Search Legislation

Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) 2001

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 2281 (Cy. 171 )

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) 2001

Wedi'u gwneud

21 Mehefin 2001

Yn dod i rym

28 Gorffennaf 2001

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y swyddogaethau a roddwyd iddo gan adran 73(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000(1) yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enw, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 28 Gorffennaf 2001.

(2Mae'r Rheoliadau yn gymwys i awdurdodau perthnasol yng Nghymru yn unig.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn:

  • ystyr “awdurdod perthnasol” (“relevant authority”) yw:

    • cyngor sir,

    • cyngor bwrdeistref sirol,

    • cyngor cymuned(2),

    • awdurdod tân a gyfansoddwyd gan gynllun cyfuno o dan Ddeddf Gwasanaethau Tân 1947(3), ac

    • awdurdod Parc Cenedlaethol a sefydlwyd o dan adran 63 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995(4); ac

  • ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 2000.

Swyddogaethau swyddogion monitro

3.—(1Pan fydd unrhyw fater yn cael ei gyfeirio at swyddog monitro awdurdod perthnasol o dan adran 70(4) o Ddeddf 2000, rhaid i'r swyddog monitro mewn perthynas â'r mater hwnnw:

(a)cynnal ymchwiliad; a

(b)cyflwyno adroddiad ac, os yw'n briodol, gwneud argymhellion i Bwyllgor Safonau'r awdurdod perthnasol.

(2Pan fydd unrhyw fater yn cael ei gyfeirio at swyddog monitro awdurdod perthnasol o dan adran 71(2) o Ddeddf 2000, rhaid i'r swyddog monitro ystyried unrhyw adroddiad sy'n cael ei anfon ato gan Gomisiynydd Lleol yng Nghymru ac, os yw'n briodol, gwneud argymhellion i Bwyllgor Safonau'r awdurdod perthnasol.

Ymchwiliadau

4.—(1Wrth gynnal ymchwiliad o dan Reoliad 3(1)(a) uchod caiff y swyddog monitro ddilyn unrhyw weithdrefnau y mae'n barnu eu bod yn briodol yn amgylchiadau'r achos ac yn benodol fe gaiff:

(a)holi unrhyw berson ynghylch unrhyw beth y mae'n credu ei fod yn angenrheidiol er mwyn cyflawni'r ymchwiliad,

(b)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson roi unrhyw wybodaeth, esboniad neu ddogfennau iddo y mae'n barnu eu bod yn angenrheidiol,

(c)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw aelod neu aelod cyfetholedig neu swyddog awdurdod perthnasol ymddangos ger ei fron at ddibenion paragraff (a) a (b) uchod.

(2Wrth gynnal yr ymchwiliad, gall y swyddog monitro gael ei gynorthwyo gan unrhyw berson.

(3Caiff y swyddog monitro sicrhau cyngor arbenigol neu gyngor arall hefyd pan fydd eu hangen oddi wrth unrhyw berson sy'n arbennig o gymwys ym marn y swyddog i'w gynorthwyo wrth gynnal yr ymchwiliad.

(4Pan fydd person wedi dod gerbron y swyddog monitro neu wedi rhoi gwybodaeth neu gymorth at ddibenion yr ymchwiliad yn unol â pharagraffau (1) neu (2) uchod, caiff y swyddog monitro, yn ddarostyngedig i awdurdodiad y Pwyllgor Safonau, dalu i'r person hwnnw:

(a)unrhyw symiau ar gyfer treuliau a dynnwyd yn briodol ganddo, a

(b)unrhyw lwfansau i'w ddigolledu am ei golled amser,

a bennir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(5Pan fydd person wedi rhoi cyngor yn unol â pharagraff (3) uchod, caiff y swyddog monitro dalu unrhyw ffioedd neu lwfansau a dynnwyd i'r person hwnnw yn ddarostyngedig i'r uchafsymiau a nodir yng nghynllun lwfansau'r awdurdod perthnasol.

Cyfyngiadau ar ddatgelu gwybodaeth

5.—(1Rhaid peidio â datgelu gwybodaeth a sicrhawyd gan swyddog monitro wrth gynnal ymchwiliad oni bai:

(a)bod y datgelu yn cael ei wneud er mwyn galluogi swyddog monitro neu bwyllgor safonau i gyflawni eu swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn;

(b)bod y datgelu yn cael ei wneud er mwyn galluogi Comisiynydd Lleol yng Nghymru i gyflawni ei swyddogaethau;

(c)bod y person y mae'r wybodaeth yn ymwneud ag ef wedi cydsynio i'w datgelu;

(ch)bod yr wybodaeth wedi'i datgelu o'r blaen i'r cyhoedd gydag awdurdod cyfreithlon;

(d)mai datgelu at ddibenion achos troseddol mewn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig yw'r datgelu ac na chafwyd yr wybodaeth o dan sylw o ganlyniad i ymholiadau personol i'r person sy'n destun achos troseddol o dan Reoliad 4 uchod; neu

(dd)bod y datgelu yn cael ei wneud i'r Comisiwn Archwilio at ddibenion unrhyw swyddogaeth sydd gan Gomisiwn Archwilio neu Archwilydd o dan Ddeddf y Comisiwn Archwilio 1998(5).

(2Yn y Rheoliad hwn, a Rheoliad 4 uchod, mae unrhyw gyfeiriad at ddogfennau yn cynnwys cyfeiriad at wybodaeth a ddelir trwy gyfrwng cyfrifiadur neu ar unrhyw ffurf electronig arall.

Adroddiadau

6.  Ar ôl cwblhau ymchwiliad, rhaid i'r swyddog monitro:

(a)lunio adroddiad ar gasgliadau ei ymchwiliad ac, os yw'n briodol, caiff wneud argymhellion i Bwyllgorau Safonau'r awdurdod perthnasol o dan sylw,

(b)anfon copi o'r adroddiad at unrhyw berson sy'n destun yr ymchwiliad, ac

(c)cymryd camau rhesymol i anfon copi o'r adroddiad at unrhyw berson a wnaeth unrhyw honiad a arweiniodd at yr ymchwiliad.

Swyddogaethau'r Pwyllgor Safonau

7.  Ar ôl cael adroddiad ac unrhyw argymhellion oddi wrth y swyddog monitro, neu adroddiad oddi wrth Gomisiynydd Lleol yng Nghymru ynghyd ag unrhyw argymhellion gan y swyddog monitro, rhaid i'r Pwyllgor Safonau ddyfarnu naill ai:

(a)nad oes dim tystiolaeth o unrhyw fethu â chydymffurfio â chod ymddygiad yr awdurdod perthnasol o dan sylw a rhaid iddo hysbysu unrhyw berson sy'n destun yr ymchwiliad, unrhyw berson a wnaeth unrhyw honiad a arweiniodd at yr ymchwiliad a'r Comisiynydd Lleol yng Nghymru yn unol â hyn; neu

(b)bod unrhyw berson sy'n destun yr ymchwiliad yn cael cyfle i gyflwyno sylwadau, naill ai ar lafar neu'n ysgrifenedig, mewn perthynas â chasgliadau'r ymchwiliad ac unrhyw honiad ei fod wedi methu, neu y gallai fod wedi methu, â chydymffurfio â chod ymddygiad yr awdurdod perthnasol.

Gweithdrefn a Phwerau Pwyllgorau Safonau

8.—(1Yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth bendant yn y Rheoliadau hyn neu yn Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) 2001(6), mater i Bwyllgor Safonau'r awdurdod perthnasol fydd penderfynu ar yr arferion a'r weithdrefn sydd i'w dilyn wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn.

(2Caiff Pwyllgor Safonau'r awdurdod perthnasol ei gwneud yn ofynnol i'r swyddog ymchwilio ddod ger ei fron pan fydd yn ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynir gan unrhyw berson sy'n destun yr ymchwiliad (neu os na chyflwynir unrhyw sylwadau o'r fath, ar unrhyw adeg resymol), er mwyn cyflwyno ei adroddiad neu esbonio unrhyw un o'r materion sydd wedi'i gynnwys ynddo (ond nid fel arall).

(3Ym mharagraff (2) uchod, ystyr “swyddog ymchwilio” yw:

(a)yn achos ymchwiliad a wnaed gan Gomisiynydd Lleol yng Nghymru neu ar ei ran ac a gyfeiriwyd at swyddog monitro'r awdurdod perthnasol o dan adran 71(2) o Ddeddf 2000, y person a gynhaliodd yr ymchwiliad; neu

(b)yn achos ymchwiliad a gyfeiriwyd ato o dan adran 70 (4) o Ddeddf 2000, swyddog monitro'r awdurdod perthnasol.

(4Os nad yw unrhyw berson sy'n destun yr ymchwiliad yn cyflwyno sylwadau yn unol â Rheoliad 7(b) uchod, fe all y Pwyllgor Safonau:

(a)oni bai ei fod wedi'i fodloni bod rheswm digonol dros y methiant hwnnw, ystyried adroddiad y swyddog monitro a gwneud dyfarniad yn absenoldeb y person hwnnw; neu

(b)rhoi cyfle ychwanegol i'r person hwnnw gyflwyno sylwadau.

(5Pan fo'n briodol, ac yn unol â darpariaethau'r Rheoliadau hyn, mae gan y Pwyllgor Safonau bŵ er i geryddu unrhyw aelod neu aelod cyfetholedig (neu gyn-aelod neu gyn-aelod cyfetholedig) o'r awdurdod perthnasol, neu i atal neu i atal yn rhannol aelod neu aelod cyfetholedig am gyfnod heb fod yn fwy na chwe mis.

(6Rhaid i unrhyw gyfnod atal neu atal yn rhannol ddechrau ar y diwrnod:

(a)ar ôl i'r amser a ganiateir i gyflwyno hysbysiad apêl o dan Reoliad 10(2) isod ddod i ben,

(b)ar ôl i hysbysiad ynghylch casgliad unrhyw apêl yn unol â Rheoliad 12(a)(i) neu (b) isod ddod i law, neu

(c)ar ôl dyfarniad pellach gan y Pwyllgor Safonau a wnaed ar ôl cael argymhelliad gan dribiwnlys apelau o dan Reoliad 12(a)(ii) isod,

p'un bynnag sy'n digwydd olaf.

Dyfarniadau'r Pwyllgor Safonau

9.—(1Ar ôl ystyried unrhyw sylwadau, rhaid i Bwyllgor Safonau ddyfarnu:

(a)nad oes dim tystiolaeth o unrhyw fethu â chydymffurfio â chod ymddygiad yr awdurdod perthnasol ac felly nad oes angen cymryd dim camau mewn perthynas â'r materion sy'n destun yr ymchwiliad;

(b)bod aelod neu aelod cyfetholedig (neu gyn-aelod neu gyn-aelod cyfetholedig) o awdurdod perthnasol wedi methu â chydymffurfio â chod ymddygiad yr awdurdod perthnasol ond nad oes angen cymryd dim camau mewn perthynas â'r methiant hwnnw;

(c)bod aelod neu aelod cyfetholedig (neu gyn-aelod neu gyn-aelod cyfetholedig) o'r awdurdod perthnasol wedi methu â chydymffurfio â chod ymddygiad yr awdurdod ac y dylai gael ei geryddu; neu

(ch)bod aelod neu aelod cyfetholedig o awdurdod perthnasol wedi methu â chydymffurfio â chod ymddygiad yr awdurdod ac y dylai gael ei atal neu ei atal yn rhannol rhag bod yn aelod neu'n aelod cyfetholedig o'r awdurdod hwnnw am gyfnod heb fod yn fwy na chwe mis.

(2Pan fydd tribiwnlys apelau a dynnir o blith aelodau Panel Dyfarnu Cymru yn gwneud argymhelliad yn unol â Rheoliad 12(a)(ii) isod y dylid gosod cosb wahanol, rhaid i'r Pwyllgor Safonau ddyfarnu hefyd a ddylai gadarnhau ei ddyfarniad gwreiddiol neu beidio, neu dderbyn yr argymhelliad.

(3Ar ôl gwneud dyfarniad yn unol â pharagraff (1) neu (2) uchod rhaid i'r Pwyllgor Safonau hysbysu unrhyw berson sy'n destun yr ymchwiliad, unrhyw berson a wnaeth unrhyw honiad a arweiniodd at yr ymchwiliad a'r Comisiynydd Lleol yng Nghymru yn unol â hynny, gan roi'r rhesymau dros y penderfyniad.

(4Ar ôl gwneud dyfarniad yn unol â pharagraff (2) uchod rhaid i'r Pwyllgor Safonau hefyd hysbysu llywydd Panel Dyfarnu Cymru.

Yr hawl i apelio

10.—(1Pan fydd Pwyllgor Safonau yn dyfarnu o dan Reoliad 9(1) uchod fod person wedi methu â chydymffurfio â chod ymddygiad yr awdurdod perthnasol o dan sylw, caiff y person hwnnw apelio yn erbyn y dyfarniad i dribiwnlys a dynnir o blith aelodau Panel Dyfarnu Cymru

(2Rhaid cychwyn yr apêl drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig cyn pen 21 diwrnod ar ôl cael hysbysiad am ddyfarniad y Pwyllgor Safonau i'r cyfeiriad hwn:

Yr Is-adran Moderneiddio Llywodraeth Leol

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Parc Cathays

Caerdydd

CF10 3NQ

(3Rhaid i'r hysbysiad apêl nodi:

(a)y seiliau dros yr apêl; a

(b)a yw'r person sy'n rhoi'r hybysiad apêl yn cydsynio neu beidio i'r apêl gael ei chynnal drwy gyfrwng sylwadau ysgrifenedig.

Apelau

11.—(1Bydd apelau sy'n deillio o ddyfarniad Pwyllgor Safonau yn cael eu cynnal:

(a)gan dribiwnlys apelau sy'n cynnwys o leiaf dri aelod o Banel Dyfarnu Cymru,

(b)drwy gyfrwng gwrandawiad llafar oni bai bod pob person sydd wedi rhoi hysbysiad apêl yn cydsynio i'r apêl gael ei chynnal drwy gyfrwng sylwadau ysgrifenedig yn unol â Rheoliad 10(3)(b) uchod.

(2Mae llywydd Panel Dyfarnu Cymru (neu yn ei absenoldeb y dirprwy lywydd) i benodi aelodau unrhyw dribiwnlys apelau, ac fe gaiff y llywydd neu'r dirprwy lywydd fod yn aelod o dribiwnlys.

(3Ni chaiff aelod o Banel Dyfarnu Cymru fod yn aelod o dribiwnlys apelau a dynnwyd o blith y Panel sydd i ddyfarnu ar fater sy'n ymwneud ag aelod neu aelod cyfetholedig (neu gyn-aelod neu gyn-aelod cyfetholedig) o awdurdod perthnasol ar unrhyw adeg, os yw'r aelod o'r Panel o fewn y cyfnod o bum mlynedd sy'n dod i ben bryd hynny, wedi bod yn aelod neu'n swyddog o'r awdurdod neu'n aelod o unrhyw bwyllgor, is-bwyllgor, cyd-bwyllgor neu gyd-is-bwyllgor i'r awdurdod.

(4Rhaid i aelod o Banel Dyfarnu Cymru y mae ganddo fuddiant uniongyrchol neu anuniongyrchol mewn unrhyw fater sy'n destun apêl sy'n cael ei chynnal gan dribiwnlys apelau, neu'n debyg o fod yn destun apêl o'r fath:

(a)datgelu natur ei fuddiant i lywydd y Panel, a

(b)peidio â bod yn aelod o'r tribiwnlys apelau sy'n ystyried apêl mewn perthynas â'r mater hwnnw.

(5Yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth bendant yn y Rheoliadau hyn, bydd yr arferion a'r weithdrefn sydd i'w dilyn gan dribiwnlysoedd apelau a dynnir o blith aelodau Panel Dyfarnu Cymru yn rhai y bydd llywydd y Panel, ar ôl ymgynghori â Chynulliad Cenedlaethol Cymru, yn penderfynu arnynt.

Casgliadau tribiwnlys apelau

12.  Rhaid i dribiwnlys apelau:

(a)cadarnhau dyfarniad Pwyllgor Safonau'r awdurdod perthnasol fod unrhyw berson a oedd yn destun yr ymchwiliad wedi torri'r cod ymddygiad a naill ai:

(i)cymeradwyo unrhyw gosb a osodwyd, neu

(ii)cyfeirio'r mater yn ôl i'r Pwyllgor Safonau gydag argymhelliad bod cosb wahanol yn cael ei gosod;

neu,

(b)gwrth-droi dyfarniad Pwyllgor Safonau'r awdurdod perthnasol bod unrhyw berson wedi torri'r cod ymddygiad,

a rhaid iddo roi gwybod i unrhyw berson sy'n destun yr ymchwiliad, y Comisiynydd Lleol yng Nghymru a Phwyllgor Safonau'r awdurdod perthnasol yn unol â hyn, gan roi'r rhesymau dros y penderfyniad.

Cyhoeddi

13.—(1Rhaid i Bwyllgor Safonau drefnu bod y canlynol yn cael ei wneud o fewn 14 diwrnod:

(a)ar ôl i'r amser a ganiateir i gyflwyno hysbysiad apêl o dan Reoliad 10(2) uchod ddod i ben,

(b)ar ôl i hysbysiad o gasgliad unrhyw apêl yn unol â Rheoliad 12(a)(i) neu (b) uchod ddod i law, neu

(c)ar ôl dyfarniad pellach gan y Pwyllgor Safonau a wnaed ar ôl cael argymhelliad gan dribiwnlys apelau o dan Reoliad 12(a)(ii) uchod,

p'un bynnag sy'n digwydd olaf, adroddiad ar ganlyniad yr ymchwiliad ac anfon copi at y Comisiynydd Lleol yng Nghymru, swyddog monitro'r awdurdod perthnasol o dan sylw, unrhyw berson sy'n destun yr ymchwiliad a chymryd camau rhesymol i anfon copi at unrhyw berson a wnaeth unrhyw honiad a arweiniodd at yr ymchwiliad.

(2Ar ôl i adroddiad y Pwyllgor Safonau ddod i law, rhaid i swyddog monitro'r awdurdod perthnasol:

(a)am gyfnod o 21 diwrnod gyhoeddi'r adroddiad ar wefan yr awdurdod perthnasol a threfnu bod copïau ar gael i'w harchwilio gan y cyhoedd yn ddi-dâl ar bob adeg resymol mewn un neu ragor o swyddfeydd yr awdurdod, lle bydd gan unrhyw berson hawl i gymryd copïau o'r adroddiad pan drefnir iddo fod ar gael felly, neu i gymryd detholiadau ohono,

(b)darparu copi o'r adroddiad i unrhyw berson ar gais os bydd yn talu unrhyw dâl y bydd yr awdurdod perthnasol yn gofyn yn rhesymol amdano, ac

(c)erbyn saith diwrnod fan bellaf ar ôl i'r adroddiad dod i law oddi wrth y Pwyllgor Safonau, rhoi hysbysiad cyhoeddus, drwy hysbyseb mewn papurau newydd sy'n cylchredeg yn yr ardal ac mewn unrhyw ffyrdd arall sy'n ymddangos iddo eu bod yn briodol, y bydd copïau o'r adroddiad ar gael fel y darperir ar ei gyfer gan is-baragraffau (a) a (b) uchod, a rhaid iddo bennu'r dyddiad (sef dyddiad nad yw'n fwy na saith diwrnod ar ôl i'r hysbysiad cyhoeddus gael ei roi gyntaf) pan fydd y cyfnod o 21 diwrnod yn dechrau.

Cynrychiolaeth

14.  Caiff person sy'n cyflwyno sylwadau llafar i Bwyllgor Safonau neu sy'n apelio yn erbyn penderfyniad gan Bwyllgor Safonau i dribiwnlys apelau sy'n cael ei dynnu o blith aelodau Panel Dyfarnu Cymru ymddangos gerbron y Pwyllgor neu'r tribiwnlys yn bersonol neu gael ei gynrychioli —

(a)gan gwnsler neu gyfreithiwr, neu

(b)gan unrhyw berson arall y mae'n ei ddymuno.

Costau

15.—(1Ni fydd gan Bwyllgor Safonau awdurdod perthnasol unrhyw bŵ er i ddyfarnu unrhyw gostau neu dreuliau sy'n codi o unrhyw un o'i achosion.

(2Fel rheol rhaid i dribiwnlys apelau beidio â gwneud gorchymyn yn dyfarnu costau neu dreuliau, ond, yn ddarostyngedig i baragraff (3), caiff wneud gorchymyn o'r fath:

(a)yn erbyn person os yw o'r farn fod y person hwnnw wedi gweithredu'n wacsaw neu'n flinderus, neu fod ei ymddygiad wrth fynd ar drywydd apêl yn hollol afresymol;

(b)oherwydd gohirio gwrandawiad.

(3Rhaid peidio â gwneud unrhyw orchymyn o dan baragraff (2)(a) uchod yn erbyn person heb roi cyfle i'r person hwnnw gyflwyno sylwadau yn erbyn gwneud gorchymyn o'r fath.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(7).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

21 Mehefin 2001

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

Mae adran 51 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (“Deddf 2000”) yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i fabwysiadu codau ynghylch yr ymddygiad a ddisgwylir oddi wrth eu haelodau a'u haelodau cyfetholedig.

O dan adran 69 o Ddeddf 2000 caiff Comisiynydd Lleol yng Nghymru ymchwilio i unrhyw doriad honedig gan aelodau neu aelodau cyfetholedig (neu gyn-aelodau neu gyn-aelodau cyfetholedig) o god ymddygiad awdurdod lleol yng Nghymru.

Pan fydd Comisiynydd Lleol yng Nghymru yn rhoi'r gorau i ymchwiliad o'r fath cyn iddo gael ei gwblhau (o dan adran 70(4) o Ddeddf 2000) gall gyfeirio'r mater sy'n destun yr ymchwiliad at swyddog monitro'r awdurdod lleol perthnasol.

Fel arall, pan fydd Comisiynydd Lleol yng Nghymru yn dyfarnu ar ôl ymchwiliad (o dan adran 71(2) o Ddeddf 2000) ei bod yn briodol, rhaid iddo gyfeirio'r mater at swyddog monitro'r awdurdod perthnasol, llunio adroddiad ar ganlyniad yr ymchwiliad a'i anfon at y swyddog monitro a Phwyllgor Safonau'r awdurdod.

Mae adran 73 o Ddeddf 2000 yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud rheoliadau sy'n pennu sut y dylid ymdrin â materion o'r fath sy'n cael eu cyfeirio.

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu y bydd swyddog monitro'r awdurdod perthnasol:

(a)yn ymchwilio i'r materion a gyfeirir o dan adran 70(4) cyn cyflwyno adroddiad ac, os yw'n briodol, gwneud argymhellion i Bwyllgor Safonau'r awdurdod perthnasol, neu

(b)os bydd mater wedi'i gyfeirio o dan adran 71(2), bydd yn ystyried adroddiad y Comisiynydd Lleol yng Nghymru cyn gwneud argymhellion, os yw'n briodol, i Bwyllgor Safonau'r awdurdod perthnasol.

Bydd y Pwyllgor Safonau yn gwneud dyfarniad cychwynnol wedyn naill ai:

(a)nad oes dim tystiolaeth o fethu â chydymffurfio â'r cod ymddygiad, neu

(b)bod rhaid rhoi cyfle i unrhyw berson sy'n destun yr ymchwiliad ymateb, naill ai ar lafar neu'n ysgrifenedig.

Ar ôl ystyried unrhyw ymateb a wneir gan unrhyw berson o'r fath rhaid i'r Pwyllgor Safonau ddod i'r casgliad:

(a)nad oes dim tystiolaeth o fethu â chydymffurfio â'r cod ymddygiad ac na ddylid cymryd dim camau pellach,

(b)bod yna dystiolaeth o fethu â chydymffurfio â'r cod ymddygiad ond na ddylid cymryd dim camau pellach, neu

(c)bod yna dystiolaeth o fethu â chydymffurfio â'r cod ymddygiad ac y dylai aelod neu aelod cyfetholedig (neu gyn-aelod neu gyn-aelod cyfetholedig) gael ei geryddu neu ei atal,

a chymryd unrhyw gamau o'r fath yn unol â hynny.

Mae penderfyniad y Pwyllgor Safonau yn ddarostyngedig i hawl i apelio i dribiwnlys apelau a dynnir o blith Panel Dyfarnu Cymru.

Caiff tribiwnlys apelau gadarnhau dyfarniad y Pwyllgor Safonau, cyfeirio mater yn ôl iddo gan argymell y dylai osod cosb wahanol, neu wrth-droi'r dyfarniad.

Mae'r Rheoliadau yn darparu hefyd fod adroddiad ar ganlyniad yr ymchwiliad yn cael ei lunio a'i gyhoeddi.

(2)

Yn rhinwedd adran 56(7) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 mae unrhyw swyddogaeth sy'n arferadwy yn rhinwedd darpariaethau'r Rheoliadau hyn gan Bwyllgor Safonau awdurdod perthnasol neu mewn perthynas ag ef, sef awdurdod perthnasol sy'n gyngor cymuned i gael ei harfer gan neu mewn perthynas â'r canlynol; pwyllgor safonau'r cyngor sir neu'r cyngor bwrdeistref sirol y mae'r cyngor cymuned wedi'i leoli yn ei ardal; neu pan fydd pwyllgor safonau'r cyngor sir neu'r cyngor bwrdeistref sirol hwnnw wedi penodi is-bwyllgor, yr is-bwyllgor hwnnw.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources