Search Legislation

Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 2001

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 1787 (Cy. 128)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 2001

Wedi'u gwneud

1 Mai 2001

Yn dod i rym

1 Mehefin 2001

Drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(a), 17(1), 26(1) and (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1), a pharagraff 1 o Atodlen 1 iddi, ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru(2), ar ôl rhoi sylw, yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, ac ar ôl ymgynghori yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Teitl, cychwyn, a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 2001.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig a deuant i rym ar 1 Mehefin 2001.

Diwygio Rheoliadau Ychwanegion Amrywiol Bwyd 1995

2.  Diwygir Rheoliadau Ychwanegion Amrywiol bwyd 1995 (3) i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, yn unol â Rheoliadau 3 i 5 isod.

3.  Yn rheoliad 2(1) (dehongli), yn y diffiniad o “Directive 96/77/EC” ychwanegir y geiriau “and Commission Directive 2000/63/EC(4) ar y diwedd.

4.  Yn rheoliad 11 (darpariaeth drosiannol ac esemptiadau) mewnosodir ar ôl paragraff (1B) y paragraff canlynol—

(1C) In any proceedings for an offence under these Regulations in respect of any food additive or food, it shall be a defence to prove

  • that—

    (a)

    the food additive or food concerned was put on the market or labelled before 1st June 2001; and

    (b)

    the matter constituting the offence would not have constituted an offence under these Regulations if the amendments made by regulations 3 and 5 of the Miscellaneous Food Additives (Amendment) (Wales) Regulations 2001 had not been made when that matter occurred..

5.  Yn Atodlen 5 (meini prawf purdeb) hepgorir y cofnodion sy'n ymwneud â'r ychwanegion amrywiol a restrir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

Diwygiadau canlyniadol

6.—(1I'r graddau y mae unrhyw offeryn a restrir yn rheoliad 14(1) o Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) 1999(5) yn gymwys i Gymru, bydd effaith y ddarpariaeth honno yn dod i ben mewn perthynas â'r offeryn hwnnw.

(2Yn yr offerynnau canlynol, i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, dehonglir cyfeiriadau at Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995 fel petaent yn gyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau Ychwanegion Bwyd (Diwygio) 1997(6)), Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) 1999 a'r Rheoliadau hyn:

  • Rheoliadau Hydrocarbonau Mwnol mewn Bwyd 1966(7))

  • Rheoliadau Cynhyrchion Siwgr Penodedig 1976(8))

  • Rheoliadau Coco a Chynhyrchion Siocled 1976(9))

  • Rheoliadau Suddau Ffrwythau a Neithdarau Ffrwythau 1977 (10)

  • Rheoliadau Llaeth Cyddwys a Llaeth Sych 1977 (11))

  • Rheoliadau Jam a Chynnyrch Tebyg 1981(12))

  • Rheoliadau Cynhyrchion Cig a Chynhyrchion Pysgod Taenadwy 1984(13)d)

  • Rheoliadau Labelu Ychwanegion Bwyd 1992(14))

  • Rheoliadau Labelu Bwyd 1996 (15)

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(16)).

Dafydd Elis Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

1 Mai 2001

Rheoliad 5

ATODLENYCHWANEGION AMRYWIOL Y MAE'R MEINI PRAWF PURDEB A BENNIR NEU Y CYFEIRIR ATYNT YN ATODLEN 5 I'R PRIF REOLIADAU YN CAEL EU HEPGOR

  • E 296Malic acid

  • E 297Fumaric acid

  • E 350(i)Sodium malate

  • E 350(ii)Sodium hydrogen malate

  • E 351Potassium malate

  • E 352(i)Calcium malate

  • E 352(ii)Calcium hydrogen malate

  • E 355Adipic acid

  • E 363Succinic acid

  • E 380Triammonium citrate

  • E 500(i)Sodium carbonate

  • E 500(ii)Sodium hydrogen carbonate

  • E 500(iii)Sodium sesquicarbonate

  • E 501(i)Potassium carbonate

  • E 501(ii)Potassium hydrogen carbonate

  • E 503(i)Ammonium carbonate

  • E 503(ii)Ammonium hydrogen carbonate

  • E 507Hydrochloric acid

  • E 509Calcium chloride

  • E 513Sulphuric acid

  • E 514(i)Sodium sulphate

  • E 515(i)Potassium sulphate

  • E 516Calcium sulphate

  • E 522Aluminium potassium sulphate

  • E 524Sodium hydroxide

  • E 525Potassium hydroxide

  • E 526Calcium hydroxide

  • E 527Ammonium hydroxide

  • E 528Magnesium hydroxide

  • E 529Calcium oxide

  • E 530Magnesium oxide

  • E 535Sodium ferrocyanide

  • E 536Potassium ferrocyanide

  • E 541Sodium aluminium phosphate, acidic

  • E 551Silicon dioxide

  • E 552Calcium silicate

  • E 553a(i)Magnesium silicate

  • E 553a(ii)Magnesium trisilicate

  • E 575Glucono-delta-lactone

  • E 576Sodium gluconate

  • E 577Potassium gluconate

  • E 578Calcium gluconate

  • E 640Glycine

  • E 900Dimethylpolysiloxane

  • E 901Beeswax, white and yellow

  • E 903Carnauba wax

  • E 904Shellac

  • E 941Nitrogen

  • E 942Nitrous oxide

  • E 948Oxygen

  • E 999Extract of quillaia

  • E 1200Polydextrose

  • Propane-1, 2-diol (propylene glycol)

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yn diwygio Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995, fel y'u diwygiwyd (“y prif Reoliadau”).

Mae'r Rheoliadau yn gweithredu Cyfarwyddeb y Comisiwn 2000/63/EC sy'n diwygio Cyfarwyddeb 96/77/EC sy'n nodi meini prawf purdeb penodol ynghylch ychwanegion bwyd heblaw lliwiau a melysyddion (OJ Rhif L277, 30.10.2000, t.1).

Yn ddarostyngedig i ddarpariaeth drosiannol, mae'r Rheoliadau yn diwygio'r gofynion presennol yn y prif Reoliadau o ran y meini prawf purdeb ar gyfer butylated hydroxyanisole (BHA) ac yn pennu meini prawf purdeb newydd mewn perthynas â'r ychwanegion a bennir yn Atodiad II i Gyfarwyddeb y Comisiwn 2000/63/EC (rheoliadau 3 i 5).

Mae'r Rheoliadau yn gwneud diwygiadau canlyniadol hefyd i'r offerynnau a bennir yn rheoliad 4, o ran cyfeiriadau yn yr offerynnau hynny at y prif Reoliadau (rheoliad 6).

Nid oes unrhyw arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn.

(1)

1990 p.16; diwygiwyd adran 6(4)(a) o'r Ddeddf gan Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (p.40), Atodlen 9, paragraff 6 a chan Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (p. 28), Atodlen 5, paragraff 10(3). Trosglwyddwyd swyddogaethau a oedd gynt yn arferadwy gan “the Ministers”, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672); mae swyddogaethau a oedd gynt yn arferadwy gan “the Ministers” yn arferadwy bellach, mewn perthynas â Lloegr, gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn unol â pharagraff 8 o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999; trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â'r Alban, i “the Scottish Ministers” gan adran 53 o Ddeddf yr Alban 1998 (p. 46). Mae Rheoliad 13(4) o O.S. 2000/656 yn awdurdodi'r Ysgrifennydd Gwladol yn ddiamwys i ddiwygio'r Rheoliadau sy'n bodoli eisoes ac a wnaed gan y Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd (p'un ai gydag eraill neu beidio) o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990.

(2)

Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

(3)

O.S. 1995/3187, a ddiwygiwyd gan O.S. 1997/1413 ac O.S. 1999/1136.

(4)

OJ Rhif L277, 30.10.2000, t. 1.

(7)

O.S. 1966/1073; O.S. 1995/3187 yw'r offeryn diwygio perthnasol.

(8)

O.S. 1976/509; O.S. 1995/3187 yw'r offeryn diwygio perthnasol.

(9)

O.S. 1976/541; O.S. 1995/3187 yw'r offeryn diwygio perthnasol.

(10)

O.S. 1977/927; O.S. 1995/3187 yw'r offeryn diwygio perthnasol.

(11)

O.S. 1977/928; O.S. 1995/3187 yw'r offeryn diwygio perthnasol.

(12)

O.S. 1981/1063; O.S. 1995/3187 yw'r offeryn diwygio perthnasol.

(13)

O.S. 1984/1566; O.S. 1995/3187 yw'r offeryn diwygio perthnasol.

(14)

O.S. 1992/1978; O.S. 1995/3187 yw'r offeryn diwygio perthnasol.

(15)

O.S. 1996/1499 y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources