Rheoliadau Gelatin (Masnach o fewn y Gymuned) 2001

Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 2219 (Cy.159)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Gelatin (Masnach o fewn y Gymuned) 2001

Wedi'u gwneud

14 Mehefin 2001

Yn dod i rym

1 Awst 2001

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (2) mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran 2(2) a enwyd, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gelatin (Masnach o fewn y Gymuned) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Awst 2001. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “yr Asiantaeth” (“the Agency”) yw'r Asiantaeth Safonau Bwyd(3);

  • mae i “awdurdod bwyd” yr un ystyr â “food authority” yn Neddf Diogelwch Bwyd 1990(4)); a

  • rhaid dehongli “canolfan gasglu” (“collection centre”), “tanerdy” (“tannery”) a “deunydd crai” (“raw material”) yn unol â Phenderfyniad y Comisiwn 1999/724/EC sy'n diwygio Atodiad II i Gyfarwyddeb y Cyngor 92/118/EEC sy'n nodi gofynion ar gyfer iechyd anifeiliaid ac iechyd y cyhoedd sy'n llywodraethu'r fasnach mewn cynhyrchion yn y Gymuned a mewnforion i'r Gymuned nad ydynt yn ddarostyngedig i'r gofynion a enwyd sydd wedi'u nodi mewn rheolau Cymunedol penodol y cyfeirir atynt yn Atodiad A(I) i Gyfarwyddeb 89/662/EEC neu, mewn perthynas â phathogenau, â Chyfarwyddeb 90/425/EEC (5).

Diwygio Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Deillio o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) 1996

3.  Caiff Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Deillio o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) 1996(6) eu diwygio mewn perthynas â Chymru drwy ychwanegu'r cofnod canlynol, yn Atodlen 3, ar ddiwedd paragraff 12—

  • Commission Decision 1999/724/EC (OJ No. L290, 12.11.99, p.32).

Awdurdodi canolfannau casglu a thanerdai

4.—(1Pan wneir cais o dan y rheoliad hwn, rhaid i awdurdod bwyd awdurdodi canolfan gasglu neu danerdy os yw'r awdurdod bwyd wedi'i fodloni—

(a)bod gan y ganolfan gasglu neu'r tanerdy ystafelloedd storio a chanddynt loriau caled a waliau llyfn y mae'n hawdd eu glanhau a'u diheintio;

(b)bod gan y ganolfan gasglu neu'r tanerdy gyfleusterau oergell, os yw hynny'n briodol;

(c)bod ystafelloedd storio'r ganolfan gasglu neu'r tanerdy yn cael eu cadw mewn cyflwr boddhaol o ran glendid ac adeiladwaith, fel nad ydynt yn creu ffynhonnell i halogi'r deunyddiau crai;

(ch)bod, neu, yn ôl fel y digwydd, y bydd unrhyw ddeunydd crai nad yw'n cydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir yn rhinwedd Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Deillio o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) 1996 sy'n gymwys iddo, os yw'n cael neu os bydd yn cael ei storio neu ei brosesu ar y safle, wedi'i wahanu oddi wrth ddeunydd crai sy'n cydymffurfio felly drwy gydol y cyfnod derbyn, storio, prosesu ac anfon;

(d)bod gan yr awdurdod bwyd yr holl wybodaeth y mae arno ei angen er mwyn hysbysu'r Asiantaeth am yr awdurdodiad o dan reoliad 8(2)(a) o'r Rheoliadau hyn.

(2Wrth ganiatáu unrhyw awdurdodiad o dan y rheoliad hwn, rhaid i'r awdurdod bwyd roi rhif penodol i'r safle.

Atal awdurdodiadau a'u tynnu'n ôl

5.—(1Caiff awdurdod bwyd atal awdurdodiad o dan reoliad 4 o'r Rheoliadau hyn neu ei dynnu'n ôl os yw'r awdurdod bwyd wedi'i fodloni nad yw'r safle y caniatawyd yr awdurdodiad mewn perthynas ag ef yn bodloni'r gofynion a bennir yn rheoliad 4 o'r Rheoliadau hyn.

(2Rhaid i awdurdod bwyd beidio ag atal awdurdodiad neu ei dynnu'n ôl o dan y rheoliad hwn oni bai—

(a)ei fod wedi cyflwyno hysbysiad sy'n cydymffurfio â pharagraff (3) o'r rheoliad hwn i berchennog y busnes sy'n cael ei redeg ar y safle; a

(b)ei fod wedi'i fodloni, ar ôl i'r amser ar gyfer cydymffurfio â'r hysbysiad ddod i ben, nad yw'r safle'n cydymffurfio â'r gofynion a bennir yn yr hysbysiad.

(3Rhaid i hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (2) o'r rheoliad hwn—

(a)datgan bod yr awdurdod bwyd yn bwriadu atal yr awdurdodiad neu, yn ôl fel y digwydd, ei dynnu'n ôl;

(b)nodi pob gofyniad a bennir yn rheoliad 4 o'r Rheoliadau hyn y mae'r awdurdod bwyd wedi'i fodloni na chydymffurfiwyd ag ef mewn perthynas â'r safle;

(c)mewn perthynas â phob gofyniad a bennir o dan is-baragraff (b) uchod, rhoi'r rhesymau pam y mae'r awdurdod bwyd wedi'i fodloni na chydymffurfiwyd â'r gofyniad; ac

(ch)datgan y gall yr awdurdodiad gael ei atal neu, yn ôl fel y digwydd, ei dynnu'n ôl oni bai bod perchennog y busnes yn cydymffurfio â'r gofynion a bennir yn yr hysbysiad o fewn unrhyw amser rhesymol a nodir yn yr hysbysiad.

Yr hawl i apelio

6.—(1Caiff person a dramgwyddir gan benderfyniad gan awdurdod bwyd i wrthod awdurdodiad neu i atal awdurdodiad neu i dynnu awdurdodiad yn ôl apelio i lys ynadon.

(2Bydd adran 37(3), (5) a (6) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 yn effeithiol mewn perthynas ag apelau o dan y rheoliad hwn fel y maent yn effeithiol mewn perthynas ag apêl o dan yr adran honno.

(3Ni fydd tynnu awdurdodiad yn ôl neu atal awdurdodiad yn dod yn effeithiol nes i'r amser ar gyfer apelio yn erbyn hynny ddod i ben ac, os gwneir apêl, nes penderfynu ar yr apêl yn derfynol.

Dileu awdurdodiad

7.  Rhaid i awdurdod bwyd ddileu awdurdodiad o dan reoliad 4 o'r Rheoliadau hyn—

(a)ar gais perchennog y busnes y mae'r safle wedi'i awdurdodi mewn perthynas ag ef; neu

(b)os yw'r awdurdod bwyd wedi'i fodloni nad yw'r busnes a oedd yn cael ei redeg ar y safle y rhoddwyd yr awdurdodiad ar ei gyfer yn cael ei redeg yno mwyach.

Cofrestru

8.—(1Rhaid i'r Asiantaeth gadw cofrestr o safleoedd sydd wedi'u hawdurdodi o dan reoliad 4 o'r Rheoliadau hyn.

(2Rhaid i bob awdurdod bwyd hysbysu'r Asiantaeth, drwy unrhyw gyfrwng y mae'n rhesymol i'r Asiantaeth ofyn amdano:—

(a)o bob awdurdodiad a roddir gan yr awdurdod bwyd o dan reoliad 4 o'r Rheoliadau hyn;

(b)o bob awdurdodiad a dynnir yn ôl, a atelir neu a ddilëir gan yr awdurdod bwyd;

(c)o bob hysbysiad a roddir gan yr awdurdod bwyd o dan reoliad 5(2) o'r Rheoliadau hyn;

(ch)o unrhyw newid ym mherchennog y busnes sy'n cael ei redeg ar safle awdurdodedig;

(d)o unrhyw gamgymeriad neu hepgoriad sy'n dod i sylw'r awdurdod bwyd yn yr wybodaeth yn y gofrestr ynghylch unrhyw safle a awdurdodwyd gan yr awdurdod bwyd.

(3Rhaid i bob hysbysiad gan yr awdurdod bwyd i'r Asiantaeth o dan baragraff (2) o'r rheoliad hwn gynnwys yr wybodaeth ganlynol—

(a)cyfeiriad y safle;

(b)enw perchennog y busnes sy'n cael ei redeg ar y safle;

(c)unrhyw enw masnachu neu enw arall (heblaw enw'r perchennog) yr adnabyddir y busnes sy'n cael ei redeg ar y safle wrtho;

(ch)y rhif adnabod a ddyrannwyd gan yr awdurdod bwyd o dan reoliad 4(2) o'r Rheoliadau hyn;

(d)ai fel canolfan gasglu ynteu fel tanerdy y mae'r safle wedi'i awdurdodi;

(dd)y dyddiad y mae'r awdurdodiad yn dod yn effeithiol a'r dyddiad y daeth unrhyw atal, tynnu'n ôl, neu ddileu ar yr awdurdodiad yn effeithiol.

(4Rhaid i'r Asiantaeth gymryd mesurau rhesymol i drefnu bod yr wybodaeth ar y gofrestr ar gael i'r cyhoedd ar adegau rhesymol.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(7).

D. Elis Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

14 Mehefin 2001

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio, mewn perthynas â Chymru, Benderfyniad y Comisiwn 99/724/EC (OJ Rhif L290, 12.11.99, t.32) - “Penderfyniad y Comisiwn” - i'r graddau y mae'n ymwneud â masnach rhwng Aelod-wladwriaethau'r Gymuned Ewropeaidd ac yn gosod rhwymedigaethau newydd ar y Deyrnas Unedig neu'n newid y rhwymedigaethau sydd arni.

Mae Penderfyniad y Comisiwn yn diwygio Atodiad II i Gyfarwyddeb y Cyngor 92/118/EEC (OJ Rhif L62, 15.3.93, t.49) drwy osod gofynion newydd sy'n ymwneud â gelatin a fwriedir i bobl ei fwyta. Mae darpariaethau'r Gyfarwyddeb honno sy'n ymwneud â'r fasnach o fewn y Gymuned yn cael eu gweithredu gan Reoliadau Cynhyrchion sy'n Deillio o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) 1996 (O.S. 1996/3124). Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1996 er mwyn rhoi eu heffaith i'r newidiadau a wneir gan Benderfyniad y Comisiwn.

Mae'r Rheoliadau hefyd yn rhoi pwer i'r awdurdodau bwyd yng Nghymru roi, atal, tynnu'n ôl a dileu awdurdodiadau i ganolfannau casglu a thanerdai sy'n cyflenwi deunyddiau crai ar gyfer gweithgynhyrchu gelatin yn ddarostyngedig i ofynion Penderfyniad y Comisiwn. Mae'n ofynnol i'r Asiantaeth Safonau Bwyd gadw cofrestr o'r safleoedd a awdurdodir fel hyn.

Mae Arfarniad Rheoliadol ar gyfer y Rheoliadau hyn wedi'i baratoi yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Leol Cymru 1998 (1998 p.38) a gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd (Cymru), Llawr 1, Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EN.

(3)

A sefydlwyd gan adran 1 o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28).

(4)

1990 p.16. Mae adran 5 yn disgrifio'r awdurdodau sy'n awdurdodau bwyd at ddibenion y Ddeddf.

(5)

OJ Rhif L290, 12.11.99, t.32.

(6)

OS 1996/3124, y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.