Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2001

Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 1362 (Cy.90)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2001

Wedi'u gwneud

29 Mawrth 2001

Yn dod i rym

1 Ebrill 2001

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 38, 39, 78, 126(4) a 127 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977(1) a pharagraffau 2 a 2A o Atodlen 12 iddi, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2001, a deuant i rym ar 1 Ebrill 2001.

(2Yn y Rheoliadau hyn, oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall —

  • ystyr “Rheoliadau 1997” (“the 1997 Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997(2);

  • ystyr “Rheoliadau 1986” (“the 1986 Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Cymru) 1986(3).

(3Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio rheoliad 8 o Reoliadau 1997

2.  Yn rheoliad 8 o Reoliadau 1997 (cymhwyster - cyflenwi cyfarpar optegol), ym mharagraffau (3)(c) (derbyn credyd treth teuluoedd sy'n gweithio) a (g) (credyd treth pobl anabl), yn lle “£70” rhowch “£71”.

Diwygio rheoliad 19 o Reoliadau 1997

3.  Yn rheoliad 19 o Reoliadau 1997 (gwerth adbrynu taleb ar gyfer amnewid neu drwsio) —

(a)ym mharagraff (1)(b), yn lle “£42.80” rhowch “£43.90”; a

(b)ym mharagraff (3), yn lle “£11.00” rhowch “£11.30”.

Diwygio'r Atodlenni i Reoliadau 1997

4.—(1Yn Atodlen 1 i Reoliadau 1997 (codau llythrennau talebau a'u gwerth ar yr wyneb - cyflenwi ac amnewid) yng ngholofn (3) (gwerth y daleb ar ei hwyneb), yn lle pob swm a bennir yng ngholofn 1 o'r tabl isod rhowch y swm a bennir mewn perthynas ag ef yng ngholofn 2 o'r tabl hwnnw.

TABL

(1)(2)
Yr hen swmY swm newydd
£ 29.30£ 30.00
£ 44.50£ 45.60
£ 60.60£ 62.10
£ 136.90£ 140.30
£ 50.50£ 51.80
£ 64.30£ 65.90
£ 77.30£ 79.60
£ 150.50 (Yn y ddau fan lley'i gwelir)£ 154.30
£ 42.80£ 43.90
  • Yn Atodlen 2 i Reoliadau 1997 (prismau, tintiau, lensys ffotocromig, sbectolau bach ac arbennig a chyfarpar cymhleth)—

    (a)

    ym mharagraff 1(1)(a) (prism - lens golwg sengl), yn lle “£6.10” rhowch “£6.30”;

    (b)

    ym mharagraff 1(1)(b) (prism -lens arall), yn lle “£7.00” rhowch “£7.20”;

    (c)

    ym mharagraff 1(1)(c) (lens golwg sengl â thint), yn lle “£3.10” rhowch “£3.20”;

    (ch)

    ym mharagraff 1(1)(d) (lens arall â thint), yn lle “£3.60” rhowch “£3.70”;

    (d)

    ym mharagraff 1(1)(e) (sbectolau bach), yn lle “£48.20” rhowch “£49.40”, ac yn lle “£42.80” rhowch “£43.90”, ac yn lle “£23.20” rhowch “£23.80”;

    (dd)

    ym mharagraff 1(1)(g) (fframiau wedi'u gweithgynhyrchu'n arbennig) yn lle “£48.20” rhowch “£49.40”;

    (e)

    ym mharagraff 2(a) (isafswm taliad cyfarpar cymhleth - lensys golwg sengl), yn lle “£10.20” rhowch “£10.50”.

    (h)

    ym mharagraff 2(b) (isafswm taliad cyfarpar cymhleth - lensys eraill), yn lle “£25.90” rhowch “£26.50”.

(3Yn lle Atodlen 3 i Reoliadau 1997 (gwerthoedd talebau - trwsio), rhowch yr Atodlen 3 a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

Diwygio rheoliad 13 o Reoliadau 1986

5.  Yn rheoliad 13 o Reoliadau 1986 (Profion Golwg - cymhwyster), ym mharagraffau (2)(c) (derbyn credyd treth teuluoedd sy'n gweithio) a (2)(g) (derbyn credyd treth pobl anabl), yn lle “£70” rhowch “£71”.

Defnyddio'r Rheoliadau hyn

6.—(1Mae'r diwygiadau a wneir gan reoliadau 2 a 5 o'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â dyfarniadau credyd treth teuluoedd sy'n gweithio a chredyd treth pobl anabl sy'n cael eu gwneud ar neu ar ôl 10 Ebrill 2001 yn unig.

(2Mae'r diwygiadau a wneir gan reoliadau 3 a 4 o'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â thaleb a dderbynnir neu a ddefnyddir yn unol â rheoliadau 12 neu 17 o Reoliadau 1997 ar neu ar ôl 10 Ebrill 2001 yn unig.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4)

Dafydd Elis Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

29 Mawrth 2001

Rheoliad 3(3)

ATODLEN ATODLEN 3 I REOLIADAU 1997 FEL Y'I HAMNEWIDIR GAN Y RHEOLIADAU HYN

Regulations 19(2) and (3)

SCHEDULE 3VOUCHER VALUES - REPAIR

(1)(2)
Nature of repairLetter Codes - Values
ABCDEFGH&I
££££££££
Repair or replacement of one lens9.3517.1525.4064.5020.2527.3034.1571.50
Repair or replacement of two lenses18.7034.3050.80129.0040.5054.6068.30143.00
Repair or replacement of the front of a frame:9.609.609.609.609.609.609.609.60
the side of a frame5.705.705.705.705.705.705.705.70
the whole frame11.3011.3011.3011.3011.3011.3011.3011.30

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997 (“Rheoliadau 1997”) a Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986 (“Rheoliadau 1986”) . Mae Rheoliadau 1997 yn darparu ar gyfer cynllun taliadau i'w gwneud gan yr Awdurdodau Iechyd ac Ymddiriedolaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol drwy gyfrwng system dalebau mewn perthynas â chostau a dynnir gan gategorïau penodol o bersonau mewn cysylltiad â phrofion golwg a chyflenwi, amnewid a thrwsio cyfarpar optegol. Mae Rheoliadau 1986 yn cynnwys darpariaeth ar gyfer trefniadau gwasanaethau offthalmig cyffredinol o dan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Mae rheoliad 2 yn diwygio rheoliad 8 o Reoliadau 1997 er mwyn cynyddu gwerth y ffigur a bennir ynddo ar gyfer yr “amount withdrawn” o ddyfarniadau credyd treth teuluoedd sy'n gweithio a chredyd treth pobl anabl.

Mae rheoliad 3 yn diwygio rheoliad 19 o Reoliadau 1997 (gwerth adbrynu taleb ar gyfer amnewid neu drwsio) er mwyn cynyddu gwerth taleb optegol a roddir tuag at gost amnewid un lens cyffwrdd, ac er mwyn cynyddu uchafswm y cyfraniad a wneir drwy gyfrwng taleb tuag at gost trwsio ffrâm sbectol.

Mae rheoliad 4(1) yn diwygio Atodlen 1 o Reoliadau 1997 er mwyn cynyddu gwerth talebau a roddir tuag at gost cyflenwi ac amnewid sbectolau a lensys cyffwrdd.

Mae rheoliad 4(2) yn diwygio Atodlen 2 i Reoliadau 1997 er mwyn cynyddu gwerthoedd ychwanegol talebau ar gyfer prismau, tintiau, lensys ffotocromig a chategorïau penodol o gyfarpar.

Mae rheoliad 4(3) a'r Atodlen yn gosod Atodlen 3 newydd yn Rheoliadau 1997 er mwyn cynyddu gwerth talebau a roddir tuag at drwsio ac amnewid cyfarpar optegol.

Rhyw 2.5% yw cyfradd y cynnydd, ar gyfartaledd.

Mae rheoliad 5 yn diwygio rheoliad 13 o Reoliadau 1986 er mwyn cynyddu gwerth y ffigur ar gyfer yr “amount withdrawn” o ddyfarniadau credyd treth teuluoedd sy'n gweithio a chredyd treth pobl anabl.

Yn rheoliad 6 ceir darpariaethau trosiannol.

(1)

1977 p.49; Gweler adran 128(1) fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) (“Deddf 1990”), adran 26(2)(g) ac (i) i gael y diffiniadau o “prescribed” a “regulations”.

Diwygiwyd adran 38 gan Ddeddf Gwasanaethau Iechyd 1980 (p.53) (“Deddf 1980”), adran 1 ac Atodlen 1, paragraff 51; gan Ddeddf Iechyd a Nawdd Cymdeithasol 1984 (p.48) (“Deddf 1984”), adran 1(3); gan O.S.1985/39, erthygl 7(11); gan Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.49) (“Deddf 1988”), adran 13(1); a chan Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17) (“Deddf 1995”), Atodlen 1, paragraff 27.

Estynnwyd adran 39 gan Ddeddf 1988, adran 17; a'i diwygio gan Ddeddf Gwasanaethau Iechyd 1980 (p.53) , adran 1 ac Atodlen 1, paragraff 52, gan Ddeddf 1984, adran 1(4) ac Atodlen 1, paragraff 1 ac Atodlen 8; gan O.S.1985/39, erthygl 7(12); a chan Ddeddf 1995, Atodlen 1, paragraff 28.

Diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf 1990, adran 65(2) a chan Ddeddf Iechyd 1999 (p.8) (“Deddf 1999”), Atodlen 4, paragraff 37(6). Amnewidiwyd paragraff 2(1) o Atodlen 12 gan Ddeddf 1988, Atodlen 2, paragraff 8(1); mewnosodwyd paragraff 2A o Atodlen 12 gan Ddeddf 1984, Atodlen 1, Rhan 1, paragraff 3 a'i ddiwygio gan Ddeddf 1988, adran 13(2) a (3).

Cafodd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 38, 39, 78, 126(4) a 127 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977, a pharagraffau 2 a 2A o Atodlen 12 iddi, eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S.1999/672, erthygl 2 ac Atodlen 1, fel y'i diwygiwyd gan adran 66(5) o Ddeddf 1999.

(2)

O.S.1997/818; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S.1997/2488, 1998/499, 1999/609, 2000/978 a 3119.

(3)

O.S.1986/975; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1988/486, 1989/395 a 1175, 1990/1051, 1991/583, 1992/404, 1995/558, 1996/705 a 2320, 1999/693 a 2481.