Search Legislation

Rheoliadau Brasterau Taenadwy (Safonau Marchnata) (Cymru) 2001

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Teitl, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Brasterau Taenadwy (Safonau Marchnata) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Mai 2001.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “adwerthu” (“sell by retail”) yw gwerthu i berson sy'n prynu heblaw ar gyfer ailwerthu;

  • ystyr “Darpariaeth gymunedol” (“Community Provision”) yw darpariaeth yn Rheoliad y Cyngor neu Reoliad y Comisiwn y cyfeirir ato yng ngholofn 1 o Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn, fel y'u darllenir ynghyd ag unrhyw ddarpariaeth atodol y cyfeirir ati yng ngholofn 2 gyferbyn â'r cyfeiriad yng ngholofn 1;

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;

  • ystyr “Cytundeb yr EEA” (“EEA Agreement”) yw'r Cytundeb ar yr Ardal Economaidd Ewropeaidd(1) a lofnodwyd yn Oporto ar 2 Mai 1992 fel y'i haddaswyd gan y Protocol(2) a lofnodwyd ym Mrwsel ar 17 Mawrth 1993;

  • ystyr “fitamin A” (“vitamin A”) yw fitamin A sydd yn bresennol fel y cyfryw neu ar ffurf ei esterau ac mae'n cynnwys beta-caroten ar y sail bod 6 microgram o feta-caroten neu 12 microgram o garotenoidau actif biolegol eraill yn hafal i 1 microgram o sylwedd sy'n gyfwerth â retinol;

  • ystyr “fitamin D” (“vitamin D”) yw'r fitaminau gwrthlechog;

  • mae “gwerthu” (“sell”) yn cynnwys meddiannu i werthu, a chynnig, amlygu neu hysbysebu i werthu;

  • ystyr “Gwladwriaeth EEA” (“EEA State”) yw Gwladwriaeth sy'n Barti Contractio Cytundeb yr EEA;

  • ystyr “Rheoliad y Comisiwn” (“the Commission Regulation”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 577/97(3) sy'n gosod rheolau manwl penodol ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor a Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 1898/87 ar amddiffyn dynodiadau a ddefnyddir wrth farchnata llaeth a chynhyrchion llaeth, fel y'i diwygiwyd gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1278/97(4)), Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2181/97(5), Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 623/98(6)), Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1298/98(7), Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2521/98(8) a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 568/1999(9);

  • ystyr “Rheoliad y Cyngor” (“the Council Regulation”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 2991/94(10)) sy'n gosod safonau ar gyfer brasterau taenadwy.

(2Mae i ymadroddion eraill a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn a hefyd yn Rheoliad y Cyngor neu Reoliad y Comisiwn yr un ystyr ag sydd iddynt yn Rheoliad y Cyngor neu yn Rheoliad y Comisiwn.

Esemptiadau

3.—(1Ac eithrio lle mae paragraff (2) isod yn gymwys, oni bai a hyd nes y ceir penderfyniad gan Gyd-bwyllgor yr EEA o dan Erthygl 98 o'r Cytundeb EEA i'w diwygio i gyfeirio at Reoliad y Cyngor a Rheoliad y Comisiwn, ni fydd y Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw fraster taenadwy y mae Cytundeb yr EEA yn gymwys iddo ac—

(a)a ddygir i Gymru—

(i)o un o Wladwriaethau'r EEA (heblaw Aelod-wladwriaeth) y cafodd ei gynhyrchu a'i werthu'n gyfreithiol ynddi, neu

(ii)o ran arall o'r Deyrnas Unedig os dygwyd y braster taenadwy hwnnw yno o Wladwriaeth EEA o'r fath; a

(b)sydd wedi'i labelu'n briodol i ddangos natur y braster taenadwy.

(2Ni fydd Rheoliad 4 o'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw fargarîn—

(a)a ddygir i Gymru—

(i)o un o Wladwriaethau'r EEA (heblaw'r Deyrnas Unedig) y cafodd ei gynhyrchu a'i werthu'n gyfreithiol ynddi,

(ii)o Aelod-wladwriaeth (heblaw'r Deyrnas Unedig) yr oedd mewn cylchrediad rhydd ac yn cael ei werthu'n gyfreithiol ynddi, neu

(iii)o ran arall o'r Deyrnas Unedig lle cafodd ei gynhyrchu a'i werthu'n gyfreithiol neu lle'r oedd mewn cylchrediad rhydd ac yn cael ei werthu'n gyfreithiol; a

(b)sydd wedi'i labelu'n briodol i ddangos natur y margarîn.

(3At ddibenion paragraff (2) uchod, mae i “cylchrediad rhydd” yr un ystyr ag sydd i “free circulation” yn Erthygl 23(2) o'r Cytuniad sy'n sefydlu'r Gymuned Ewropeaidd.

Cynnwys fitaminau mewn margarîn

4.—(1Rhaid i unrhyw fargarîn a adwerthir gynnwys ym mhob 100 gram o'r margarîn hwnnw—

(a)dim llai nag 800 microgram a dim mwy na 1000 microgram o fitamin A, a

(b)dim llai na 7.05 microgram a dim mwy nag 8.82 microgram o fitamin D,

a swm cymesur mewn unrhyw ran o 100 gram.

(2Ni chaiff neb adwerthu unrhyw fargarîn yn groes i'r rheoliad hwn.

Gorfodi

5.  Rhaid i bob awdurdod bwyd orfodi a gweithredu'r darpariaethau Cymunedol a'r Rheoliadau hyn o fewn ei ardal.

Tramgwyddo a chosbi

6.  Os bydd unrhyw berson yn torri neu'n methu cydymffurfio—

(a)â rheoliad 4 o'r Rheoliadau hyn, neu

(b)ag unrhyw ddarpariaeth Gymunedol,

bydd yn euog o dramgwydd a bydd yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Amddiffyniad mewn perthynas ag allforion

7.  Mewn unrhyw achos o dan reoliad 6(b) o'r Rheoliadau hyn bydd yn amddiffyniad i'r person a gyhuddir brofi—

(a) bod y bwyd yr honnir fod y tramgwydd wedi'i gyflawni mewn perthynas ag ef wedi'i fwriadu ar gyfer ei allforio i wlad sydd â deddfwriaeth sy'n cyfateb i'r Rheoliadau hyn a'i fod yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth honno; a

(b)bod y ddeddfwriaeth yn cydymffurfio â Rheoliad y Cyngor a Rheoliad y Comisiwn yn achos—

(i)allforio i Aelod-wladwriaeth, neu

(ii)pan fydd yna benderfyniad gan Gydbwyllgor yr EEA o dan Erthygl 98 o Gytundeb yr EEA i'w ddiwygio i gyfeirio at Reoliad y Cyngor a Rheoliad y Comisiwn, allforio i un o Wladwriaethau'r EEA nad yw'n Aelod-wladwriaeth.

Cymhwyso amryw o ddarpariaethau'r Ddeddf

8.—(1Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn ac, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall, dehonglir unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu ran ohoni at ddibenion y Rheoliadau hyn fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn—

  • adran 2 (ystyr estynedig “sale” etc.);

  • adran 3 (rhagdybiaethau fod bwyd wedi'i fwriadu i bobl ei fwyta);

  • adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);

  • adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy) fel y mae'n gymwys at ddibenion adran 8, 14 neu 15;

  • adran 22 (amddiffyniad cyhoeddi yng nghwrs busnes);

  • adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);

  • adran 35(1) i (3) (cosbi tramgwyddau) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) a (2);

  • adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol).

(2Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn ac, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall, dehonglir unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf at ddibenion y Rheoliadau hyn fel eu bod yn cynnwys cyfeiriad at y darpariaethau Cymunedol—

  • adran 32 (pwerau mynediad);

  • adran 33 (rhwystro etc. swyddogion);

  • adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).

Diddymu

9.  Diddymir drwy hyn y Rheoliadau a bennir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(11).

D. Elis Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

27 Mawrth 2001

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources