Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddygiad Aelodau (Egwyddorion) (Cymru) 2001 a daw i rym ar 28 Gorffennaf 2001.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i bob awdurdod perthnasol yng Nghymru.
Dehongli
2. Yn y Gorchymyn hwn—
mae “aelod” (“member”) yn cynnwys aelod cyfetholedig;
ystyr “aelod cyfetholedig” (“co-opted member”), mewn perthynas ag awdurdod perthnasol, yw person nad yw'n aelod o'r awdurdod hwnnw ond sydd—
(a)yn aelod o unrhyw un o bwyllgorau neu is-bwyllgorau'r awdurdod, neu
(b)yn aelod o unrhyw un o gyd-bwyllgorau neu o gyd-is-bwyllgorau'r awdurdod ac yn cynrychioli'r awdurdod arno,
ac y mae ganddo hawl i bleidleisio ar unrhyw gwestiwn sydd i'w benderfynu yn unrhyw un o gyfarfodydd y pwyllgor neu'r is-bwyllgor hwnnw; ac
ystyr “awdurdod perthnasol” (“relevant authority”) yw—
Yr egwyddorion sy'n llywodraethu ymddygiad aelodau awdurdodau perthnasol
3. Mae'r egwyddorion sydd i lywodraethu ymddygiad aelodau awdurdod perthnasol yng Nghymru wedi'u nodi yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
21 Mehefin 2001