Search Legislation

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Taliadau gan Awdurdodau Lleol i Awdurdodau Iechyd (Swyddogaethau Rhagnodedig) (Cymru) 2001

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 1543 (Cy.108)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Taliadau gan Awdurdodau Lleol i Awdurdodau Iechyd (Swyddogaethau Rhagnodedig) (Cymru) 2001

Wedi'u gwneud

29 Mawrth 2001

Yn dod i rym

1 Ebrill 2001

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 28BB(1) a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977(1), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Taliadau gan Awdurdodau Lleol i Awdurdodau Iechyd) (Swyddogaethau Rhagnodedig) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2001.

(2Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977.

(3Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Swyddogaethau rhagnodedig yr Awdurdodau Iechyd yng Nghymru

2.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod, y swyddogaethau canlynol yw swyddogaethau rhagnodedig Awdurdodau Iechyd yng Nghymru at ddibenion adran 28BB o'r Ddeddf (pŵ er yr awdurdodau lleol i wneud taliadau i gyrff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol )—

(a)swyddogaethau darparu, neu gwneud trefniadau ar gyfer darparu, gwasanaethau—

(i)o dan adrannau 2 a 3(1) o'r Ddeddf, gan gynnwys yn benodol wasanaethau adsefydlu a gwasanaethau y bwriedir iddynt osgoi derbyniadau i'r ysbyty, a

(ii)o dan adran 5(1), (1A) ac (1B) o'r Ddeddf, ac Atodlen 1 iddi(2); a

(b)unrhyw swyddogaeth o dan adrannau 25A i 25H a 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983(3).

(2Mae unrhyw swyddogaethau mewn perthynas â'r canlynol yn cael eu hepgor o'r swyddogaethau sy'n cael eu rhagnodi o dan baragraff (1) uchod—

(a)darparu llawfeddygaeth, radiotherapi, erthylu, endosgopi, defnyddio triniaethau laser Dosbarth 4(4) a thriniaethau trychiadol eraill;

(b)gwasanaethau ambiwlans argyfwng;

(c)darparu cyffuriau a sylweddau eraill sydd wedi'u rhestru yn Atodlen 10 i Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) 1992(5)) neu sydd wedi'u rhestru yng ngholofn 1 o Atodlen 11 i'r Rheoliadau hynny, fel y mae'r Atodlenni hynny'n gymwys yng Nghymru ac, o ran Atodlen 11, o dan amgylchiadau lle nad yw'r amodau a bennir yng ngholofn 3 o'r Atodlen honno wedi'u bodloni; ac

(ch)darparu cyfarpar nad yw wedi'i restru yn Rhan IX o'r datganiad a elwir “the Drug Tariff” a gyhoeddir ac a ddiwygir o dro i dro o dan reoliad 18(1) o Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) 1992(6) fel y mae'r datganiad yn gymwys yng Nghymru.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(7)

Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

D. Elis Thomas

29 Mawrth 2001

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi rhai o swyddogaethau Awdurdodau Iechyd yng Nghymru, at ddibenion adran 28BB o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977. Mae hyn yn galluogi cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol yng Nghymru i wneud taliadau i Awdurdodau Iechyd tuag at wariant a dynnir ganddynt mewn cysylltiad â chyflawni unrhyw un o'r swyddogaethau sydd wedi'u rhagnodi fel hyn.

(1)

1977 p.49; mewnosodwyd adran 28BB gan adran 30 o Ddeddf Iechyd 1999 (p.8) (“Deddf 1999”). Cychwynnwyd adran 30 o Ddeddf 1999 mewn perthynas â Chymru gan Orchymyn Deddf Iechyd 1999 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2000, O.S. 2000/2991 (Cy. 191) (C.92), ac eithrio i'r graddau y mae is-adran (2) o adran 28BB o Ddeddf 1977 yn ymwneud ag Ymddiriedolaethau Gofal Sylfaenol. Gweler adran 28BB(2) i gael diffiniad o “prescribed”. Diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19), adran 65(2) a Deddf 1999, Atodlen 4, paragraff 37(6). Cafodd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 28BB a 126(4), i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2(a) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S. 1999/672, fel y'i diwygiwyd gan adran 66(4) a (5) o Ddeddf 1999.

(2)

Diwygiwyd adran 5(1), a mewnosodwyd adrannau 5(1A) ac (1B), gan Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1998 (p.49), adran 10(1); diwygiwyd Atodlen 1 gan Ddeddf Addysg 1981 (p.60), Atodlen 3, paragraff 13, Deddf Diwygio Addysg 1988 (p.40), Atodlen 12, Rhan I, paragraff 21, a Deddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.49), Atodlen 2, paragraff 7.

(4)

Gweler BS EN 60825-1: 1994 Safety of Laser Products. Diffinnir cynhyrchion laser dosbarth 4 drwy gyfeirio at 'British Standards' sy'n cael ei gyhoeddi gan y Sefydliad Safonau Prydeinig (“BSI”) ac y gellir ei gael oddi wrth BSI, Linford Woods, Milton Keynes, MK14 6LE.

(5)

O.S. 1992/635; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1992/2412, 1993/2421, 1994/2620, 1995/3093, 1997/981, 1999/1627 a 2000/1887.

(6)

O.S. 1992/662; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1993/2451, 1995/644 a 1999/696.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources