Mae'r Offeryn Statudol hwn wedi ei gyhoeddi i gywiro Rhif OS 2001/1471, gan ei newid i OS 2001/1411.
Offerynnau Statudol Cymru
2001 Rhif 1411 (Cy.97)(C.51)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Gorchymyn Deddf Llywodraeth Leol 2000 (Cychwyn) (Rhif 2) (Cymru) 2001
Wedi'i wneud
4 Ebrill 2001
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 108(6) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000(1).
Enwi a chymhwyso
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Llywodraeth Leol 2000 (Cychwyn) (Rhif 2) (Cymru) 2001 ac mae'n gymwys i Gymru yn unig.
Darpariaethau sy'n dod i rym ar 9 Ebrill 2001
2. Daw darpariaethau canlynol Deddf Llywodraeth Leol 2000 i rym ar 9 Ebrill 2001 -
adran 1 (ystyr “local authority” yn Rhan I)
adran 2 (hybu lles)
adran 3(1), (2) ac (8) (cyfyngiadau ar y pŵer i hybu lles)
adran 4(1), (2) a (3)(a) (strategaethau ar gyfer hybu lles)
adran 5(1), (2), (3), (4) a (6) (y pŵer i ddiwygio neu ddiddymu deddfiadau)
adran 6(1), (2), (3), (4), (5), (7) ac (8) (y pŵer i addasu deddfiadau ynghylch cynlluniau etc.)
adran 8 (addasu adran 137 o Ddeddf 1972)
adran 9 (y weithdrefn ar gyfer gorchmynion adran 5 neu 6)
adran 107(2) (mân ddiwygiadau a diddymiadau a rhai canlyniadol) i'r graddau y mae'n ymwneud â'r diddymiadau canlynol a nodir yn Atodlen 6 —
yn adran 25(8) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976, y geiriau o “Without prejudice ” i “inhabitants of its area”;
yn adran 13 o Ddeddf Ardaloedd Canol Trefi 1978, y geiriau “section 137(1) of the Local Government Act 1972 or”;
adran 11A(4) o Ddeddf Tai 1985; ac
adrannau 34 a 35 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
4 Ebrill 2001
Nodyn Esboniadol
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym, mewn perthynas â Chymru yn unig, y darpariaethau hynny yn Rhan I o Ddeddf Llywodraeth Leol Cymru 2000 nad ydynt mewn grym hyd yn hyn a diddymiadau canlyniadol o amryw o ddarpariaethau statudol.
Mae Rhan I o'r Ddeddf yn ymwneud ag awdurdodau lleol yn hybu lles economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol eu hardaloedd.
Nodyn Orchymyn Cychwyn Blaenorol
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Daethpwyd â darpariaethau canlynol Deddf Llywodraeth Leol 2000 i rym gan orchymyn cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.
Y Darpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn | Rhif O.S. |
---|---|---|
a. 3 (3), (4), (5), (6) and (7) s. 4 (3) (b), (4) a (5) a. 5 (5) a. 6 (6) a. 7 a. 11 (5), (6) a (9) a. 12 (1) a. 13 (3), (5), (6), (12), (13) a (14) a. 17 a. 18 a. 19 a. 20 a. 22 (6), (7), (8), (9), (10), (11), (12) a (13) a.23 (partially) a. 25 (5), (6) a (8) a. 27 (9) a (10) a. 28 (1) a (2) a. 30 a.31 (1) (b) a. 32 a. 33 (5), (6), (7), (8), (9), (10) a (11) a. 34 a. 35 a. 36 a. 37 (1) (a) a. 38 a. 39 (1), (3), (4) a (5) a 41 a. 44 a. 45 (5), (6), (7), (8) a (9) a. 47 a. 48 a. 49 (2), (5), (6) (a), (b), (f), (l), (m), a (p) a (7) a. 50 (2), (3), (4), (5), (6) a (7) a. 53 (11) a (12) a. 54 (5) a (7) a. 68 (3), (4), a (5) a. 70 (1) a (2) a. 73 (1), (2), (3), (4), (5) a (6) a. 75 (2), (5), (6) a (8) a. 76 (13) a. 77 (4) a (6) a. 81 (5) a (8) a. 82 (2), (3), (6), (8) a (9) a. 83 (1), (2), (3), (5), (6), (7), (8), (9), (10), (11), (13), a (14) a. 100 a. 101 (2), (3), (4) a (5) | 1Tachwedd 2000 | 2000/2948 |