xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 2279 (Cy. 169 )

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001

Wedi'u gwneud

21 Mehefin 2001

Yn dod i rym

28 Gorffennaf 2001

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 81(5) ac (8) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000(1).

Enw, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 28 Gorffennaf 2001.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

(3Yn y Rheoliadau hyn —

Yr amgylchiadau lle gellir caniatáu gollyngiadau

2.  Caiff pwyllgor safonau awdurdod perthnasol ganiatáu gollyngiadau o dan adran 81(4) o'r Ddeddf —

(a)os oes gan ddim llai na hanner aelodau'r awdurdod perthnasol neu hanner aelodau un o bwyllgorau'r awdurdod (yn ôl fel y digwydd) y mae'r busnes i gael ei ystyried ganddo fuddiant sy'n berthnasol i'r busnes hwnnw;

(b)os oes gan ddim llai na hanner aelodau gweithrediaeth arweinydd a chabinet y mae'r busnes i gael ei ystyried ganddo fuddiant sy'n berthnasol i'r busnes hwnnw a bod naill ai paragraff (ch) neu baragraff (d) hefyd yn gymwys;

(c)yn achos cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol, os byddai anallu aelod i gymryd rhan yn tarfu ar gydbwysedd gwleidyddol yr awdurdod perthnasol neu'r pwyllgor o'r awdurdod y mae'r busnes i'w ystyried ganddo i'r fath raddau nes y byddai'r canlyniad yn debygol o gael ei effeithio;

(ch)os yw natur buddiant yr aelod yn gyfryw fel na fyddai cyfranogiad yr aelod yn y busnes y mae'r buddiant yn berthnasol iddo yn niweidio hyder y cyhoedd yn y modd y mae busnes yr awdurdod perthnasol yn cael ei gynnal;

(d)os yw'r buddiant yn gyffredin i'r aelod ac i gyfran arwyddocaol o'r cyhoedd;

(dd)os oes cyfiawnhad i'r aelod gymryd rhan yn y busnes y mae'r buddiant yn berthnasol iddo oherwydd rôl neu arbenigedd penodol yr aelod;

(e)os yw'r busnes y mae'r buddiant yn berthnasol iddo i'w ystyried gan bwyllgor trosolygu a chraffu i'r awdurdod perthnasol ac nad yw buddiant yr aelod yn fuddiant ariannol;

(f)os yw'r busnes sydd i'w ystyried yn berthnasol i arian neu eiddo corff gwirfoddol y mae'r aelod yn aelod o'i bwyllgor neu ei fwrdd rheoli heblaw fel cynrychiolydd yr awdurdod perthnasol ac nad oes gan yr aelod unrhyw fuddiant arall yn y busnes hwnnw ar yr amod na fydd unrhyw ollyngiad yn ymestyn i gymryd rhan mewn unrhyw bleidlais mewn perthynas â'r busnes hwnnw; neu

(ff)os yw'n ymddangos i'r pwyllgor ei bod o les i drigolion ardal yr awdurdod perthnasol i'r anallu gael ei godi, ar yr amod bod hysbysiad ysgrifenedig bod y gollyngiad yn cael ei ganiatáu yn cael ei roi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o fewn saith diwrnod a hynny mewn unrhyw fodd y gall ei bennu.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

21 Mehefin 2001

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

O dan adran 51 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (“y Ddeddf”) mae'n ofynnol i gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol, awdurdodau tân ac awdurdodau Parciau Cenedlaethol yng Nghymru (“awdurdodau perthnasol”) fabwysiadu cod ymddygiad ar gyfer aelodau ac aelodau cyfetholedig sy'n gorfod ymgorffori unrhyw ddarpariaethau gorfodol o unrhyw god ymddygiad enghreifftiol a gyhoeddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 50(2) o'r Ddeddf.

Mae adran 81(1) a (2) o'r Ddeddf yn darparu bod yn rhaid i'r swyddog monitro ym mhob awdurdod perthnasol sefydlu a chadw cofrestr o fuddiannau aelodau ac aelodau cyfetholedig yr awdurdod a bod darpariaethau gorfodol y cod enghreifftiol sy'n gymwysadwy i bob awdurdod perthnasol yn gorfod ei gwneud yn ofynnol i aelodau ac aelodau cyfetholediog pob awdurdod gofrestru unrhyw fuddiannau ariannol ac eraill a bennir yn y darpariaethau gorfodol yng nghofrestr yr awdurdod hwnnw.

O dan adran 81(3) a (4) o'r Ddeddf rhaid i'r darpariaethau gorfodol hynny ei gwneud yn ofynnol hefyd i aelod neu aelod cyfetholedig o awdurdod perthnasol sydd â buddiant o'r fath ei ddatgelu cyn cymryd rhan mewn unrhyw fusnes gan yr awdurdod sy'n berthnasol i'r buddiant a gwneud darpariaeth i atal yr aelod neu'r aelod cyfetholedig hwnnw rhag cymryd rhan mewn unrhyw fusnes gan yr awdurdod y mae'r buddiant a ddatgelwyd yn berthnasol iddo neu i gyfyngu ar y rhan y mae'n ei chymryd ynddo.

Mae adran 81(4) o'r Ddeddf yn darparu nad yw unrhyw gyfranogiad gan aelod neu aelod cyfetholedig o awdurdod perthnasol mewn unrhyw fusnes a waherddir gan y darpariaethau gorfodol yn fethiant i gydymffurfio â chod ymddygiad yr awdurdod os yw'r aelod neu'r aelod cyfetholedig wedi gweithredu yn unol â gollyngiad rhag y gwaharddiad a gafodd ei ganiatáu gan bwyllgor safonau'r awdurdod yn unol â rheoliadau a wneir o dan is-adran (5).

Mae'r rheoliadau hyn yn rhagnodi'r amgylchiadau y caiff pwyllgorau safonau'r awdurdodau perthasol ganiatáu gollyngiadau o'r fath odanynt.