Search Legislation

Gorchymyn Cod Ymddygiad (Cyflogeion Cymwys Llywodraeth Leol) (Cymru) 2001

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 2280 (Cy.170)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Cod Ymddygiad (Cyflogeion Cymwys Llywodraeth Leol) (Cymru) 2001

Wedi'i wneud

21 Mehefin 2001

Yn dod i rym

28 Gorffennaf 2001

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 82(2) a 105(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000(1).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cod Ymddygiad (Cyflogeion Cymwys Llywodraeth Leol) (Cymru) 2001 a daw i rym ar 28 Gorffennaf 2001.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i bob awdurdod perthnasol yng Nghymru.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

  • ystyr “awdurdod perthnasol” (“relevant authority”) yw—

    (a)

    cyngor sir,

    (b)

    cyngor bwrdeistref sirol,

    (c)

    cyngor cymuned,

    (ch)

    awdurdod tân a gyfansoddwyd gan gynllun cyfuno o dan Ddeddf Gwasanaethau Tân 1947(2), neu

    (d)

    awdurdod Parc Cenedlaethol a sefydlwyd o dan adran 63 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995(3);

  • ystyr “cyflogai cymwys” (“qualifying employee”), mewn perthynas ag awdurdod perthnasol, yw cyflogai i'r awdurdod heblaw cyflogai sy'n dod o fewn unrhyw ddisgrifiad o gyflogeion a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 82(8) o'r Ddeddf (4);

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 2000.

Y cod ymddygiad ar gyfer cyflogai cymwys i awdurdod perthnasol

3.  Mae'r cod ynghylch yr ymddygiad a ddisgwylir oddi wrth gyflogai cymwys i awdurdod perthnasol wedi'i nodi yn yr Atodlen sydd ynghlwm wrth y Gorchymyn hwn.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

21 Mehefin 2001

Erthygl 3

ATODLENCOD YMDDYGIAD AR GYFER CYFLOGEION CYMWYS AWDURDODAU PERTHNASOL YNG NGHYMRU

Egwyddorion Cyffredinol

1.  Mae gan y cyhoedd hawl i ddisgwyl y safonau ymddygiad uchaf oddi wrth bob cyflogai cymwys(6) yn yr awdurdodau perthnasol(7). Rôl cyflogeion o'r fath yw gwasanaethu'r awdurdod sy'n eu cyflogi wrth iddo roi cyngor, rhoi ei bolisïau ar waith a chyflwyno gwasanaethau i'r gymuned leol. Wrth gyflawni eu dyletswyddau, rhaid iddynt weithredu yn union, yn onest, yn ddiduedd ac yn wrthrychol.

Atebolrwydd

2.  Mae cyflogeion cymwys yr awdurdodau perthnasol yn gweithio i'r awdurdod sy'n eu cyflogi ac yn gwasanaethu'r cyfan o'r awdurdod hwnnw. Maent yn atebol i'r awdurdod hwnnw ac mae arnynt ddyletswydd tuag ato. Rhaid iddynt weithredu yn unol â'r egwyddorion a nodir yn y Cod hwn, gan gydnabod dyletswydd holl gyflogeion y sector cyhoeddus i gyflawni swyddogaethau cyhoeddus yn rhesymol ac yn unol â'r gyfraith.

Amhleidioldeb Gwleidyddol

3.  Rhaid i gyflogeion cymwys yr awdurdodau perthnasol, p'un a ydynt o dan gyfyngiad gwleidyddol(8) neu beidio, ddilyn holl bolisïau'r awdurdod sydd wedi'u mynegi'n gyfreithlon a rhaid iddynt beidio â chaniatáu i'w barn bersonol neu wleidyddol hwy eu hunain ymyrryd â'u gwaith. Os yw'r cyflogeion cymwys o dan gyfyngiad gwleidyddol (oherwydd y swydd sydd ganddynt, natur y gwaith a wnânt, neu'r cyflog a delir iddynt), rhaid iddynt gydymffurfio ag unrhyw gyfyngiadau statudol ar eu gweithgareddau gwleidyddol.

Cysylltiadau ag aelodau, y cyhoedd a chyflogeion eraill

4.  Mae cyd-barch rhwng cyflogeion cymwys ac aelodau yn hanfodol ar gyfer llywodraeth leol dda, a dylai perthnasoedd gwaith gael eu cadw ar sail broffesiynol.

5.  Dylai cyflogeion cymwys yr awdurdodau perthnasol ymdrin â'r cyhoedd, aelodau a chyflogeion eraill gyda chydymdeimlad, yn effeithlon ac yn ddiduedd.

Cydraddoldeb

6.  Rhaid i gyflogeion cymwys yr awdurdodau perthnasol gydymffurfio â pholisïau sy'n ymwneud â materion cydraddoldeb, fel y cytunir arnynt gan yr awdurdod, yn ychwanegol at ofynion y gyfraith.

Stiwardiaeth

7.  Rhaid i gyflogeion cymwys yr awdurdodau perthnasol sicrhau eu bod yn defnyddio'r cronfeydd cyhoeddus a ymddiriedir iddynt mewn modd cyfrifol a chyfreithlon, a rhaid iddynt beidio â defnyddio eiddo, cerbydau na chyfleusterau eraill yr awdurdod at ddibenion personol oni bai eu bod wedi'u hawdurdodi i wneud hynny.

Buddiannau Personol

8.  Er mai mater iddynt hwythau yn unig yw bywyd preifat cyflogeion cymwys, rhaid iddynt beidio â chaniatáu i'w buddiannau preifat wrthdaro â'u dyletswydd gyhoeddus. Rhaid iddynt beidio â chamddefnyddio'u safle swyddogol na gwybodaeth a sicrheir yng nghwrs eu cyflogaeth i hybu eu buddiannau preifat, na buddiannau pobl eraill. Yn benodol, rhaid iddynt gydymffurfio â'r canlynol:

(1unrhyw reolau sydd gan eu hawdurdod perthnasol bod rhaid i gyflogeion gofrestru a datgan buddiannau ariannol a buddiannau anariannol,

(2unrhyw reolau sydd gan eu hawdurdod perthnasol bod rhaid i gyflogeion ddatgan lletygarwch neu roddion a gynigiwyd iddynt neu a gymerwyd ganddynt oddi wrth unrhyw berson neu gorff sy'n gwneud busnes neu'n ceisio gwneud busnes gyda'r awdurdod, neu sy'n manteisio neu'n ceisio manteisio mewn modd arall o gael perthynas â'r awdurdod. Rhaid i gyflogeion cymwys beidio â derbyn buddion oddi wrth drydydd parti oni bai bod eu hawdurdod perthnasol wedi'u hawdurdodi i wneud hynny.

Chwythu'r chwiban

9.  Os digwydd fod cyflogai cymwys yn dod i wybod am weithgareddau y mae'n credu eu bod yn anghyfreithlon, yn amhriodol, yn anfoesol neu fel arall yn anghyson â'r Cod hwn, dylai'r cyflogai roi gwybod am y mater, gan weithredu yn unol â'i hawliau o dan Ddeddf Datgelu er Lles y Cyhoedd 1998, ac â gweithdrefn yr awdurdod perthnasol ar gyfer rhoi gwybod yn gyfrinachol, neu unrhyw weithdrefn arall sydd wedi'i chynllunio at y diben hwn.

Ymdrin â Gwybodaeth

10.  Bod yn agored wrth ledaenu gwybodaeth ac wrth wneud penderfyniadau a ddylai fod yn arferol yn yr awdurdodau perthnasol. Er hynny, fe all gwybodaeth benodol fod yn gyfrinachol neu'n sensitif ac felly yn amhriodol ar gyfer cynulleidfa ehangach. Os oes angen bod yn gyfrinachol er mwyn diogelu preifatrwydd neu hawliau eraill unigolion neu gyrff, ni ddylai gwybodaeth gael ei rhyddhau i unrhyw un heblaw aelod, cyflogai i'r awdurdod perthnasol neu berson arall y mae ganddynt hawl i'w gael neu y mae angen iddynt gael ei gweld er mwyn cyflawni eu swyddogaethau'n iawn. Ni ellir cymryd bod dim yn y Cod hwn yn drech na'r rhwymedigaethau presennol yn y statudau neu'r gyfraith gyffredin i gadw gwybodaeth benodol yn gyfrinachol, neu i ddatgelu gwybodaeth benodol.

Penodi Staff

11.  Rhaid i gyflogeion cymwys yr awdurdodau perthnasol sy'n ymwneud â recriwtio a phenodi staff sicrhau bod penodiadau'n cael eu gwneud ar sail rhagoriaeth. Er mwyn osgoi unrhyw gyhuddiad posibl o duedd, rhaid i gyflogeion o'r fath beidio ag ymwneud ag unrhyw benodiad, nac unrhyw benderfyniadau eraill sy'n ymwneud â disgyblu, dyrchafu neu dâl ac amodau unrhyw gyflogai arall, neu ddarpar gyflogai, y maent yn perthyn iddynt, neu y mae ganddynt berthynas bersonol agos â hwy y tu allan i'r gwaith.

Ymchwiliadau gan Swyddogion Monitro

12.  Pan fydd swyddog monitro'n cynnal ymchwiliad yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 73(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000(9), rhaid i gyflogai cymwys gydymffurfio ag unrhyw ofynion a wneir gan y swyddog monitro hwnnw mewn cysylltiad ag ymchwiliad o'r fath.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae Rhan III o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (“y Ddeddf”) yn sefydlu fframwaith moesegol newydd ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru.

Mae adran 82(2) o'r Ddeddf yn darparu y caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy orchymyn, gyhoeddi cod ynghylch yr ymddygiad a ddisgwylir oddi wrth weithwyr cyflogedig penodol mewn awdurdodau perthnasol yng Nghymru (“y cod ymddygiad”).

Awdurdodau perthnasol yw cynghorau cymuned, cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol, awdurdodau tân ac awdurdodau Parc Cenedlaethol ond nid awdurdodau heddlu.

Y gweithwyr cyflogedig i'r awdurdodau perthnasol nad yw'r cod ymddygiad yn gymwys iddynt yw'r rhai sy'n dod o fewn unrhyw ddisgrifiad o weithwyr cyflogedig mewn rheoliadau a wneir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 82(8) o'r Ddeddf.

Yn rhinwedd adran 82(7) o'r Ddeddf, bernir bod telerau penodi neu amodau cyflogi gweithwyr cyflogedig i'r awdurdodau perthnasol y mae'r cod ymddygiad yn gymwys iddynt yn ymgorffori'r cod ymddygiad a nodir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.

(6)

Mae cyflogeion yr awdurdodau perthnasol yng Nghymru nad ydynt yn perthyn o fewn unrhyw ddisgrifiad o gyflogai a bennir yn Rheoliadau Cod Ymddygiad (Cyflogeion Anghymwys Llywodraeth Leol) (Cymru) 2001 (O.S. 2001/ (Cy. )) yn gyflogeion cymwys.

(7)

Ystyr awdurdod perthnasol, mewn perthynas â Chymru, yw cyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol neu gyngor cymuned, awdurdod tân a gyfansoddwyd gan gynllun cyfuno o dan Ddeddf Gwasanaethau Tân 1947 neu awdurdod Parc Cenedlaethol a sefydlwyd o dan adran 63 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995.

(8)

Mae cyflogai cymwys sy'n dal swydd sydd o dan gyfyngiad gwleidyddol yn cael ei anghymhwyso rhag dod yn aelod neu rhag parhau yn aelod o awdurdod perthnasol (gweler adrannau 1-3 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42) a Rheoliadau Swyddogion Llywodraeth Leol (Cyfyngiadau Gwleidyddol) 1990 (O.S. 1990/851) fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau Swyddogion Llywodraeth Leol (Cyfyngiadau Gwleidyddol) (Cymru) (Diwygio) 1999 (O.S. 1999/1665)).

(9)

Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) 2001 (O.S. 2001/ 2281 (Cy.171)).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources