- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
Offerynnau Statudol Cymru
BWYD, CYMRU
Wedi'u gwneud
1 Mai 2001
Yn dod i rym
1 Gorffennaf 2002
Drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 6(4), 16(1), 17(1), 26(1)(a) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1), ac a freiniwyd ynddo bellach, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru(2), ar ôl rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori yn unol ag adran 48(4) o'r Ddeddf honno â'r cyrff hynny yr ymddengys iddo eu bod yn cynrychioli buddiannau y mae'n debygol yr effeithir arnynt yn sylweddol gan y Rheoliadau, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwydydd Proses sydd wedi'u Seilio ar Rawn a Bwydydd ar gyfer Babanod a Phlant Ifanc (Diwygio) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Gorffennaf 2002.
2. Diwygir Rheoliadau Bwydydd Proses sydd wedi'u Seilio ar Rawn a Bwydydd ar gyfer Babanod a Phlant Ifanc 1997(3), i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru —
(a)drwy fewnosod, ar ddiwedd y diffiniad o “the Directive” ym mharagraff (2) o reoliad 1 (teitl, cychwyn a dehongli), y geiriau “and by Commission Directive 1999/39/EC”(4)); a
(b)yn rheoliad 5 (cynhyrchiad a chyfansoddiad bwydydd proses sydd wedi'u seilio ar rawn a bwydydd ar gyfer babanod) —
(i)drwy ddileu'r gair “or” ar ddiwedd paragraff (c)(ii); a
(ii)drwy fewnosod, ar ddiwedd paragraff (d), y gair “or” a'i ddilyn gan y paragraff canlynol:
“(e)which —
(i)if it is manufactured as ready for consumption, contains, and
(ii)if it is not so manufactured, would if reconstituted according to its manufacturer’s instructions contain,
residues of any individual pesticide at a level exceeding 0.01mg/kg.”.
Llofnodwyd ar ran Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5).
Dafydd Elis-Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
1 Mai 2001
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Bwydydd Proses sydd wedi'u Seilio ar Rawn a Bwydydd ar gyfer Babanod a Phlant Ifanc 1997 mewn perthynas â Chymru, wrth weithredu Cyfarwyddeb 1999/39/EC y Comisiwn sy'n diwygio Cyfarwyddeb 96/5/EC ar fwydydd proses sydd wedi'u seilio ar rawn a bwydydd ar gyfer babanod a phlant ifanc.
Mae'r rheoliadau'n estyn y gwaharddiadau ar gynhyrchu a gwerthu yn Rheoliadau 1997 i fwyd o'r natur honno sy'n cynnwys gweddillion plaleiddiaid unigol dros lefel o 0.01 mg/kg, a fesurir pan fydd yn barod i'w ddefnyddio neu pan fydd wedi'i hailgyfansoddin unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr (rheoliad 2(b)), a diweddaru'r cyfeiriad at Gyfarwyddeb 1996 (rheoliad 2(a)).
Mae arfarniad rheoliadol ar gyfer y Rheoliadau hyn wedi'i baratoi yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 ac wedi'i osod yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 1, Southgate House Caerdydd CF10 1EW.
1990 p.16. Diwygiwyd adran 6(4) gan baragraff 6 o Atodlen 9 i Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (p.40).
Cafodd swyddogaethau “the Ministers” o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).
O.S. 1997/2042, a ddiwygiwyd gan O.S. 1999/275.
OJ Rhif L124, 18.5.1999, t.8.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: