2001 Rhif 2196 (Cy. 156) (C. 72)

GWASANAETHAU CYMDEITHASOL, CYMRU
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

Gorchymyn Deddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2001

Wedi'i wneud

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 12(2) o Ddeddf Gofalwyr a Phlant Anabl 20001, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi a dehongli1

1

Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2001.

2

Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000.

Y Diwrnod Penodedig2

Y diwrnod penodedig ar gyfer dod â darpariaethau'r Ddeddf a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn i rym yw 1 Gorffennaf 2001.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19982

D. Elis-ThomasLlywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

YR ATODLENDARPARIAETHAU'R DDEDDF SY'N DOD I RYM AR 1 Gorffennaf 2001

Erthygl 2

  • Adran 1 (Hawl gofalwyr i gael asesiad)

  • Adran 2 (Gwasanaethau i ofalwyr)

  • Adran 4 (Asesiadau a gwasanaethau i'r gofalwr a'r person sy'n derbyn gofal)

  • Adran 5 (Taliadau uniongyrchol)

  • Adran 6 (Asesiadau: personau sydd â gofal rhieni dros blant anabl)

  • Adran 7(1) i'r graddau y mae'n mewnosod adran 17A yn Neddf Plant 1989, ac adran 7(2) a (3) (Taliadau uniongyrchol i blant anabl ac i bersonau â chyfrifoldeb rhiant drostynt)

  • Adran 8 (Codi tâl)

  • Adran 9 ac eithrio i'r graddau y mae'r darpariaethau a fewnosodir ganddi yn cyfeirio at ddarparu talebau (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol)

  • Adran 10 (Darpariaeth ariannol)

  • Adran 11 ac eithrio is-adran (4) (Dehongli a rheoleiddio).

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dod â darpariaethau penodol o Ddeddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000 (“y Ddeddf”) i rym ar 1 Gorffennaf 2001 mewn perthynas â Chymru.

Mae'n dwyn i rym adran 1 sy'n creu hawl i ofalwyr (fel y'u diffinnir yn yr adran hon) gael asesiad; adran 2 sy'n galluogi awdurdodau lleol i ddarparu gwasanaethau i ofalwyr; adran 4 sy'n diwygio Deddf Gofalwyr (Cydnabyddiaeth a Gwasanaethau) 19953 er mwyn caniatáu asesiad o dan adrannau 1 neu 6 o'r Ddeddf i gael eu cymryd i ystyriaeth wrth wneud asesiad o dan Ddeddf 1995; adran 5 sy'n diwygio Deddf Gofal Cymunedol (Taliadau Uniongyrchol) 19964 er mwyn caniatáu taliadau uniongyrchol i gael eu gwneud i ofalwyr (fel y'u diffinnir yn adran 1) am wasanaethau gofalwyr (fel y'u diffinnir yn adran 2); adran 6 sy'n creu hawl i bersonau sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn anabl i gael asesiad; adran 7(1) i'r graddau y mae'n mewnosod adran 17A yn Neddf Plant 19895 sy'n caniatáu i daliadau uniongyrchol gael eu gwneud i bersonau sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn anabl ac i blant anabl 16 oed a 17 oed, ac adran 7(2) a (3).

Mae'r Gorchymyn hefyd yn dwyn i rym adrannau 8 i 11 (yn gynhwysol) (ac eithrio i'r graddau y mae'r darpariaethau a fewnosodir gan adran 9 yn cyfeirio at ddarparu talebau, ac adran 11(4) sy'n cyfeirio at reoliadau a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol), sy'n cynnwys darpariaeth o ran codi tâl am wasanaethau gofalwyr, mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol, darpariaeth ariannol a dehongli ac o ran defnyddio pwerau gwneud rheoliadau.

Dyma'r Gorchymyn Cychwyn cyntaf i gael ei wneud o dan y Ddeddf mewn perthynas â Chymru. Mae darpariaethau penodol o'r Ddeddf wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Lloegr gan O.S. 2001 Rhif 510 (C.20).