- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU
Wedi'u gwneud
14 Mehefin 2001
Yn dod i rym
1 Awst 2001
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 53(1), (2), a (4), 64(3) a 65(4) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988(1), sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru(2).
1. Enw'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yw Rheoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) (Diwygio) 2001 a deuant i rym ar 1 Awst 2001.
2.—(1) Diwygir Rheoliadau Rhestr Ardrethhu Canolog (Cymru) 1999(3) fel a ganlyn.
(2) Ar ôl Rheoliad 5 mewnosodwch—
5A.—(1) Trinnir hereditamentau (heblaw hereditamentau a eithrir) a feddiennir, neu os nas meddiennir hwy a berchnogir, gan berson a ddynodwyd drwy ei enwi yn Rhan 3A o'r Atodlen ac sy'n cael eu defnyddio, neu a fyddai'n cael eu defnyddio pe baent wedi'u meddiannu, yn gyfan gwbl neu yn bennaf at ddibenion y person hwnnw wrth weithredu fel cludwr nwy cyhoeddus ac a fyddai, heblaw am y Rheoliad hwn, yn fwy nag un hereditament, fel un hereditament.
(2) Ym mharagraff (1)—
(a)ystyr “hereditament a eithrir” yw hereditament sy'n cynnwys safle a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu'n bennaf yn safle swyddfa lle nad yw'r safle hwnnw wedi'i leoli ar dir gweithredol y person dynodedig, neu a ffurfir gan safle felly; a
(b)mae i “cludwr nwy cyhoeddus” yr un ystyr â “public gas transporter” yn Rhan I o Ddeddf Nwy 1986. (4)
(3) Trinnir yr hereditament a ddisgrifir ym mharagraff (1) fel pe bai wedi'i feddiannu gan y person dynodedig.”
(3) Yn yr Atodlen, ar ôl Rhan 3, mewnosodwch—
Person dynodedig
British Gas Connections Limited
TotalFinaElf Pipelines Limited
The Gas Transportation Company Limited
SSE Pipelines Limited
ScottishPower Gas Limited
East Midlands Pipelines Limited
GTC Pipelines Limited
Energi Link Limited
Hyder Gas Networks Limited
E.S. Pipelines Limited
Hereditamentau perthnasol
Yr hereditamentau a ddisgrifir yn Rheoliad 5A.”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
14 Mehefin 2001
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Gyda golwg ar sicrhau bod hereditamentau penodol yn cael eu hardrethu yn ganolog en bloc, gall rheoliadau gael eu gwneud o dan adran 53(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 sy'n dynodi person ac yn rhagnodi mewn perthynas â'r person hwnnw un neu ragor o ddisgrifiadau o hereditament annomestig.
Y prif Reoliadau sydd wedi'u gwneud o dan y pw^er hwn yw Rheoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) 1999 sy'n effeithiol mewn perthynas ag unrhyw restr ardrethu canolog ar gyfer Cymru a luniwyd ar 1 Ebrill 2000 neu wedi hynny.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r prif Reoliadau drwy ddynodi grw^p o gwmnïau cludo nwy a darparu bod yr hereditamentau rhagnodedig y mae pob un ohonynt yn eu defnyddio er mwyn gweithredu fel cludwr nwy cyhoeddus yn cael eu trin fel un hereditament.
1988 p.41; diwygiwyd adran 53 gan baragraff 29 o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42). Gweler adran 146(6) o Ddeddf 1988 i gael y diffiniad o “prescribed”.
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).
1986 p.44. Mewnosodwyd adran 7, y mae'r diffiniad yn ymddangos ynddi, ganadran 5 o Ddeddf Nwy 1995 (p.45).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: