- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
BWYD, CYMRU
Wedi'u gwneud
1 Mai 2001
Yn dod i rym
1 Gorffennaf 2002
Drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 6(4), 16(1), 17(1), 26(1)(a) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1) ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2), ar ôl rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori yn unol ag adran 48(4) o'r Ddeddf honno â'r sefyliadau hynny y mae'n ymddangos eu bod yn cynrychioli buddiannau sy'n debygol o gael eu heffeithio'n sylweddol gan y Rheoliadau, mae Cynylliad Cenedlaethol Cymru drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Fformwla Fabanod a Fformwla Ddilynol (Diwygio) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Gorffennaf 2002.
2. I'r graddau y mae Rheoliadau Fformwla Fabanod a Fformwla Ddilynol 1995(3) yn gymwys i Gymru, fe'u diwygir drwy fewnosod—
(a)ym mharagraff (2) o reoliad 1 (enw, cychwyn a dehongli)—
(i)(ar ôl y diffiniad o “advertisement”, “advertise” ac “advertising”) y diffiniad canlynol—
““the Directive” means Commission Directive 91/321/EEC(4)on infant formulae and follow-on formulae as amended by amendments up to and including those effected by Commission Directive 1999/50/EC(5)”; a
(ii)(ar ôl y diffiniad o “Member state”) y diffiniad canlynol—
““pesticide residue” has the meaning given by Article 1(2)(e) of the Directive”; a
(b)ar ddiwedd paragraff (2) o reoliadau 8 a 9 (cyfansoddiad fformwlâu babanod a fformwlâu dilynol), y geiriau
“and it shall not—
(a)if it is manufactured as ready for consumption, contain, or
(b)if it is not so manufactured, be such that it would, if reconstituted according to its manufacturer’s instructions, contain,
residues of any individual pesticide at a level exceeding 0.01 mg/kg”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(6).
Dafydd Elis Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
1 Mai 2001
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Fformwla Fabanod a Fformwla Ddilynol 1995 mewn perthynas â Chymru wrth weithredu Cyfarwyddeb y Comisiwn 1999/50/EC sy'n diwygio Cyfarwyddeb 91/321/EC ar fformwlâu babanod a fformwlâu dilynol.
Mae'r Rheoliadau yn estyn y gofynion cyfansoddol ar gyfer y fformwlâu hyn sydd yn Rheoliadau 1995 drwy ychwanegu gofyniad na fyddant yn cynnwys gwaddodion plaleiddiaid unigol dros lefel o 0.01 mg/kg, wrth o'u mesur pan fyddant yn barod i'w defnyddio neu wrth eu hail gyfansoddi yn unol cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr (rheoliad 2(b)), ac maent yn gwneud diwygiadau canlyniadol (rheoliad 2(a)). Mae arfarniad rheoliadol ar gyfer y Rheoliadau hyn wedi'i baratoi yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 ac wedi'i osod yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 1, Southgate House Caerdydd CF10 1EW.
1990 p. 16; diwygiwyd adran 6(4) gan baragraff 6 o Atodlen 9 i Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (p.40).
Cafodd swyddogaethau “the Ministers” o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).
O.S. 1995/77 y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.
OJ Rhif L175, 4.7.91, t.35.
J Rhif L139, 2.6.1999, t.29.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: