Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 2222 (Cy. 160)

ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU

Rheoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) (Diwygio) 2001

Wedi'u gwneud

14 Mehefin 2001

Yn dod i rym

1 Awst 2001

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yw Rheoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) (Diwygio) 2001 a deuant i rym ar 1 Awst 2001.

Diwygio Rheoliadau 1999

2.—(1Diwygir Rheoliadau Rhestr Ardrethhu Canolog (Cymru) 1999(3) fel a ganlyn.

(2Ar ôl Rheoliad 5 mewnosodwch—

Cludwyr Nwy Annibynnol

5A.(1) Trinnir hereditamentau (heblaw hereditamentau a eithrir) a feddiennir, neu os nas meddiennir hwy a berchnogir, gan berson a ddynodwyd drwy ei enwi yn Rhan 3A o'r Atodlen ac sy'n cael eu defnyddio, neu a fyddai'n cael eu defnyddio pe baent wedi'u meddiannu, yn gyfan gwbl neu yn bennaf at ddibenion y person hwnnw wrth weithredu fel cludwr nwy cyhoeddus ac a fyddai, heblaw am y Rheoliad hwn, yn fwy nag un hereditament, fel un hereditament.

(2) Ym mharagraff (1)—

(a)ystyr “hereditament a eithrir” yw hereditament sy'n cynnwys safle a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu'n bennaf yn safle swyddfa lle nad yw'r safle hwnnw wedi'i leoli ar dir gweithredol y person dynodedig, neu a ffurfir gan safle felly; a

(b)mae i “cludwr nwy cyhoeddus” yr un ystyr â “public gas transporter” yn Rhan I o Ddeddf Nwy 1986. (4)

(3) Trinnir yr hereditament a ddisgrifir ym mharagraff (1) fel pe bai wedi'i feddiannu gan y person dynodedig.

(3Yn yr Atodlen, ar ôl Rhan 3, mewnosodwch—

Rhan 3ACludwyr Nwy Annibynnol

  • Person dynodedig

    British Gas Connections Limited

    TotalFinaElf Pipelines Limited

    The Gas Transportation Company Limited

    SSE Pipelines Limited

    ScottishPower Gas Limited

    East Midlands Pipelines Limited

    GTC Pipelines Limited

    Energi Link Limited

    Hyder Gas Networks Limited

    E.S. Pipelines Limited

  • Hereditamentau perthnasol

    Yr hereditamentau a ddisgrifir yn Rheoliad 5A..

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

14 Mehefin 2001

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Gyda golwg ar sicrhau bod hereditamentau penodol yn cael eu hardrethu yn ganolog en bloc, gall rheoliadau gael eu gwneud o dan adran 53(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 sy'n dynodi person ac yn rhagnodi mewn perthynas â'r person hwnnw un neu ragor o ddisgrifiadau o hereditament annomestig.

Y prif Reoliadau sydd wedi'u gwneud o dan y pw^er hwn yw Rheoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) 1999 sy'n effeithiol mewn perthynas ag unrhyw restr ardrethu canolog ar gyfer Cymru a luniwyd ar 1 Ebrill 2000 neu wedi hynny.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r prif Reoliadau drwy ddynodi grw^p o gwmnïau cludo nwy a darparu bod yr hereditamentau rhagnodedig y mae pob un ohonynt yn eu defnyddio er mwyn gweithredu fel cludwr nwy cyhoeddus yn cael eu trin fel un hereditament.

(1)

1988 p.41; diwygiwyd adran 53 gan baragraff 29 o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42). Gweler adran 146(6) o Ddeddf 1988 i gael y diffiniad o “prescribed”.

(2)

Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

(4)

1986 p.44. Mewnosodwyd adran 7, y mae'r diffiniad yn ymddangos ynddi, ganadran 5 o Ddeddf Nwy 1995 (p.45).