xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
10.—(1) Cyn penderfynu apêl, caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru, os yw'n credu ei bod yn briodol,—
(a)peri bod yr apêl yn cael ei chynnal neu ei pharhau ar ffurf gwrandawiad (a gall y gwrandawiad hwnnw gael ei gynnal, neu gael ei gynnal i unrhyw raddau, yn breifat, os yw'r person sy'n gwrando'r apêl yn penderfynu felly), neu
(b)peri bod ymchwiliad lleol yn cael ei gynnal,
a rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru weithredu fel y crybwyllir yn is-baragraff (a) neu (b) uchod os gwneir cais gan naill ai'r apelydd neu Asiantaeth yr Amgylchedd am gael eu gwrando mewn perthynas â'r apêl.
(2) Dyma'r personau y mae ganddynt hawl i gael eu gwrando mewn gwrandawiad—
(a)yr apelydd;
(b)Asiantaeth yr Amgylchedd; ac
(c)unrhyw berson (heblaw'r Asiantaeth) yr oedd yn ofynnol i'r apelydd gyflwyno copi o'r hysbysiad apêl iddo.
(3) Ni fydd dim ym mharagraff (2) uchod yn atal y person a benodir i gynnal gwrandawiad yr apêl rhag caniatáu i unrhyw berson arall gael ei wrando yn y gwrandawiad a rhaid peidio â gwrthod caniatâd o'r fath yn afresymol.
(4) Ar ôl i wrandawiad ddod i ben, rhaid i'r person a benodir i gynnal y gwrandawiad, oni bai ei fod wedi'i benodi o dan adran 114(1)(a) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (pŵer Cynulliad Cenedlaethol Cymru i ddirprwyo ei swyddogaethau penderfynu apelau) i benderfynu'r apêl, gyflwyno adroddiad ysgrifenedig i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a fydd yn cynnwys ei gasgliadau a'i argymhellion neu ei resymau dros beidio â gwneud unrhyw argymhellion.