Search Legislation

Rheoliadau Gwastraff Rhagnodedig (Cymru) 2001

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 1506 (Cy. 104 )

DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU

Rheoliadau Gwastraff Rhagnodedig (Cymru) 2001

Wedi'u gwneud

20 Ebrill 2001

Yn dod i rym

21 Ebrill 2001

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 57(6) a 63(1) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990(1) ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2), ac ar ôl ymgynghori yn unol ag adran 63(1) â'r cyrff hynny y mae'n credu eu bod yn briodol, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn, darfod a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwastraff Rhagnodedig (Cymru) 2001.

(2Daw'r Rheolidau hyn i rym ar 21 Ebrill 2001 a byddant yn darfod ar 20 Gorffennaf 2001 oni chânt eu hestyn neu eu diddymu cyn hynny gan Reoliadau pellach.

(3Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Gwastraff Rhagnodedig

2.—(1Bydd adran 57 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (pŵ er yr Ysgrifennydd Gwladol i'w gwneud yn ofynnol i wastraff gael ei ddebyn, ei drin, ei waredu neu ei draddodi) yn cael effaith yng Nghymru fel pe bai cyfeiriadau at wastraff a reolir yn cynnwys cyfeiriadau at unrhyw wastraff sy'n dod o safleoedd a ddefnyddir ar gyfer amaethyddiaeth o fewn ystyr Deddf Amaethyddiaeth 1947(3) ac yn cynnwys—

(a)yn ddarostyngedig i baragraff (3), carcasau (neu rannau o garcasau, gan gynnwys gwaed) yr anifeiliaid a bennir ym mharagraff (2); neu

(b)deunydd wedi'i rendro neu ludw o ganlyniad i rendro neu losgi'r carcasau (neu rannau o garcasau, gan gynnwys gwaed) yr anifeiliaid a bennir ym mharagraff (2).

(2Dyma'r anifeiliaid y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(a) a (b)—

(a)gwartheg, defaid, geifr, unrhyw anifeiliaid eraill sy'n cnoi cil neu foch; a'r rheiny

(b)wedi'u cigydda o ganlyniad uniongyrchol neu anuniongyrchol i fesurau a gymerwyd mewn cysylltiad â chlwy'r traed a'r genau.

(3Ni fydd paragraff (1)(a) yn gymwys i wartheg a anwyd cyn 1 Awst 1996.

Deddfiadau a ragnodir at ddibenion adran 57(6) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990

3.  Rhagnodir y deddfiadau canlynol at ddibenion adran 57(6) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (amddiffyniadau yn achos cydymffurfio â chyfarwyddyd)—

(a)adrannau 179, 187, 187A, 216 a 331 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(4); a

(b)adran 33 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990(5).

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(6)

Carwyn Jones

Ysgrifennydd Cynulliad

20 Ebrill 2001

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

Mae'r Rheoliadau hyn yn caniatáu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gyfarwyddo deiliad trwydded reoli gwastraff, drwy hysbysiad ysgrifenedig, i dderbyn a chadw, neu i dderbyn a thrin neu waredu carcasau (neu rannau o garcasau) mathau penodol o anifail a gigyddwyd o ganlyniad i fesurau a gymerwyd mewn cysylltiad â chlwy'r traed a'r genau. Y mathau perthnasol o anifail yw gwartheg (os cawsant eu geni ar neu ar ôl 1 Awst 1996), defaid, anifeiliaid eraill sy'n cnoi cil neu foch. Gellir hefyd roi cyfarwyddiadau mewn perthynas â lludw neu ddeunydd a rendrwyd o ganlyniad i losgi neu rendro carcasau neu rannau o garcasau gwartheg (o unrhyw oed), defaid, anifeiliaid eraill sy'n cnoi cil neu foch pan gafodd yr anifieiliaid hynny eu cigydda o ganlyniad i fesurau cyfyngu.

Bydd estyn y mathau o wastraff drwy'r Rheoliadau hyn a all fod yn destun cyfarwyddyd gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 57(1) a (2) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 a ddisgrifir uchod yn cael effaith ledled Cymru gyfan. Ni fydd deiliad trwydded yn euog o dramgwydd troseddol o dan unrhyw un o ddarpariaethau penodedig Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 a Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 dim ond oherwydd unrhyw beth y bu'n rhaid ei wneud neu ei hepgor er mwyn cydymffurfio â chyfarwyddyd o dan adran 57(1) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990.

Bydd y Rheoliadau'n darfod ar 20 Gorffennaf 2001 oni chânt eu hestyn neu eu diddymu cyn hynny.

Mae deiliad trwydded rheoli gwastraff sy'n cael ei gollfarnu o fethu â chydymffurfio â chyfarwyddyd o dan adran 57(1) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 heb esgus rhesymol yn agored i ddirwy hyd at £5000.

(2)

Mae pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru wedi'u trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru: gweler Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo.

(4)

1990 p.8; gwnaed diwygiadau perthnasol gan adrannau 2, 8 a 9(4) o Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991 (p.34) a pharagraff 35 o Atodlen 7 i Ddeddf 1991.

(5)

Gwnaed diwygiadau perthnasol gan adran 33 o Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (p.40), adran 120(1) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p.25), paragraffau 64 a 65 o Atodlen 22 i'r Ddeddf honno, rheoliad 19 o O.S. 1994/1056, paragraff 11 o Ran I o Atodlen 4 i O.S. 1994/1056 a pharagraffau 2 a 4 o Ran I o Atodlen 10 i O.S. 2000/1973.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources