Search Legislation

Rheoliadau Deunyddiau Porthi (Samplu a Dadansoddi) (Diwygio) (Cymru) 2001

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 2253 (Cy.163)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Deunyddiau Porthi (Samplu a Dadansoddi) (Diwygio) (Cymru) 2001

Wedi'u gwneud

14 Mehefin 2001

Yn dod i rym

1 Awst 2001

Drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 66(1), 77(4), 78(6) ac 84 o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970 (1) (fel y'i darllenir gyda rheoliad 14 o Reoliadau Deddf Safonau Bwyd 1999 (Darpariaethau Trosiannol a Chanlyniadol ac Eithriadau) (Cymru a Lloegr) 2000 (2)) sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru (3), ar ôl ymgynghori yn unol â gofynion adran 84(1) o'r Ddeddf honno â'r personau neu'r cyrff y mae'n ymddangos eu bod yn cynrychioli'r buddiannau sydd o dan sylw, a chan ei fod wedi'i ddynodi (4)) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (5) mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran 2(2) a enwyd (i'r graddau na ellir gwneud y Rheoliadau hyn o dan y pwerau yn Neddf Amaethyddiaeth 1970 a bennir uchod), mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Teitl, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Teitl y Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deunyddiau Porthi (Samplu a Dadansoddi) (Diwygio) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Awst 2001

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio Rheoliadau Deunyddiau Porthi (Samplu a Dadansoddi) 1999

2.  Caiff Rheoliadau Deunyddiau Porthi (Samplu a Dadansoddi) (Diwygio) 1999 (6) eu diwygio mewn perthynas â Chymru yn unol â rheoliadau 3 a 4 isod.

3.  Yn rheoliad 6—

(a)ym mharagraff (1), ar ôl y geiriau “pursuant to the Act,” ychwanegir y geiriau “or, in the cases of the substances vitamin A and vitamin E, in a sample of a premixture to be analysed pursuant to Commission Directive 2000/45/EC establishing Community methods of analysis for the determination of vitamin A, vitamin E and tryptophan in feedingstuffs,” (7); a

(b)ym mharagraff (2) caiff is-baragraff (c) ei ddileu.

4.  Caiff Atodiad 1 i Ran II o Atodlen 2 ei ddiwygio fel a ganlyn—

(a)ar ôl yr eitem ar gyfer Theobromine ychwanegir yr eitem ganlynol yng ngholofnau 1 i 3:

TryptophanPart C of the Annex to Directive 2000/45/ECOJ No. L174, 13.7.2000,

(b)yn lle'r darpariaethau yng ngholofnau 2 a 3 ynghylch yr eitem ar Vitamin A gyfer Fitamin A rhoddir y darpariaethau canlynol:

Part A of the Annex to Directive 2000/45/ECOJ No. L174, 13.7.2000, p.32.

ac

(c)ar ôl yr eitem ar gyfer Fitamin A ychwanegir yr eitem ganlynol yng ngholofnau 1 i 3:

Vitamin EPart B of the Annex to Directive 2000/45/ECOJ No. L174, 13.7.2000, p.32.

Diwygio Rheoliadau Deunyddiau Porthi 2000

5.  Yn Rheoliadau Deunyddiau Porthi 2000 (8), caiff rheoliad 26, paragraff (b) o reoliad 27 ac is-baragraff (ch)(i) o'r rheoliad hwnnw eu hepgor.

Diwygio Rheoliadau Deunyddiau Porthi (Sefydliadau a Chanolwyr) 1999

6.—(1Caiff Rheoliadau Deunyddiau Porthi (Sefydliadau a Chanolwyr) 1999 (9) eu diwygio mewn perthynas â Chymru fel a ganlyn—

(a)yn y darpariaethau a bennir ym mharagraff (2) isod, ar ôl y geiriau “the Feeding Stuffs (Sampling and Analysis) Regulations 1999.”, lle bynnag y'u gwelir, mewnosodir y geiriau “, as amended by the Feedingstuffs (Zootechnical Products) Regulations 1999 and as modified by the Feeding Stuffs Regulations 2000 and amended by the Feeding Stuffs (Sampling and Analysis) (Amendment) (Wales) Regulations 2001,” (10); a

(b)yn rheoliad 106(2), caiff is-baragraff (c) ei ddileu.

(2Y darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(a) uchod yw rheoliadau 98(8) a (9), 99 a 106(1).

Diwygio Rheoliadau Deunyddiau Porthi (Gorfodi) 1999

7.  Caiff Rheoliadau Deunyddiau Porthi (Gorfodi) 1999(11)h) eu diwygio mewn perthynas â Chymru fel a ganlyn—

(a)yn rheoliad 8, ar ôl y geiriau “the Feeding Stuffs (Sampling and Analysis) Regulations 1999” ychwanegir y geiriau “as amended by the Feedingstuffs (Zootechnical Products) Regulations 1999 and as modified by the Feeding Stuffs Regulations 2000 and amended by the Feeding Stuffs (Sampling and Analysis) (Amendment) (Wales) Regulations 2001”; a

(b)yn rheoliad 10, yn yr addasiad ar adran 76(8), (9) a (10) o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970, ar ôl y geiriau “the Feeding Stuffs (Sampling and Analysis) Regulations 1999” ychwanegir y geiriau “as amended by the Feedingstuffs (Zootechnical Products) Regulations 1999 and as modified by the Feeding Stuffs Regulations 2000 and amended by the Feeding Stuffs (Sampling and Analysis) (Amendment) (Wales) Regulations 2001”; ac

(c)yn rheoliad 11, yn lle'r geiriau “not a feeding stuff”, rhoddir y geiriau “neither a feeding stuff, nor a premixture to which Part A or Part B of Commission Directive 2000/45/EC establishing Community methods of analysis for the determination of vitamin A, vitamin E and tryptophan in feedingstuffs applies”.

8.  Caiff Rheoliadau Deunyddiau Porthi (Gorfodi) 1999 eu diwygio mewn perthynas â Chymru drwy fewnosod y rheoliad canlynol ar ôl rheoliad 11—

11A.  For the purposes of sections 77(4) and 78(6) of the Act, analysis shall (as specified in regulation 7) be treated as carried out in the prescribed manner, in relation to a sample of a premixture to which Part A or Part B of Commission Directive 2000/45/EC establishing Community methods of analysis for the determination of vitamin A, vitamin E and tryptophan in feedingstuffs applies, if it is carried out in accordance with whichever of those Parts is applicable in the case concerned..

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(12).

D.Elis Thomas

Llywydd y CynulliadCenedlaethol

14 Mehefin 2001

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yn diwygio Rheoliadau Deunyddiau Porthi (Samplu a Dadansoddi) 1999 ac yn gweithredu Cyfarwyddeb y Comisiwn 2000/45/EC sy'n sefydlu dulliau dadansoddi Cymunedol ar gyfer dod o hyd i fitamin A, fitamin E a tryptophan mewn deunyddiau porthi (OJ Rhif L174, 13.7.2000, t.32).

2.  Mae'r Rheoliadau—

(a)yn diwygio Rheoliadau 1999 drwy ragnodi dull dadansoddi diwygiedig ar gyfer dod o hyd i fitamin A, a dulliau newydd ar gyfer dod o hyd i fitamin E a tryptophan, mewn deunyddiau porthi ac, yn achos fitaminau A ac E, mewn rhag-gymysgeddau (rheoliad 4), a

(b)yn gwneud mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol i'r Rheoliadau hynny, i Reoliadau Deunyddiau Porthi 2000, i Reoliadau Deunyddiau Porthi (Sefydliadau a Chanolwyr) 1999 ac i Reoliadau Deunyddiau Porthi (Gorfodi) 1999 (rheoliadau 3 a 5 - 8).

3.  Mae arfarniad rheoliadol ar gyfer y Rheoliadau hyn wedi'i baratoi yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 ac wedi'i osod yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 1, Southgate House, Caerdydd CF10 1EN.

(1)

1970 p.40. Diwygiwyd y diffiniad o “the Ministers” gan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Cymru) (Rhif 1) 1978 (OS 1978/272), Atodlen 5, paragraff 1.

(3)

Yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (OS 1999/672), mae swyddogaethau “the Ministers” yn arferadwy bellach yng Nghymru gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(6)

OS 1999/1663, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(7)

OJ Rhif L174, 13.7.2000, t.32.

(9)

OS 1999/1872, a addaswyd gan OS 2001/343(Cy.15).

(10)

OS 1999/1871 yw'r cyfeirnod ar gyfer Rheoliadau Deunyddiau Porthi (Cynhyrchion Söotechnegol) 1999, y mae diwygiadau iddynt nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(11)

OS 1999/2325, a addaswyd gan OS 2001/343(Cy.15).

(12)

1998 p.38.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources