Search Legislation

Gorchymyn Gwyniaid Rhy Fach (Diddymu) (Cymru) 2001

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 2019 (Cy. 140)

PYSGODFEYDD MÔR, CYMRU

CADWRAETH PYSGOD MÔR

Gorchymyn Gwyniaid Rhy Fach (Diddymu) (Cymru) 2001

Wedi'i wneud

17 Mai 2001

Yn dod i rym

1 Mehefin 2001

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 1, 15(3) ac 20(1) o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967(1), a phob pŵ er arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw:—

Enwi a chychwyn

1.  Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Gwyniaid Rhy Fach (Diddymu) (Cymru) 2001 a daw i rym ar 1 Mehefin 2001.

Diddymu

2.  Mae Gorchymyn Gwyniaid Rhy Fach 1992(2) drwy hyn wedi'i ddiddymu mewn perthynas â Chymru fel y diffiniwyd yn adran 155(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3).

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.

John Marek

Dirpwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

17 Mai 2001

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn diddymu Gorchymyn Gwyniaid Rhy Fach 1992 (“Gorchymyn 1992”), sydd eisoes wedi'i ddiddymu mewn perthynas â'r Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon (erthygl 2). Pennodd Gorchymyn 1992 isafswm maint ar gyfer glanio a gwerthu gwyniaid (Merlangius merlangus) ym Mhrydain ac ar gyfer eu cludo ar gwch pysgota Prydeinig. Gwnaed darpariaeth gysylltiedig ynddo hefyd ar gyfer gorfodi.

Erbyn hyn, rhagnodir yr isafswm maint ar gyfer glanio, gwerthu, storio a chludo gwyniaid gan erthygl 19 (o'i darllen gydag erthygl 17) o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 850/98 (OJ Rhif L125, 27.04.98, t.1). Mae'r Rheoliad hwnnw'n darparu ar gyfer cadwraeth adnoddau pysgodfeydd drwy gyfrwng mesurau technegol ar gyfer diogelu y rhai ifanc o organeddau morol. Mae darpariaethau ar gyfer gorfodi'r cyfyngiadau a'r rhwymedigaethau a geir yn y Rheoliad hwnnw wedi'u nodi yng Ngorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Cadwraeth y Gymuned) (Cymru) 2000, a ddaeth i rym ar 11 Medi 2000. [2000 Rhif 2230 (Cy. 148)].

(1)

1967 p.84. Amnewidiwyd adran 1 gan Ddeddf Pysgodfeydd 1981 (p.29) adran 19(1), a'i diwygio gan baragraff 38(a) o Atodlen 13 i Ddeddf Llongau Masnachol 1995 (p.21) a pharagraff 43(2) a (3) o Atodlen 2 i Orchymyn Deddf yr Alban 1998 (Addasiadau Canlyniadol) (Rhif 2) 1999 (O.S. 1999/1820). Amnewidiwyd adran 15(3) gan Ddeddf Pysgodfeydd Môr 1968 (p.77) Atodlen 1, paragraff 38(3) a'i diwygio gan Ddeddf Terfynau Pysgodfeydd 1976 (p.86) Atodlen 2, paragraff 16(1) ac O.S. 1999/1820, paragraff 43(2)(b).

Yn rhinwedd erthygl 2(a) o Orchymyn Cynulliad Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) cafodd y swyddogaethau sy'n arferadwy o dan adrannau 1, 15(3) ac 20(1) o Ddeddf 1967 eu trosglwyddo i'r Cynulliad Cenedlaethol i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru.

Diffiniwyd “Wales” yn adran 155(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38) fel ei bod yn cynnwys “the sea adjacent to Wales out as far as the seaward boundary of the territorial sea”. Mewn perthynas â dyfroedd y tu hwnt i Gymru mae'r swyddogaethau hyn yn dal yn arferadwy gan y Gweinidogion.

Gweler adran 22(2) o Ddeddf 1967 i gael diffiniadau o “the Ministers” at ddibenion adrannau 1 a 15(3). Diwygiwyd adran 22(2) gan Ddeddf Pysgodfeydd 1981, adrannau 19(2)(d) a 45(b) ac (c) a chan O.S. 1999/1820, paragraff 43(12) o Atodlen 2.

(2)

O.S. 1992/1212. Cafodd y Gorchymyn ei ddiddymu gan O.S. 2000/1234 ac eithrio i'r graddau yr oedd yn rhan o Gyfraith yr Alban neu yn effeithiol mewn perthynas â Chymru. Cafodd ei ddiddymu ymhellach mewn perthynas â'r Alban gan O.S.A. 2000/82.

(3)

1998 p.38. (Gweler y diffiniad yn nhroednodyn (a) uchod.)

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources