- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
CEFN GWLAD, CYMRU
Wedi'u gwneud
5 Ebrill 2001
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 103(3), (4) a (5) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000(1).
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2001.
(2) Yn y Gorchymyn hwn:
ystyr “Deddf 1980” (“the 1980 Act”) yw Deddf Priffyrdd 1980(2);
ystyr “Deddf 1981” (“the 1981 Act”) yw Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981(3);
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 ac oni bai fod yna ddatganiad gwahanol mae cyfeiriadau at adrannau, Rhannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau at adrannau a Rhannau o'r Ddeddf, ac Atodlenni iddi;
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.
2. Mai 2001 yw'r diwrnod penodedig y daw darpariaethau canlynol y Ddeddf i rym:—
(a)adran 46(1)(b) (diddymu adrannau 61 i 63 o Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949(4));
(b)adran 46(3) (sy'n cyflwyno Atodlen 4) i'r graddau y mae'n perthyn i ddarpariaethau Atodlen 4 y cyfeirir atynt yn is-baragraff (g) isod;
(c)adran 57 (diwygiadau i Ddeddf 1980 ac i Ddeddfau eraill) i'r graddau y mae'n rhoi effaith i'r amnewidiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (ng) ac (h) isod;
(ch)adran 68 (mynediad cerbydau ar draws tir comin);
(d)adran 70(2) a (4) (mân ddiwygiadau);
(dd)adran 72 (darpariaethau dehongli Rhan II);
(e)Rhan IV (dynodi a rheoli ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol)(ac felly Atodlenni 13, 14 a 15);
(f)adran 96 (diwygiadau i adran 39 o Ddeddf 1981);
(ff)adran 102 i'r graddau y mae'n perthyn i'r darpariaethau yn Atodlen 16 y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (i) i (o) isod ;
(g)paragraffau 1, 4, 5 a 6 o Atodlen 4;
(ng)paragraff 18(a) o Atodlen 6 (diwygiadau i Ddeddf 1980) i'r graddau y mae'n amnewid am “118, 119,” yn adran 325(1)(d) o Ddeddf 1980 gyfeiriadau at adrannau 118, 118A, 119 a 119A;
(h)paragraff 19 o Atodlen 6 i'r graddau y mae'n amnewid am “gorchymyn gwyro llwybr cyhoeddus” yn adran 326(5) o Ddeddf 1980 gyfeiriadau at orchymyn diddymu croesfan reilffordd, gorchymyn gwyro llwybr cyhoeddus a gorchymyn gwyro croesfan reilffordd;
(i)Rhan I o Atodlen 16 (diddymiadau sy'n perthyn i fynediad i gefn gwlad) ac eithrio i'r graddau y mae'n diddymu:
(i)adran 193(2) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925(5);
(ii)paragraff 35A o Atodlen 17 i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(6); a
(iii)paragraff 13 o Atodlen 6 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994(7);
(l)Rhan II o Atodlen 16 (diddymiadau sy'n perthyn i hawliau tramwy cyhoeddus a thraffig ffyrdd) i'r graddau y mae'n diddymu adran 22(1)(a) o Ddeddf Rheoli Traffig Ffyrdd 1984 (8));
(m)Rhan II o Atodlen 16 i'r graddau y mae'n diddymu adran 134(5) o Ddeddf 1980;
(n)Rhannau III a IV o Atodlen 16 (diddymiadau sy'n perthyn i safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig a bywyd gwyllt); ac
(o)Rhannau V a VI o Atodlen 16 (diddymiadau sy'n perthyn i ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol ac i Ddeddf 1981).
3. Nid yw diddymiad adran 134(5) o Ddeddf 1980 sy'n cael ei gychwyn gan erthygl 2(d) ac (m) yn cael effaith mewn perthynas ag unrhyw dramgwydd o dan adran 134 o'r Ddeddf honno a gyflawnwyd cyn 1 Mai 2001.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (9).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
5 Ebrill 2001
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dod â rhai dapariaethau penodol o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (“y Ddeddf”) i rym mewn perthynas â Chymru ar 1 Mai 2001, sef:
(1) adran 57, mewn perthynas â pharagraff 18 ac 19 o Atodlen 6 (sy'n diwygio Deddf Priffyrdd 1980),
(2) paragraffau 18(a) a 19 o Atodlen 6 i'r graddau y maent yn gwneud newidiadau mewn perthynas â gorchmynion diddymu a gwyro croesfannau rheilffordd,
(3) adran 68 (sy'n perthyn i fynediad gan cerbydau ar draws tir comin),
(4) adran 72 (sy'n cynnwys darpariaethau dehongli ar gyfer Rhan II o'r Ddeddf),
(5) Rhan IV o'r Ddeddf, ac Atodlenni 13 a 14 iddi (sy'n diwygio'r gyfraith mewn perthynas ag ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol),
(6) adran 102 (sy'n cyflwyno'r Atodlen diddymiadau) mewn perthynas â rhai diddymiadau yn Atodlen 16,
(7) rhai diwygidau mân a chanlyniadol eraill i'r gyfraith.
Mae Erthygl 3 o'r Gorchymyn yn sicrhau y bydd adran 134(5) o Ddeddf Priffyrdd 1980 (sy'n cyfyngu'r personau sydd â'r hawl i erlyn tramgwydd o dan adran 134(4) o'r Ddeddf honno) yn dal yn gymwys mewn perthynas â thramgwyddau a gyflawnwyd cyn 1 Mai 2001.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: