Seiliau apêl yn erbyn hysbysiad adfer
7.—(1) Mae unrhyw un neu fwy o'r canlynol yn seiliau apêl yn erbyn hysbysiad adfer o dan adran 78L(1)—
(a)bod yr awdurdod lleol, wrth benderfynu a yw'n ymddangos bod unrhyw dir y mae'r hysbysiad yn berthnasol iddo yn dir halogedig—
(i)wedi methu â gweithredu yn unol â'r canllawiau a gyhoeddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 78A(2), (5) neu (6); neu
(ii)p'un ai oherwydd y methiant hwnnw neu fel arall, wedi bod yn afresymol wrth enwi'r holl dir y mae'r hysbysiad yn berthnasol iddo yn dir halogedig neu unrhyw ran ohono;
(b)bod yr awdurdod gorfodi, wrth benderfynu ar un o ofynion yr hysbysiad—
(i)wedi methu â rhoi sylw i ganllawiau a gyhoeddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 78E(5); neu
(ii)p'un ai oherwydd y methiant hwnnw neu fel arall, wedi bod yn afresymol wrth ei gwneud yn ofynnol i'r apelydd wneud unrhyw beth o ran gwaith adfer;
(c)bod yr awdurdod gorfodi wedi bod yn afresymol wrth benderfynu mai'r apelydd yw'r person priodol sydd i ysgwyddo'r cyfrifoldeb dros unrhyw beth y mae'n ofynnol ei wneud o ran gwaith adfer o dan yr hysbysiad;
(ch)yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod, bod yr awdurdod gorfodi wedi bod yn afresymol wrth fethu â phenderfynu bod rhyw berson yn ychwanegol at yr apelydd yn berson priodol mewn perthynas ag unrhyw beth y mae'n ofynnol ei wneud o ran gwaith adfer o dan yr hysbysiad;
(d)bod yr awdurdod gorfodi, mewn perthynas ag unrhyw beth y mae'r hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol ei wneud o ran gwaith adfer, wedi methu â gweithredu yn unol â chanllawiau a gyhoeddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 78F(6);
(dd)pan fydd dau neu ragor o bersonau priodol mewn perthynas ag unrhyw beth y mae'r hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol ei wneud o ran gwaith adfer, bod yr awdurdod gorfodi—
(i)wedi methu â phenderfynu pa gyfran o'r gost y datganwyd yn yr hysbysiad fod yr apelydd yn atebol i'w thalu yn unol â chanllawiau a gyhoeddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 78F(7); neu
(ii)p'un ai oherwydd y methiant hwnnw neu fel arall, wedi bod yn afresymol wrth benderfynu pa gyfran o'r gost y mae'r apelydd i'w thalu;
(e)bod cyflwyno'r hysbysiad wedi torri un o ddarpariaethau is-adran (1) neu (3) o adran 78H (cyfyngiadau a gwaharddiadau ar gyflwyno hysbysiadau adfer) heblaw o dan amgylchiadau pan fydd adran 78H(4) yn gymwys;
(f)pan gyflwynwyd yr hysbysiad drwy ddibynnu ar adran 78H(4) heb gydymffurfio ag adran 78H(1) neu (3), na fuasai'n rhesymol i'r awdurdod gorfodi farnu bod y tir halogedig o dan sylw yn y fath gyflwr oherwydd sylweddau yn y tir, arno, neu odano, bod perygl ar fin digwydd o beri niwed difrifol, neu lygredd difrifol i ddyfroedd a reolir;
(ff)bod yr awdurdod gorfodi wedi methu'n afresymol â chael ei fodloni, yn unol ag adran 78H(5)(b), fod pethau priodol yn cael eu gwneud, neu y byddant yn cael eu gwneud, o ran gwaith adfer heb gyflwyno hysbysiad;
(g)bod unrhyw beth yr oedd yn ofynnol ei wneud o dan yr hysbysiad o ran gwaith adfer wedi'i wneud yn ofynnol drwy dorri darpariaeth yn adran 78J (cyfyngiadau ar atebolrwydd ynglŷn â llygru dyfroedd a reolir);
(ng)bod unrhyw beth yr oedd yn ofynnol ei wneud o dan yr hysbysiad o ran gwaith adfer wedi'i wneud yn ofynnol drwy dorri darpariaeth yn adran 78K (atebolrwydd mewn perthynas â sylweddau halogi sy'n dianc i dir arall);
(h)bod gan yr awdurdod gorfodi ei hun bŵ er, mewn achos sy'n dod o fewn adran 78N(3)(b), i wneud yr hyn sy'n briodol o ran gwaith adfer;
(i)bod gan yr awdurdod gorfodi ei hun bŵ er, mewn achos sy'n dod o fewn adran 78N(3)(e), i wneud yr hyn sy'n briodol o ran gwaith adfer;
(j)bod yr awdurdod gorfodi, wrth bwyso a mesur at ddibenion adran 78N(3)(e), a fyddai'n ceisio adennill y cyfan neu gyfran o'r gost a dynnwyd ganddo wrth wneud rhyw beth penodol o ran gwaith adfer—
(i)wedi methu â rhoi sylw i unrhyw galedi y gallai'r adennill ei achosi i'r person y gellid adennill y gost oddi wrtho neu i unrhyw ganllawiau a gyhoeddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru at ddibenion adran 78P(2); neu
(ii)p'un ai oherwydd y methiant hwnnw neu fel arall, wedi bod yn afresymol wrth benderfynu y byddai'n penderfynu ceisio adennill y cyfan o'r gost;
(l)bod yr awdurdod gorfodi, wrth benderfynu un o ofynion yr hysbysiad, wedi methu â rhoi sylw i ganllawiau a gyhoeddwyd gan Asiantaeth yr Amgylchedd o dan adran 78V(1);
(ll)nad yw cyfnod a bennwyd yn yr hysbysiad fel cyfnod pryd y mae'n ofynnol i'r apelydd wneud unrhyw beth yn rhesymol ddigonol at y diben;
(m)bod yr hysbysiad yn darparu i berson sy'n gweithredu yn rhinwedd swydd berthnasol(1) fod yn atebol yn bersonol i dalu'r cyfan neu ran o gost gwneud unrhyw beth o ran gwaith adfer, yn groes i ddarpariaethau adran 78X(3)(a);
(n)bod cyflwyno'r hysbysiad wedi torri un o ddarpariaethau adran 78YB (cydadwaith Rhan IIA o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 â deddfiadau eraill), ac—
(i)mewn achos lle dibynnir ar is-adran (1) o'r adran honno, y dylai yn rhesymol fod wedi ymddangos i'r awdurdod gorfodi y gallai pwerau Asiantaeth yr Amgylchedd o dan adran 27 gael eu harfer;
(ii)mewn achos lle dibynnir ar is-adran (3) o adran 78YB, y dylai yn rhesymol fod wedi ymddangos i'r awdurdod gorfodi y gallai pwerau awdurdod rheoli gwastraff neu awdurdod casglu gwastraff o dan adran 59 gael eu harfer; neu
(o)y cafwyd rhyw anffurfioldeb, diffyg neu gamgymeriad yn yr hysbysiad, neu mewn cysylltiad ag ef, nad oes unrhyw hawl i apelio mewn perthynas ag ef o dan y seiliau a nodir yn is-baragraffau (a) i (n) uchod.
(2) Caiff person apelio ar y sail a bennir ym mharagraff (1)(ch) uchod dim ond mewn achos—
(a)pan fydd yr awdurdod gorfodi wedi penderfynu ei fod yn berson priodol yn rhinwedd is-adran (2) o adran 78F a'i fod yn honni ei fod wedi dod o hyd i ryw berson arall sy'n berson priodol yn rhinwedd yr is-adran honno;
(b)pan yw'r hysbysiad wedi'i gyflwyno iddo fel perchennog neu feddiannydd y tir halogedig o dan sylw am y tro a'i fod yn honni ei fod wedi dod o hyd i ryw berson arall sy'n berson priodol yn rhinwedd yr is-adran honno; neu
(c)pan yw'r hysbysiad wedi'i gyflwyno iddo fel perchennog neu feddiannydd y tir halogedig o dan sylw am y tro, a'i fod yn honni bod rhyw berson arall hefyd yn berchennog neu'n feddiannydd y cyfan neu ran o'r tir hwnnw am y tro.
(3) Os yw apêl yn erbyn hysbysiad adfer wedi'i seilio ar ryw anffurfioldeb, diffyg neu gamgymeriad yn yr hysbysiad, neu mewn cysylltiad ag ef, ac i'r graddau bod apêl wedi'i seilio ar y sail honno, rhaid i'r awdurdod apeliadol wrthod yr apêl os yw wedi'i fodloni nad oedd yr anffurfioldeb, y diffyg na'r camgymeriad yn un o sylwedd.
Ar gyfer y diffiniad o “person acting in a relevant capacity” gweler adran 78X(4).