Search Legislation

Rheoliadau Labelu Cig Eidion (Gorfodi) (Cymru) 2001

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 1360 (Cy. 88)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Labelu Cig Eidion (Gorfodi) (Cymru) 2001

Wedi'u gwneud

29 Mawrth 2001

Yn dod i rym-

1 Ebrill 2001

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 6(4), 17(2) a 26(3) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1), ar ôl rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, ac ar ôl ymgynghori yn unol ag adran 48(4) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enw, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Labelu Cig Eidion (Gorfodi) (Cymru) 2001; byddant yn gymwys i Gymru a deuant i rym ar 1 Ebrill 2001.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

  • ystyr “Rheoliad y Comisiwn 1141/97” (“Commission Regulation 1141/97”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1141/97(2) sy'n pennu rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 820/97 o ran labelu cig eidion a chynhyrchion cig eidion;

  • ystyr “Rheoliad y Comisiwn 1825/2000” (“Commission Regulation 1825/2000”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1825/2000(3) sy'n pennu rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad (EC) Rhif 1760/2000 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran labelu cig eidion a chynhyrchion cig eidion;

  • ystyr “Rheoliad 1760/2000” (“Regulation 1760/2000”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1760/2000 Senedd Ewrop a'r Cyngor(4)) sy'n sefydlu system ar gyfer adnabod a chofrestru anifeiliaid buchol ac ynghylch labelu cig eidion a chynhyrchion cig eidion ac yn diddymu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 820/97.

(2Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at reoliad â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn.

Yr awdurdod cymwys

3.  Y Cynulliad Cenedlaethol fydd yr awdurdod cymwys at ddibenion Teitl II o Reoliad 1760/2000, Rheoliad y Comisiwn 1141/97 a Rheoliad y Comisiwn 1825/2000.

Gorfodi gofynion labelu gorfodol a gwirfoddol

4.—(1Bydd unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio—

(a)mewn perthynas â chig eidion sy'n deillio o anifeiliaid a gafodd eu cigydda ar neu ar ôl 1 Medi 2000, â'r gofynion sy'n gymwysadwy o dan Deitl II o Reoliad 1760/2000 a Rheoliad y Comisiwn 1825/2000; neu

(b)mewn perthynas â chig eidion sy'n deillio o anifeiliaid a gafodd eu cigydda cyn 1 Medi 2000, â'r gofynion sy'n gymwysadwy o dan Reoliad y Comisiwn 1141/97,

yn euog o dramgwydd.

(2Os oes cig eidion wedi'i labelu a'i farchnata mewn modd nad yw'n cydymffurfio—

(a)mewn perthynas â chig eidion sy'n deillio o anifeiliaid a gafodd eu cigydda ar neu ar ôl 1 Medi 2000, â'r gofynion labelu gorfodol neu wirfoddol sy'n gymwysadwy o dan Deitl II o Reoliad 1760/2000 a Rheoliad y Comisiwn 1825/2000; neu

(b)mewn perthynas â chig eidion sy'n deillio o anifeiliaid a gafodd eu cigydda cyn 1 Medi 2000, â'r gofynion labelu gwirfoddol sy'n gymwysadwy o dan Reoliad y Comisiwn 1141/97,

gall un o swyddogion awdurdod gorfodi o fewn ystyr paragraff (1) o reoliad 5 neu berson a awdurdodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol gyflwyno hysbysiad i'r person sydd â meddiant y cig eidion yn ei gwneud yn ofynnol rhoi'r gorau i'w gynnig ar werth nes i'r cig eidion gael ei ail-labelu yn unol â'r gofynion hyn.

(3Mewn perthynas â chig eidion sy'n deillio o anifeiliaid a gafodd eu cigydda ar neu ar ôl 1 Medi 2000, gall hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (2) uchod awdurdodi anfon y cig eidion yn uniongyrchol i'w brosesu yn gynhyrchion heblaw'r rhai a nodwyd yn indentiad cyntaf Erthygl 12 o Reoliad 1760/2000.

(4Bydd unrhyw berson na fydd yn cydymffurfio â darpariaethau hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (2) uchod yn euog o dramgwydd.

Yr Awdurdodau Gorfodi

5.—(1Yn ddarostyngedig i'r darpariaethau canlynol yn y rheoliad hwn, at ddibenion gorfodi'r Rheoliadau hyn, cyngor y sir neu'r fwrdeistref sirol fydd yr awdurdodau gorfodi mewn perthynas â phob sir a bwrdeistref sirol.

(2Caiff y Rheoliadau hyn eu gorfodi mewn perthynas â lladd-dai, safleoedd torri a chyfanwerthwyr gan yr awdurdodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) o'r rheoliad hwn a chan y Cynulliad Cenedlaethol.

Cosbi

6.  Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn, o'i gollfarnu'n ddiannod, yn agored i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Cymhwyso amrywiol ddarpariaethau Deddf Diogelwch Bwyd 1990

7.—(1Bydd y darpariaethau canlynol yn Neddf Diogelwch Bwyd 1990 yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn fel y maent yn gymwys at ddibenion adrannau 8, 14 neu 15 o'r Ddeddf honno ac, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall, rhaid i unrhyw gyfeiriad at y darpariaethau hynny yn y Ddeddf honno gael eu dehongli fel cyfeiriad i'r darpariaethau hynny fel y cymhwysir hwy at ddibenion y Rheoliadau hyn—

(a)adran 2 (yn estyn ystyr “sale” etc.);

(b)adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);

(c)adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy);

(ch)adran 30(8) (tystiolaeth ddogfennol);

(d)adran 35(1) i (3) (cosbi tramgwyddau) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) a (2);

(dd)adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol); ac

(e)adran 44 (diogelu swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).

(2Bydd adrannau 32 a 33 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 (pwerau mynediad, rhwystro etc. swyddogion) yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn fel y maent yn gymwys at ddibenion y Ddeddf honno; a rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad at y Ddeddf yn yr adrannau hynny at ddibenion y Rheoliadau hyn fel pe baent yn cynnwys cyfeiriad—

(a)at Deitl II o Reoliad 1760/2000 a Rheoliad y Comisiwn 1825/2000 mewn perthynas â chig eidion sy'n deillio o anifeiliaid a gafodd eu cigydda ar neu ar ôl 1 Medi 2000; a

(b)Rheoliad y Comisiwn 1141/97 mewn perthynas â chig eidion sy'n deillio o anifeiliaid a gafodd eu cigydda cyn 1 Medi 2000.

Diddymu

8.  Diddymir Rheoliadau Labelu Cig Eidion (Gorfodi) 1998(5) i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(6)

D.Elis Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

29 Mawrth 2001

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gorfodi'r canlynol yng Nghymru—

(a)Teitl II o Reoliad (EC) Rhif 1760/2000 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n sefydlu system ar gyfer adnabod a chofrestru anifeiliaid buchol ac ynghylch labelu cig eidion a chynhyrchion cig eidion (OJ Rhif L204, 11.8.00, t.1) (“Rheoliad y Cyngor”) a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1825/2000 sy'n pennu rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad (EC) Rhif 1760/2000 o ran labelu cig eidion a chynhyrchion cig eidion (OJ Rhif L216, 26.8.00, t. 8) (“Rheoliad y Comisiwn”), mewn perthynas â chig eidion sy'n deillio o anifeiliaid a gafodd eu cigydda ar neu ar ôl 1 Medi 2000; a

(b)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1141/97 sy'n pennu rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 820/97 o ran labelu cig eidion a chynhyrchion cig eidion, mewn perthynas â chig eidion sy'n deillio o anifeiliaid a gafodd eu cigydda cyn 1 Medi 2000.

Mae'r Rheoliadau hyn—

  • yn peri mai Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw'r awdurdod cymwys at ddibenion Rheoliad y Cyngor a Rheoliad y Comisiwn (rheoliad 3);

  • yn creu tramgwydd o fethu â chydymffurfio â'r gofynion sy'n gymwysadwy o dan Reoliad y Cyngor a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1825/2000 os yw'r methiant hwnnw yn fethiant mewn perthynas â chig eidion sy'n deillio o anifeiliaid a gafodd eu cigydda ar neu ar ôl 1 Medi 2000 (rheoliad 4(1)(a));

  • yn creu tramgwydd o fethu â chydymffurfio â'r gofynion sy'n gymwysadwy o dan Reoliad y Comisiwn 1141/97 os yw'r methiant hwnnw yn fethiant mewn perthynas â chig eidion sy'n deillio o anifeiliaid a gafodd eu cigydda cyn 1 Medi 2000 (rheoliad 4(1)(b);

  • yn darparu pŵ er i'r awdurdodau gorfodi roi hysbysiadau sy'n ei gwneud yn ofynnol i bersonau roi'r gorau i gynnig gwerthu unrhyw gig eidion sydd wedi'i labelu mewn modd nad yw'n cydymffurfio â gofynion Rheoliad y Cyngor, Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1825/2000 neu Reoliad y Comisiwn 1141/97 (rheoliad 4(2));

  • yn creu tramgwydd o fethu â chydymffurfio â hysbysiad a roddir o dan reoliad 4(2) (rheoliad 4(4));

  • yn enwi'r awdurdodau gorfodi (rheoliad 5);

  • yn pennu cosb am unrhyw dramgwydd o dan y Rheoliadau (rheoliad 6);

  • yn cymhwyso amryw byd o ddarpariaethau gorfodi Deddf Diogelwch Bwyd 1990 (rheoliad 7);

  • yn diddymu Rheoliadau Labelu Cig Eidion (Gorfodi) 1998 mewn perthynas â Chymru.

(1)

1990 p.16; mae swyddogaethau y dywedir eu bod yn arferadwy gan “the Secretary of State” yn arferadwy bellach mewn perthynas â Chymru gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Ychwanegwyd adran 48(4A) gan Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (p.28), Atodlen 5, paragraff 21.

(2)

OJ Rhif L165, 24.6.97. t.7, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 824/98 (OJ Rhif L117, 21.4.98, t. 4).

(3)

OJ Rhif L216, 26.8.00, t.8.

(4)

OJ Rhif L204, 11.8.00, t.1.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources