagiau clust, cofrestrau daliadau a phasbortau yn fframwaith y system ar gyfer adnabod a chofrestru anifeiliaid buchol(2); neu
(v)wedi'i adnabod a'i gofrestru yn unol â Rheoliad 1760/2000;
(c)os nad yw'r amodau a bennir yn rheoliad 7(2) wedi'u bodloni;
(ch)os yw'r ceisydd o dan sylw, neu swyddog, gweithiwr cyflogedig, gwas neu asiant i'r ceisydd hwnnw, yn fwriadol yn rhwystro person awdurdodedig, neu berson sy'n mynd gyda pherson awdurdodedig ac yn gweithredu o dan ei gyfarwyddiadau, rhag arfer unrhyw bŵ er a roddir gan reoliadau 24 neu 25, neu'n methu heb esgus rhesymol â chydymffurfio â gofyniad a wneir gan berson awdurdodedig o dan reoliad 25, neu â chais a wneir gan berson awdurdodedig o dan reoliad 26; a
(d)os yw'r ceisydd, gyda'r bwriad o gaffael taliad premiwn cigydda iddo'i hun neu unrhyw berson arall, yn fwriadol neu'n ddi-hid, wedi gwneud datganiad neu roi unrhyw wybodaeth sy'n ffug neu'n gamarweiniol mewn manylyn perthnasol.
OJ Rhif L354, 30.12.97, t.19.