Rheolaethau amgylcheddol eraill
15. Pan fydd yr awdurdod yn cael ei wahardd yn rhinwedd adran 78YB(3) rhag cyflwyno hysbysiad adfer mewn perthynas â thir sy'n dir halogedig oherwydd gollwng gwastraff a reolir neu unrhyw ganlyniadau i ollwng y gwastraff hwnnw—
(a)lleoliad a hyd a lled y tir halogedig o dan sylw, yn ddigon manwl i ganiatáu dod o hyd iddo naill ai drwy gyfeirio at blan neu fel arall;
(b)y materion y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (c), (ch) a (d) o baragraff 1 uchod; ac
(c)unrhyw gamau y mae'r awdurdod yn gwybod amdanynt, ac a gyflawnwyd o dan adran 59, mewn perthynas â'r gwastraff hwnnw neu â chanlyniadau ei ollwng, gan gynnwys mewn achos lle cymerodd awdurdod casglu gwastraff (o fewn ystyr adran 30(3)) y camau hynny neu ei gwneud yn ofynnol i'r camau gael eu cymryd, enw'r awdurdod hwnnw.