2001 Rhif 2279 (Cy. 169 )
Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001
Wedi'u gwneud
Yn dod i rym
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 81(5) ac (8) o Ddeddf Llywodraeth Leol 20001.
Enw, cychwyn, cymhwyso a dehongli1
1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 28 Gorffennaf 2001.
2
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
3
Yn y Rheoliadau hyn —
mae “aelod” (“member”) yn cynnwys aelod cyfetholedig;
ystyr “awdurdod perthnasol” (“relevant authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol, cyngor cymuned, awdurdod tân neu awdurdod Parc Cenedlaethol;
ystyr “buddiant” (“interest”) yw buddiant y mae'n ofynnol ei gofrestru yng nghofrestr buddiannau'r awdurdod perthnasol;
ystyr “corff gwirfoddol” (“voluntary organisation”) yw corff (heblaw awdurdod lleol neu gorff cyhoeddus arall) sy'n cynnal ei weithgareddau heblaw ar gyfer gwneud elw;
acystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 2000.
Yr amgylchiadau lle gellir caniatáu gollyngiadau2
Caiff pwyllgor safonau awdurdod perthnasol ganiatáu gollyngiadau o dan adran 81(4) o'r Ddeddf —
a
os oes gan ddim llai na hanner aelodau'r awdurdod perthnasol neu hanner aelodau un o bwyllgorau'r awdurdod (yn ôl fel y digwydd) y mae'r busnes i gael ei ystyried ganddo fuddiant sy'n berthnasol i'r busnes hwnnw;
b
os oes gan ddim llai na hanner aelodau gweithrediaeth arweinydd a chabinet y mae'r busnes i gael ei ystyried ganddo fuddiant sy'n berthnasol i'r busnes hwnnw a bod naill ai paragraff (ch) neu baragraff (d) hefyd yn gymwys;
c
yn achos cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol, os byddai anallu aelod i gymryd rhan yn tarfu ar gydbwysedd gwleidyddol yr awdurdod perthnasol neu'r pwyllgor o'r awdurdod y mae'r busnes i'w ystyried ganddo i'r fath raddau nes y byddai'r canlyniad yn debygol o gael ei effeithio;
ch
os yw natur buddiant yr aelod yn gyfryw fel na fyddai cyfranogiad yr aelod yn y busnes y mae'r buddiant yn berthnasol iddo yn niweidio hyder y cyhoedd yn y modd y mae busnes yr awdurdod perthnasol yn cael ei gynnal;
d
os yw'r buddiant yn gyffredin i'r aelod ac i gyfran arwyddocaol o'r cyhoedd;
dd
os oes cyfiawnhad i'r aelod gymryd rhan yn y busnes y mae'r buddiant yn berthnasol iddo oherwydd rôl neu arbenigedd penodol yr aelod;
e
os yw'r busnes y mae'r buddiant yn berthnasol iddo i'w ystyried gan bwyllgor trosolygu a chraffu i'r awdurdod perthnasol ac nad yw buddiant yr aelod yn fuddiant ariannol;
f
os yw'r busnes sydd i'w ystyried yn berthnasol i arian neu eiddo corff gwirfoddol y mae'r aelod yn aelod o'i bwyllgor neu ei fwrdd rheoli heblaw fel cynrychiolydd yr awdurdod perthnasol ac nad oes gan yr aelod unrhyw fuddiant arall yn y busnes hwnnw ar yr amod na fydd unrhyw ollyngiad yn ymestyn i gymryd rhan mewn unrhyw bleidlais mewn perthynas â'r busnes hwnnw; neu
ff
os yw'n ymddangos i'r pwyllgor ei bod o les i drigolion ardal yr awdurdod perthnasol i'r anallu gael ei godi, ar yr amod bod hysbysiad ysgrifenedig bod y gollyngiad yn cael ei ganiatáu yn cael ei roi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o fewn saith diwrnod a hynny mewn unrhyw fodd y gall ei bennu.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19982.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)