xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Comisiwn dros Weinyddu Lleol yng Nghymru a Chomisiynydd Lleol yng Nghymru (Swyddogaethau a Threuliau) 2001 a deuant i rym ar 28 Gorffennaf 2001.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys yng Nghymru yn unig.
(3) Yn y Rheoliadau hyn —
ystyr “Deddf 1974” (“the 1974 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 1974(1);
ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 2000.
(4) Onid yw'n ymddangos bod yna fwriad i'r gwrthwyneb, bydd i'r ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn yr ystyr a roddir iddynt yn Neddf 1974 neu yn Neddf 2000 (yn ôl fel y digwydd).