2001 Rhif 2253 (Cy.163)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Deunyddiau Porthi (Samplu a Dadansoddi) (Diwygio) (Cymru) 2001

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

Drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 66(1), 77(4), 78(6) ac 84 o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970 1 (fel y'i darllenir gyda rheoliad 14 o Reoliadau Deddf Safonau Bwyd 1999 (Darpariaethau Trosiannol a Chanlyniadol ac Eithriadau) (Cymru a Lloegr) 2000 2) sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru 3, ar ôl ymgynghori yn unol â gofynion adran 84(1) o'r Ddeddf honno â'r personau neu'r cyrff y mae'n ymddangos eu bod yn cynrychioli'r buddiannau sydd o dan sylw, a chan ei fod wedi'i ddynodi 4) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 5 mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran 2(2) a enwyd (i'r graddau na ellir gwneud y Rheoliadau hyn o dan y pwerau yn Neddf Amaethyddiaeth 1970 a bennir uchod), mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol: