- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) 2001, Adran 9.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
9.—(1) Ar ôl ystyried unrhyw sylwadau, rhaid i Bwyllgor Safonau ddyfarnu:
(a)nad oes dim tystiolaeth o unrhyw fethu â chydymffurfio â chod ymddygiad yr awdurdod perthnasol ac felly nad oes angen cymryd dim camau mewn perthynas â'r materion sy'n destun yr ymchwiliad;
(b)bod aelod neu aelod cyfetholedig (neu gyn-aelod neu gyn-aelod cyfetholedig) o awdurdod perthnasol wedi methu â chydymffurfio â chod ymddygiad yr awdurdod perthnasol ond nad oes angen cymryd dim camau mewn perthynas â'r methiant hwnnw;
(c)bod aelod neu aelod cyfetholedig (neu gyn-aelod neu gyn-aelod cyfetholedig) [F1o awdurdod perthnasol] wedi methu â chydymffurfio â chod ymddygiad yr awdurdod ac y dylai gael ei geryddu; neu
(ch)bod aelod neu aelod cyfetholedig o awdurdod perthnasol wedi methu â chydymffurfio â chod ymddygiad yr awdurdod ac y dylai gael ei atal neu ei atal yn rhannol rhag bod yn aelod neu'n aelod cyfetholedig o'r awdurdod hwnnw am gyfnod heb fod yn fwy na chwe mis [F2neu am weddill cyfnod y person hwnnw yn y swydd, os yw’n gyfnod byrrach] .
(2) Pan fydd tribiwnlys apelau a dynnir o blith aelodau Panel Dyfarnu Cymru yn gwneud argymhelliad yn unol â [F3rheoliad 12(1)(a)(ii)] isod y dylid gosod cosb wahanol, rhaid i'r Pwyllgor Safonau ddyfarnu hefyd a ddylai gadarnhau ei ddyfarniad gwreiddiol neu beidio, neu dderbyn yr argymhelliad.
[F4(3) Ar ôl gwneud dyfarniad yn unol â pharagraff (1) neu (2) rhaid i’r Pwyllgor Safonau hysbysu:
(a)y person neu’r personau sy’n destun yr ymchwiliad;
[F5(aa)pan fo testun yr ymchwiliad yn aelod neu’n aelod cyfetholedig o gyd-bwyllgor corfforedig a’i fod hefyd yn aelod neu’n aelod cyfetholedig o—
(i)cyngor cyfansoddol y cyd-bwyllgor corfforedig;
(ii)awdurdod Parc Cenedlaethol y mae’n ofynnol iddo gan reoliadau o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 benodi aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig,
swyddog monitro’r cyngor cyfansoddol hwnnw neu’r awdurdod Parc Cenedlaethol hwnnw;]
(b)y person neu’r personau sy’n gwneud yr honiad o gamymddygiad sy’n arwain at yr ymchwiliad;
(c)Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru; ac
(d)pan fo’r Pwyllgor Safonau wedi gwneud ei ddyfarniad yn unol â threfniadau â swyddog monitro neu Bwyllgor Safonau awdurdod perthnasol arall, Bwyllgor Safonau’r awdurdod hwnnw.]
(4) Ar ôl gwneud dyfarniad yn unol â pharagraff (2) uchod rhaid i'r Pwyllgor Safonau hefyd hysbysu llywydd Panel Dyfarnu Cymru.
[F6(5) Rhaid i hysbysiad a roddir o dan baragraffau (3) a (4) gynnwys y rhesymau dros y dyfarniad.]
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 9(1)(c) wedi eu hamnewid (1.4.2016) gan Rheoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau Safonau, Ymchwiliadau, Gollyngiadau ac Atgyfeirio) (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/85), rhlau. 1(1), 3(9)(a)(i)
F2Geiriau yn rhl. 9(1)(ch) wedi eu mewnosod (1.4.2016) gan Rheoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau Safonau, Ymchwiliadau, Gollyngiadau ac Atgyfeirio) (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/85), rhlau. 1(1), 3(9)(a)(ii)
F3Geiriau yn rhl. 9(2) wedi eu hamnewid (5.8.2022) gan Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) (Diwygio) 2022 (O.S. 2022/802), rhlau. 1, 9(a)
F4Rhl. 9(3) wedi ei amnewid (1.4.2016) gan Rheoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau Safonau, Ymchwiliadau, Gollyngiadau ac Atgyfeirio) (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/85), rhlau. 1(1), 3(9)(b)
F5Rhl. 9(3)(aa) wedi ei fewnosod (5.8.2022) gan Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) (Diwygio) 2022 (O.S. 2022/802), rhlau. 1, 9(b)
F6Rhl. 9(5) wedi ei fewnosod (1.4.2016) gan Rheoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau Safonau, Ymchwiliadau, Gollyngiadau ac Atgyfeirio) (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/85), rhlau. 1(1), 3(9)(c)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 9 mewn grym ar 28.7.2001, gweler rhl. 1(1)
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: