Search Legislation

Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflenni a Manylion a Ragnodir) (Diwygio) (Cymru) 2001

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 2071 (Cy.143)

TAI, CYMRU

Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflenni a Manylion a Ragnodir) (Diwygio) (Cymru) 2001

Wedi'u gwneud

24 Mai 2001

Yn dod i rym

1 Gorffennaf 2001

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 2(2) a (4), 101(1) a 146(1) a (2) o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996(2) fel y'u hestynnwyd gan adran 26(3) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993(3), yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflenni a Manylion a Ragnodir) (Diwygio) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Gorffennaf 2001.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig ac nid ydynt yn effeithiol mewn perthynas â cheisiadau grant sy'n cael eu gwneud cyn y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym.

Diwygiadau

2.—(1Mae'r ffurflen a nodir yn yr Atodlen i Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion a Ragnodir) (Ffurflen a Manylion Cymraeg) 1998(4)) yn cael ei diwygio yn unol â thestun Cymraeg yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

(2Mae'r ffurflen a nodir yn yr Atodlen i Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion a Ragnodir) 1996(5) yn cael ei diwygio i'r graddau y mae'n gymwys i Gymru yn unol â thestun Saesneg yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(6).

D. Elis Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

24 Mai 2001

Rheoliad 2

YR ATODLENDIWYGIADAU I'R FFURFLEN O DAN Y TEITLCEISIADAU PERCHEN-FEDDIANNYDD A THENANT AM GRANTIAU ADNEWYDDU TAI

1.  Yng nghwestiwn 3.31, yn y lle priodol, mewnosodwch—

Taliad o gronfeydd mynediad (myfyrwyr) £

£

Nodyn 86D

(Rhowch fanylion yr hyn y mae'r taliadau wedi'u bwriadu ar ei gyfer, e.e. gwres, prydau).

2.  Yng nghwestiwn 3.34, yn lle “a 90B”, rhowch “, 90B a 90C”.

3.  Ar ôl cwestiwn 3.34, mewnosodwch—

3.34A  Rhowch fanylion unrhyw daliad a wnaed i chi neu i'ch partner ar 1 Chwefror 2001 neu ar unrhyw adeg wedyn yn ymwneud â charchariad neu gaethiwed gan y Japaneaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Nodyn 90D

4.  Yng nghwestiwn 3.38, mewnosodwch—

5.  Yn nodyn 59, ar ôl y geiriau “at ddibenion budd-dâl plant”, mewnosodwch “, neu sydd yng ngofal awdurdod lleol ac sydd wedi'i leoli gyda chi gan yr awdurdod”.

6.  Yn nodyn 85, ar ôl “(darparu cymorth ariannol i fyfyrwyr)”, mewnosodwch—

;

  • grant ar gyfer prydau ysgol i blant dibynnol, neu ar gyfer prydau i blant dibynnol 3 neu 4 oed, a dalwyd yn rhinwedd rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(7).

7.  Ar ôl nodyn 86C, mewnosodwch—

86D.  Rhaid i chi gynnwys unrhyw daliad o gronfeydd mynediad a fwriedir i'ch galluogi chi fel myfyriwr i dalu costau byw cyffredin - cost bwyd, tanwydd yr aelwyd, rhent, dillad, ac esgidiau - taliadau dwr neu'r Dreth Gyngor. Anwybyddir taliadau cronfeydd mynediad at y dibenion hyn hyd at £20 yr wythnos, ond fe ddylent gael eu cynnwys beth bynnag. Nid oes angen i chi gynnwys unrhyw daliadau o gronfeydd mynediad a roddwyd at ddibenion eraill..

8.  Ar ôl nodyn 90B, mewnosodwch—

90C.  Peidiwch â chynnwys—

  • unrhyw gyfandaliad lwfans cynhaliaeth sy'n daladwy mewn perthynas â chymryd rhan mewn rhaglen parth cyflogi;

  • unrhyw daliad mewn cysylltiad â chynllun i leihau tan-feddiannaeth, a wnaed o dan reoliad 11 o Reoliadau Nawdd Cymdeithasol (Taliadau i Leihau Tan-feddiannaeth) 2000(8).

90D.  Os oes taliad ex gratia o £10,000 wedi'i wneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol ar 1 Chwefror 2001 neu wedyn oherwydd bod (a) chi, (b) eich partner, (c) priod i chi sydd wedi marw, neu (ch) priod i'ch partner sydd wedi marw, wedi'u carcharu neu wedi'u caethiwo gan y Japaneaid yn yr Ail Ryfel Byd, caiff y swm hwnnw ei anwybyddu fel cyfalaf.(9).

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau..)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r ffurflenni (dwyieithog) sydd i'w defnyddio gan berchen-feddianwyr a thenantiaid wrth wneud cais am grantiau adnewyddu tai o dan Bennod I o Ran I o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996.

Mae'r ffurflen Gymraeg sy'n cael ei diwygio wedi'i nodi yn yr Atodlen i Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion a Ragnodir) (Ffurflen a Manylion Cymraeg) 1998 (OS 1998/1113 fel y'i diwygiwyd).

Mae'r ffurflen Saesneg sy'n cael ei diwygio wedi'i nodi yn yr Atodlen i Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion a Ragnodir) 1996 (OS 1996/2891 fel y'i diwygiwyd).

Mae'r diwygiadau yn dilyn y diwygiadau sy'n cael eu gwneud gan Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Diwygio) (Cymru) 2001 (O.S. 2001/2073) (Cy.145) i Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 1996 (O.S. 1996/2890).

(1)

Gweler y diffiniad o “prescribed” yn adran 101.

(2)

1996 p.53; cafodd pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo.

(8)

Rheoliadau Nawdd Cymdeithasol (Taliadau i Leihau Tan-feddiannaeth) 2000, O.S. 2000/637.

(9)

Rheoliadau Diwygio Nawdd Cymdeithasol (Anwybyddu Cyfalaf) 2001, O.S. 2001/22.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources