Search Legislation

Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dangosyddion Perfformiad Gwerth Gorau) (Cymru) 2001

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Erthygl 4

ATODLEN 8DANGOSYDDION IECHYD AMGYLCHEDD A SAFONAU MASNACH

Rhif y DangosyddDisgrifiad y Dangosydd Manylion y Dangosydd
NAWPI 8.1

Y ganran o'r archwiliadau adeiladau bwyd y dylid bod wedi'u cynnal a gynhaliwyd mewn gwirionedd ar gyfer:

(a)

adeiladau risg-uchel

(b)

adeiladau eraill

Ystyr archwiliadau a oedd i gael eu cynnal yw archwiliadau ar adeiladau perthnasol a oedd i gael eu cynnal yn ystod y y flwyddyn, yn ôl y nifer lleiaf o archwiliadau ar gyfer yr adeiladau hynny y dylid bod wedi'u cynnal at ddibenion hylendid bwyd yn unol â COP9.

Diffinnir archwilio yng nghod ymarfer Rhif 3 Deddf Diogelwch Bwyd 1990, paragraff 2 (heb gynnwys adran (f)).

Mae “COP9” isod yn cyfeirio at Cod Ymarfer rhif 9 Deddf Diogelwch Bwyd (1990 p.16)

ystyr “adeiladau bwyd” yw pob categori fel y'u diffinnir yn atodiad (1) o COP9

ystyr “adeiladau risg uchel” yw adeiladau yn y categorïau risg (a) i (c) yn COP9

ystyr “adeiladau eraill” yw adeiladau yng nghategorïau (d) i (f) yn COP9.

NAWPI 8.2/BV166Sgôr iechyd amgylchedd/ safonau masnach yn erbyn rhestr gyfeirio o arferion gorau gorfodi.

Mae'r rhestr gyfeirio arfaethedig isod wedi'i drafftio gyda 10 pwynt, ac un neu ragor o gwestiynau ambob pwynt. Mae pob pwynt yn werth 1 marc. Mae'r cwestiwn/cwestiynau o dan bob pwynt yn werth ffracsiwn o'r marc hwnnw. Mae angen ateb “ydyw” neu “nac ydyw” i bob cwestiwn. Er enghraifft, ceir wyth cwestiwn o dan bwynt 1, felly mae ateb “ydyw” i un cwestiwn o dan bwynt 1 yn ennill sgôr o 1/8fed, ac mae “ydyw” i bum cwestiwn yn ennill sgôr o 5/8fed.

Polisïau Gorfodi Ysgrifenedig:

1.—(aA yw'r awdurdod gwerth gorau wedi ysgrifennu polisi/ polisïau gorfodi a'u cyhoeddi, wedi'u hategu'n ffurfiol gan eu haelodau, i ymdrin â phob agwedd ar orfodi iechyd amgylchedd a safonau masnachu?

(b)A yw enghreifftiau o beidio â chydymffurfio â gofynion statudol yn cael eu dilyn yn unol â'r polisi/polisïau gorfodi?

(c)A yw'r polisi/polisïau yn cadarnhau bod yr awdurdod gwerth gorau wedi llofnodi'r Concordat Gorfodi?

(ch)A yw'r polisi/polisïau yn cymryd y canllawiau a nodir yn “The Code for Crown Prosecutors” i ystyriaeth?

(d)A yw'r polisi/polisïau yn cynnwys y meini prawf sydd i'w bodloni cyn camau gorfodi ffurfiol gan yr awdurdod gwerth gorau?

(dd)A yw'r polisi/polisïau yn gwneud darpariaeth ar gyfer sefyllfaoedd lle mae'r swyddogaeth orfodi yn cael ei rhannu?

(e)A yw'r polisi/polisïau yn gwneud darpariaeth ar gyfer buddiannau penodol defnyddwyr o fewn ardal yr awdurdod gwerth gorau, ga gynnwys perchnogion busnesau, gweithwyr cyflogedig a'r cyhoedd?

(f)A yw'r polisi/polisïau uchod yn cael eu dilyn, eu monitro, ac yn destun adroddiadau, ac a fydd unrhyw amrywiadau yn cael sylw yn y cynllun gwasanaethau neu'r Cynllun Perfformiad Gwerth Gorau (BVPP)?

Gweithgareddau gorfodi cynlluniedig

2.  A oes gan yr awdurdod gwerth gorau raglenni archwilio wedi'u seilio ar risg, a chyfundrefnau samplu ac arolygu ar gyfer gwasanaethau rheoleiddio sydd:

(a)yn bodloni'r gofynion cyfreithiol;

(b)yn rhoi sylw fel arall i ganllawiau swyddogol;

(c)yn rhoi sylw fel arall i ganllawiau a safonau proffesiynol priodol eraill.

Rhaid i'r awdurdod gwerth gorau allu dangos ei fod yn adolygu yn rheolaidd sut y mae'n dehongli ac yn cymhwyso'r ddeddfwriaeth a'r canllawiau. Er enghraifft, ym maes safonau masnachu, dylai gynnal cymhariaeth flynyddol o'r gyfran o'i adeiladau masnachu y mae wedi'u dosbarthu fel rhai sydd â risg anchwiliadwy “uchel”, “canolig” neu “isel” gyda'r ffigyrau ar gyfer awdurdodau eraill. Yna dylai fynd ati i feincnodi'r broses gydag awdurdodau eraill os yw'r cyfrannau hyn yn sylweddol wahanol i'r cyfartaledd, e.e. os yw ffigyrau'r awdurdod yn y ddengradd isaf neu v uchaf.

3.  A yw'r rhaglenni a'r cyfundrefnau uchod ym Mhwynt 2 yn cael eu dilyn, eu monitro, ac yn destun adroddiadau, gan roi sylw i unrhyw amrywiadau o fewn cynllun gwasanaethau eu BVPP?

4.  A oes gan yr awdurdod gwerth gorau raglenni addysg a gwybodaeth sydd wedi'u targedu?

5.  A yw'r rhaglenni y crybwyllir ym Mhwynt 4 yn cael eu dilyn, eu monitro, ac yn destun adroddiadau, gan roi sylw i unrhyw wyriadau oddi wrth y rhaglenni cynlluniedig o fewn cynllun gwasanaethau neu BVPP?

Gweithgareddau gorfodi adweithiol ac ymatebol

6.  A oes gan yr awdurdod gwerth gorau bolisïau, gweithdrefnau a safonau ar gyfer y canlynol ac a yw'r rheiny'n cael eu rhoi ar waith:

a)ymateb i gwynion, ac ymdrin â chwynion, a wneir i'r awdurdod gwerth gorau am drydydd parti a cheisiadau am wasanaethau ynghylch swyddogaethau gorfodi statudol?

b)Cefnogi darparu cyngor i ddefnyddwyr, gan gynnwys cymryd rhan mewn Rhwydwaith Cymorth y Defnyddwyr?

7.  A oes gan yr awdurdod gwerth gorau bolisïau, gweithdrefnau a safonau, ac yn rhoi'r rheiny ar waith, ar gyfer ymateb i'r canlynol ac ymdrin â hwy;

a)hysbysiadau statudol

b)cyfeirio gwybodaeth berthnasol sydd wedi dod i law at reolyddion eraill os oes yna fuddiannau rheoliadol ehangach?

8.  A yw'r polisïau, y gweithdrefnau a'r safonau a grybwyllwyd uchod ym Mhwyntiau 6 a 7 yn cael eu dilyn, eu monitro, ac yn destun adroddiadau, gan roi sylw i unrhyw amrywiadau o fewn y cynllun gwasanaethau neu'r BVPP?

Adnoddau Priodol

9.  A yw'r awdurdod gwerth gorau wedi meincnodi ei adnoddau ar gyfer y gwasanaethau perthnasol yn erbyn awdurdodau gwerth gorau tebyg neu ddarparwyr gwasanaethau cymaradwy, gan gynnwys rhai preifat a gwirfoddol, o fewn y pum mlynedd diwethaf?

Lefelau Ymgynghori a boddhad

10.aA oes gan yr awdurdod gwerth gorau ystod o fecanweithiau ar gyfer ymgynghori â budd-ddeiliaid y mae eu gwasanaeth yn effeithio arnynt ynghylch datblygu'r polisi gorfodi?

b)A oes gan yr awdurdod gwerth gorau ystod o fecanweithiau ar gyfer ymgynghori â budd-ddeiliaid y mae eu gwasanaeth yn effeithio arnynt ynghylch lefelau boddhad?

c)ac a yw'r ymatebion i'r ymgynghori yn cael eu hystyried, ac yn destun gweithredu?

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources