Search Legislation

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) a (Ffioedd Deintyddol) (Diwygio) (Cymru) 2001

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 1359 (Cy.87)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) a (Ffioedd Deintyddol) (Diwygio) (Cymru) 2001

Wedi'u gwneud

29 Mawrth 2001

Yn dod i rym

1 Ebrill 2001

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 1(2), 35(1), 36(1), 78, 79A, 83A, 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977(1) a pharagraff 3(2) o Atodlen 12 iddi drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) a (Ffioedd Deintyddol) (Diwygio) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2001.

(2Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “Rheoliadau 1992” (“the 1992 Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) 1992(2);

  • ystyr “Rheoliadau 1989” (“the 1989 Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) 1989(3).

(3Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio Atodlen 4 i Reoliadau 1992

2.  Yn Rhan II o Atodlen 4 i Reoliadau 1992 (triniaeth â chymeradwyaeth ymlaen llaw), ym mharagraff 1 a 2, yn lle “£230” rhowch “£260”.

Diwygio rheoliad 3 o Reoliadau 1989

3.—(1Mae rheoliad 3 o Reoliadau 1989 yn cael ei ddiwygio yn unol â'r darpariaethau canlynol.

(2Ar ôl paragraff 2(e) ychwanegwch—

(f)Subject to regulation 5A, the clinical examination and any report on that examination where, on the day upon which the examination is performed the patient—

(i)is under the age of 25 years; or

(ii)has attained the age of 60 years.

Diwygio rheoliad 5 o Reoliadau 1989

4.—(1Ar ôl rheoliad 5 o Reoliadau 1989 mewnosodwch y rheoliad newydd canlynol—

Conditions of entitlement under regulation 3(2)(f)

5A.(1) It is a condition of entitlement under regulation 3(2)(f) that—

(a)a written declaration, on a form provided for that purpose by the National Assembly for Wales, shall be made to the effect that the patient is, on the day upon which the examination takes place, within one of the categories specified in regulation 3(2)(f); and

(b)where the National Assembly for Wales so requires, evidence of entitlement shall be supplied by or on behalf of the patient.

(2) The declaration referred to in paragraph (1)(a) shall be made by the patient for whom the examination will be provided, except that where the application is made by another person on the patient’s behalf, it shall be made instead by that person.

(3) In this regulation “evidence of entitlement” means the patient’s birth certificate.

(4) Nothing in paragraphs (1)(b) or (3) prevents the National Assembly for Wales from accepting evidence other than that referred to in paragraph (3) as a means of establishing that a patient is within one of the categories referred to in regulation 3(2)(f).

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4)

D. Elis Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

29 Mawrth 2001

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) 1992 (“Rheoliadau 1992”) a Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) 1989 (“Rheoliadau 1989”).

Mae Rheoliadau 1992 yn rheoleiddio'r telerau y mae gwasanaethau deintyddol cyffredinol yn cael eu darparu odanynt o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977. Mae Rheoliadau 1989 yn cynnwys darpariaethau ynghylch y ffioedd a godir am wasanaethau deintyddol cyffredinol

Mae Rheoliad 2 yn diwygio Atodlen 4 i Reoliadau 1992 er mwyn cynyddu'r swm a bennir ynddi fel cost uchaf, neu gost debygol, y gofal a'r driniaeth y caiff deintydd ymgymryd â hwy heb ofyn am gymeradwyaeth ymlaen llaw gan y Bwrdd Ymarfer Deintyddol (o £230 i £260).

Mae Rheoliad 3 yn estyn rheoliad 3 o Reoliadau 1989 ac yn ychwanegu Rheoliad 5A newydd iddynt fel y bydd gan bersonau o dan 25 oed a'r rhai sydd wedi cyrraedd 60 oed hawl i gael archwiliadau deintyddol yn rhad ac am ddim, os caiff yr archwiliad ei roi ar neu ar ôl 1 Ebrill 2001, cyhyd ag y caiff datganiad o'r hawl ei wneud ar y ffurf a ragnodir.

(1)

1977 p. 49 (“Deddf 1977”); gweler adran 128(1), fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) (“Deddf 1990”), adran 26(2)(g) ac (i) i gael y diffiniadau o “prescribed” a “regulations”.

Cafodd adran 35(1) ei hamnewid gan O.S. 1985/39, erthygl 7(9), a'i diwygio gan Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17) (“Deddf 1995”), Atodlen 1, paragraff 24.

Cafodd adran 36(1) ei rhifo felly gan Ddeddf Iechyd a Nawdd Cymdeithasol 1984 (p.48), Atodlen 3, paragraff 5(1) a'i diwygio gan O.S. 1981/432, erthygl 3(3)(a); gan O.S. 1984/39, erthygl 7(10); gan Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.49) (“Deddf 1988”), Atodlen 2, paragraff 4; gan Ddeddf 1990, adran 24 a chan Ddeddf 1995, Atodlen 1, paragraff 25(a).

Diwygiwyd adran 78 gan adrannau 11 a 25 o Ddeddf 1988 ac Atodlen 2, paragraff 25 iddi.

Mewnosodwyd adran 79A gan Ddeddf 1988, adran 11(3).

Mewnosodwyd adran 83A gan Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1988 (p.7); a'i diwygio gan Ddeddf 1988, adran 25 ac Atodlen 2, paragraff 6; gan Ddeddf 1990, adran 66 ac Atodlen 9; gan Ddeddf 1995, adran 2 ac Atodlen 1 a chan O.S. 1998/2835, erthygl 2.

Diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf 1990, adran 65(2) a chan Ddeddf Iechyd 1999 (p.9) (“Deddf 1999”), Atodlen 4, paragraff 37(6).

Cafodd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 1(2), 3591), 36(1), 78, 79A, 83A a 126(4) o Ddeddf 1977, a pharagraff 3(2) o Atodlen 12 iddi eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S.1999/672, erthygl 2 ac Atodlen 1, fel y'i diwygiwyd gan adran 66(5) o Ddeddf 1999.

(2)

O.S.1992/661; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S.1992/1509 a 1998/1648.

(3)

S.I.1989/394; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S.1991/581 a 1998/2221.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources