Search Legislation

Rheoliadau'r Premiwm Cigydda (Cymru) 2001

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall—

  • ystyr “anifail buchol” (“bovine animal) yw anifail o'r rhywogaeth fuchol ddomestig;

  • ystyr “anifail premiwm” (“premium animal) yw anifail premiwm mewn oed, llo premiwm ac anifail premiwm hŷn;

  • ystyr “anifail premiwm hŷn” (“premium older animal) yw anifail buchol y mae neu y bydd cais wedi'i gyflwyno mewn perthynas ag ef ac sy'n cael ei gigydda ar y diwrnod ar ôl cyrraedd deg mis ar hugain oed, neu wedyn;

  • ystyr “anifail premiwm mewn oed” (“premium adult animal) yw anifail buchol sy'n wyth mis oed o leiaf adeg ei gigydda ac y mae neu y bydd cais wedi'i gyflwyno mewn perthynas ag ef, heblaw anifail premiwm hŷn;

  • mae i “awdurdod cymwys perthnasol” yr un ystyr â “relevant competent authority” yn y Rheoliadau IACS;

  • ystyr “y Bwrdd” (“the Board”) yw Bwrdd Ymyrraeth Cynnyrch Amaethyddol a sefydlwyd o dan adran 6 o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972;

  • ystyr “cais” (“claim) yw cais am y premiwm cigydda;

  • ystyr “ceisydd” (“claimant) yw cynhyrchydd sy'n cyflwyno cais;

  • ystyr “cofrestru” (“register) yw cofrestru lladd-dy yn unol â rheoliad 14 a dehonglir “wedi'i gofrestru” yn unol â hynny;

  • ystyr “cyfnod cadw” (“retention period) yw'r isafswm cyfnod, y cyfeirir ato yn Erthygl 37 o Reoliad y Comisiwn 2342/1999, y mae'n rhaid i geisydd gadw anifail premiwm ar ei gyfer, sef—

    (a)

    un mis yn achos llo premiwm llai na thri mis oed adeg ei gigydda, a

    (b)

    dau fis yn achos unrhyw anifail premiwm arall;

    mae i “cynhyrchydd” yr un ystyr â “producer” ym Mhennod 1 o Deitl 1 i Reoliad y Cyngor 1254/1999;

  • ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

  • ystyr “daliad” (“holding) yw'r holl unedau cynhyrchu a reolir gan gynhyrchydd sydd wedi'u lleoli o fewn y Deyrnas Unedig;

  • ystyr “dogfen ceisydd” (“claimant’s document) yw unrhyw un o'r dogfennau neu'r cofnodion canlynol, yn ysgrifenedig neu wedi'i chadw drwy gyfrwng cyfrifiadur—

    (a)

    unrhyw basbort gwartheg neu ddull adnabod arall a gymeradwywyd;

    (b)

    unrhyw ddogfen weinyddol genedlaethol, fel y'i diffinnir yn rheoliad 2(1) o Reoliadau'r Premiwm Arbennig Cig Eidion 1996(1);

    (c)

    unrhyw gofrestr a gedwir i gydymffurfio ag Erthygl 7(1) a (4) o Reoliad 1760/2000;

    (ch)

    unrhyw gofnod a wneir o dan Erthygl 5 o Orchymyn Anifeiliaid Buchol (Cofnodion, Adnabod a Symud) 1995(2);

    (d)

    unrhyw gofnod a wneir o dan Erthygl 9 o Orchymyn Anifeiliaid Buchol (Adnabod, Marcio a Chofnodion Bridio) 1990(3); ac

    (dd)

    unrhyw lyfr, cofrestr (heblaw cofrestr y cyfeirir ati yn is-baragraff (c) o'r diffiniad hwn), bil, anfoneb, cyfrif, derbynneb, tystysgrif, taleb, gohebiaeth neu ddogfen neu gofnod arall ynghylch anifail buchol;

  • ystyr “dogfen lladd-dy” (“slaughterhouse document) yw unrhyw lyfr, cofrestr, bil, anfoneb, cyfrif, derbynneb, taleb, gohebiaeth neu ddogfen neu gofnod arall ynghylch busnes neu weithrediadau lladd-dy neu ynghylch unrhyw anifail premiwm a gigyddwyd yno neu y daethpwyd ag ef yno i'w gigydda, yn ysgrifenedig neu wedi'i gadw drwy gyfrwng cyfrifiadur, ac mae'n cynnwys y cofnod o rifau tagiau clust, rhifau lladd a dyddiadau cigydda y cyfeirir ato ym mharagraff 1 o'r Atodlen;

  • ystyr “dull adnabod arall a gymeradwywyd” (“other approved identification) yw dull adnabod a gymeradwywyd ac sy'n ofynnol o dan erthygl 4(1) o Orchymyn Anifeiliaid Buchol (Adnabod, Marcio a Chofnodion Bridio) 1990 heblaw rhif tag clust;

  • ystyr “dulliau bwydo atodol anaddas” (“unsuitable supplementary feeding methods) yw rhoi bwyd atodol (heblaw i gynnal da byw yn ystod tywydd annormal) mewn ffordd sy'n arwain at niwed i'r llystyfiant wrth i dda byw sathru neu ddamsang ormod ar y tir neu wrth i gerbydau rigoli'r tir ormod;

  • mae i “gohebiaeth electronig” yr un ystyr ag “electronic communication” yn Neddf Cyfathrebu Electronig 2000(4));

  • ystyr “gorbori” (“overgrazing”) yw pori tir â da byw mewn niferoedd sy'n amharu ar dwf, ansawdd neu gyfansoddiad rhywogaethau'r llystyfiant (heblaw llystyfiant sydd fel rheol yn cael ei bori nes ei ddinistrio) ar y tir hwnnw i raddau arwyddocaol a dehonglir “wedi'i orbori” yn unol â hynny;

  • ystyr “gweithredydd lladd-dy” (“slaughterhouse operator) yw person sy'n cynnal busnes lladd-dy neu gynrychiolydd person o'r fath a awdurdodwyd yn briodol;

  • ystyr “llo premiwm” (“premium calf) yw anifail buchol sy'n un mis oed o leiaf, ond yn llai na saith mis oed adeg ei gigydda a gyda phwysau carcas sy'n llai na 160 kilogram, ac y mae neu y bydd cais wedi'i gyflwyno mewn perthynas ag ef;

  • ystyr “mesur rheoli penodedig” (“specified control measure) yw unrhyw wiriad y mae'n ofynnol i Aelod-wladwriaeth ei gynnal o dan Erthygl 6 o Reoliad y Comisiwn 3887/92;

  • ystyr “pasbort gwartheg” (“cattle passport), mewn perthynas ag anifail premiwm—

    (a)

    yr oedd Gorchymyn Pasbortau Gwartheg 1996(5) yn gymwys iddo, yw pasbort gwartheg fel y'i diffinnir yn erthygl 2(2) o'r Gorchymyn hwnnw;

    (b)

    yr oedd Erthygl 6(1) o Reoliad y Cyngor 820/97 yn gymwys iddo, yw pasbort gwartheg dilys a roddwyd yn unol â'r Erthygl honno; ac

    (c)

    y mae Erthygl 6(1) o Reoliad 1760/2000 yn gymwys iddo, yw pasbort gwartheg dilys a roddwyd yn unol â'r Erthygl honno;

  • ystyr “person awdurdodedig” (“authorised person) yw person sydd wedi'i awdurdodi gan y Bwrdd, yn gyffredinol neu'n arbennig, i weithredu, mewn materion sy'n codi o dan y Rheoliadau hyn, p'un a yw'n un o swyddogion y Bwrdd hwnnw neu beidio;

  • ystyr “premiwm cigydda” (“slaughter premium”) yw premiwm a roddir yn unol ag Erthygl 11 o Reoliad y Cyngor 1254/1999 i gynhyrchydd sy'n cadw anifeiliaid buchol ar ei ddaliad, ar ôl i anifail buchol gael ei gigydda;

  • ystyr “rheolau'r Gymuned” (“the Community rules) yw'r rheolau ynghylch y premiwm cigydda a nodir yn Erthyglau 11, 21 a 23 o Reoliad y Cyngor 1254/1999 a Phennod V o Reoliad y Comisiwn 2342/1999 a'r rheolau ynghylch cynhwysion ceisiadau a nodir yn Erthygl 5 ac ynghylch lleihau cymorth y Gymuned a nodir yn Erthyglau 10, 10b, 10c a 10d o Reoliad y Comisiwn 3887/92;

  • ystyr “Rheoliad y Comisiwn 2342/1999” (“Commission Regulation 2342/1999”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2342/1999 sy'n nodi rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1254/1999 ar y gyd-drefniadaeth ar gyfer y farchnad cig eidion a chig llo o ran cynlluniau premiwm (6) (fel y'i diwygiwyd gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1042/2000(7)) a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1900/2000(8);

  • ystyr “Rheoliad y Comisiwn 3887/92” (“Commission Regulation 3887/92”) yw Rheoliad y Comisiwn (EEC) Rhif 3887/92 sy'n nodi rheolau manwl ar gyfer cymhwyso'r system integredig gweinyddu a rheoli ar gyfer rhai o gynlluniau cymorth y Gymuned(9)h);

  • ystyr “Rheoliad y Cyngor 820/97” (“Council Regulation 820/97”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 820/97 yn sefydlu system ar gyfer adnabod a chofrestru anifeiliaid buchol ac ynghylch labelu cynhyrchion cig eidion(10);

  • ystyr “Rheoliad y Cyngor 1254/1999” (“Council Regulation 1254/1999”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1254/1999 ynghylch y gyd-drefniadaeth ar gyfer y farchnad cig eidion a chig llo(11));

  • ystyr “Rheoliad 1760/2000” (“Regulation 1760/2000”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1760/2000 Senedd Ewrop a'r Cyngor yn sefydlu system ar gyfer adnabod a chofrestru anifeiliaid buchol ac yn ei gwneud yn ofynnol labelu cig eidion a chynhyrchion cig eidion ac yn diddymu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 820/97(12);

  • ystyr “Rheoliadau IACS” (“the IACS Regulations) yw Rheoliadau System Integredig Gweinyddu a Rheoli 1993(13);

  • ystyr “rhif lladd” (“kill number”) yw'r rhif, sy'n unigryw i bob anifail premiwm, a roddir mewn lladd-dy ar gyfer cigydda'r anifail hwnnw;

  • ystyr “rhif tag clust” (“eartag number”) yw—

    (a)

    y rhif ar dag clust sydd wedi'i gyplysu ag anifail buchol fel y dull adnabod a gymeradwywyd ac sy'n angenrheidiol o dan erthygl 4(1) o Orchymyn Anifeiliaid Buchol (Adnabod, Marcio a Chofnodion Bridio) 1990, neu

    (b)

    rhif tag clust fel y'i diffinnir yn erthygl 2(1) o Orchymyn Anifeiliaid Buchol (Cofnodion, Adnabod a Symud) 1995, neu

    (c)

    y cod adnabod unigryw y cyfeirir ato yn Erthygl 4(1) o Reoliad 1760/2000,yn ôl fel y digwydd;

  • ystyr “swyddog” (“officer) yw cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg i geisydd neu i weithredwr lladd-dy sy'n gorff corfforaethol, neu unrhyw berson sy'n honni ei fod yn gweithredu mewn unrhyw swyddogaeth o'r fath.

(2Mae cyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at unrhyw beth a wneir yn ysgrifenedig neu a gynhyrchir ar ffurf ysgrifenedig yn cynnwys cyfeiriad at ohebiaeth electronig sydd wedi'i chofnodi ac felly yn gallu cael ei hatgynhyrchu wedyn.

(3Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at offeryn y Gymuned yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y mae wedi'i ddiwygio ar y dyddiad y gwneir y Rheoliadau hyn.

(4Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at reoliad neu Ran â rhif (heb gyfeiriad at offeryn penodol) yn gyfeiriad at y rheoliad neu'r Rhan sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn ac mae unrhyw gyfeiriad at yr Atodlen yn gyfeiriad at yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

(1)

O.S. 1996/3241, a ddiwygiwyd gan O.S. 1999/1179.

(2)

O.S. 1995/12, a ddiddymwyd yn rhannol gan O.S. 1998/871.

(3)

O.S. 1990/1867, a ddiwygiwyd gan O.S. 1993/503 ac a ddiddymwyd gan O.S. 1995/12.

(5)

O.S. 1996/1686, a ddiddymwyd gan O.S. 1998/871.

(6)

OJ Rhif L281, 4.11.1999, t.30.

(7)

OJ Rhif L118, 19.5.2000, t.4.

(8)

OJ Rhif L228, 8.9.2000, t.25.

(9)

OJ Rhif L391, 31.12.92, t.36, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2801/1999 (OJ Rhif L340, 31.12.1999, t.29).

(10)

OJ Rhif L117, 7.5.1997, t.1, a ddiddymwyd gan Reoliad EC Rhif 1760/2000 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L204, 11.8.2000, t.1).

(11)

OJ Rhif L160, 26.6.1999, t.21.

(12)

OJ Rhif L204, 11.8.2000, t.1.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources