Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Llywodraethu Ysgolion) (Cymru) (Diwygio) 2001

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 2263 (Cy.164)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Llywodraethu Ysgolion) (Cymru) (Diwygio) 2001

Wedi'u gwneud

19 Mehefin 2001

Yn dod i rym

1 Medi 2001

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo(1) gan adrannau 44, 138(7) ac (8), a 144 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(2), a pharagraffau 4, 15(1) a (2), 16 a 17 o Atodlen 9, paragraff 1 o Atodlen 10, paragraffau 1 i 5 ac 8 o Atodlen 11 a pharagraffau 4 a 5 o Atodlen 12 iddi:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Llywodraethu Ysgolion) (Cymru) (Diwygio) 2001.

(2Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Medi 2001.

(3Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag ysgolion a gynhelir ac ysgolion newydd yng Nghymru(3).

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn —

  • ystyr “y prif reoliadau” (“the principal regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Llywodraethu Ysgolion) (Cymru) 1999 (4));

  • ystyr “y Rheoliadau Trosiannol Cyntaf” (“the First Transistional Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Llywodraethu Ysgolion) (Trosi i Fframwaith Newydd)1998 (5); ac

  • ystyr “yr Ail Reoliadau Trosiannol” (“the Second Transitional Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Trosi i Fframwaith Newydd) (Ysgolion Newydd, Grwpiau ac Amrywiol) 1999 (6).

Diwygio'r prif reoliadau

3.  Diwygir y prif reoliadau yn unol â'r darpariaethau canlynol yn y Rheoliadau hyn.

Y rhaglith, cymhwyso a dehongli

4.—(1Yn rhaglith y prif reoliadau, yn lle “paragraph 5 of Schedule 12” rhoddir “paragraphs 4 and 5 of Schedule 12”.

(2Yn rheoliadau 2 o'r prif reoliadau—

(a)ym mharagraff (1), ar ôl y diffiniad o “new school” mewnosodir—

  • “nominating body”, in relation to an additional co-opted governor, means any person from whom nominations were sought for the purpose of appointing, and who nominated, the additional co-opted governor in question; ; a

(b)ym mharagraff (2), yn y diffiniad o “appropriate diocesan authority”, ar ôl “section 142(1)” mewnosodir “and (4)”.

(3Ym mharagraff (2) o reoliad 14 o'r prif reoliadau, ar ôl “First Transitional Regulations” mewnosodir “, regulation 13 of the First Transitional Regulations as it applies by virtue of regulation 20 of those regulations,”.

Cyfnod mewn swydd

5.  Ar ôl paragraff (1)(b) o reoliad 16 o'r prif reoliadau mewnosodir yr is-baragraff canlynol —

(bb)In default of a term being notified in accordance with sub-paragraph (b), a governor to whom that sub-paragraph applies shall hold office for a term of four years..

Llywodraethwyr yn ymddiswyddo ac yn cael eu diswyddo

6.—(1Ym mharagraffau (2) a (3) o reoliad 17 o'r prif reoliadau, ar ôl y geiriau “may resign”, yn y ddau le y maent yn digwydd, mewnosodir “as governor”.

(2Yn rheoliad 18 o'r prif reoliadau —

(a)caiff paragraph (3)(c) ei: hepgor; a

(b)ym mharagraff (4), hepgorir “(within the meaning of the 1998 Act)”.

7.  Yn rheoliad 19(3) o'r prif reoliadau, ar ôl “nominating body” mewnosodir “(although the nominating body may also make representations if they so wish)”.

Clerc y Corff Llywodraethu

8.  Ym mharagraff (3) o reoliad 23 o'r prif reoliadau, yn lle “Subject to regulation 24, where” rhoddir “Where”.

Cadeirydd y Corff Llywodraethu

9.—(1Yn rheoliad 29 o'r prif reoliadau —

(a)ym mharagraffau (1) a (6), ar ôl y geiriau “paragraph (2)”, yn y ddau achos lle mae'r geiriau hynny'n digwydd, mewnosodir “and to section 18 of the 1998 Act”;

(b)ym mharagraff (5)(c), ar ôl “regulation 30” mewnosodir “or pursuant to section 18 of the 1998 Act”;

(c)ym mharagraff (9)(a) a (b), hepgorir y geiriau “or vice-chairman” bob un o'r tair gwaith y maent yn digwydd;

(ch)ym mharagraff (11), yn lle “to be elected.” rhoddir “elected, but for these purposes regulation 38(2) (chairman’s casting vote) shall not apply.”.

(2Yn rheoliad 30 o'r prif reoliadau —

(a)ym mharagraff (1), ar ôl “remove the chairman from office” mewnosodir “, unless the chairman has been nominated as such by the Assembly pursuant to section 18 of the 1998 Act(7)”; a

(b)ym mharagraff (3), ar ôl y geiriau “additional governors” mewnosodir “or additional foundation governors”.

(3Yn rheoliad 31(9) o'r prif reoliadau, yn lle “is elected.” rhoddir “is elected, but for these purposes regulation 38(2) (chairman’s casting vote) shall not apply.”.

Llywodraethwyr cyfetholedig

10.—(1Yn rheoliad 34(6) o'r prif reoliadau, yn lle “a co-opted governor’s removal” rhoddir “the removal of a co-opted governor or an additional co-opted governor”.

(2Ym mharagraff 1 o Atodlen 4 i'r prif reoliadau, yn lle'r atalnod llawn terfynol, rhoddir hanner colon ac ar ôl hwnnw yr is-baragraff canlynol:

(c)“co-opted governors” does not include additional co-opted governors..

Cworwm

11.  Yn rheoliad 37 o'r prif reoliadau —

(a)ym mharagraff (2), ar ôl is-baragraff (c) mewnosodir yr is-baragraff canlynol —

(cc)making a decision to delegate to an individual or a committee under regulation 41, paragraph 17 of Schedule 16 to the 1998 Act or paragraph 17 of Schedule 17 to that Act,;

(b)ym mharagraff (2)(e), ar ôl “regulation 19” mewnosodir “or the removal of a member of the temporary governing body in accordance with regulation 25 of the Education (New Schools) (Wales) Regulations 1999(8)”; ac

(c)ym mharagraff (2)(f), ar y dechrau mewnosodir “any vote on the election of the chairman of the governing body or temporary governing body under regulation 29 or 31 or”.

Trafodion y Corff Llywodraethu

12.  Yn rheoliad 38 o'r prif reoliadau —

(a)ym mharagraff (2), yn lle “Where” rhoddir “Subject to regulations 29(11) and 31(9), where”, a chaiff y geiriau “in accordance with regulation 29” eu hepgor;

(b)ar ôl paragraff (2) mewnosodir y paragraff canlynol —

(2A) No decision taken at a meeting of the governing body to serve notice of discontinuance of the school under section 30 of the 1998 Act shall have effect unless it is confirmed at a second meeting of the governing body held not less than 28 days after the first.; ac

(c)ar ôl paragraff (3)(a), mewnosodir yr is-baragraff canlynol —

(aa)any defect in the appointment of any chairman or vice-chairman of the governing body;.

Dirprwyo

13.  Yn rheoliad 42 o'r prif reoliadau —

(a)ym mharagraff (1) —

(i)yn is-baragraff (s), ar ôl “governing body”, mewnosodir “or temporary governing body”,

(ii)yn is-baragraff (v), ar ôl “constitution” mewnosodir “, membership, proceedings”, a

(iii)yn is-baragraff (y), yn lle “Part III of the Education (School Information) (Wales) Regulations 1997” rhoddir “Part IV of the Education (School Information) (Wales) Regulations 1999(9)”, ac yn lle “referred to in regulation 9” rhoddir “referred to in regulation 12”; a

(b)ym mharagraff (5) —

(i)ar ddiwedd is-baragraff (c), hepgorir y gair “and”, a

(ii)ar ôl is-baragraff (d), mewnosodir yr is-baragraffau canlynol —

(e)relating to the appointment or dismissal of the clerk to the governing body under Part IV, or the appointment or dismissal of the clerk to a committee of the governing body under Part VI, or

(f)under regulations 4, 5, 6, 7 or 9 of the Education (School Performance and Unauthorised Absence Targets) (Wales) Regulations 1999(10)..

Pwyllgorau

14.—(1Yn rheoliad 46 o'r prif reoliadau —

(a)ym mharagraff (a), yn lle “and membership” rhoddir “, membership and procedures”; a

(b)ym mharagraff (h), yn lle “or a registered pupil thereat,” rhoddir “or who is a registered pupil thereat, nor any person who is not a member of the governing body,”.

(2Yn rheoliad 47 o'r prif reoliadau, ar ôl paragraff (6) mewnosodir y paragraff canlynol —

(7) The minimum requirements for the composition of the staff dismissal committee and the dismissal appeal committee specified in this regulation shall, in either case, also operate as a quorum for meetings of the committee and any vote on any matter thereat..

(3Yn rheoliad 49 o'r prif reoliadau, ar ôl paragraff (2) mewnosodir y paragraff canlynol —

(3) The minimum requirement for the composition of the admissions committee specified in this regulation shall also operate as a quorum for meetings of the committee and any vote on any matter at such meetings..

(4Yn rheoliad 51(4) o'r prif reoliadau, ar ôl “paragraph (1)” mewnosodir “and paragraph (3)”.

Mynd i gyfarfodydd pwyllgorau

15.  Yn rheoliad 56 o'r prif reoliadau —

(a)mewnosodir y paragraffau canlynol ar y dechrau —

(A1)A headteacher of a school shall be entitled to attend any meeting of a committee of the governing body of the school, subject however to PartVII and to paragraph (A2)

(A2)Paragraph (A1) shall not confer any additional right on the head teacher in relation to any committee referred to in regulation 47,48 or 49, or in relation to any committee or selection panel excercising a function referred to in Schedule 16 or 17 to the 1998 Act.; a

(b)yn is-baragraff (4)(b), hepgorir y geiriau “under this regulation”.

Cyfyngiadau ar bwy gaiff gymryd rhan yn y trafodion

16.—(1Yn rheoliad 57 o'r prif reoliadau —

(a)ym mharagraff (1)(b), yn lle “the head teacher” rhoddir “a head teacher entitled to attend meetings”; a

(b)yn lle paragraff (5) rhoddir —

(5) A governor or member of a committee of the governing body at more than one school shall not be prevented from considering or voting upon any matter by reason that he or she is a governor or a member of a committee of the governing body at more than one school, and

(5A) Paragraph (5) applies irrespective of whether the interests of any school at which the person concerned is a governor or a member of a committee of the governing body conflict with the interests of any other school at which he or she is a governor or a member of a committee of the governing body..

(2Yn Atodlen 7 i'r prif reoliadau —

(a)ym mhennawd paragraff 3, yn lle “chairman or clerk” rhoddir “chairman, vice chairman or clerk”;

(b)ym mharagraff 3(1)(b), yn lle'r gair “chairman”, yn y ddau achos lle mae'n digwydd, rhoddir “chairman or vice chairman”; ac

(c)ar ôl paragraff 4, mewnosodir y paragraff canlynol —

Appointment of Staff

5.(1) This sub-paragraph applies where a relevant person who is employed to work at a school is present at a meeting of the school at which a subject of consideration is the appointment of a successor to that person.

(2) In any case where sub-paragraph (1) applies, the person first mentioned in that sub-paragraph shall withdraw from the meeting during the consideration or discussion of the matter in question and shall not vote on any question with respect to that matter..

Rhieni-lywodraethwyr

17.  Ym mharagraff 4(a) o Atodlen 2 i'r prif reoliadau, yn lle “of” rhoddir “for”.

Cymhwyso ac anghymhwyso

18.  Ym mharagraff 4(5) o Atodlen 6 i'r prif reoliadau —

(a)ar ôl y geiriau “representative governor” mewnosodir “, partnership governor”; a

(b)ar ôl “co-opted governor” mewnosodir “(including an additional co-opted governor)”.

Trosiannol

19.  Yn Atodlen 8 i'r prif reoliadau —

(a)ym mharagraff 4 —

(i)caiff y paragraff ei rifo fel is-baragraff (1),

(ii)ar ôl “governor of a school” mewnosodir “(other than as head teacher or as an ex officio foundation governor)”, a

(iii)ar y diwedd mewnosodir yr is-baragraff canlynol —

(2) A governor appointed by the local education authority under regulation 19(4) of the First Transitional Regulations shall hold office for a term of four years;

(b)ym mharagraff 5, ar ôl “additional co-opted governor)”, mewnosodir “appointed for the purposes of the constitution or reconstitution of the governing body and”; ac

(c)ym mharagraff 9(1), yn lle “regulation” rhoddir “paragraph” ac yn lle “the appointed day”, rhoddir “1st September 1999”.

Diwygio'r Rheoliadau Trosiannol Cyntaf

20.  Yn rheoliad 13(10) o'r Rheoliadau Trosiannol Cyntaf, yn lle “paragraphs 1 to 10, 12, 13, 15 and 16”, rhoddir “paragraphs 1—11, 14 and 16”.

Diwygio'r Ail Reoliadau

21.  Yn yr Ail Reoliadau Trosiannol —

(a)yn rheoliad 33(8), yn lle “paragraphs 1 to 10, 12, 13, 15 and 16”, rhoddir “paragraphs 1—11, 14 and 16”; a

(b)yn lle rheoliad 57(7) rhoddir —

(7) Subject to paragraph (6), any governor to whom this regulation applies, other than a governor appointed by the National Assembly for Wales under section 18 of the 1998 Act (11) shall hold office for the remainder of the term for which he was appointed, but for no longer than four years from the appointed day..

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(12)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

19 Mehefin 2001

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Medi 2001. Maent yn diwygio Rheoliadau Addysg (Llywodraethu Ysgolion) (Cymru) 1999 y cyfeirir atynt fel “y prif reoliadau”. Mae effaith y diwygiadau yn cael ei hesbonio isod.

Mae rheoliad 5 yn darparu mai pedair blynedd fydd cyfnod llywodraethwr sefydledig yn ei swydd os na chydymffurfir â'r darpariaethau ynghylch hysbysu.

Mae rheoliad 7 yn diwygio prif reoliad 19 er mwyn sicrhau, os oes corff llywodraethu yn ystyried diswyddo llywodraethwr cyfetholedig ychwanegol, y caiff y corff a enwebodd y llywodraethwr hwnnw gyflwyno sylwadau yn y cyfarfod perthnasol ei hun.

Mae rheoliad 9 yn diwygio prif reoliadau 29 a 30 drwy fewnosod cyfeiriadau at adran 18 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998. Pan fydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru'n enwebu cadeirydd y corff llywodraethu yn achos ysgol y mae arni angen mesurau arbennig, mae hyn yn sicrhau na all y corff llywodraethu ddiswyddo'r sawl sydd wedi'i enwebu gan y Cynulliad Cenedlaethol. Mae rheoliad 9 hefyd yn diwygio prif reoliad 31 drwy ddileu hawl y cadeirydd i gael pleidlais fwrw yn ystod y rhan honno o unrhyw gyfarfod corff llywodraethu neu gorff llywodraethu dros dro pryd y mae cadeirydd y corff hwnnw i gael ei ethol.

Mae rheoliad 11 yn diwygio prif reoliad 37 drwy resymoli'r gofynion ynghylch y cworwm ar gyfer cyfarfodydd cyrff llywodraethu. Yn benodol, mae'n sicrhau bod angen cworwm o ddau draean er mwyn i gorff llywodraethu ddirprwyo swyddogaeth i bwyllgor neu unigolyn. Mae rheoliad 11 hefyd yn ymestyn y darpariaethau ynghylch y cworwm o ddau draean i sicrhau eu bod yn gymwys wrth ddiswyddo aelodau o gyrff llywodraethu dros dro ac wrth ethol cadeirydd corff llywodraethu a chorff llywodraethu dros dro.

Mae rheoliad 12 yn diwygio prif reoliad 38 i'w gwneud yn ofynnol bod penderfyniad corff llywodraethu i gau ysgol yn cael ei gadarnhau mewn ail gyfarfod o'r corff hwnnw a gynhelir o leiaf 28 diwrnod ar ôl y penderfyniad gwreiddiol. Mae hefyd yn atal trafodion corff llywodraethu rhag cael eu hanilysu oherwydd diffyg wrth benodi'r cadeirydd neu'r is-gadeirydd.

Mae rheoliad 13 yn diwygio prif reoliad 42 i atal cyrff llywodraethu rhag dirprwyo penderfyniadau ynghylch aelodaeth neu drafodion eu pwyllgorau. Mae'n darparu y gall penderfyniadau ar benodi a diswyddo clercod i'r corff llywodraethu neu i un o bwyllgorau'r corff llywodraethu, a chyfrifoldebau dros bennu targedau, gael eu dirprwyo i bwyllgorau ond nid i unigolion.

Mae rheoliad 14 yn diwygio prif reoliad 46 i'w gwneud yn ofynnol bod gweithdrefn un o bwyllgorau'r corff llywodraethu yn cael ei phenderfynu gan y corff llywodraethu ac i atal person nad yw'n aelod o'r corff llywodraethu rhag bod yn gadeirydd un o bwyllgorau'r corff llywodraethu. Mae rheoliad 14 hefyd yn diwygio prif reoliadau 47 a 49 i'w gwneud yn glir bod yr isafswm gofynion ynghylch cyfansoddiad pwyllgorau diswyddo staff, pwyllgorau apelau diswyddo a phwyllgorau derbyn hefyd yn gweithredu fel y cworwm ar gyfer cyfarfodydd y pwyllgorau hyn.

Mae rheoliad 15 yn mewnosod paragraffau (A1) a (A2) newydd ym mhrif reoliad 56, gan ganiatáu i bennaeth ysgol gael yr hawl i fynd i unrhyw un o gyfarfodydd unrhyw un o bwyllgorau ei chorff llywodraethu, ac eithrio yn achos pwyllgorau diswyddo staff, pwyllgorau apelau diswyddo, pwyllgorau disgyblu disgyblion neu os oes cyfyngiad penodol ar waith er mwyn sicrhau tegwch.

Mae rheoliad 16 yn diwygio Atodlen 7 i'r prif reoliadau. Mae'n ymestyn y cyfyngiad sy'n atal person rhag bod yn bresennol yn un o gyfarfodydd y corff llywodraethu lle mae penodiad y person hwnnw ei hun i swyddi penodol neu ei ddiswyddiad ohonynt yn cael ei ystyried, a hynny i gynnwys penodi i neu ddiswyddo o swydd is-gadeirydd y corff llywodraethu neu un o bwyllgorau'r corff llywodraethu. Mae'r cyfyngiad ar bleidleisio mewn cyfarfodydd o'r fath yn cael ei ymestyn yn yr un modd. Mae rheoliad 16 hefyd yn ei gwneud yn glir na chaiff aelod o'r staff fod yn bresennol mewn cyfarfod tra bydd penodiad olynydd i'r aelod staff hwnnw yn cael ei drafod, ac na chaiff bleidleisio ar y penodiad hwnnw.

Mae rheoliad 18 yn diwygio paragraff 4 o Atodlen 6 i'r prif reoliadau drwy ymestyn y gwaharddiad ar ailbenodi yn sgil methiant parhaus â mynychu cyfarfodydd i lywodraethwyr partneriaeth.

Mae rheoliad 19 yn cywiro rhai o'r darpariaethau trosiannol manwl a gynhwyswyd yn Atodlen 8 i'r prif reoliadau. Mae rheoliad 21 yn diwygio rheoliad 57 o Reoliadau Addysg (Trosi i Fframwaith Newydd) (Ysgolion Newydd, Grwpiau ac Amrywiol) 1999 er mwyn sicrhau nad yw'r uchafswm arferol o bedair blynedd yn gymwys ar gyfer cyfnod swydd llywodraethwr a benodir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas ag ysgol y mae arni angen mesurau arbennig.

Mae rheoliadau 4(2)(a), 6(1), 6(2)(a), 10, 12(a), 15(b), 16(1)(a), 18(b) a 19(c) yn cynnwys mân ddiwygiadau, naill ai i egluro ystyr y prif reoliadau neu o ganlyniad i ddiwygiadau o sylwedd a geir yn y Rheoliadau diwygio hyn.

Mae rheoliadau 4(1), 4(2)(b), 4(3), 6(2)(b), 8, 9(1)(c), 9(2)(b), 13(a)(i) a (iii), 14(4), 16(1)(b), 17, 20 a 21(a) yn cywiro gwallau drafftio.

(1)

Cafodd yr holl bwerau hyn eu rhoi i'r Ysgrifennydd Gwladol yn Neddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 a chafodd yr holl bwerau hyn mewn perthynas â Chymru, ac eithrio'r rhai a roddwyd gan adran 144, eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Cafodd y pwerau a roddwyd gan adran 144 eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2000 (O.S. 2000/253).

(2)

1998 p.31; i gael ystyr “prescribed” a “regulations” gweler adran 142(1).

(3)

I gael ystyr “ysgolion a gynhelir” (“maintained schools”) a “ysgolion newydd” (“new schools”) gweler y prif reoliadau.

(7)

Rhoes adran 18 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 y pŵer hwn i'r Ysgrifennydd Gwladol. Cafodd y pŵer mewn perthynas â Chymru ei drosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

(11)

Rhoddwyd y pŵer i benodi llywodraethwr i'r Ysgrifennydd Gwladol yn adran 18 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, ond cafodd y pŵer mewn perthynas â Chymru ei drosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

(12)

1998 p.38.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources