Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Cyhoeddi Cynigion a Gorchmynion Drafft) (Corfforaethau Addysg Bellach) (Cymru) 2001

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 2069 (Cy.141)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Cyhoeddi Cynigion a Gorchmynion Drafft) (Corfforaethau Addysg Bellach) (Cymru) 2001

Wedi'u gwneud

24 Mai 2001

Yn dod i rym

1 Gorffennaf 2001

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 51 ac 89(4) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(1) ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2):

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cyhoeddi Cynigion a Gorchmynion Drafft) (Corfforaethau Addysg Bellach) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Gorffennaf 2001.

(2Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “y Cyngor Cenedlaethol” (“the National Council”) yw Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant;

  • ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

  • ystyr “dyddiad rhifo'r Cyfrifiad Ysgolion” (“Schools' Census enumeration date”) yw'r dyddiad y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn cyfeirio ato wrth ei gwneud yn ofynnol i wybodaeth gael ei darparu am ysgolion a gynhelir yn unol ag adran 29(1) o Ddeddf Addysg 1996(3);

  • mae “myfyriwr” (“student”) yn cynnwys disgybl,

ac mae cyfeiriad at adran yn gyfeiriad at adran o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992.

(3Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Yr wybodaeth sydd i'w chynnwys yn y cynigion drafft y cyfeirir atynt yn adran 51(1)(a) a (b)

2.  Rhaid i'r cynigion drafft y cyfeirir atynt yn adran 51(1)(a) a (b) (cynigion drafft ar gyfer sefydlu corff corfforaethol gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 16(1) neu (3)) ac y mae'n ofynnol eu cyhoeddi o dan adran 51(2) roi'r wybodaeth ganlynol—

(a)enw neu enw arfaethedig y sefydliad o dan sylw;

(b)ei gyfeiriad;

(c)yn achos sefydliad sy'n bodoli eisoes, disgrifiad cyffredinol o'r addysg sy'n cael ei darparu yn y sefydliad ac o'r addysg sydd i'w darparu yno pan fydd yn cael ei redeg gan gorfforaeth addysg bellach gan gynnwys, yn y ddau achos ystod oedran y myfyrwyr;

(ch)yn achos sefydliad sydd i'w sefydlu, disgrifiad cyffredinol o'r addysg sydd i'w ddarparu yn y sefydliad gan gynnwys ystod oedran y myfyrwyr;

(d)yn achos sefydliad sy'n bodoli eisoes, a yw'n ysgol gymunedol, yn ysgol sefydledig, yn ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu'n ysgol wirfoddol a reolir neu, os nad yw'n unrhyw un o'r rhain, disgrifiad byr o'i statws;

(dd)yn achos sefydliad sy'n bodoli eisoes, enw'r awdurdod addysg lleol, os oes un, sy'n ei gynnal ac, yn achos ysgol wirfoddol neu ysgol sefydledig sydd â chymeriad crefyddol at ddibenion Rhan II o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(4), enw awdurdod priodol unrhyw enwad crefyddol o dan sylw;

(e)yn achos sefydliad sy'n bodoli eisoes heblaw ysgol—

(i)nifer y myfyrwyr amser-llawn, nifer y myfyrwyr rhan-amser a chyfanswm y myfyrwyr ar 1 Rhagfyr yn y flwyddyn cyn y flwyddyn y caiff y cynigion drafft eu cyhoeddi, a

(ii)nifer y myfyrwyr amser-llawn a ragwelir, nifer y myfyrwyr rhan-amser a ragwelir a chyfanswm y myfyrwyr a ragwelir ar 1 Rhagfyr yn y flwyddyn y caiff y cynigion drafft eu cyhoeddi (neu, pan gaiff y cynigion drafft eu cyhoeddi ar 1 Rhagfyr neu ar ôl hynny, yn y flwyddyn ar ôl blwyddyn eu cyhoeddi);

(f)yn achos sefydliad sy'n bodoli eisoes ac sy'n ysgol—

(i)nifer y myfyrwyr amser-llawn, nifer y myfyrwyr rhan-amser a chyfanswm y myfyrwyr ar ddyddiad rhifo'r Cyfrifiad Ysgolion yn y flwyddyn y caiff y cynigion drafft eu cyhoeddi (neu, pan gaiff y cynigion drafft eu cyhoeddi cyn dyddiad rhifo'r Cyfrifiad Ysgolion, ar ddyddiad rhifo'r Cyfrifiad Ysgolion yn y flwyddyn cyn blwyddyn eu cyhoeddi), a (ii) nifer y myfyrwyr amser-llawn a ragwelir, nifer y myfyrwyr rhan-amser a ragwelir a chyfanswm y myfyrwyr a ragwelir ar ddyddiad rhifo'r Cyfrifiad Ysgolion yn y flwyddyn ar ôl blwyddyn cyhoeddi'r cynigion drafft;

(ff)yn achos sefydliad sydd i'w sefydlu, nifer y myfyrwyr amser-llawn, nifer y myfyrwyr rhan-amser a chyfanswm y myfyrwyr a ragwelir ar gyfer yr amser y bydd y sefydliad yn hollol weithredol;

(g)y rheswm dros gynnig ymgorffori;

(ng)yn achos cynigion ar gyfer sefydlu corff corfforaethol o dan adran 16(1)—

(i)a yw'r gorfforaeth addysg bellach i sefydlu sefydliad addysgol neu redeg sefydliad sy'n bodoli eisoes, a

(ii)yn achos sefydliad sy'n bodoli eisoes, a yw'r corff llywodraethu wedi cydsynio â sefydlu corfforaeth addysg bellach i redeg y sefydliad;

(h)y dyddiad sy'n cael ei gynnig ar gyfer sefydlu'r gorfforaeth addysg bellach ac o ba ddyddiad y cynigir y dylai'r gorfforaeth redeg y sefydliad;

(i)yr enw sy'n cael ei gynnig ar gyfer y gorfforaeth addysg bellach sydd i redeg y sefydliad;

(j)yn achos cynigion ar gyfer sefydlu corff corfforaethol o dan adran 16(3), datganiad bod corff llywodraethu'r sefydliad a'r awdurdod addysg lleol sy'n cynnal y sefydliad wedi cydsynio â chyhoeddi'r cynigion.

Yr wybodaeth sydd i'w cynnwys yn y cynigion drafft a ddisgrifir yn adran 51(1)(c)

3.  Rhaid i'r cynigion drafft y cyfeirir atynt yn adran 51(1)(c) (cynigion drafft ar gyfer diddymu unrhyw gorfforaeth addysg bellach gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 27) ac y mae'n ofynnol eu cyhoeddi o dan adran 51(2) roi'r wybodaeth ganlynol—

(a)enw'r gorfforaeth addysg bellach;

(b)enw'r sefydliad o dan sylw (os yw'n wahanol);

(c)ei gyfeiriad;

(ch)disgrifiad cyffredinol o'r addysg sy'n cael ei darparu yn y sefydliad;

(d)nifer y myfyrwyr amser-llawn, nifer y myfyrwyr rhan-amser a chyfanswm y myfyrwyr yn y sefydliad;

(dd)y rheswm dros gynnig diddymu'r gorfforaeth;

(e)y dyddiad sy'n cael ei gynnig ar gyfer diddymu'r gorfforaeth; ac

(f)y ddarpariaeth addysgol sydd i'w gwneud ar gyfer y myfyrwyr hynny nad ydynt wedi cwblhau eu cyrsiau ar y dyddiad hwnnw.

Amser a dull cyhoeddi'r cynigion o dan adran 51(1)

4.—(1Rhaid i'r cynigion drafft y cyfeirir atynt yn adran 51(1) (cynigion drafft ar gyfer sefydlu corff corfforaethol gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 16(1) neu (3) neu ar gyfer diddymu unrhyw gorfforaeth addysg bellach gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 27) ac y mae'n ofynnol eu cyhoeddi gan y Cyngor Cenedlaethol o dan adran 51(2) gael eu cyhoeddi (yn unol â pharagraffau (2) a (4)) o leiaf bedwar mis cyn y dyddiad a bennir yn y cynigion drafft ar gyfer sefydlu neu ddiddymu'r gorfforaeth addysg bellach.

(2Rhaid i'r Cyngor Cenedlaethol gyhoeddi crynodeb o'r cynigion—

(a)mewn o leiaf un papur newydd sy'n cylchredeg yn yr ardal sy'n cael ei gwasanaethu, neu sydd i'w gwasanaethu, gan y sefydliad y mae'r cynnig drafft yn ymwneud â hi;

(b)drwy ei osod mewn o leiaf un man amlwg yn yr ardal honno; ac

(c)yn achos cynnig drafft sy'n ymwneud â sefydliad sy'n bodoli eisoes, drwy ei osod mewn man amlwg ym mhrif fynedfa'r sefydliad hwnnw neu wrth ei hymyl.

(3Rhaid i'r crynodeb ddatgan bod modd cael copi o'r cynnig drafft yn rhad ac am ddim oddi wrth y Cyngor Cenedlaethol a rhaid i'r Cyngor Cenedlaethol anfon copi o'r cynnig drafft at unrhyw berson sy'n gofyn amdano.

(4Rhaid i'r Cyngor Cenedlaethol anfon copi o'r cynnig drafft—

(a)at yr awdurdod addysg lleol y mae'r sefydliad wedi'i leoli yn ei ardal neu y cynigir ei leoli ynddi; a

(b)at gorff llywodraethu unrhyw sefydliad yn y sector addysg bellach, neu gorff llywodraethu unrhyw ysgol sy'n cael ei chynnal gan awdurdod addysg lleol sy'n darparu addysg sy'n addas ar gyfer anghenion personau dros oedran ysgol gorfodol nad ydynt wedi cyrraedd pedair ar bymtheg mlwydd oed, o fewn y gymdogaeth; ac

(c)at unrhyw berson arall y mae'n ymddangos i'r Cyngor Cenedlaethol fod ganddo fuddiant.

Y cyfnod ar gyfer cyflwyno sylwadau

5.  Mae'r cyfnod y cyfeirir ato yn adran 51(2)(b), pan ellir cyflwyno sylwadau y mae'n rhaid i'r Cyngor Cenedlaethol eu hystyried, yn gyfnod o un mis gan ddechrau ar y diwrnod y mae'r olaf o'r digwyddiadau a ddisgrifir yn rheoliad 4(2) neu (4) uchod yn digwydd.

Cyhoeddi etc. y gorchmynion y cyfeirir atynt yn adran 51(3)(a)

6.—(1Mae'r materion canlynol yn cael eu rhagnodi at ddibenion adran 51(3) mewn perthynas â'r gorchmynion y cyfeirir atynt yn adran 51(3)(a) (gorchmynion o dan adran 16(1) heblaw gorchmynion sy'n cael eu gwneud er mwyn rhoi effaith i gynnig gan y Cyngor Cenedlaethol)—

(a)rhaid i'r gorchymyn drafft gael ei gyhoeddi (yn unol ag is-baragraff (b)) cyn pen deufis cyn y dyddiad a bennir ynddo ar gyfer sefydlu'r corff corfforaethol;

(b)rhaid cyhoeddi crynodeb o'r gorchymyn drafft—

(i)mewn o leiaf un papur newydd sy'n cylchredeg yn yr ardal sy'n cael ei gwasanaethu, neu sydd i'w gwasanaethu, gan y sefydliad y mae'r gorchymyn drafft yn ymwneud â hi;

(ii)drwy ei osod mewn o leiaf un man amlwg yn yr ardal honno; ac

(iii)yn achos gorchymyn drafft sy'n ymwneud â sefydliad sy'n bodoli eisoes, drwy ei osod mewn man amlwg ym mhrif fynedfa'r sefydliad hwnnw neu wrth ei hymyl.

(2Rhaid i'r crynodeb ddatgan bod modd cael copi o'r gorchymyn drafft yn rhad ac am ddim oddi wrth y Cynulliad Cenedlaethol a rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol anfon copi o'r gorchymyn drafft at unrhyw berson sy'n gofyn amdano.

(3Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol anfon copi o'r gorchymyn drafft—

(a)at yr awdurdod addysg lleol y mae'r sefydliad wedi'i leoli yn ei ardal neu y cynigir ei leoli ynddi; a

(b)at gorff llywodraethu unrhyw sefydliad yn y sector addysg bellach, neu gorff llywodraethu unrhyw ysgol sy'n cael ei chynnal gan awdurdod addysg lleol sy'n darparu addysg sy'n addas ar gyfer anghenion personau dros oedran ysgol gorfodol nad ydynt wedi cyrraedd pedair ar bymtheg mlwydd oed, o fewn y gymdogaeth, ac

(c)at unrhyw berson arall y mae'n ymddangos i'r Cynulliad Cenedlaethol fod ganddo fuddiant.

Cyhoeddi etc. y gorchmynion y cyfeirir atynt yn adran 51(3)(b)

7.—(1Mae'r materion ym mharagraff (2) yn cael eu rhagnodi at ddibenion adran 51(3) mewn perthynas â'r gorchmynion y cyfeirir atynt yn adran 51(3)(b) (gorchmynion sy'n cael eu gwneud o dan adran 16(3) heblaw gorchmynion sy'n cael eu gwneud er mwyn rhoi effaith i gynnig gan y Cyngor Cenedlaethol).

(2Rhaid i'r gorchymyn drafft gael ei gyhoeddi cyn pen deufis cyn y dyddiad a bennir ynddo ar gyfer sefydlu corff corfforaethol trwy anfon copi—

(a)at gorff llywodraethu'r sefydliad y cyfeirir ato ynddo;

(b)at yr awdurdod addysg lleol, os oes un, sy'n cynnal y sefydliad ac, yn achos ysgol wirfoddol neu ysgol sefydledig sydd â chymeriad crefyddol at ddibenion Rhan II o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, at awdurdod priodol unrhyw enwad crefyddol o dan sylw; ac

(c)at unrhyw berson arall y mae'n ymddangos i'r Cynulliad Cenedlaethol fod ganddo fuddiant.

Diddymu a darpariaethau trosiannol

8.—(1Mae Rheoliadau Addysg (Cyhoeddi Cynigion a Gorchmynion Drafft) (Corfforaethau Addysg Bellach) 1992(5) (“Rheoliadau 1992”) yn cael eu diddymu.

(2At ddibenion rheoliad 5 o'r Rheoliadau hyn rhaid ymdrin ag unrhyw beth a wnaed yn unol â rheoliad 4 o Reoliadau 1992 fel petai wedi'i wneud o dan y ddarpariaeth gyfatebol yn rheoliad 4 o'r Rheoliadau hyn.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(6)

D. Elis Thomas

Llywydd y Cynulliad

24 Mai 2001

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn (sy'n gymwys mewn perthynas â Chymru) yn rhagnodi cynnwys, ac amser a dull cyhoeddi, cynigion drafft sy'n cael eu gwneud gan Gyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant (“y Cyngor Cenedlaethol”) ar gyfer sefydlu corfforaethau addysg bellach a'u diddymu.

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu hefyd ar gyfer amser a dull cyhoeddi gorchmynion drafft ar gyfer sefydlu corfforaethau addysg bellach gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 16 (1) a (3) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992, pan nad yw'r gorchmynion hynny yn cael eu gwneud er mwyn rhoi effaith i gynigion a wnaed gan y Cyngor Cenedlaethol.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diddymu Rheoliadau Addysg (Cyhoeddi Cynigion a Gorchmynion Drafft) (Corfforaethau Addysg Bellach) 1992 ac yn ailddeddfu eu darpariaethau gyda diwygiadau sy'n deillio o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 a'r fframwaith newydd ar gyfer ysgolion a gynhelir a geir yn Rhan II o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.

(2)

Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S.1999/672).

(4)

1998 p.31. Gweler adran 69 a Gorchymyn Dynodi Ysgolion sydd â Chymeriad Crefyddol (Cymru) 1999 (O.S.1999/1814).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources