2001 Rhif 2222 (Cy. 160)
Rheoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) (Diwygio) 2001
Wedi'u gwneud
Yn dod i rym
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 53(1), (2), a (4), 64(3) a 65(4) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 19881, sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru2.
Enwi, cymhwyso a chychwyn1
Enw'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yw Rheoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) (Diwygio) 2001 a deuant i rym ar 1 Awst 2001.
Diwygio Rheoliadau 19992
1
Diwygir Rheoliadau Rhestr Ardrethhu Canolog (Cymru) 19993 fel a ganlyn.
2
Ar ôl Rheoliad 5 mewnosodwch—
Cludwyr Nwy Annibynnol5A
1
Trinnir hereditamentau (heblaw hereditamentau a eithrir) a feddiennir, neu os nas meddiennir hwy a berchnogir, gan berson a ddynodwyd drwy ei enwi yn Rhan 3A o'r Atodlen ac sy'n cael eu defnyddio, neu a fyddai'n cael eu defnyddio pe baent wedi'u meddiannu, yn gyfan gwbl neu yn bennaf at ddibenion y person hwnnw wrth weithredu fel cludwr nwy cyhoeddus ac a fyddai, heblaw am y Rheoliad hwn, yn fwy nag un hereditament, fel un hereditament.
2
Ym mharagraff (1)—
a
ystyr “hereditament a eithrir” yw hereditament sy'n cynnwys safle a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu'n bennaf yn safle swyddfa lle nad yw'r safle hwnnw wedi'i leoli ar dir gweithredol y person dynodedig, neu a ffurfir gan safle felly; a
b
mae i “cludwr nwy cyhoeddus” yr un ystyr â “public gas transporter” yn Rhan I o Ddeddf Nwy 1986. 4
3
Trinnir yr hereditament a ddisgrifir ym mharagraff (1) fel pe bai wedi'i feddiannu gan y person dynodedig.
3
Yn yr Atodlen, ar ôl Rhan 3, mewnosodwch—
Rhan 3ACludwyr Nwy Annibynnol
Person dynodedig
British Gas Connections Limited
TotalFinaElf Pipelines Limited
The Gas Transportation Company Limited
SSE Pipelines Limited
ScottishPower Gas Limited
East Midlands Pipelines Limited
GTC Pipelines Limited
Energi Link Limited
Hyder Gas Networks Limited
E.S. Pipelines Limited
Hereditamentau perthnasol
Yr hereditamentau a ddisgrifir yn Rheoliad 5A.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19985.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)