Search Legislation

Rheoliadau Echdynion Coffi ac Echdynion Sicori (Cymru) 2001

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 1440 (Cy.102)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Echdynion Coffi ac Echdynion Sicori (Cymru) 2001

Wedi'u gwneud

5 Ebrill 2001

Yn dod i rym

1 Mai 2001

Drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 16(1)(a) ac (e), 17(1), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1) ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru (2), mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ar ôl rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Echdynion Coffi ac Echdynion Sicori (Cymru) 2001, deuant i rym ar 1 Mai 2001 2001 a byddant yn gymwys i Gymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “cynnyrch dynodedig” (“designated product”) yw unrhyw fwyd a bennir yng ngholofn 2 o Ran I neu II o'r Atodlen (fel y'u darllenir ynghyd ag unrhyw Nodyn yn y colofnau hynny sy'n ymwneud â'r bwyd hwnnw) ond nid yw'n cynnwys unrhyw gynnyrch sy'n cynnwys bwyd o'r fath fel cynhwysyn ac sy'n cael ei werthu, ei anfon neu ei ddanfon fel cynnyrch cyfansawdd;

  • ystyr “disgrifiad neilltuedig” (“reserved description”), mewn perthynas ag unrhyw gynnyrch dynodedig, yw unrhyw ddisgrifiad a bennir mewn perthynas â'r cynnyrch hwnnw yng ngholofn 1 o Ran I neu II o'r Atodlen a dehonglir y defnydd ar unrhyw ddisgrifiad o'r fath yn y Rheoliadau hyn i olygu'r cynnyrch dynodedig a bennir mewn perthynas â'r disgrifiad hwnnw yng ngholofn 2 o'r Rhan honno;

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;

  • ystyr “echdynnyn coffi” (“coffee extract”) yw'r cynnyrch crynodedig a geir drwy echdynnu o ffa coffi sydd wedi'u rhostio gan ddefnyddio dŵ r yn unig fel y cyfrwng echdynnu (ac eithrio unrhyw broses hydrolysis sy'n cynnwys ychwanegu asid neu fas) ac sy'n cynnwys cyfansoddion toddadwy ac aromatig coffi yn unig, heblaw'r sylweddau annhoddadwy hynny y mae'n amhosibl eu gwaredu ac olewau annhoddadwy sy'n deillio o goffi;

  • ystyr “echdynnyn sicori” (“chicory extract”) yw'r cynnyrch crynodedig a geir drwy echdynnu o sicori sydd wedi'i rostio gan ddefnyddio dŵ r yn unig fel y dull echdynnu (ac eithrio unrhyw broses hydrolysis sy'n cynnwys ychwanegu asid neu fas);

  • mae “gwerthu” ( “sell”) yn cynnwys cynnig neu ddatgelu i werthu neu feddiannu i werthu a dehonglir “gwerthu” yn unol â hynny;

  • ystyr “Rheoliadau 1996” (“the 1996 Regulations”) yw Rheoliadau Labelu Bwyd 1996(3);

  • ystyr “sicori” (“chicory”) yw gwreiddiau Cichorium Intybus L., heblaw gwreiddiau planhigion sy'n cael eu defnyddio ar gyfer cynhyrchu sicori witloof, ac sydd wedi'u glanhau, eu sychu a'u rhostio'n briodol.

(2Mae'r holl gyfrannau a grybwyllir yn y Rheoliadau hyn yn gyfrannau a gyfrifir yn ôl eu pwysau ac, oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall, fe'u cyfrifir yn ôl cyfanswm pwysau'r cynnyrch.

(3Rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at yr Atodlen fel cyfeiriad at yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

Cwmpas y Rheoliadau

3.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod, mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i echdynion coffi ac echdynion sicori sy'n barod i'w danfon i'r defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo.

(2Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i'r cynnyrch a elwir café torrefacto soluble.

(3Yn y rheoliad hwn—

  • ystyr “defnyddiwr olaf” (“ultimate customer”) yw unrhyw berson sy'n prynu heblaw—

    (a)

    er mwyn ailwerthu,

    (b)

    at ddibenion sefydliad arlwyo, neu

    (c)

    at ddibenion busnes gweithgynhyrchu;

  • mae “paratoi” (“preparation”) yn cynnwys gweithgynhyrchu ac unrhyw ffurf ar brosesu neu driniaeth; ac

  • ystyr “sefydliad arlwyo” (“catering establishment”) yw bwyty, cantîn, clwb, tafarn, ysgol, ysbyty neu sefydliad tebyg (gan gynnwys cerbyd neu stondin sefydlog neu symudol) y mae bwyd yn cael ei baratoi ynddynt, wrth gynnal busnes, i'w ddanfon i'r defnyddiwr olaf ac sy'n barod i'w fwyta heb unrhyw waith paratoi pellach.

Disgrifiadau neilltuedig

4.  Ni chaiff neb roi label gydag unrhyw fwyd a werthir ganddo, na'i arddangos gydag unrhyw fwyd a gynigir neu a ddatgelir ganddo i'w werthu neu sydd yn ei feddiant er mwyn ei werthu, p'un a yw'r label ynghlwm wrth y papur lapio neu'r cynhwysydd neu wedi'i argraffu arnynt, sef papur lapio neu gynhwysydd sy'n dwyn neu'n cynnwys unrhyw ddisgrifiad neilltuedig neu unrhyw ddeilliad ohono neu unrhyw air neu ddisgrifiad sy'n sylweddol debyg iddo neu a ffurfir ohonynt oni bai—

(a)mai'r bwyd hwnnw yw'r cynnyrch dynodedig y mae'r disgrifiad neilltuedig yn berthnasol iddo;

(b)bod y disgrifiad, y deilliad neu'r gair hwnnw yn cael ei ddefnyddio mewn cyd-destun a fyddai'n dangos yn ddiamwys neu drwy oblygiad clir mai dim ond un o gynhwysion y bwyd hwnnw yw'r sylwedd y mae'n berthnasol iddo; neu

(c)bod y disgrifiad, y deilliad neu'r gair hwnnw yn cael ei ddefnyddio mewn cyd-destun a fyddai'n dangos yn ddiamwys neu drwy oblygiad clir nad yw'r bwyd hwnnw yn gynnyrch dynodedig nac yn cynnwys cynnyrch o'r fath.

Labelu a disgrifio cynhyrchion dynodedig

5.—(1Heb ragfarnu Rheoliadau 1996, ni chaiff neb werthu unrhyw gynnyrch dynodedig oni bai ei fod wedi'i farcio neu wedi'i labelu â'r manylion canlynol—

(a)yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod, disgrifiad neilltuedig o'r cynnyrch, sef yr enw a ragnodir gan y gyfraith ar gyfer y cynnyrch hwnnw at ddibenion rheoliad 6(1) o Reoliadau 1996;

(b)y gair “decaffeinated” yn achos cynnyrch a bennir yng ngholofn 2 o Ran I o'r Atodlen sydd wedi bod drwy broses ddigaffeinio ac nad yw'r caffein anhydrus gweddilliol sydd ynddo yn fwy na 0.30% o'r sylwedd sych ynddo sy'n deillio o goffi;

(c)yn achos cynnyrch a bennir yn eitem 3 o golofn 2 o Ran I neu II o'r Atodlen y mae siwgr wedi'i ddefnyddio ynddo, y geiriau “with X”, “preserved with X”, “with added X” neu “roasted with X”, fel y bo'n briodol, ac “X” yw enw'r cynnyrch siwgr a ddefnyddiwyd, a'r enw hwnnw fydd disgrifiad neilltuedig y cynnyrch hwnnw a bennir mewn perthynas ag ef yn Rheoliadau Cynhyrchion Siwgr Penodedig 1976(4) neu, os nad oes gan y cynnyrch siwgr unrhyw ddisgrifiad neilltuedig o'r fath, enw'r cynnyrch a fyddai'n cael ei ddefnyddio, yn unol â Rheoliadau 1996, fel enw'r bwyd, petai'r cynnyrch siwgr ei hun yn cael ei werthu fel bwyd;

(ch)yn achos cynnyrch a bennir yn eitem 2 neu 3 o golofn 2 o Ran I o'r Atodlen, datganiad o leiafswm y sylwedd sych ynddo sy'n deillio o goffi wedi'i fynegi fel canran; a

(d)yn achos cynnyrch a bennir yn eitem 2 neu 3 o golofn 2 o Ran II o'r Atodlen, datganiad o leiafswm y sylwedd sych ynddo sy'n deillio o sicori wedi'i fynegi fel canran.

(2Yn achos cynnyrch a bennir yn eitem 3 o golofn 2 o Ran I o'r Atodlen sy'n cynnwys mwy na 25% o sylwedd sych sy'n deillio o goffi ac yn achos cynnyrch a bennir yn eitem 3 o golofn 2 o Ran II o'r Atodlen sy'n cynnwys mwy na 45% o sylwedd sych sy'n deillio o sicori, gellir ychwanegu'r gair “concentrated” at y disgrifiad neilltuedig.

(3Bydd yr wybodaeth sy'n ofynnol gan baragraff 1(b) ac (c) uchod yn yr un maes gwelediad â'r disgrifiad neilltuedig sy'n ofynnol gan baragraff (1)(a) uchod.

Dull marcio neu labelu

6.  Bydd Rheoliadau 35, 36(1) a (5) a 38 o Reoliadau 1996 (sy'n ymwneud â dull marcio neu labelu bwyd) yn gymwys i'r manylion y mae'n ofynnol marcio neu labelu cynnyrch dynodedig â hwy o dan reoliad 5 o'r Rheoliadau hyn fel petaent yn fanylion y byddai'n ofynnol marcio neu labelu'r bwyd â hwy o dan Reoliadau 1996.

Cosbi a gorfodi

7.—(1Os bydd unrhyw berson yn torri unrhyw un o ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn neu'n methu â chydymffurfio â hwy, bydd y person hwnnw'n euog o dramgwydd a bydd yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.

(2Bydd pob awdurdod bwyd yn gorfodi'r darpariaethau hynny yn ei ardal ac yn eu gweithredu.

(3Rhaid i'r dulliau a ddefnyddir i benderfynu faint o garbohydrad rhydd a thoddadwy a gynhwysir mewn echdynion coffi gydymffurfio â pharagraffau 1 a 2 o'r Atodiad i Gyfarwyddeb y Cyngor 85/591/EEC(5) ynghylch cyflwyno dulliau Cymunedol o samplu a dadansoddi ar gyfer monitro bwydydd i bobl eu bwyta a rhaid iddynt gael eu dilysu neu eu safoni.

Darpariaeth drosiannol

8.  Mewn unrhyw achos am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn bydd yn amddiffyniad i'r person a gyhuddir brofi—

(a)bod y bwyd o dan sylw wedi'i farcio neu wedi'i labelu cyn 13 Medi 2001, a

(b)na fyddai'r materion a oedd yn creu'r tramgwydd honedig wedi bod yn dramgwydd o dan Reoliadau Coffi a Chynhyrchion Coffi 1978(6) petai'r Rheoliadau hynny wedi bod ar waith pan gafodd y bwyd ei farcio neu ei labelu.

Amddiffyniad mewn perthynas ag allforion

9.  Mewn unrhyw achos am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn bydd yn amddiffyniad i'r person a gyhuddir brofi y bwriadwyd i'r bwyd yr honnir bod y tramgwydd wedi'i gyflawni mewn perthynas ag ef gael ei allforio i wlad (heblaw Aelod-wladwriaeth) a chanddi ddeddfwriaeth sy'n cyfateb i'r Rheoliadau hyn a bod y bwyd yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth honno.

Cymhwyso amryw o ddarpariaethau Deddf Diogelwch Bwyd 1990

10.  Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn ac, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall, dehonglir unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu Ran ohoni at ddibenion y Rheoliadau hyn fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn—

(a)adran 2 (ystyr estynedig gwerthu, etc.);

(b)adran 3 (rhagdybiaethau bod bwyd wedi'i fwriadu i bobl ei fwyta);

(c)adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);

(ch)adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy) fel y'i cymhwysir at ddibenion adran 8, 14 neu 15 o'r Ddeddf;

(d)adran 22 (amddiffyniad cyhoeddi wrth gynnal busnes);

(dd)adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);

(e)adran 33 (rhwystro, etc. swyddogion);

(f)adran 35(1) i (3) (cosbi tramgwyddau) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) a (2) fel y'i cymhwysir gan baragraff (e) uchod;

(ff)adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol); ac

(g)adran 44 (diogelu swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).

Diwygio a diddymu

11.—(1Yn Rheoliadau 1996 (i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru) yn rheoliad 4(2) (cwmpas Rhan II) hepgorir is-baragraff (e).

(2Hepgorir y cofnodion canlynol sy'n ymwneud â Rheoliadau Coffi a Chynyrchion Coffi 1978 (i'r graddau y mae'r Rheoliadau canlynol yn gymwys i Gymru)—

(a)yn Rheoliadau Bwyd (Diwygio Cosbau) 1982(7), yn Atodlen 1;

(b)yn Rheoliadau Bwyd (Diwygio Cosbau)1985(8), yn Atodlen 1, Rhan I;

(c)yng Ngorchymyn Deddf Diogelwch Bwyd 1990 (Addasiadau Canlyniadol) (Cymru a Lloegr) 1990(9), yn Atodlen 1, Rhan I, Atodlen 2, Atodlen 3, Rhan I ac Atodlenni 6 a 12;

(ch)yn Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Allforion) 1991(10)), yn Atodlen 1, Rhan I;

(d)yn Rheoliadau Bwyd (Esemptiadau'r Lluoedd) (Diddymiadau) 1992(11), yn Atodlen 1, Rhan I;

(dd)yn Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995(12)), yn Atodlen 9;

(e)yn Rheoliadau 1996, rheoliad 49(7).

(3Diddymir drwy hyn Reoliadau Coffi a Chynhyrchion Coffi 1978, Rheoliadau Coffi a Chynhyrchion Coffi (Diwygio) 1982(13)) a Rheoliadau Coffi a Chynhyrchion Coffi (Diwygio) 1987 (14) i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(15)).

D. Elis Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

5 Ebrill 2001

Rheoliadau 2 a 5

YR ATODLEN

RHAN IECHDYNION COFFI A'U DISGRIFIADAU NEILLTUEDIG

Colofn 1Colofn 2
Disgrifiadau neilltuedigCynhyrchion Echdynion Coffi

1.  “Coffee extract” neu “Soluble coffee extract” neu “Instant coffee” neu Soluble coffee

Echdynnyn coffi ar ffurf powdr, gronynnau, fflawiau, ciwbiau neu ffurf solet arall, nad yw'r sylwedd sych ynddo sy'n deillio o goffi yn llai na 95%, ac nad yw'n cynnwys sylweddau heblaw'r rhai sy'n deillio o broses echdynnu coffi.

2.  “Coffee extract” neu “Soluble coffee extract” neu “Instant coffee” neu “Soluble coffee”

gyda'r gair “paste” neu'r geiriau “in paste form” ar eu hôl bob troEchdynnyn coffi ar ffurf past, nad yw'r sylwedd sych ynddo sy'n deillio o goffi yn fwy na 85% ac nad yw'n llai na 70%, nac yn cynnwys unrhyw sylweddau heblaw'r rhai sy'n deillio o broses echdynnu coffi.

3.  “Coffee extract” neu “Soluble coffee extract” neu “Instant coffee” neu “Soluble coffee”

gyda'r gair “liquid” neu'r geiriau “in liquid form” ar eu hôl bob troEchdynnyn coffi ar ffurf hylif, nad yw'r sylwedd sych ynddo sy'n deillio o goffi yn fwy na 55% ac nad yw'n llai na 15%.

SYLWER: Gall y cynnyrch gynnwys cynhyrchion siwgr ychwanegol, p'un a ydynt wedi'u rhostio neu beidio, mewn cyfrannedd heb fod yn fwy na 12%

RHAN IIECHDYNION SICORI A'U DISGRIFIADAU NEILLTUEDIG

Colofn 1Colofn 2
Disgrifiadau neilltuedigCynhyrchion Echdynion Coffi

1.  “Chicory extract” neu “Instant chicory” neu “Soluble chicory”

Echdynnyn sicori ar ffurf powdr, gronynnau, ffawiau, ciwbiau neu'r ffurf solet arall, nad yw'r sylwedd sych ynddo sy'n deillio o sicori yn llai na 95%.

SYLWER:

Gall y cynnyrch hwn gynnwys dim mwy nag 1% o sylweddau nad ydynt yn deillio o sicori.

2.  “Chicory extract” neu “Instant chicory” neu “Soluble chicory”

gyda'r geiriau “paste” neu'r geiriau “in paste form” ar eu hôl bob tro

Echdynnyn sicori ar ffurf past, nad yw'r sylwedd sych ynddo sy'n deillio o sicori yn fwy na 85% ac nad yw'n llai na 70%.

SYLWER:

Gall y cynnyrch hwn gynnwys dim mwy nag 1% o sylweddau nad ydynt yn deillio o sicori.

3.  “Chicory extract” neu “Instant chicory” neu “Soluble chicory”

gyda'r geiriau “liquid” neu'r geiriau “in liquid form” ar eu hôl bob troEchdynnyn sicori ar ffurf hylif, nad yw'r sylwedd sych ynddo sy'n deillio o sicori yn fwy na 55% ac nad yw'n llai na 15%.

SYLWER:

Gall y cynnyrch hwn gynnwys cynhyrchion siwgr ychwanegol, p'un a ydynt wedi'u rhostio neu beidio, mewn cyfrannedd heb fod yn fwy na 35%

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn gweithredu Cyfarwyddeb 1999/4/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor mewn perthynas ag echdynion coffi ac echdynion sicori (OJ Rhif L66, 13.3.1999, t.26). Maent yn diddymu Rheoliadau Coffi a Chynhyrchion Coffi 1978, fel y'u diwygiwyd, mewn perthynas â Chymru, ac yn eu disodli.

2.  Mae'r Rheoliadau—

(a)yn rhagnodi diffiniadau a disgrifiadau neilltuedig ar gyfer echdynion coffi ac echdynion sicori (rheoliad 2 a'r Atodlen);

(b)yn darparu bod y Rheoliadau yn gymwys i echdynion coffi ac echdynion sicori sy'n barod i'w danfon i'r defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo, ac eithrio'r cynnyrch a elwir café torrefacto soluble (rheoliad 3);

(c)yn cyfyngu ar werthu bwyd sy'n dwyn disgrifiad neilltuedig heblaw bwyd y mae'r disgrifiad yn berthnasol iddo (rheoliad 4);

(ch)yn ei gwneud yn ofynnol i ddisgrifiadau neilltuedig a datganiadau penodedig gael eu cymhwyso at gynhyrchion dynodedig, ac yn rhagnodi'r dull sydd i'w ddefnyddio i'w marcio neu i'w labelu; mae darpariaethau penodol yn Rheoliadau Labelu Bwyd 1996, sy'n llywodraethu dull labelu echdynion coffi ac echdynion sicori ac eithrio i'r graddau y ceir darpariaeth benodol ar ei gyfer yn y Rheoliadau hyn, yn cael eu cymhwyso at y gofynion penodol hyn (rheoliadau 5 a 6);

(d)yn darparu ar gyfer cosbau a gorfodi, yn cynnwys darpariaeth drosiannol, ac amddiffyniad mewn perthynas ag allforion (yn unol ag Erthyglau 2 a 3 o Gyfarwyddeb y Cyngor 89/397/EEC (OJ Rhif L186, 30.6.89, t.23) ar reoli bwydydd yn swyddogol), yn cymhwyso darpariaethau amrywiol Deddf Diogelwch Bwyd 1990 ac yn gwneud diwygiadau a diddymiadau (rheoliadau 7 i 11).

3.  Mae arfarniad rheoleiddiol ar gyfer y Rheoliadau hyn wedi'i baratoi yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 ac wedi'i roi yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 1, Southgate House, Caerdydd CF10 1EW.

(2)

rosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidogion (“the Ministers”) o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (OS 1999 Rhif 672).

(3)

OS 1996 Rhif 1499; OS 1998 Rhif 1398 yw'r offeryn diwygio perthnasol.

(4)

OS 1976 Rhif 509; OS 1982 Rhif 255 yw'r offeryn diwygio perthnasol.

(5)

OJ Rhif L372, 31.12.1985, t.50.

(15)

1998 p.38.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources