Search Legislation

Rheoliadau Plant (Ymadael â Gofal) (Cymru) 2001

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 2189 (Cy.151)

PLANT A PHERSONAU IFANC, CYMRU

Rheoliadau Plant (Ymadael â Gofal) (Cymru) 2001

Wedi'u gwneud

12 Mehefin 2001

Yn dod i rym

1 Hydref 2001

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 23A(3), 23B(5), (6), (8)(c), (10), 23D(2), 23E, 24B(6), 24D(2) a 104(4) o Ddeddf Plant 1989(1) a pharagraffau 19B(2), (3), (7) ac (8) o Atodlen 2 iddi, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Plant (Ymadael â Gofal) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Hydref 2001.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn, oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall—

  • mae i “awdurdod lleol cyfrifol” (“responsible local authority”) yr ystyron canlynol:

    (a)

    mewn perthynas â phlentyn cymwys(2), yr awdurdod lleol sy'n gofalu am y plentyn hwnnw;

    (b)

    mewn perthynas â phlentyn perthnasol(3), yr ystyr a roddir i “responsible local authority” gan adran 23A(4) o'r Ddeddf.

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Plant 1989;

  • ystyr “lleoliad” (“placement”) yw darpariaeth o ran llety a chynhaliaeth gan awdurdod lleol ar gyfer plentyn y maent yn gofalu amdano drwy unrhyw un o'r ffyrdd a bennir yn adran 23(2)(a) i (d) neu (f) o'r Ddeddf;

  • ystyr “person ifanc” (“young person”) yw cyn blentyn perthnasol(4);

  • ystyr “ymarferydd cyffredinol” (“general practitioner”) yw ymarferydd meddygol cofrestredig—

    (a)

    sy'n darparu gwasanaethau meddygol cyffredinol o dan Ran II o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977(5)); neu

    (b)

    sy'n cyflawni gwasanaethau meddygol personol mewn cysylltiad â chynllun peilot o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997(6);

  • ystyr “ysbyty” (“hospital”) yw:

    (a)

    unrhyw ysbyty gwasanaeth iechyd o fewn ystyr “health service hospital” yn Neddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977; a

    (b)

    unrhyw gartref nyrsio iechyd meddwl sy'n gartref y mae'r manylion cofrestru ar ei gyfer wedi'u cofnodi am y tro yn y rhan ar wahân o'r gofrestr sy'n cael ei chadw at ddibenion adran 23(5)(b) o Ddeddf Cartrefi Cofrestredig 1984(7)).

Plant cymwys

3.—(1At ddibenion paragraff 19B(2)(b) o Atodlen 2 i'r Ddeddf, 13 wythnos yw'r cyfnod a ragnodir a 14 yw'r oedran a ragnodir.

(2Nid yw'r categorïau canlynol o blant i fod yn blant cymwys er eu bod yn dod o fewn paragraff 19B(2) o Atodlen 2—

(a)unrhyw blentyn sydd wedi derbyn gofal gan awdurdod lleol mewn amgylchiadau lle mae'r amodau canlynol yn gymwys—

(i)bod yr awdurdod lleol wedi trefnu gosod y plentyn mewn cyfres o leoliadau tymor-byr nad yw'r un ohonynt yn hwy na phedair wythnos (er bod eu cyfanswm yn gallu bod yn hafal i'r cyfnod a ragnodir); a

(ii)bod y plentyn yn dychwelyd ar ddiwedd pob lleoliad o'r fath i ofal ei riant, neu berson nad yw'n rhiant ond y mae ganddo gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn,

(b)unrhyw blentyn sy'n destun gorchymyn gofal ac sydd, o dan drefniadau a wnaed gan awdurdod lleol sy'n gofalu amdano, wedi bod yn byw gyda pherson sy'n dod o fewn adran 23(4) o'r Ddeddf(8) am gyfnod o chwe mis neu fwy.

Plant perthnasol

4.—(1At ddibenion adran 23A(3), mae'r categori o blant a ddisgrifir ym mharagraff (2) yn gategori ychwanegol o blant perthnasol.

(2Unrhyw blentyn 16 neu 17 oed (nad yw'n destun gorchymyn gofal) (9)

(a)a oedd yn cael ei ddal neu a oedd yn yr ysbyty pan gyrhaeddodd 16 oed; a

(b)a oedd wedi bod yn cael ei letya gan awdurdod lleol am gyfnod sengl o 13 wythnos o leiaf (“y cyfnod sengl”) neu am gyfnodau sydd gyda'i gilydd yn gyfanswm o 13 wythnos o leiaf (“y cyfnod agregedig”)

(i)pan ddechreuodd y cyfnod sengl, neu gyfnod cyntaf y cyfnod agregedig, ar ôl iddo gyrraedd 14 oed, a

(ii)pan ddaeth y cyfnod sengl neu'r cyfnod agregedig i ben yn union cyn y dal hwnnw neu'r derbyn hwnnw.

(3At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “ei ddal” yw ei ddal mewn canolfan remand, sefydliad tramgwyddwyr ifanc neu ganolfan hyfforddi gadarn(10), neu unrhyw sefydliad arall yn unol â gorchymyn llys.

(4Nid yw unrhyw blentyn sydd wedi byw gyda pherson sy'n dod o fewn adran 23(4) o'r Ddeddf am gyfnod parhaus o chwe mis neu fwy i fod yn blentyn perthnasol er ei fod yn dod o fewn adran 23A(2).

(5Mae paragraff (4) yn gymwys p'un a yw'r cyfnod o chwe mis yn dechrau cyn i blentyn beidio â derbyn gofal gan awdurdod lleol neu ar ôl hynny.

Asesiadau a chynlluniau cam nesaf — cyffredinol

5.—(1Rhaid i bob awdurdod lleol cyfrifol baratoi datganiad ysgrifenedig sy'n disgrifio ym mha fodd y caiff anghenion pob plentyn cymwys a phob plentyn perthnasol eu hasesu.

(2Rhaid i'r datganiad ysgrifenedig gynnwys, mewn perthynas â phob plentyn y mae ei anghenion i gael eu hasesu, wybodaeth am y canlynol yn benodol—

(a)y person sy'n gyfrifol am gynnal yr asesiad a'i gyd-drefnu;

(b)yr amserlen ar gyfer yr asesiad;

(c)â phwy y bwriedir ymgynghori at ddibenion yr asesiad;

(ch)y trefniadau ar gyfer cofnodi canlyniad yr asesiad;

(d)unrhyw gamau y caiff y plentyn eu cymryd os ceir anghytundeb.

(3Rhaid i'r awdurdod lleol cyfrifol sicrhau bod copi o'r datganiad ar gael i'r plentyn a'r personau a bennir yn rheoliad 7(5).

(4Ni fydd dim yn y Rheoliadau hyn yn atal unrhyw asesiad neu adolygiad o dan y Rheoliadau hyn rhag cael ei gynnal yr un pryd ag unrhyw asesiad, adolygiad neu ystyriaeth o dan unrhyw ddarpariaeth arall.

Cynnwys y plentyn neu'r person ifanc

6.—(1I'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol, wrth gynnal asesiad ac wrth baratoi neu adolygu cynllun cam nesaf, rhaid i'r awdurdod lleol cyfrifol—

(a)ceisio barn y plentyn neu'r person ifanc y mae'n berthnasol iddo a rhoi sylw iddi; a

(b)cymryd camau i'w alluogi i fynychu unrhyw gyfarfodydd lle caiff ei achos ei ystyried ac i gymryd rhan ynddynt.

(2Rhaid i'r awdurdod lleol cyfrifol roi copïau o'r canlynol yn ddioed i'r plentyn neu'r person ifanc—

(a)canlyniadau ei asesiad,

(b)ei gynllun cam nesaf,

(c)pob adolygiad o'i gynllun cam nesaf,

ac i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol, sicrhau bod cynnwys pob dogfen yn cael ei esbonio iddo.

Asesu anghenion

7.—(1Rhaid i'r awdurdod lleol cyfrifol asesu anghenion pob plentyn cymwys, a phob plentyn perthnasol nad oes ganddo gynllun cam nesaf eisoes, yn unol â'r Rheoliadau hyn.

(2Mae'r asesiad i gael ei gwblhau—

(a)yn achos plentyn cymwys, heb fod yn fwy na thri mis ar ôl y dyddiad y daw'n 16 oed neu'n blentyn cymwys ar ôl yr oedran hwnnw;

(b)yn achos plentyn perthnasol nad oes ganddo gynllun cam nesaf eisoes, heb fod yn fwy na thri mis ar ôl y dyddiad y daw'n blentyn perthnasol.

(3Rhaid i bob awdurdod lleol cyfrifol sicrhau bod cofnod ysgrifenedig yn cael ei gadw o'r canlynol—

(a)yr wybodaeth a geir yn ystod asesiad;

(b)y trafodaethau mewn unrhyw gyfarfod a gynhelir mewn cysylltiad ag unrhyw agwedd ar asesiad; ac

(c)canlyniad yr asesiad.

(4Wrth gynnal asesiad mae'r awdurdod lleol cyfrifol i roi sylw i'r ystyriaethau canlynol—

(a)iechyd a datblygiad y plentyn(11);

(b)angen y plentyn am addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth;

(c)y cymorth sydd ar gael i'r plentyn drwy berthnasoedd ag aelodau ei deulu ac â phersonau eraill;

(ch)anghenion ariannol y plentyn;

(d)i ba raddau y mae'n meddu ar y medrau ymarferol a'r medrau eraill sy'n angenrheidiol ar gyfer byw'n annibynnol; ac

(dd)ei anghenion am ofal, cymorth a llety.

(5Rhaid i'r awdurdod lleol cyfrifol, oni bai nad yw'n rhesymol ymarferol gwneud hynny, geisio barn y canlynol a'i chymryd i ystyriaeth—

(a)rhieni'r plentyn;

(b)unrhyw berson nad yw'n rhiant ond y mae ganddo gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn;

(c)unrhyw berson sy'n gofalu am y plentyn o ddydd i ddydd;

(ch)unrhyw ysgol neu goleg y mae'r plentyn yn eu mynychu, neu'r awdurdod addysg lleol ar gyfer yr ardal y mae'n byw ynddi;

(d)unrhyw ymwelydd annibynnol a benodir ar gyfer y plentyn(12);

(dd)yr ymarferydd cyffredinol y mae'r plentyn wedi'i gynnwys ar ei restr;

(e)y cynghorydd personol(13) a benodir ar gyfer y plentyn; ac

(f)unrhyw berson arall y gall yr awdurdod lleol cyfrifol neu'r plentyn farnu bod eu barn yn berthnasol.

Cynlluniau cam nesaf

8.—(1Cyn gynted â phosibl ar ôl cwblhau'r asesiad, rhaid i'r awdurdod lleol cyfrifol baratoi cynllun cam nesaf ar gyfer pob plentyn cymwys, a phob plentyn perthnasol nad oes un ganddo eisoes, yn unol â'r rheoliad hwn.

(2Rhaid i'r cynllun cam nesaf gynnwys, yn benodol, y materion y cyfeirir atynt yn yr Atodlen.

(3Rhaid i'r cynllun cam nesaf, mewn perthynas â phob un o'r materion y cyfeirir atynt yn yr Atodlen, nodi—

(a)ym mha fodd y mae'r awdurdod lleol cyfrifol yn bwriadu diwallu anghenion y plentyn; a

(b)erbyn pa ddyddiad y caiff unrhyw gamau y mae eu hangen i weithredu unrhyw agwedd ar y cynllun eu cymryd gan yr awdurdod lleol cyfrifol.

(4Rhaid i'r cynllun cam nesaf gael ei gofnodi'n ysgrifenedig.

Adolygu cynlluniau cam nesaf

9.—(1Rhaid i'r awdurdod lleol cyfrifol adolygu cynllun cam nesaf pob plentyn cymwys, pob plentyn perthnasol a phob cyn blentyn perthnasol yn unol â'r rheoliad hwn.

(2Rhaid i'r awdurdod lleol cyfrifol drefnu adolygiad—

(a)os bydd y plentyn neu'r person ifanc yn gofyn iddo wneud hynny;

(b)os yw'r awdurdod lleol cyfrifol, neu'r cynghorydd personol, o'r farn bod angen adolygiad; ac

(c)mewn unrhyw achos arall, bob chwe mis ar y mwyaf.

(3Wrth gynnal adolygiad, rhaid i'r awdurdod lleol cyfrifol, i'r graddau y mae'n barnu ei bod yn briodol gwneud hynny, geisio barn y personau a grybwyllir yn rheoliad 7(5) a'i chymryd i ystyriaeth.

(4Rhaid i'r awdurdod lleol cyfrifol sy'n cynnal adolygiad ystyried—

(a)yn achos plentyn cymwys neu berthnasol, a oes angen unrhyw newid i'r cynllun cam nesaf, mewn perthynas â phob un o'r materion a nodir yn yr Atodlen; a

(b)yn achos cyn blentyn perthnasol, a oes angen unrhyw newid i'r cynllun cam nesaf mewn perthynas â'r materion a nodir ym mharagraffau 1, 3 a 4 o'r Atodlen.

(5Rhaid i ganlyniadau'r adolygiad gael eu cofnodi'n ysgrifenedig.

Cadw cofnodion a chyfrinachedd cofnodion

10.—(1Rhaid i'r awdurdod lleol cyfrifol gadw cofnodion ynghylch asesiadau, cynlluniau cam nesaf a'u hadolygiadau tan ben-blwydd dyddiad geni'r plentyn neu'r person ifanc y maent yn berthnasol iddo yn 75 oed, neu os yw'r plentyn yn marw cyn cyrraedd 18 oed, am gyfnod o 15 mlynedd gan ddechrau ar ddyddiad ei farwolaeth.

(2Gellir cydymffurfio â'r gofyniad ym mharagraff (1) drwy gadw'r cofnodion ysgrifenedig gwreiddiol neu gopïau ohonynt, neu drwy gadw'r cyfan neu ran o'r wybodaeth a gynhwysir ynddynt ar ryw ffurf hygyrch arall megis cofnod cyfrifiadur.

(3Rhaid i'r cofnodion a grybwyllir ym mharagraff (1) gael eu cadw'n ddiogel, ac ni ellir eu datgelu i unrhyw berson ac eithrio yn unol â'r canlynol—

(a)unrhyw ddarpariaeth mewn statud, neu a wneir o dan statud, neu yn rhinwedd statud, y mae'r cyfle i weld y cofnodion hynny yn cael ei awdurdodi odani;

(b)unrhyw orchymyn llys sy'n awdurdodi cyfle i weld y cofnodion hynny.

Cymorth a llety

11.—(1At ddibenion adran 23B(8)(c) o'r Ddeddf (cymorth i blant perthnasol), rhaid i'r awdurdod lleol cyfrifol roi cymorth, gan gynnwys cymorth ariannol a all, mewn amgylchiadau eithriadol, fod ar ffurf arian parod, er mwyn diwallu anghenion y plentyn o ran addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth fel y darperir ar eu cyfer yn ei gynllun cam nesaf.

(2At ddibenion adran 23B(10) o'r Ddeddf, ystyr “llety addas” yw llety—

(a)sydd, i'r graddau y mae hynny'n rhesymol ymarferol, yn addas ar gyfer y plentyn yng ngoleuni ei anghenion, gan gynnwys ei anghenion iechyd;

(b)y mae'r awdurdod lleol cyfrifol wedi'i fodloni ei hun yn ei gylch o ran cymeriad ac addasrwydd y landlord neu'r darparydd arall;

(c)y mae'r awdurdod lleol cyfrifol wedi cymryd y canlynol i ystyriaeth yn ei gylch—

(i)dymuniadau a theimladau'r plentyn; a

(ii)anghenion addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth y plentyn.

(3At ddibenion adran 24B(5) o'r Ddeddf (darparu llety yn ystod y gwyliau),

(a)ystyr “addysg uwch” (“higher education”) yw addysg sy'n cael ei darparu drwy gyfrwng cwrs o ddisgrifiad y cyfeirir ato mewn rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(14);

(b)mae i “addysg bellach” yr un ystyr â “further education” yn Neddf Addysg 1996(15) ac eithrio'r ffaith mai dim ond addysg bellach sy'n cael ei darparu ar sail addysg breswyl amser-llawn y mae'n ei chynnwys at ddibenion y rheoliad hwn.

Swyddogaethau cynghorwyr personol

12.—(1Bydd gan gynghorydd personol y swyddogaethau canlynol(16)

(a)mewn perthynas â phlant cymwys a pherthnasol, y swyddogaethau a restrir ym mharagraff (2); a

(b)mewn perthynas â chyn blant perthnasol, y swyddogaethau a restrir ym mharagraff (2) heblaw is-baragraff (b).

(2Dyma'r swyddogaethau —

(a)rhoi cyngor (gan gynnwys cyngor ymarferol) a chymorth iddynt;

(b)cymryd rhan yn eu hasesiadau ac yng ngwaith paratoi eu cynlluniau cam nesaf;

(c)cymryd rhan mewn adolygiadau o'u cynlluniau cam nesaf;

(ch)cysylltu â'r awdurdod lleol cyfrifol wrth i'r cynllun cam nesaf gael ei weithredu;

(d)cyd-drefnu gwaith darparu gwasanaethau iddynt, a chymryd camau rhesymol i sicrhau eu bod yn defnyddio'r gwasanaethau hynny;

(dd)parhau'n gyfarwydd â'u cynnydd a'u llesiant; ac

(e)cadw cofnod ysgrifenedig o unrhyw un o'i gysylltiadau â hwy.

Cynrychioliadau

13.—(1Diwygir Rheoliadau Gweithdrefn Cynrychioliadau (Plant) 1991(17)) fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2 (Dehongli)—

(a)yn y diffiniad o “complainant”, yn lle “qualifying for advice and assistance” rhowch “falling within section 23A, 23C, 24, or 24B(3) of the Act making any representations”;

(b)yn y diffiniad o “representations”, yn lle “24(14)” rhowch “24D(1)”.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(18)

D. Elis-Thomas

Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

12 Mehefin 2001

Rheoliadau 8(2) a (3) a 9(4)

YR ATODLENMATERION I YMDRIN Å HWY YN Y CYNLLUN CAM NESAF A'R ADOLYGIAD

1.  Natur a lefel y cymorth personol sydd i'w roi i'r plentyn neu'r person ifanc.

2.  Manylion y llety y mae'r plentyn neu'r person ifanc i'w feddiannu.

3.  Cynllun manwl ar gyfer ei addysg neu ei hyfforddiant.

4.  Os yw'n berthnasol, sut y bydd yr awdurdod lleol cyfrifol yn cynorthwyo'r plentyn neu'r person ifanc mewn cyflogaeth neu wrth geisio cyflogaeth.

5.  Y cymorth sydd i'w roi i alluogi'r plentyn neu'r person ifanc i feithrin perthnasoedd teuluol a chymdeithasol priodol a'u cadw.

6.  Rhaglen i feithrin y medrau ymarferol a'r medrau eraill sy'n angenrheidiol iddo fyw'n annibynnol.

7.  Y cymorth ariannol sydd i'w roi i'r plentyn neu'r person ifanc, yn enwedig pan fwriedir ei roi i ddiwallu ei anghenion o ran llety a chynhaliaeth.

8.  Anghenion iechyd y plentyn neu'r person ifanc, gan gynnwys unrhyw anghenion iechyd meddwl, a sut y bwriedir eu diwallu.

9.  Cynlluniau wrth gefn ar gyfer camau a fyddai i'w cymryd gan yr awdurdod lleol cyfrifol petai'r cynllun cam nesaf yn peidio â bod yn effeithiol am unrhyw reswm.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch cymorth i blant a phobl ifanc 16 oed a throsodd, sy'n derbyn gofal, neu sydd wedi derbyn gofal, gan awdurdod lleol.

Mae rheoliadau 3 a 4 yn rhagnodi categorïau pellach o blant y bydd neu, yn ôl fel y digwydd, na fydd ar awdurdodau lleol ddyletswyddau ychwanegol tuag atynt fel y darperir ar ei gyfer yn Rhan III o Ddeddf Plant 1989, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Plant (Ymadael â Gofal) 2000.

Mae rheoliadau 5 i 10 yn gwneud darpariaeth ynghylch asesu anghenion, a pharatoi ac adolygu cynlluniau cam nesaf, ac mae rheoliad 11 yn gwneud darpariaeth ynghylch cymorth o ran addysg a hyfforddiant, a llety.

Mae rheoliad 12 yn rhagnodi swyddogaethau cynghorydd personol. Mae rheoliad 13 yn diwygio Rheoliadau Gweithdrefn Cynrychioliadau (Plant) 1991 fel y maent yn effeithio ar blant a phobl ifanc a oedd gynt yn derbyn gofal gan awdurdod lleol, neu sy'n ymadael â gofal.

(1)

1989 p.41 (“Deddf 1989”). Mewnosodwyd adrannau 23A a 23B gan Ddeddf Plant (Ymadael â Gofal) 2000 (p.35) (“Deddf 2000”), adran 2(4); mewnosodwyd adrannau 23D a 23E gan adran 3 o Ddeddf 2000; mewnosodwyd adrannau 24B a 24D gan adran 4 o Ddeddf 2000. Mewnosodwyd paragraff 19B o Atodlen 2 gan adran 1 o Ddeddf 2000. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan y darpariaethau hyn mewn perthynas â Chymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), ac adran 8(7) o Ddeddf 2000. Gweler adran 105(1) o Ddeddf 1989 i gael y diffiniad o “prescribed”.

(2)

Gweler adran 19B o Ddeddf 1989 i gael ystyr “eligible child”.

(3)

Gweler adran 23A o Ddeddf 1989 i gael ystyr “relevant child”.

(4)

Gweler adran 23C o Ddeddf 1989 i gael ystyr “former relevant child”.

(8)

Mae person yn dod o fewn adran 23(4) os yw'n rhiant i'r plentyn, yn berson nad yw'n rhiant ond y mae ganddo gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, neu pan yw'r plentyn yn derbyn gofal a bod gorchymyn preswylio mewn grym mewn perthynas â'r plentyn yn union cyn i'r gorchymyn gofal gael ei wneud, person y gwnaed y gorchymyn preswylio o'u plaid.

(9)

Diffinnir “care order” yn adran 105(1) o'r Ddeddf drwy gyfeirio at adran 31(11) o'r Ddeddf honno.

(10)

Ar gyfer canolfannau remand, sefydliadau tramgwyddwyr ifanc a chanolfannau hyfforddi cadarn, gweler adran 43 o Ddeddf Carchardai 1952 (15&16 Geo 16 ac Eliz 2 p.52) fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1982 (p.48) adran 11, Deddf Cyfiawnder Troseddol 1982 (p. 33), paragraffau 11 a 12 o Atodlen 15, a Deddf Troseddau ac Anhrefn 1998 (p. 37), paragraff 6 o Atodlen 8.

(11)

Diffinnir “health” a “development” at ddibenion Rhan III o'r Ddeddf yn adran 17(11).

(12)

Person a benodir yn ymwelydd ar gyfer plentyn yn unol â pharagraff 17 o Atodlen 2 i'r Ddeddf yw ymwelydd annibynnol.

(13)

Darperir ar gyfer cynghorwyr personol yn adrannau 23B(2), 23C(3)(a) a 23D o'r Ddeddf, a pharagraff 19C o Atodlen 2 iddi.

(14)

1998 p.30. Ar hyn o bryd Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 2000 (O.S. 2000/1121) yw'r rheoliadau perthnasol.

(15)

1996 p.56. Ceir y diffiniad o addysg bellach yn adran 2(3).

(16)

Yn ychwanegol gall yr awdurdod lleol cyfrifol ei gweld yn dda trefnu i'r cynghorydd personol weithredu ar ei ran wrth ddarparu gwasanaethau eraill yn unol ag adran 17(5)(b) o'r Ddeddf.

(17)

O.S. 1991/879 fel y'i diwygiwyd gan O.S 1991/2033 a 1993/ 3069.

(18)

1998 p.38.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources