Search Legislation

Rheoliadau Plant Anabl (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2001

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 2192 (Cy. 154)

PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

Rheoliadau Plant Anabl (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2001

Wedi'u gwneud

12 Mehefin 2001

Yn dod i rym

1 Gorffennaf 2001

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 17A(3) a (4) a 104(4) o Ddeddf Plant 1989(1) drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Plant Anabl (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Gorffennaf 2001.

(2Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Plant 1989.

(3Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Personau na ellir sicrhau gwasanaethau oddi wrthynt drwy gyfrwng taliad uniongyrchol

2.—(1Yn achos taliad uniongyrchol sy'n cael ei roi i berson sy'n dod o fewn adran 17A(2)(a) o'r Ddeddf, mae'r personau canlynol o ddisgrifiad rhagnodedig at ddibenion adran 17A(3) o'r Ddeddf—

(a)priod y talai;

(b)person sy'n byw gyda'r talai fel priod i'r talai;

(c)person yn byw ar yr un aelwyd â'r talai sydd—

(i)yn rhiant neu'n rhiant-yng-nghyfraith;

(ii)yn fab neu'n ferch;

(iii)yn fab-yng-nghyfraith neu'n ferch-yng-nghyfraith;

(iv)yn llysfab neu'n llysferch;

(v)yn frawd neu'n chwaer;

(vi)yn fodryb neu'n ewythr; neu

(vii)yn nain neu'n daid;

i'r talai;

(ch)priod unrhyw berson a bennir yn is-baragraff (c) sy'n byw ar yr un aelwyd â'r talai; a

(d)person sy'n byw gydag unrhyw berson a bennir yn is-baragraff (c) fel priod i'r person hwnnw.

(2Yn achos taliad uniongyrchol sy'n cael ei roi i berson sy'n dod o fewn adran 17A(2)(b) o'r Ddeddf, mae'r personau canlynol o ddisgrifiad rhagnodedig at ddibenion adran 17A(3) o'r Ddeddf—

(a)priod y talai;

(b)person sy'n byw gyda'r talai fel priod i'r talai;

(c)person yn byw ar yr un aelwyd â'r talai sydd—

(i)yn rhiant neu'n rhiant-yng-nghyfraith;

(ii)yn frawd neu'n chwaer;

(iii)yn fodryb neu'n ewythr;

(iv)yn nain neu'n daid;

i'r talai;

(ch)priod unrhyw berson a bennir yn is-baragraff (c) sy'n byw ar yr un aelwyd â'r talai; a

(d)person sy'n byw gydag unrhyw berson a bennir yn is-baragraff (c) fel priod i'r person hwnnw.

Uchafswm y cyfnod o lety preswyl a all gael ei sicrhau drwy gyfrwng taliad uniongyrchol

3.  Ni fydd y pŵ er i wneud taliad o dan adran 17A(1) o'r Ddeddf yn arferadwy mewn perthynas â darparu llety preswyl ar gyfer unrhyw blentyn anabl—

(a)am gyfnod o fwy nag 28 diwrnod; a

(b)mewn unrhyw gyfnod o 12 mis am gyfnodau sy'n gyfanswm o fwy na 120 o ddyddiau.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2)

D. Elis-Thomas

Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

12 Mehefin 2001

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae Deddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000 yn mewnosod adran newydd (adran 17A) yn Neddf Plant 1989 sy'n galluogi'r awdurdodau lleol i wneud taliadau uniongyrchol i bersonau sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn anabl neu i blentyn anabl 16 neu 17 oed, yn lle gwasanaethau a fyddai fel arall wedi'u darparu ar eu cyfer gan yr awdurdod lleol o dan adran 17 o'r Ddeddf Plant.

Mae'r rheoliadau hyn yn pennu'r personau hynny na ellir sicrhau gwasanaethau oddi wrthynt drwy gyfrwng taliad uniongyrchol (rheoliad 2).

Mae'r rheoliadau hyn hefyd yn pennu uchafswm y cyfnodau mewn llety preswyl a all gael eu sicrhau drwy gyfrwng taliad uniongyrchol (rheoliad 3).

(1)

1989 p.41; mewnosodwyd adran 17A gan adran 7(1) o Ddeddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000 (p.16) (“Deddf 2000”). O ran Cymru, cafodd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf Plant 1989 (“Deddf 1989”) eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo. O dan adran 7(2) o Ddeddf 2000, mae'r Gorchymyn hwnnw i gael ei drin fel pe bai'n cyfeirio at Ddeddf 1989 fel y'i diwygiwyd gan adran 7 o Ddeddf 2000. Yn adran 17A(3) o Ddeddf 1989 ystyr “prescribed”, drwy gyfeirio at adran 105(1) o'r Ddeddf, yw wedi'i ragnodi gan reoliadau a wneir o dan y Ddeddf.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources