2001 Rhif 140 (Cy. 6 )

PLANT A PHERSONAU IFANC, CYMRU

Rheoliadau Diwygio Cartrefi Plant (Cymru) 2001

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 63(3) o Ddeddf Plant 19891 ac sy'n arferadwy ganddo bellach mewn perthynas â Chymru2.

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diwygio Cartrefi Plant (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 28 Chwefror 2001.

2

Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Plant 1989.

3

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Diwygio Rheoliadau Cartrefi Plant 19912

1

Diwygir Rheoliadau Cartrefi Plant 19913 drwy fewnosod y rheoliad canlynol ar ôl rheoliad 3A—

Exemption from registration as a children’s home3B

1

Subject to section 63(12) and Schedule 7 to the Act (Foster parents: limits on number of foster children), any home in which a child is cared for and accommodated by a person who—

a

is a local authority foster parent in relation to the child; or

b

is a foster parent with whom the child has been placed by a voluntary organisation; or

c

fosters the child privately,

is so far as the provision of care and accommodation for that child is concerned, exempt from the definition of a “children’s home” in section 63(3) of the Act.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19984.

D. Elis ThomasLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cartrefi Plant 1991 mewn perthynas â Chymru o ganlyniad i ddwyn i rym, hefyd ar 28 Chwefror 2001, adran 40 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 (2000 p.14). Mae adran 40 yn diwygio adran 63(3)(a) o Ddeddf Plant 1989 er mwyn ei gwneud yn ofynnol i gartrefi plant sy'n cael eu rhedeg yn breifat ac sy'n lletya a gofalu am lai na phedwar o blant i gael eu cofrestru gyda'r awdurdod lleol y lleolir hwy yn ei ardal yn yr un modd â chartrefi mwy i blant. Effaith y Rheoliadau hyn, yn ddarostyngedig i gyfyngiadau presennol ar berson sy'n maethu mwy na thri o blant, yw esemptio cartrefi y caiff plant eu lletya ynddynt fel plant maeth o'r gofyniad i gofrestru fel cartref plant.