xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 2186 (Cy. 150 )

GWASANAETHAU CYMDEITHASOL, CYMRU

Rheoliadau Gofalwyr (Gwasanaethau) a Thaliadau Uniongyrchol (Diwygio) (Cymru) 2001

Wedi'u gwneud

12 Mehefin 2001

Yn dod i rym

1 Gorffennaf 2001

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 2(3) a (4) ac adran 11(1) a (3) o Ddeddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000(1) ac adran 1(1)(b)(ii) o Ddeddf Gofal Cymunedol (Taliadau Uniongyrchol) 1996(2), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofalwyr (Gwasanaethau) a Thaliadau Uniongyrchol (Diwygio) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Gorffennaf 2001.

(2Yn y Rheoliadau hyn—

(3Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Gwasanaethau personol agos eu natur ac amgylchiadau rhagnodedig

2.—(1At ddibenion adran 2(3) o'r Ddeddf mae gwasanaeth a gyflwynir i'r person sy'n derbyn gofal yn bersonol agos ei natur os yw'n cynnwys—

(a)codi, golchi, tacluso, bwydo, gwisgo, bathio, defnyddio'r toiled, rhoi meddyginiaethau, neu weithgareddau o fath tebyg sy'n golygu cael cysylltiad corfforol â'r person sy'n derbyn gofal;

(b)rhoi cymorth mewn cysylltiad â golchi, tacluso, bwydo, gwisgo, bathio, rhoi meddyginiaethau neu ddefnyddio'r toiled; neu

(c)goruchwylio'r person wrth iddo wisgo amdano, bathio, neu ddefnyddio'r toiled.

(2Os bydd gwasanaeth yn cael ei gyflwyno i'r person sy'n derbyn gofal, dyma'r amgylchiadau lle gall y gwasanaeth gynnwys gwasanaeth personol agos ei natur —

(a)wrth i'r gwasanaeth hwnnw gael ei gyflwyno mae'r person sy'n derbyn gofal yn gofyn i'r person sy'n cyflwyno'r gwasanaeth ddarparu gwasanaeth personol agos ei natur; neu

(b)mae'r person sy'n derbyn gofal mewn sefyllfa lle mae'n debyg o ddioddef anaf personol difrifol oni bai bod gwasanaeth personol agos ei natur yn cael ei ddarparu iddo ac

(i)nid yw'r person sy'n derbyn gofal yn gallu cydsynio bod y gwasanaeth hwnnw yn cael ei ddarparu, neu

(ii)mae'r person sy'n darparu'r gwasanaeth yn credu'n rhesymol ei bod yn angenrheidiol darparu'r gwasanaeth hwnnw am fod anaf personol difrifol ar fin cael ei wneud yn ôl pob tebyg.

Personau na ellir gwneud taliadau uniongyrchol iddynt

3.  Mae person sy'n dod o fewn unrhyw un o'r categorïau o bobl a ddisgrifir yn rheoliad 2(2)(b) i (n) o Reoliadau 1997 wedi'i ragnodi at ddibenion adran 1(1)(b)(ii) o Ddeddf 1996.

Diwygio Rheoliadau 1997

4.  Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau 1997 yn lle'r geiriau “section 1(1)(b) of the Act” rhoddir “section 1(1)(b)(i) of the Act”.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4)

D. Elis-Thomas

Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

12 Mehefin 2001

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae Deddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i asesu anghenion gofalwyr o dan amgylchiadau penodol, ac yn rhoi i'r awdurdodau lleol y pŵer i gynnig gwasanaethau wedyn i ofalwyr i'w cefnogi yn eu rôl ofalu. Ymhellach, mae'n galluogi'r awdurdodau lleol i wneud taliadau uniongyrchol i ofalwyr yn lle'r gwasanaethau gofalwyr yr aseswyd bod arnynt eu hangen.

O dan adran 2 o'r Ddeddf, gall gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu i ofalwr gael ei gyflwyno i'r person sy'n derbyn gofal gyda chytundeb y gofalwr a'r person sy'n derbyn gofal. Ni chaiff gwasanaeth a gyflwynir felly gynnwys unrhyw beth personol agos ei natur, ac eithrio o dan amgylchiadau rhagnodedig. Mae'r rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer beth sy'n bersonol agos ei natur (rheoliad 2(1)). Maent yn rhagnodi ymhellach o dan ba amgylchiadau y gall gwasanaeth personol agos ei natur gael ei gyflwyno i'r person sy'n derbyn gofal (rheoliad 2(3)). Maent yn pennu hefyd pwy na all gael taliad uniongyrchol yn lle gwasanaethau gofalwyr (rheoliad 3).

Yn olaf, mae'r rheoliadau yn gwneud mân ddiwygiad canlyniadol i'r Rheoliadau Gofal Cymunedol (Taliadau Uniongyrchol) 1997 (rheoliad 4).

(1)

2000 p.16. Cyfeirir at adran 11(1) ar gyfer y diffiniadau o “prescribed” a “regulations”.

(2)

1996 p.30. Cyfnewidiwyd paragraff (b) o adran 1(1) o'r Ddeddf hon gan adran 5(b) o Ddeddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000 (p.16) , a fewnosododd is-baragraffau (i) a (ii). Mae pŵ er yr Ysgrifennydd Gwladol yn adran 1(1)(b)(ii) o Ddeddf 1996 i wneud rheoliadau wedi freinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymu ynrhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymu (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S. 1999/672.