xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 1338 (Cy. 84 )

PYSGODFEYDD MÔR, CYMRU

Gorchymyn Ardal Pysgodfeydd Môr De Cymru (Amrywio) 2001

Wedi'i wneud

29 Mawrth 2001

Yn dod i rym

31 Mawrth 2001

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 1, a 2(1) a (5) o Ddeddf Rheoli Pysgodfeydd Môr 1966(1) ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2), ar gais Cyngor Sir Penfro a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, ac wedi ymgynghori â phob awdurod lleol a fyddai yn cael ei effeithio, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ardal Pysgodfeydd Môr De Cymru (Amrywio) 2001 a daw i rym ar 31 Mawrth 2001.

(2Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y prif Orchymyn” yw'r gorchymyn a wnaed gan y Bwrdd Amaethyddiaeth a Physgodfeydd ar 27 Mehefin 1912(3) (a greodd Ardal Pysgodfeydd Môr De Cymru ac a sefydlodd bwyllgor pysgodfeydd lleol er mwyn rheoli'r pysgodfeydd môr o fewn yr Ardal honno).

Diwygiadau i'r prif Orchymyn

2.  Diwygir y prif Orchymyn yn unol ag erthyglau 3 i 5 isod.

3.  Yn lle erthygl 7 (cyfansoddiad y pwyllgor) rhoddir y canlynol —

7.  The committee shall be a joint committee of the county and county borough councils referred to in column 1 of the Schedule to this Order and shall consist of twenty one members appointed as follows—

(a)the number of members appointed by each constituent council shall be the number indicated in relation to the council in column 2 of the Schedule to this Order ;

(b)nine members shall be appointed by the National Assembly for Wales;

(c)one member shall be appointed by the Environment Agency..

4.  Yn lle erthygl 17 (treuliau) rhoddir y canlynol —

Expenses

17.(1) Subject to paragraph (2) below, the expenses of the committee, other than those which may be required to be incurred under section 17(2) of the Act, shall be chargeable jointly to the constituent councils in the respective amounts for each financial year set out in Column 3 of the Schedule to this Order opposite the reference to each constituent council and shall be expenses for general county or county borough purposes.

(2) In the event of the committee being required to incur any unforseen expenses which cannot be met by the amounts charged to the constituent councils under paragraph (1) above, then those unforseen expenses shall, in addition, be referred to the constituent councils for consideration and defrayed jointly by them in the respective percentages set out in Column 4 of the Schedule to this Order opposite the reference to each constituent council and shall be expenses for general county or county borough purposes.

(3) “ The Committee may decide that the figures set out in Column 3 of the Schedule shall be increased for budgetary years from 2002/03 onwards by a figure not exceeding the annual rate of inflation, which rate shall in the event of disagreement by any constituent council be determined by the National Assembly for Wales.

5.  Yn lle'r Atodlen rhoddir yr Atodlen a welir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4). 29 Mawrth 2001

D. Elis Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

Erthygl 5

ATOLDEN

Articles 7 and 17

SCHEDULECONSTITUTION AND EXPENSES

Column 1Column 2Column 3Column 4
Constituent CouncilsNumber of MembersContribution towards expenses etc per financial yearPercentage of unexpected expenses payable per financial year
£
Cardiff County Council110,8253%
Carmarthenshire County Council285,00024%
Pembrokeshire County Council285,00024%
Swansea County Council285,00024%
Bridgend County Borough Council128,3338%
Neath Port Talbot County Borough Council238,95811%
The Vale of Glamorgan County Borough Council121,2506%

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn).

Mae'r Gorchymyn hwn yn amrywio ymhellach Orchymyn a wnaed gan y Bwrdd Amaethyddiaeth a Physgodfeydd ar 27 Mehefin 1912 (fel y'i diwygiwyd) i sefydlu Ardal Pysgodfeydd Môr De Cymru.

Mae'r Gorchymyn yn amrywio cyfansoddiad y pwyllgor pysgodfeydd lleol ar gyfer yr ardal er mwyn darparu i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf dynnu'n ôl o'r pwyllgor. Er hynny, fe fydd ffiniau'r Ardal Pysgodfeydd Môr yn parhau heb ei newid.

Mae nifer y cynrychiolwyr o bob cyngor a swm cyfraniad pob cyngor at dreuliau'r pwyllgor wedi'i bennu (erthyglau 3 a 4 a'r Atodlen).

(1)

1966 p.38, a ddiwygiwyd gan Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p.25) adran 102; gweler adran 20(1) ar gyfer y diffiniad o “the Minister”. Dylid darllen y cyfeiriadau yn Neddf 1966 at awdurdod afonydd ynghyd â Deddf Dwê r 1973 (p.37) adran 33, Deddf Dwê r 1989 (p.15) adran 141 ac Atodlen 17, paragraff 1, a Deddf yr Amgylchedd 1995 adran 105 ac Atodlen 15, paragraff 2.

(2)

Trosglwyddwyd drwy O.S. 1978/272 swyddogaethau'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd o dan Ddeddf Rheoli Pysgodfeydd Môr 1966 i'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru. Trosglwyddwyd swyddogaethau hynny'r Ysgrifennydd Gwladol wedyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Yn rhinwedd Deddf Dwê r 1989 adran 141 ac Atodlen 17, paragraffau 1(3) a 4(a), mae'r swyddogaethau a arferwyd ar wahân gan y Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd a'r Ysgrifennydd Gwladol ynglyên ag awdurdodau dwê r neu ardaloedd awdurdodau dwêr gwahanol i'w harfer gyda'i gilydd ganddynt

(3)

Rh.S a G. 1926/1121 fel y'i amrywiwyd gan O.S. 1953/443, 1973/2203 a 1980/823.