Dehongli2

1

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “cynnyrch dynodedig” (“designated product”) yw unrhyw fwyd a bennir yng ngholofn 2 o Ran I neu II o'r Atodlen (fel y'u darllenir ynghyd ag unrhyw Nodyn yn y colofnau hynny sy'n ymwneud â'r bwyd hwnnw) ond nid yw'n cynnwys unrhyw gynnyrch sy'n cynnwys bwyd o'r fath fel cynhwysyn ac sy'n cael ei werthu, ei anfon neu ei ddanfon fel cynnyrch cyfansawdd;

  • ystyr “disgrifiad neilltuedig” (“reserved description”), mewn perthynas ag unrhyw gynnyrch dynodedig, yw unrhyw ddisgrifiad a bennir mewn perthynas â'r cynnyrch hwnnw yng ngholofn 1 o Ran I neu II o'r Atodlen a dehonglir y defnydd ar unrhyw ddisgrifiad o'r fath yn y Rheoliadau hyn i olygu'r cynnyrch dynodedig a bennir mewn perthynas â'r disgrifiad hwnnw yng ngholofn 2 o'r Rhan honno;

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;

  • ystyr “echdynnyn coffi” (“coffee extract”) yw'r cynnyrch crynodedig a geir drwy echdynnu o ffa coffi sydd wedi'u rhostio gan ddefnyddio dŵ r yn unig fel y cyfrwng echdynnu (ac eithrio unrhyw broses hydrolysis sy'n cynnwys ychwanegu asid neu fas) ac sy'n cynnwys cyfansoddion toddadwy ac aromatig coffi yn unig, heblaw'r sylweddau annhoddadwy hynny y mae'n amhosibl eu gwaredu ac olewau annhoddadwy sy'n deillio o goffi;

  • ystyr “echdynnyn sicori” (“chicory extract”) yw'r cynnyrch crynodedig a geir drwy echdynnu o sicori sydd wedi'i rostio gan ddefnyddio dŵ r yn unig fel y dull echdynnu (ac eithrio unrhyw broses hydrolysis sy'n cynnwys ychwanegu asid neu fas);

  • mae “gwerthu” ( “sell”) yn cynnwys cynnig neu ddatgelu i werthu neu feddiannu i werthu a dehonglir “gwerthu” yn unol â hynny;

  • ystyr “Rheoliadau 1996” (“the 1996 Regulations”) yw Rheoliadau Labelu Bwyd 19963;

  • ystyr “sicori” (“chicory”) yw gwreiddiau Cichorium Intybus L., heblaw gwreiddiau planhigion sy'n cael eu defnyddio ar gyfer cynhyrchu sicori witloof, ac sydd wedi'u glanhau, eu sychu a'u rhostio'n briodol.

2

Mae'r holl gyfrannau a grybwyllir yn y Rheoliadau hyn yn gyfrannau a gyfrifir yn ôl eu pwysau ac, oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall, fe'u cyfrifir yn ôl cyfanswm pwysau'r cynnyrch.

3

Rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at yr Atodlen fel cyfeiriad at yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.