Rhan VGorfodi

Pwerau mewn perthynas â dogfennau25

Caiff person awdurdodedig—

a

ei gwneud yn ofynnol i geisydd neu unrhyw swyddog, gweithiwr cyflogedig, gwas neu asiant i geisydd gyflwyno unrhyw ddogfen sy'n perthyn i'r ceisydd sydd yn ei feddiant neu o dan ei reolaeth a rhoi unrhyw wybodaeth ychwanegol ym meddiant y person hwnnw neu o dan ei reolaeth ynghylch cais y bydd y person awdurdodedig yn gofyn yn rhesymol amdanynt;

b

ei gwneud yn ofynnol i weithredydd lladd-dy neu unrhyw swyddog, gweithiwr cyflogedig, gwas neu asiant i weithredydd lladd-dy gyflwyno unrhyw ddogfen lladd-dy yn ei feddiant neu o dan ei reolaeth a rhoi unrhyw wybodaeth ychwanegol ym meddiant y person hwnnw neu o dan ei reolaeth ynghylch busnes neu weithrediadau lladd-dy neu ynghylch unrhyw anifail buchol sydd wedi'i gigydda neu wedi'i gludo yno i'w gigydda y bydd y person awdurdodedig yn gofyn yn rhesymol amdanynt;

c

archwilio unrhyw ddogfen ceisydd y cyfeirir ati yn is-baragraff (a), neu unrhyw ddogfen lladd-dy y cyfeirir ati yn is-baragraff (b), ac, os yw'n cael ei chadw drwy gyfrwng cyfrifiadur, mynd at unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw offer neu ddeunyddiau cysylltiedig sy'n cael neu sydd wedi cael eu defnyddio mewn cysylltiad â'r ddogfen ceisydd honno, neu'r ddogfen lladd-dy honno, yn ôl fel y digwydd, a'u harchwilio ac edrych i weld sut y maent yn gweithio;

ch

gwneud unrhyw gopïau o unrhyw ddogfen ceisydd y cyfeirir ati yn is-baragraff (a), neu unrhyw ddogfen lladd-dy y cyfeirir ati yn is-baragraff (b), y gwêl yn dda; a

d

cipio a chadw unrhyw ddogfen ceisydd y cyfeirir ati yn is-baragraff (a), neu unrhyw ddogfen lladd-dy y cyfeirir ati yn is-baragraff (b), y mae ganddo neu ganddi reswm dros gredu y gallant fod yn ofynnol fel tystiolaeth mewn achos mewn perthynas â chais ac, os yw unrhyw ddogfen ceisydd neu ddogfen lladd-dy o'r fath yn cael ei chadw drwy gyfrwng cyfrifiadur, ei gwneud yn ofynnol ei chyflwyno ar ffurf a all gael ei chymryd i ffwrdd.