xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 2191 (Cy.153) (C.71)

PLANT A PHERSONAU IFANC, CYMRU

Gorchymyn Deddf Plant (Ymadael â Gofal) 2000 (Cychwyn) (Cymru) 2001

Wedi'i wneud

12 Mehefin 2001

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 8(2) a (3)(c) o Ddeddf Plant (Ymadael â Gofal) 2000(1) :

Enwi, dehongli a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Plant (Ymadael â Gofal) 2000 (Cychwyn) (Cymru) 2001.

(2Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Plant (Ymadael â Gofal) 2000.

(3Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.

Y Diwrnod Penodedig

2.  1 Hydref 2001 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dyfodiad i rym adrannau 1 i 3, 4 (ac eithrio i'r graddau y mae is-adran (2) o adran 24C o Ddeddf Plant 1989 yn ymwneud ag Ymddiriedolaethau Gofal Sylfaenol), 5 a 7(1) i (4) o'r Ddeddf.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2)

D. Elis-Thomas

Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

12 Mehefin 2001

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn.)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dod â darpariaethau penodol yn Neddf Plant (Ymadael â Gofal) 2000 (“y Ddeddf”) i rym ar 1 Hydref 2001.

Mae'n dwyn i rym adrannau 1 i 5 o'r Ddeddf sy'n mewnosod darpariaethau yn Neddf Plant 1989 sy'n darparu ar gyfer pwerau a dyletswyddau newydd i awdurdodau gwasanaethau cymdeithasol. Mae'r darpariaethau yn ymwneud â chategorïau penodol o bobl ifanc a phlant 16 oed a throsodd sy'n derbyn gofal neu sydd wedi derbyn gofal gan yr awdurdodau hynny. Mae'r darpariaethau yn ymdrin ag asesu anghenion, paratoi cynlluniau a'u hadolygu, cadw cysylltiad a rhoi cymorth a chyngor i blant a phobl ifanc o'r fath ac ynghylch ystyried eu sylwadau (gan gynnwys eu cwynion). Maent hefyd yn gosod dyletswyddau ar gyrff eraill i hysbysu awdurdodau lleol pan fydd plant penodol wedi peidio â chael llety ganddynt. Mae cychwyn rhannau o adran 7 yn ymwneud â diwygiadau technegol i Ddeddf 1989.