Search Legislation

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Cymru) 2001

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 2284 (Cy.173)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Cymru) 2001

Wedi'u gwneud

21 Mehefin 2001

Yn dod i rym

28 Gorffennaf 2001

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 31(1) a 32(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000(1).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 28 Gorffennaf 2001.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) (ac eithrio lle mae'r cyd-destun yn mynnu fel arall) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol sy'n gweithredu trefniadau amgen;

  • ystyr “Bwrdd” (“Board”) yw pwyllgor awdurdod lleol a sefydlir o dan reoliad 4(1)(a) sydd wedi'i sefydlu i arfer y swyddogaethau a grybwyllir yn rheoliad 7 ac a adnabyddir fel Bwrdd y Cyngor neu unrhyw deitl arall y darperir ar ei gyfer yn rheolau sefydlog yr awdurdod lleol;

  • ystyr “corff perthnasol” (“relevant body”) at ddibenion rheoliadau 13 a 19 yw awdurdod lleol neu Fwrdd;

  • ystyr “Deddf 1972” (“the 1972 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 1972(2);

  • ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 2000;

  • ystyr “grwp gwleidyddol” (“political group”) yw grwp gwleidyddol yn unol â rheoliad 8 o Reoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau a Grwpiau Gwleidyddol) 1990(3);

  • ystyr “prif bwyllgor craffu” (“principal scrutiny committee”) yw pwyllgor neu is-bwyllgor i'r awdurdod a sefydlir o dan reoliad 4(1);

  • ystyr “pwyllgor archwilio” (“audit committee”) yw pwyllgor i awdurdod lleol a sefydlir o dan reoliad 4(2)(ch) sy'n cael ei sefydlu i arfer swyddogaethau yn unol â rheoliad 5(7) ac a adnabyddir fel y Pwyllgor archwilio neu unrhyw deitl arall y darperir ar ei gyfer yn rheolau sefydlog yr awdurdod lleol;

  • ystyr “pwyllgor ardal” (“area committee”) yw pwyllgor neu is-bwyllgor i awdurdod lleol—

    (i)

    a sefydlir o dan reoliad 4(2)(c) gyda phwerau dirprwyedig i arfer rhai neu'r cyfan o'r swyddogaethau yn rhan A o Atodlen 1; a

    (ii)

    sy'n bodloni'r amodau canlynol:

    (a)

    bod y pwyllgor neu'r is-bwyllgor wedi'i sefydlu i gyflawni'r swyddogaethau hynny a gyfeirir atynt ym mharagraff (i) mewn perthynas â rhan o ardal yr awdurdod;

    (b)

    bod aelodau'r pwyllgor neu'r is-bwyllgor sy'n aelodau'r o'r awdurdod wedi'u hethol dros adrannau neu wardiau etholiadol sydd yn gyfan gwbl neu'n rhannol o fewn y rhan honno; a

    (c)

    nad yw poblogaeth y rhan honno, yn ôl amcangyfrif yr awdurdod, yn llai na phymtheg y cant o gyfanswm poblogaeth ardal yr awdurdod fel y mae wedi'i amcangyfrif felly.

  • ystyr “pwyllgor craffu” (“scrutiny committee”) yw pwyllgor neu is-bwyllgor i'r awdurdod a sefydlir o dan reoliad 4(1)(c).

  • ystyr “pwyllgor cynllunio” (“planning committee”) yw pwyllgor i'r awdurdod â chanddo bŵer dirprwyedig i arfer rhai neu'r cyfan o'r swyddogaethau hynny yn Atodlen 1, a adnabyddir fel y Pwyllgor Cynllunio neu unrhyw deitl arall y darperir ar ei gyfer yn rheolau sefydlog yr awdurdod lleol;

  • ystyr “pwyllgor trwyddedu” (“licensing committee”) yw pwyllgor i awdurdod lleol a chanddo bwerau dirprwyedig i arfer rhai neu'r cyfan o'r swyddogaethau hynny a restrir yn Atodlen 1, a adnabyddir fel y Pwyllgor Trwyddedu neu unrhyw deitl arall y darperir ar ei gyfer yn rheolau sefydlog yr awdurdod lleol;

  • ystyr “trefniadau amgen” (“alternative arrangements”) yw trefniadau gan awdurdod lleol mewn perthynas â chyflawni eu swyddogaethau sy'n drefniadau yn unol â rheoliad 4.

Yr awdurdodau lleol a gaiff weithredu trefniadau amgen

3.  Caiff pob awdurdod lleol weithredu trefniadau amgen.

Ffurf trefniadau amgen

4.—(1Rhaid i awdurdod lleol sy'n gweithredu trefniadau amgen sefydlu—

(a)Bwrdd; a

(b)yn ddarostyngedig i reoliad 6, prif bwyllgor craffu; ac

(c)yn ddarostyngedig i reoliad 6 unrhyw bwyllgorau craffu ychwanegol (heb fod yn llai na thri nac yn fwy nag wyth o ran nifer) y gall rheolau sefydlog yr awdurdod lleol ddarparu ar eu cyfer.

(2Fe gaiff awdurdod lleol sy'n gweithredu trefniadau amgen sefydlu—

(a)pwyllgor cynllunio;

(b)pwyllgor trwyddedu

(c)unrhyw bwyllgorau ardal y gall rheolau sefydlog yr awdurdod lleol ddarparu ar eu cyfer; ac

(ch)pwyllgor archwilio.

(3Mae'r trefniadau a nodir yn y Rheoliadau hyn yn cael eu pennu fel y trefniadau amgen at ddibenion Rhan II o Ddeddf 2000.

Gofynion pwyllgorau ac is-bwyllgorau

5.—(1Mae pob pwyllgor i awdurdod lleol a sefydlir o dan reoliad 4 a phob is-bwyllgor i bwyllgor o'r fath i gael ei drin—

(a)fel pwyllgor neu is-bwyllgor i brif gyngor at ddibenion Rhan VA o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (cyfle i fynd i gyfarfodydd ac i weld dogfennau awdurdodau, pwyllgorau ac is-bwyllgorau penodol) a

(b)fel corff y mae adran 15 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1980(4) (dyletswydd i ddyrannu seddau i grwpiau gwleidyddol) yn gymwys iddo.

(2Rhaid i bwyllgor i awdurdod lleol a sefydlir o dan reoliad 4, ac eithrio pwyllgor ardal a sefydlir o dan reoliad 4(2)(c), gynnwys uchafswm o ddeg aelod neu ugain y cant o aelodau'r awdurdod, (wedi'i gyfrifo drwy dalgrynnu nifer yr aelodau i fyny i'r rhif cyfan agosaf pan nad yw nifer yr aelodau yn rhif cyfan wrth gyfrifo'r ganran) p'un bynnag yw'r mwyaf.

(3Rhaid i awdurdod lleol sy'n gweithredu trefniadau amgen ddyrannu cadeiryddiaethau pwyllgorau a sefydlir o dan reoliad 4 er mwyn sicrhau, cyn belled ag y bo'n ymarferol, fod cydbwysedd y grwpiau gwleidyddol yn yr awdurdod lleol yn cael ei adlewyrchu gan y cadeiryddiaethau hynny.

(4Rhaid i bwyllgor cynllunio, pwyllgor trwyddedu neu bwyllgor ardal a sefydlir o dan reoliad 4 neu is-bwyllgor i bwyllgor o'r fath sy'n gyfrifol am unrhyw un o'r swyddogaethau a restrir yn Rhan A o Atodlen 1 (swyddogaethau sy'n ymwneud â chynllunio gwlad a thref a rheoli datblygu) gael wyth aelod o leiaf.

(5Pan fydd awdurdod lleol yn sefydlu pwyllgorau ardal—

(a)rhaid cael o leiaf dri phwyllgor o'r fath a rhaid iddynt ymdrin â'r cyfan o ardal yr awdurdod lleol; a

(b)bydd gan bob aelod o'r awdurdod lleol hawl i fod yn aelod o un pwyllgor ardal.

(6Caiff y Bwrdd gynnwys cadeirydd pwyllgor cynllunio'r awdurdod lleol a chadeiryddion pwyllgorau ardal os oes pwyllgorau o'r fath wedi'u sefydlu yn unol â rheoliad (4)(2).

(7I'r graddau y gellir dirprwyo pwerau awdurdod lleol ynghylch ei swyddogaethau archwilio o dan unrhyw ddeddfiad i bwyllgor neu is-bwyllgor, caiff awdurdod lleol ddirprwyo i bwyllgor archwilio.

(8O ran pwyllgor archwilio a sefydlir o dan 4(2)(ch):

(a)rhaid iddo beidio â chynnwys unrhyw un o aelodau'r Bwrdd; a

(b)rhaid iddo beidio â chael cadeirydd sy'n aelod o'r un grwp gwleidyddol â Chadeirydd y Bwrdd (ac eithrio lle nad oes ond un grwp gwleidyddol); ac

(c)caiff benodi un neu fwy o is-bwyllgorau; ac

(ch)caiff drefnu i unrhyw is-bwyllgor o'r fath gyflawni unrhyw un o'i swyddogaethau.

(9Ni chaiff is-bwyllgor i bwyllgor archwilio gyflawni unrhyw swyddogaethau heblaw'r rheiny a roddir iddo o dan baragraffau (7) ac (8).

(10Caiff pwyllgor archwilio neu unrhyw is-bwyllgor i bwyllgor o'r fath, gynnwys personau nad ydynt yn aelodau o'r awdurdod, ond ni fydd gan unrhyw bersonau o'r fath hawl i bleidleisio mewn unrhyw un o gyfarfodydd pwyllgor neu is-bwyllgor o'r fath ar unrhyw gwestiwn sy'n gofyn am benderfyniad yn y cyfarfod hwnnw ac ni fydd ganddynt hawl i fod yn gadeirydd pwyllgor neu is-bwyllgor o'r fath.

Prif bwyllgorau craffu a phwyllgorau craffu

6.—(1Rhaid i brif bwyllgor craffu a sefydlir o dan reoliad 4(1)(b):

(a)beidio â chynnwys unrhyw un o aelodau'r Bwrdd; a

(b)peidio â chael cadeirydd sy'n aelod o'r un grwp gwleidyddol â chadeirydd y Bwrdd (ac eithrio pan nad oes ond un grwp gwleidyddol); a

(c)gael cadeirydd sydd yn aelod o'r awdurdod.

(2Rhaid i bwyllgor craffu a sefydlir o dan reoliad 4(1)(c)—

(a)cynnwys ymhlith ei aelodaeth fwyafrif o aelodau'r awdurdod nad ydynt yn aelodau o'r Bwrdd ac fe gaiff gynnwys ymhlith ei aelodaeth hyd at dri aelod o'r Bwrdd ond ni fydd gan unrhyw aelod o'r Bwrdd hawl i fod yn gadeirydd ar bwyllgor craffu; a

(b)cael cadeirydd sydd yn aelod o'r awdurdod.

(3Bydd gan Bwyllgor Craffu a sefydlir o dan reoliad 4(1)(c) bŵer dirprwyedig—

(a)i adolygu neu graffu ar benderfyniadau a wnaed, neu gamau a gymerwyd, mewn cysylltiad â chyflawni unrhyw un o swyddogaethau'r awdurdod;

(b)i gyflwyno adroddiadau neu argymhellion i'r awdurdod mewn cysylltiad â chyflawni unrhyw un o swyddogaethau'r awdurdod;

(c)i gyflwyno adroddiadau neu argymhellion i'r awdurdod neu i drigolion yr ardal honno;

(ch)i argymell, mewn achos lle mae penderfyniad wedi'i wneud ond heb ei weithredu, fod y penderfyniad yn cael ei ailystyried gan y pwyllgor, yr is-bwyllgor neu'r person a wnaeth y penderfyniad; a

(d)i drefnu bod ei swyddogaeth o dan baragraff (i) yn cael ei harfer gan yr awdurdod.

(4Bydd gan brif bwyllgor craffu a sefydlir o dan reoliad 4(1)(c) y pwer dirprwyedig i ymgymryd â swyddogaethau pwyllgor archwilio yn unol â pharagraff (3) ond bydd y pwerau hynny'n arferadwy i'r graddau y maent yn ymwneud â swyddogaethau'r Bwrdd yn unig.

(5Yn ddarostyngedig i baragraff (6), ni chaiff pwyllgor craffu gyflawni unrhyw swyddogaeth heblaw yn unol â'r rheoliadau hyn.

(6Os nad yw, neu i'r graddau nad yw, swyddogaeth awdurdod lleol o gynnal adolygiadau'r gwerth gorau o dan adran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999(5) yn gyfrifoldeb i Fwrdd yr awdurdod, caiff yr awdurdod drefnu i'r prif bwyllgor craffu neu i unrhyw bwyllgor craffu gynnal adolygiad o'r fath.

(7Caiff prif bwyllgor craffu a phwyllgor craffu—

(a)penodi un neu ragor o is-bwyllgorau, a

(b)trefnu i unrhyw is-bwyllgor o'r fath gyflawni unrhyw un o'i swyddogaethau.

(8Ni chaiff is-bwyllgor i brif pwyllgor craffu neu bwyllgor craffu gyflawni unrhyw swyddogaethau heblaw'r rhai a roddir iddo o dan baragraff (6).

(9Rhaid i drefniadau amgen gan awdurdod lleol gynnwys darpariaeth sydd—

(a)yn galluogi unrhyw aelod o brif bwyllgor craffu neu bwyllgor craffu i sicrhau bod unrhyw fater sy'n berthnasol i swyddogaethau'r pwyllgor yn cael ei gynnwys ar yr agenda ar gyfer cyfarfod o'r pwyllgor ac yn cael ei drafod yno;

(b)yn galluogi unrhyw aelod o is-bwyllgor i bwyllgor o'r fath i sicrhau bod unrhyw fater sy'n berthnasol i swyddogaethau'r is-bwyllgor yn cael ei gynnwys ar yr agenda ar gyfer cyfarfod o'r is-bwyllgor ac yn cael ei drafod yno; ac

(c)yn galluogi prif bwyllgor craffu neu bwyllgor craffu i gyfeirio unrhyw fater mewn cysylltiad â phenderfyniad neu benderfyniad arfaethedig gan y Bwrdd at yr awdurdod lleol ar yr amod fod y penderfyniad neu'r penderfyniad arfaethedig yn ymwneud â swyddogaethau'r pwyllgor hwnnw.

(10Caiff prif bwyllgor craffu a phwyllgor craffu, neu unrhyw is-bwyllgor i bwyllgor o'r fath gynnwys personau nad ydynt yn aelodau o'r awdurdod, ond ni fydd gan unrhyw bersonau o'r fath hawl i bleidleisio mewn unrhyw gyfarfod o bwyllgor neu is-bwyllgor o'r fath ar unrhyw gwestiwn sydd i'w benderfynu yn y cyfarfod hwnnw.

(11Mae is-adrannau (2) a (5) o adran 102 o Ddeddf 1972 i fod yn gymwys i brif pwyllgor craffu a phwyllgor craffu, neu i is-bwyllgor i bwyllgor o'r fath, fel y maent yn gymwys i bwyllgor a benodir o dan yr adran honno.

(12Caiff prif bwyllgor craffu a phwyllgor craffu, neu is-bwyllgor i bwyllgor o'r fath—

(a)ei gwneud yn ofynnol i aelodau o'r Bwrdd ac i swyddogion o'r awdurdod fod yn bresennol ger ei fron i ateb cwestiynau, a

(b)gwahodd personau eraill i fod yn bresennol yng nghyfarfodydd y pwyllgor neu'r is-bwyllgor.

(13Bydd unrhyw aelod o'r Bwrdd neu unrhyw un o swyddogion yr awdurdod sydd wedi'i awdurdodi i fod yn bresennol i ateb cwestiynau yn unol â pharagraff (12) o dan ddyletswydd i wneud hynny ond ni fydd ar unrhyw aelod neu swyddog o'r fath rwymedigaeth i ateb unrhyw gwestiwn y byddai gan y person hwnnw hawl i wrthod ei ateb mewn achos, neu at ddibenion achos, mewn llys yng Nghymru neu Loegr.

Swyddogaethau sydd i fod yn gyfrifoldeb i'r Bwrdd

7.—(1Rhaid i awdurdod lleol sy'n gweithredu trefniadau amgen ddirprwyo ei swyddogaethau i Fwrdd yn ddarostyngedig i'r cyfyngiadau yn rheoliadau 8, 9, 10 ac 11.

(2Ni fydd dim yn y Rheoliadau hyn yn atal awdurdod lleol rhag arfer y swyddogaethau hynny sydd wedi'u dirprwyo i Fwrdd yn unol â pharagraff (1).

Swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i'r Bwrdd

8.—(1Nid yw'r swyddogaethau a bennir yng ngholofn (1) o Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn drwy gyfeirio at y deddfiadau a bennir mewn perthynas â'r swyddogaethau hynny yng ngholofn (2) o'r atodlen honno i fod yn gyfrifoldeb i Fwrdd awdurdod.

(2Nid yw swyddogaethau—

(a)gosod unrhyw amod, terfyn neu gyfyngiad arall ar gymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded, caniatâd neu gofrestriad a ganiateir—

(i)wrth arfer swyddogaeth a bennir yng ngholofn (1) o Atodlen 1; neu

(ii)heblaw gan Fwrdd yr awdurdod, wrth arfer unrhyw swyddogaeth o dan Ddeddf leol; a

(b)penderfynu ar unrhyw delerau eraill y mae unrhyw gymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded, caniatâd neu gofrestriad o'r fath yn ddarostyngedig iddynt, i fod yn gyfrifoldeb i Fwrdd yr awdurdod.

(3Nid yw swyddogaeth penderfynu a ddylid cymryd camau gorfodi, ac ym mha fodd y dylid eu gorfodi—

(a)yn erbyn unrhyw fethiant i gydymffurfio â chymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded, caniatâd neu gofrestriad a ganiateir wrth arfer swyddogaeth a bennir yng ngholofn (1) o Atodlen 1,

(b)yn erbyn unrhyw fethiant i gydymffurfio ag amod, cyfyngiad neu deler y mae unrhyw gymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded, caniatâd neu gofrestriad o'r fath yn ddarostyngedig iddynt, neu

(c)yn erbyn unrhyw doriad arall mewn perthynas â mater na fyddai'r swyddogaeth o benderfynu ar gais am gymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded, caniatâd neu gofrestriad yn gyfrifoldeb i Fwrdd yr awdurdod mewn perthynas ag ef,

i fod yn gyfrifoldeb i Fwrdd yr awdurdod.

(4Nid yw swyddogaeth—

(a)diwygio, addasu neu amrywio unrhyw gymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded, caniatâd neu gofrestriad a ganiateir, nac unrhyw amod, terfyn, cyfyngiad neu deler y mae'n ddarostyngedig iddynt; neu

(b)diddymu unrhyw gymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded, caniatâd neu gofrestriad o'r fath, i fod yn gyfrifoldeb i Fwrdd yr awdurdod.

(5Nid yw swyddogaeth gwneud unrhyw gynllun a awdurdodir neu a fynnir gan reoliadau o dan adran 18 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (cynlluniau ar gyfer lwfansau sylfaenol, lwfansau presenoldeb a lwfansau cyfrifoldeb arbennig i aelodau awdurdodau lleol), neu swyddogaeth diwygio, diddymu neu ddisodli unrhyw gynllun o'r fath, i fod yn gyfrifoldeb i Fwrdd yr awdurdod.

(6Nid yw swyddogaethau penderfynu—

(a)swm unrhyw lwfans sy'n daladwy—

(i)o dan is-adran (5) o adran 3 o Ddeddf 1972 (treuliau cadeirydd);

(ii)o dan is-adran (4) o adran 5 o'r Ddeddf honno (treuliau is-gadeirydd);

(iii)o dan is-adran (4) o adran 173 (lwfans colled ariannol) o'r Ddeddf honno(6);

(iv)o dan adran 175 o'r Ddeddf honno (lwfansau ar gyfer mynychu cynadleddau a chyfarfodydd);

(b)yn ôl pa gyfraddau y mae taliadau i gael eu gwneud o dan adran 174 o'r Ddeddf honno (lwfansau teithio a lwfansau cynhaliaeth);

(c)swm unrhyw lwfans sy'n daladwy yn unol â chynllun o dan adran 18 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989, neu yn ôl pa gyfraddau y mae taliadau ar gyfer unrhyw lwfans o'r fath i gael eu gwneud;

(ch)a ddylid codi tâl am unrhyw gymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded neu gofrestriad nad yw eu rhoi yn gyfrifoldeb i Fwrdd yr awdurdod; a

(d)pan gaiff tâl ei godi am unrhyw gymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded neu gofrestriad o'r fath, swm y tâl;

i fod yn gyfrifoldeb i Fwrdd yr awdurdod.

(7Ni fydd adran 101 o Ddeddf 1972 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau gan awdurdodau lleol) yn gymwys mewn perthynas â chyflawni unrhyw swyddogaeth a grybwyllir ym mharagraff (5) neu (6)(a) i (c).

(8Yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth mewn rheoliadau a wneir o dan adran 20 o Ddeddf 2000 (gweithredu swyddogaethau ar y cyd), nid yw swyddogaeth—

(a)gwneud trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau gan bwyllgor neu swyddog o dan adran 101(5) o Ddeddf 1972, a

(b)gwneud penodiadau o dan adran 102 (penodi pwyllgorau) o Ddeddf 1972, i fod yn gyfrifoldeb i Fwrdd yr awdurdod.

(9Oni ddarperir fel arall gan y Rheoliadau hyn, nid yw swyddogaeth awdurdod lleol a all, yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad (a basiwyd neu a wnaed cyn i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud) gael ei chyflawni gan awdurdod yn unig, i fod yn gyfrifoldeb i Fwrdd yr awdurdod.

(10Ym mharagraffau (1) a (9), mae “deddfiad” yn cynnwys deddfiad a gynhwysir mewn Deddf leol neu mewn is-ddeddfwriaeth..

Swyddogaethau a all fod yn gyfrifoldeb i Fwrdd awdurdod

9.  Fe all y swyddogaethau a bennir yn Atodlen 2 fod yn gyfrifoldeb i Fwrdd yr awdurdod, ond nid oes angen iddynt fod felly.

Swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i Fwrdd awdurdod yn unig

10.—(1Mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaeth—

(a)llunio neu baratoi cynllun neu strategaeth, o ddisgrifiad a bennir yn ngholofn (1) o Atodlen 3 i'r Rheoliadau hyn;

(b)llunio cynllun neu strategaeth ar gyfer rheoli benthyciadau neu wariant cyfalaf yr awdurdod; neu

(c)llunio neu baratoi unrhyw gynllun neu strategaeth arall y mae eu mabwysiadu neu eu cymeradwyo, yn rhinwedd rheoliad 5(1), yn fater i'r awdurdod benderfynu arno,

nid yw'r camau a ddynodir gan baragraff (3) i fod yn gyfrifoldeb i Fwrdd yr awdurdod.

(2Ac eithrio fel y darperir ym mharagraff (1), rhaid i'r swyddogaethau a grybwyllir yn y paragraff hwnnw fod yn gyfrifoldeb i'r Bwrdd.

(3Dyma'r camau a ddynodir—

(a)rhoi cyfarwyddiadau sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r Bwrdd ailystyried unrhyw gynllun neu strategaeth ddrafft a gyflwynir gan y Bwrdd i'r awdurdod i gael eu hystyried;

(b)diwygio unrhyw gynllun neu strategaeth ddrafft a gyflwynir gan y Bwrdd i'r awdurdod i gael eu hystyried;

(c)cymeradwyo unrhyw gynllun neu strategaeth (boed ar ffurf drafft neu beidio) er mwyn eu cyflwyno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu unrhyw un o Weinidogion y Goron, sef cynllun neu strategaeth y mae'n ofynnol i unrhyw ran ohonynt gael ei chyflwyno felly;

(ch)mabwysiadu'r cynllun neu'r strategaeth (gydag addasiadau neu hebddynt).

(4O ran swyddogaeth diwygio, addasu, amrywio neu ddiddymu unrhyw gynllun neu strategaeth o ddisgrifiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1), (boed wedi'u cymeradwyo neu wedi'u mabwysiadu, cyn neu ar ôl i'r Rheoliadau hyn ddod i rym)—

(a)rhaid iddi fod yn gyfrifoldeb i Fwrdd yr awdurdod i'r graddau y mae gwneud y diwygio, yr addasu, yr amrywio neu'r diddymu—

(i)yn ofynnol er mwyn rhoi eu heffaith i ofynion Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu un o Weinidogion y Goron mewn perthynas â chynllun neu strategaeth a gyflwynir i gael eu cymeradwyo, neu ag unrhyw ran a gyflwynir felly; neu

(ii)wedi'u hawdurdodi gan ddyfarniad a wnaed gan yr awdurdod wrth wneud y trefniadau ar gyfer cymeradwyo neu fabwysiadu'r cynllun neu'r strategaeth, yn ôl fel y digwydd; ond

(b)rhaid iddi beidio â bod yn gyfrifoldeb i'r Bwrdd i unrhyw raddau eraill.

(5Ac eithrio i'r graddau a grybwyllir ym mharagraff (6), rhaid i swyddogaeth gwneud cais—

(a)o dan is-adran (5) o adran 135 o Ddeddf Diwygio Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 (rhaglenni ar gyfer gwaredu) (7); neu

(b)o dan adran 32 (pŵer i waredu tir a ddelir at ddibenion Rhan II) neu adran 43 (cydsyniad sy'n angenrheidiol ar gyfer rhai gwarediadau nad ydynt o fewn adran 32 o Ddeddf Tai 1985(8),

fod yn gyfrifoldeb i Fwrdd yr awdurdod.

(6Awdurdodi gwneud y cais yw'r graddau a grybwyllir yn y paragraff hwn.

(7Rhaid i swyddogaeth gwneud cais o fath y cyfeirir ato ym mharagraff (5), i'r graddau a grybwyllir ym mharagraff (6), beidio â bod yn gyfrifoldeb i Fwrdd yr awdurdod.

(8Ni fydd adran 101 o Ddeddf 1972 yn gymwys mewn perthynas â chyflawni—

(a)swyddogaeth a bennir ym mharagraff (1) i'r graddau nad yw'n gyfrifoldeb i Fwrdd yr awdurdod yn rhinwedd y paragraff hwnnw;

(b)y swyddogaethau a bennir ym mharagraffau (4) a (5) i'r graddau nad ydynt yn gyfrifoldeb i Fwrdd yr awdurdod.

(9Mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaeth—

(a)cyfrifo yn unol ag unrhyw un o adrannau 32 i 37, 43 i 51, 52I, 52J, 52T a 52U o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992(9) neu adran 61 o'r Ddeddf honno, naill ai drwy'r adran wreiddiol neu drwy gyfrwng adran amnewid; neu

(b)rhoi praesept o dan Bennod IV o'r Rhan honno,

rhaid i'r camau a ddynodir gan baragraff (11) (“camau paragraff (11)”) fod yn gyfrifoldeb i Fwrdd yr awdurdod.

(10Yn ddarostyngedig i ddarpariaeth paragraff (9), rhaid i'r swyddogaeth a grybwyllir yn y paragraff honno beidio â bod yn gyfrifoldeb i'r Bwrdd.

(11Dyma'r camau a ddynodir—

(a)paratoi'r canlynol i'w cyflwyno i'r awdurdod i gael eu hystyried—

(i)amcangyfrifon o'r symiau sydd i'w hagregu wrth gyfrifo neu amcangyfrifon o symiau eraill sydd i'w defnyddio at ddibenion y cyfrifo;

(ii)y symiau y mae'n ofynnol eu datgan yn y praesept;

(b)ailystyried yr amcangyfrifon a'r symiau hynny yn unol â gofynion yr awdurdod;

(c)cyflwyno amcangyfrifon a symiau diwygiedig i'r awdurdod i gael eu hystyried.

Cyflawni swyddogaethau penodedig gan awdurdodau

11.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i swyddogaeth o unrhyw un o'r disgrifiadau a bennir yng ngholofn (1) o Atodlen 4 (a allai, heblaw am y paragraff hwn, fod yn gyfrifoldeb i Fwrdd yr awdurdod), beidio â bod yn gyfrifoldeb i'r Bwrdd o dan yr amgylchiadau a bennir yng ngholofn (2) mewn perthynas â'r swyddogaeth honno.

(2Ni fydd paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â chyflawni swyddogaeth o'r disgrifiad a bennir ym mharagraff 3 o golofn (1) o Atodlen 4—

(a)os yw'n rhesymol edrych ar yr amgylchiadau sy'n golygu bod angen gwneud y dyfarniad fel amgylchiadau brys; a

(b)os yw'r unigolyn neu'r corff y gwneir y dyfarniad ganddo wedi sicrhau datganiad mewn ysgrifen gan gadeirydd pwyllgor craffu perthnasol neu, os nad oes person o'r fath neu os yw cadeirydd pob pwyllgor craffu perthnasol yn methu gweithredu neu'n anfodlon gweithredu, gan gadeirydd yr awdurdod neu, yn absenoldeb y person hwnnw, gan yr is-gadeirydd, fod angen i'r dyfarniad gael ei wneud ar frys.

(3Ym mharagraff (2) ystyr “pwyllgor craffu perthnasol” yw pwyllgor craffu i'r awdurdod y mae ei gylch gwaith yn cynnwys y pŵer i adolygu neu i graffu ar benderfyniadau neu gamau eraill a gymerwyd wrth gyflawni'r swyddogaeth y mae'r dyfarniad yn ymwneud â hi.

(4Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i'r dyfarniad gael ei wneud, rhaid i'r unigolyn neu'r corff y gwneir dyfarniad ganddo yn unol â pharagraff (2) gyflwyno adroddiad i'r awdurdod y mae'n rhaid iddo gynnwys manylion—

(a)y dyfarniad;

(b)yr argyfwng neu'r amgylchiadau eraill y cafodd ei wneud odanynt; ac

(c)y rhesymau dros y dyfarniad.

(5Ni fydd adran 101 o Ddeddf 1972 yn gymwys mewn perthynas â chyflawni swyddogaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1) nad yw, yn rhinwedd y paragraff hwnnw, yn gyfrifoldeb i Fwrdd yr awdurdod.

Cyfarwyddiadau gan y Bwrdd i bwyllgorau cynllunio a phwyllgorau trwyddedu

12.  Caiff y Bwrdd gyfarwyddo bod rhaid i unrhyw benderfyniad sydd i'w wneud gan bwyllgor cynllunio, pwyllgor trwyddedu neu bwyllgor ardal mewn perthynas â swyddogaeth o unrhyw un o'r disgrifiadau a bennir yng ngholofn (1) o ran A o Atodlen 1 (swyddogaethau sy'n ymwneud â chynllunio gwlad a thref a rheoli datblygu) gael ei benderfynu gan yr awdurdod lleol.

pŵer i wneud trefniadau: yr awdurdod lleol a'r Bwrdd

13.  Yn achos awdurdod lleol sy'n gweithredu trefniadau amgen—

(a)mae gan gorff perthnasol bŵer i wneud trefniadau o dan adran 101(5) o Ddeddf 1972 yn unol â rheoliad 19; a

(b)yn ddarostyngedig i baragraff (a) caiff y Bwrdd drefnu i unrhyw un o'i swyddogaethau gael ei chyflawni—

(i)gan y Bwrdd,

(ii)gan aelod o'r Bwrdd;

(iii)gan bwyllgor i'r Bwrdd;

(iv)gan un o swyddogion yr awdurdod.

Cyflawni swyddogaethau gan bwyllgorau ardal

14.—(1Caiff corff perthnasol a chanddo bŵer i wneud trefniadau yn unol â rheoliad 13 drefnu i unrhyw swyddogaethau sy'n gyfrifoldeb i Fwrdd yr awdurdod lleol gael eu cyflawni gan bwyllgor ardal i'r awdurdod hwnnw.

(2Os gall unrhyw swyddogaethau gael eu cyflawni gan bwyllgor ardal yn rhinwedd y rheoliad hwn, yna, oni bai bod y corff perthnasol yn cyfarwyddo fel arall, caiff y pwyllgor ardal drefnu i unrhyw un o'r swyddogaethau hynny gael ei chyflawni gan is-bwyllgor i'r pwyllgor hwnnw neu gan un o swyddogion yr awdurdod.

(3Os gall unrhyw swyddogaethau gael eu cyflawni gan is-bwyllgor i bwyllgor ardal yn rhinwedd paragraff (2), yna, oni bai bod y pwyllgor ardal neu'r corff perthnasol yn cyfarwyddo fel arall, caiff yr is-bwyllgor drefnu i unrhyw un o'r swyddogaethau hynny gael ei chyflawni gan un o swyddogion yr awdurdod.

(4Nid yw unrhyw drefniadau a wneir o dan y rheoliad hwn gan gorff perthnasol i unrhyw swyddogaethau gael eu cyflawni gan bwyllgor ardal i atal y corff perthnasol rhag arfer y swyddogaethau hynny.

(5Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i drefniadau gael eu gwneud o dan y rheoliad hwn, rhaid i'r Bwrdd sicrhau bod copïau o ddogfen sy'n nodi darpariaethau'r trefniadau ar gael ym mhrif swyddfa'r awdurdod i gael eu harchwilio gan aelodau o'r cyhoedd ar bob adeg resymol.

(6Wrth baratoi'r ddogfen y cyfeirir ati ym mharagraff (5) uchod, rhaid i'r Bwrdd roi sylw i unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 38 o Ddeddf 2000.

Cyflawni swyddogaethau gan awdurdod lleol arall

15.—(1Caiff corff perthnasol a chanddo bŵer i wneud trefniadau yn unol â rheoliad 13 wneud trefniadau gydag awdurdod lleol arall yn unol â'r rheoliad hwn.

(2Gall trefniadau o dan y rheoliad hwn ddarparu—

(a)i swyddogaeth sy'n gyfrifoldeb i Fwrdd un awdurdod lleol gael ei chyflawni naill ai gan awdurdod lleol arall neu gan Fwrdd yr awdurdod arall hwnnw os yw'r swyddogaeth honno yn swyddogaeth i'r awdurdod lleol arall hwnnw ond nad yw'n un sy'n gyfrifoldeb i Fwrdd yr awdurdod lleol arall hwnnw;

(b)i swyddogaeth sy'n gyfrifoldeb i Fwrdd un awdurdod lleol gael ei chyflawni gan Fwrdd awdurdod lleol arall os yw'r swyddogaeth yn swyddogaeth sy'n gyfrifoldeb i Fwrdd yr awdurdod lleol arall hwnnw;

(c)i swyddogaeth sy'n gyfrifoldeb i Fwrdd un awdurdod lleol gael ei chyflawni gan Fwrdd awdurdod lleol arall os nad yw'r swyddogaeth honno yn swyddogaeth i'r awdurdod lleol arall hwnnw a bod gan yr awdurdod arall hwnnw Fwrdd;

(ch)i swyddogaeth sy'n gyfrifoldeb i Fwrdd un awdurdod lleol gael ei chyflawni gan awdurdod lleol arall os yw'r swyddogaeth honno yn swyddogaeth i'r awdurdod lleol arall hwnnw ac nad oes gan yr awdurdod arall hwnnw Fwrdd.

(3Nid yw unrhyw drefniadau a wneir o dan y rheoliad hwn i atal y corff perthnasol a wnaeth y trefniadau rhag arfer y swyddogaethau y maent yn ymwneud â hwy.

Trefniadau i swyddogaethau awdurdod lleol gael eu cyflawni gan Fwrdd awdurdod lleol arall

16.—(1Caiff awdurdod lleol wneud trefniadau gydag awdurdod lleol arall i unrhyw un o swyddogaethau'r awdurdod cyntaf a grybwyllwyd nad ydynt yn gyfrifoldeb i Fwrdd yr awdurdod hwnnw gael ei chyflawni gan Fwrdd yr awdurdod lleol hwnnw—

(a)os nad yw'r swyddogaethau yn swyddogaethau i'r awdurdod lleol arall hwnnw; neu

(b)os yw'r swyddogaethau yn swyddogaethau i'r awdurdod lleol arall hwnnw ac yn gyfrifoldeb i Fwrdd yr awdurdod arall hwnnw.

(2Nid yw unrhyw drefniadau a wneir o dan y rheoliad hwn i atal yr awdurdod a wnaeth y trefniadau rhag arfer y swyddogaethau y maent yn ymwneud â hwy.

Y cyfrifoldeb dros swyddogaethau a ddirprwyir i awdurdod lleol arall

17.  Os oes trefniadau mewn grym, yn rhinwedd rheoliad 15 neu 16 uchod, i unrhyw un o swyddogaethau awdurdod lleol gael ei chyflawni, neu i unrhyw swyddogaethau sy'n gyfrifoldeb i Fwrdd yr awdurdod hwnnw gael eu cyflawni, gan Fwrdd awdurdod lleol arall, trinnir y swyddogaethau hynny, at ddibenion adran 32 o Ddeddf 2000, fel swyddogaethau sy'n gyfrifoldeb i Fwrdd yr awdurdod lleol arall hwnnw.

Swyddogaethau a ddirpwyir i awdurdod lleol arall

18.—(1Os oes trefniadau mewn grym, yn rhinwedd rheoliad 15 uchod, i unrhyw swyddogaethau sy'n gyfrifoldeb i Fwrdd awdurdod lleol gael eu cyflawni gan awdurdod lleol arall, yna, yn ddarostyngedig i delerau'r trefniadau, caiff yr awdurdod arall hwnnw drefnu i unrhyw un o'r swyddogaethau hynny gael ei chyflawni gan bwyllgor, is-bwyllgor neu swyddog iddynt.

(2Os gall unrhyw swyddogaethau gael eu cyflawni, yn rhinwedd paragraff (1) uchod, gan bwyllgor i awdurdod lleol, yna, oni bai bod yr awdurdod hwnnw'n cyfarwyddo fel arall, caiff y pwyllgor drefnu i unrhyw un o'r swyddogaethau hynny gael ei chyflawni gan is-bwyllgor neu gan swyddog i'r awdurdod.

(3Os gall unrhyw swyddogaethau, yn rhinwedd paragraff (1) neu (2) uchod, gael eu cyflawni gan is-bwyllgor i awdurdod lleol, yna, oni bai bod yr awdurdod hwnnw neu, yn ôl fel y digwydd, y pwyllgor hwnnw yn cyfarwyddo fel arall, caiff yr is-bwyllgor drefnu i unrhyw un o'r swyddogaethau hynny gael ei chyflawni gan swyddog i'r awdurdod.

Arfer swyddogaethau ar y cyd

19.—(1Rhaid i drefniadau a wneir o dan adran 101(5) o Ddeddf 1972 gan gorff perthnasol gael eu gwneud yn unol â'r rheoliad hwn.

(2Rhaid i'r trefniadau gael eu gwneud—

(a)os yw'r swyddogaethau y mae'r trefniadau yn ymwneud â hwy yn gyfrifoldeb i Fwrdd yr awdurdod lleol arall o dan sylw, gyda'r corff perthnasol sydd â'r pŵer i wneud y trefniadau hynny ar ran yr awdurdod hwnnw;

(b)mewn unrhyw achos arall, gyda'r awdurdod lleol arall.

(3Os yw'r trefniadau yn darparu i swyddogaethau gael eu cyflawni gan gyd-bwyllgor, rhaid i benodiadau personau sydd i gynrychioli pob awdurdod lleol ar y pwyllgor hwnnw gael eu gwneud, a rhaid i nifer y personau hynny sydd i'w penodi gael ei benderfynu, gan y corff perthnasol y mae'r trefniadau yn cael eu gwneud ganddo ar ran yr awdurdod hwnnw.

(4Yn ddarostyngedig i delerau'r trefniadau, ac oni bai bod y corff perthnasol mewn perthynas â'r awdurdod lleol y mae ei swyddogaethau yn destun y trefniadau yn cyfarwyddo fel arall, caiff cyd-bwyllgor a benodir yn unol â'r rheoliad hwn drefnu i unrhyw un o'i swyddogaethau gael ei chyflawni gan is-bwyllgor neu gan swyddog i un o'r awdurdodau o dan sylw, ac yn ddarostyngedig i delerau'r trefniadau, ac oni bai bod y cyd-bwyllgor neu'r corff perthnasol mewn perthynas â'r awdurdod lleol y mae ei swyddogaethau'n destun y trefniadau yn cyfarwyddo fel arall, caiff unrhyw is-bwyllgor o'r fath drefnu i unrhyw un o'i swyddogaethau gael ei chyflawni gan swyddog o'r fath.

(5Nid yw unrhyw drefniadau a wneir yn unol â'r rheoliad hwn gan gorff perthnasol i unrhyw swyddogaethau gael eu cyflawni gan gyd-bwyllgor i atal y corff hwnnw rhag arfer y swyddogaethau hynny.

(6Os oes trefniadau a wneir ar ran awdurdod lleol yn unol â'r rheoliad hwn gan gorff perthnasol yn darparu ar gyfer penodi personau nad ydynt yn aelodau o Fwrdd yr awdurdod hwnnw i gyd-bwyllgor, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl gwneud y trefniadau, rhaid i'r corff perthnasol sicrhau bod copïau o ddogfen sy'n nodi darpariaethau'r trefniadau ar gael ym mhrif swyddfa'r awdurdod i gael eu harchwilio gan aelodau o'r cyhoedd ar bob adeg rhesymol.

(7Rhaid i gorff perthnasol sy'n paratoi'r ddogfen y cyfeirir ati ym mharagraff (6) uchod roi sylw i unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 38 o Ddeddf 2000.

(8Bydd rhan VA o Ddeddf 1972 (cyfle i fynd i gyfarfodydd ac i weld dogfennau awdurdodau, pwyllgorau ac is-bwyllgorau penodol) yn gymwys i is-bwyllgor a sefydlir yn unol â'r rheoliad hwn.

Aelodau cyd-bwyllgorau

20.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3) isod, rhaid i bob person a benodir i gyd-bwyllgor yn unol â rheoliad 19 uchod gan gorff perthnasol fod yn aelod o'r awdurdod lleol, ac ni fydd y gofynion ynghylch cydbwysedd gwleidyddol yn gymwys wrth benodi aelodau o'r fath.

(2Os—

(a)oes gan y cyd-bwyllgor swyddogaethau mewn perthynas â rhan yn unig o ardal un o'r awdurdodau lleol o dan sylw;

(b)yw'r swyddogaethau hynny yn gyfrifoldeb i Fwrdd yr awdurdod hwnnw; ac

(c)nad yw poblogaeth y rhan honno, yn ôl amcangyfrif yr awdurdod, yn fwy na phymtheg y cant o gyfanswm poblogaeth ardal yr awdurdod fel y mae wedi'i amcangyfrif felly,

caiff cynrychiolwyr yr awdurdod hwnnw ar y cyd-bwyllgor gynnwys unrhyw aelodau o'r awdurdod hwnnw sydd wedi'u hethol dros adrannau neu wardiau etholiadol sy'n gyfan gwbl neu'n rhannol o fewn y rhan honno o ardal yr awdurdod, ac ni fydd y gofynion ynghylch cydbwysedd gwleidyddol yn gymwys wrth benodi'r aelodau hynny.

(4Os oes gan y cyd-bwyllgor swyddogaethau mewn perthynas â rhan o ardal un o'r awdurdodau lleol o dan sylw a bod cynrychiolwyr yr awdurdod hwnnw ar y pwyllgor hwnnw yn cael eu penodi gan yr awdurdod, ni fydd y gofynion ynghylch cydbwysedd gwleidyddol yn gymwys wrth benodi'r cynrychiolwyr hynny ond rhaid i'r cynrychiolwyr hynny fod yn aelodau o'r awdurdod lleol hwnnw sydd wedi'u hethol dros adrannau neu wardiau etholiadol sy'n gyfan gwbl neu'n rhannol o fewn y rhan honno o ardal yr awdurdod.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(10).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

21 Mehefin 2001

Rheoliad 8

ATODLEN 1SWYDDOGAETHAU NAD YDYNT I FOD YN GYFRIFOLDEB I FWRDD AWDURDOD

(1)(2)
Y SwyddogaethY Ddarpariaeth mewn Deddf neu Offeryn Statudol
A. Swyddogaethau sy'n ymwneud â chynllunio gwlad a thref a rheoli datblygu

1.  Y pŵer i benderfynu ar gais am ganiatâd ganiatâd cynllunio.

Adrannau 70(1)(a) a (b) a 72 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p.8)(11).

2.  Y pŵer i benderfynu ar geisiadau am ddatblygu tir heb gydymffurfio ag amodau a osodwyd o'r blaen.

Adran 73 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

3.  Y pŵer i roi caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad sydd eisoes wedi'i gyflawni.

Adran 73A o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(12).

4.  Y pŵer i wrthod penderfynu ar gais am ganiatâd cynllunio.

Adran 70A o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(13).

5.  Dyletswyddau sy'n ymwneud â gwneud penderfyniadau ar geisiadau cynllunio.

Adrannau 69, 76 a 92 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 ac Erthyglau 8, 10 i 13, 15 i 22, 25 a 26 o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Ddatblygu Gyffredinol) 1995 (O.S. 1995/419) a chyfarwyddiadau a wneir odanynt.

6.  Y pŵer i benderfynu ar gais am ganiatâd cynllunio a wneir gan awdurdod lleol, ar ei ben ei hun neu ar y cyd â pherson arall.

Adran 316 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 a Rheoliadau Cyffredinol Cynllunio Gwlad a Thref 1992 (O.S. 1992/1492)(14)).

7.  Y pŵer i wneud penderfyniadau, i roi cymeradwyaethau ac i gytuno ar faterion penodol eraill sy'n ymwneud ag arfer hawliau datblygu a ganiateir.

Rhannau 6, 7, 11, 17, 19, 20, 21 i 24, 30 a 31 o Atodlen 2 i Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995 (O.S. 1995/418).

8.  Y pŵer i wneud cytundeb sy'n rheoleiddio datblygu tir neu ddefnyddio tir.

Adran 106 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

9.  Y pŵer i roi tystysgrif o ddefnydd neu ddatblygiad cyfreithlon presennol neu arfaethedig.

Adrannau 191(4) a 192(2) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(15).

10.  Y pŵer i gyflwyno hysbysiad cwblhau.

Adran 94(2) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990

11.  Y pŵer i roi cydsyniad i arddangos hysbysebion.

Adran 220 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 a Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Rheoli Hysbysebion) 1992(16).

12.  Y pŵer i awdurdodi mynd ar dir.

Adran 196A o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(17)

13.  Y pŵer i'w gwneud yn ofynnol rhoi'r gorau i ddefnyddio tir.

Adran 102 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

14.  Y pŵer i gyflwyno hysbysiad torri rheolau cynllunio, hysbysiad torri amod neu hysbysiad stop.

Adrannau 171C, 187A a 183(1) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(18).

15.  Y pŵer i roi hysbysiad gorfodi.

Adran 172 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(19)).

16.  Y pŵer i wneud cais am waharddeb i atal torri rheol cynllunio.

Adran 187B o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(20).

17.  Y pŵer i benderfynu ar geisiadau am gydsyniad sylweddau peryglus, a phwerau cysylltiedig.

Adrannau 9(1) a 10 o Ddeddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990 (p. 10).

18.  Y ddyletswydd i benderfynu ar amodau y mae hen ganiatadau mwyngloddio, caniatadau cynllunio perthnasol sy'n ymwneud â safleoedd cwsg neu safleoedd gweithredol Rhan I neu II, neu ganiatadau mwynol sy'n ymwneud â safleoedd mwyngloddio, yn ôl fel y digwydd, i fod yn ddarostyngedig iddynt.

Paragraff 2(6)(a) o Atodlen 2 i Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991, paragraff 9(6) o Atodlen 13 i Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p. 25) a pharagraff 6(5) o Atodlen 14 i'r Ddeddf honno.

19.  Y pŵer i'w gwneud yn ofynnol bod tir yn cael ei gynnal yn iawn.

Adran 215(1) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

20.  Y pŵer i benderfynu ar gais am gydsyniad adeilad rhestredig, a phwerau cysylltiedig.

Adrannau 16(1) a (2), 17, 27(2) a 33(1) o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 (p.9).

21.  Y pŵer i benderfynu ar geisiadau am gydsyniad ardal gadwraeth.

Adran 16(1) o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990, fel y'i cymhwysir gan adran 74(3) o'r Ddeddf honno(21)).

22.  Dyletswyddau sy'n ymwneud â cheisiadau am gydsyniad adeilad rhestredig a chydsyniad ardal gadwraeth.

Adrannau 13(1) a 14(1) a (4) o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth)1990 a rheoliadau 3 i 6 ac 13 o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 a pharagraff 127 o gylchlythyr y Swyddfa Gymreig 61/96 Cynllunio a'r Amgylchedd Hanesyddol; Adeiladau Hanesyddol ac Ardaloedd Cadwraeth.

23.  Y pŵer i gyflwyno hysbysiad cadw adeilad, a phwerau cysylltiedig.

Adrannau 3(1) a 4(1) o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990.

24.  Y pŵer i roi hysbysiad gorfodi mewn perthynas â dymchwel adeilad sydd heb ei restru mewn ardal gadwraeth.

Adran 38 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990.

25.  Pwerau i gaffael adeilad rhestredig y mae angen ei drwsio a chyflwyno hysbysiad trwsio.

Adrannau 47 a 48 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990.

26.  Y pŵer i wneud cais am waharddeb mewn perthynas ag adeilad rhestredig.

Adran 44A o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990(22).

27.  Y pŵer i wneud gwaith brys.

Adran 54 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990.

28.  pŵer yn gysylltiedig â gweithio mwynau.

Atodlen 9 i Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

29.  pŵer yn gysylltiedig â llwybrau troed a llwybrau ceffylau.

Adran 257 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

30.  pŵer ynghylch tystysgrifo datblygiadau amgen priodol.

Adran 17 o Ddeddf Iawndal Tir 1960 (p.33).

31.  Y pŵer i gyflwyno gorchmynion prynu.

Adrannau 137—144 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

32.  Pwerau yn gysylltiedig â hysbysiadau malltod.

Adrannau 149—171 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

33.  Y pŵer i awdudrdodi codi camfeydd etc ar lwybrau troed a llwybrau ceffylau.

Adran 147 o Ddeddf Priffyrdd 1980 (p.66).
B. Swyddogaethau trwyddedu a chofrestru (i'r graddau nad oes unrhyw baragraff arall yn yr Atodlen hon yn ymdrin â hwy)

1.  Y pŵer i roi trwyddedau sy'n awdurdodi defnyddio tir yn safle carafanau (“trwyddedau safle”).

Adran 3(3) o Ddeddf Safleoedd Carafanau a Rheoli Datblygu 1960 (p. 62).

2.  Y pŵer i drwyddedu defnyddio anheddau symudadwy a safleoedd gwersylla.

Adran 269(1) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936 (p.49).

3.  Y pŵer i drwyddedu cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat.

(a)o ran cerbydau hacni, Deddf Cymalau Heddluoedd Tref 1847 (10 &11 Vict. p.89), fel y'i hestynnwyd gan adran 171 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1875 (38 & 39 Vict. p.55), ac adran 15 o Ddeddf Trafnidiaeth 1985 (p.67); ac adrannau 47, 57, 58, 60 a 79 o Ddeddf Llywodraeth Lleol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 (p.57);

(b)o ran cerbydau hurio preifat, adrannau 48,57,58,60. a 79 o Ddeddf Llywodraeth (Darpariaethau Amrywiol) 1976

4.  Y pŵer i drwyddedu gyrrwyr cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat.

Adrannau 51, 53, 54, 59, 61 a 79 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976

5.  Y pŵer i drwyddedu gweithredwyr cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat.

Adrannau 55 i 58, 62 a 79 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976.

6.  Y pŵer i gofrestru hyrwyddwyr pyllau.

Atodlen 2 i Ddeddf Betio, Gamblo a Loterïau 1963 (p.2)(23).

7.  Y pŵer i roi trwyddedau betio ar gyfer traciau.

Atodlen 3 i Ddeddf Betio, Gamblo a Loterïau 1963(24).

8.  Y pŵer i drwyddedu cynlluniau betio ar gyfer traciau ar y cyd â'i gilydd.

Atodlen 5ZA i Ddeddf Betio, Gamblo a Loteriau 1963 (25).

9.  Y pŵer i roi trwyddedau mewn perthynas â safleoedd sydd â pheiriannau chwarae.

Atodlen 9 i Ddeddf Gamblo 1968 (p. 65)(26)).

10.  Y pŵer i gofrestru cymdeithasau sy'n dymuno hybu loterïau.

Atodlen 1 i Ddeddf Loterïau a Difyrion 1976 (p. 32)(27).

11.  Y pŵer i roi trwyddedau mewn perthynas â safleoedd lle darperir difyrion â gwobrau.

Atodlen 3 i Ddeddf Betio, Gamblo a Loterïau 1976 (28)).

12.  Y pŵer i roi trwyddedau sinema a thrwyddedau clybiau sinema.

Adran 1 o Ddeddf Sinemâu 1985 (p. 13).

13.  Y pŵer i roi trwyddedau theatr.

Adrannau 12 i 14 o Ddeddf Theatrau 1968 (p. 54)(29).

14.  Y pŵer i roi trwyddedau adloniant.

Adran 12 o Ddeddf Plant a Phersonau Ifanc 1933 (p. 12), adran 79 o Ddeddf Trwyddedu 1964 (p. 26), adrannau 1 i 5 a 7 o Ddeddf Lleoedd Adloniant Preifat (Trwyddedu) 1967 (p. 19) a Rhannau I a II o'r Atodlen iddi, a Rhan I o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 (p. 30) ac Atodlenni 1 a 2 iddi.

15.  Y pŵer i drwyddedu siopau rhyw a sinemâu rhyw.

Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982, adran 2 ac Atodlen 3.

16.  Y pŵer i drwyddedu perfformiadau hypnotiaeth.

Deddf Hypnotiaeth 1952 (p.46).

17.  Y pŵer i drwyddedu safleoedd ar gyfer Adrannau 13 i 17 o Ddeddf Llywodraeth electrolysis.

Adrannau 13 i 17 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982.

18.  Y pŵer i drwyddedu cychod pleser a llongau pleser.

Adran 94 o Ddeddf Diwygio Deddfau Iechyd y Cyhoedd 1907 (p. 53)(30).

19.  Y pŵer i drwyddedu masnachu mewn marchnadoedd ac ar y stryd.

Rhan III o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 ac Atodlen 4 iddi.

20.  Y pŵer i drwyddedu caffis nos a siopau prydau parod.

Adran 2 o Ddeddf Tai Lluniaeth Hwyr y Nos 1969 (p. 53)(31).

21.  Y ddyletswydd i gadw rhestr o bersonau sydd â'r hawl i werthu gwenwynau nad ydynt yn feddyginiaeth.

Adrannau 3(1)(b)(ii), 5, 6 ac 11 o Ddeddf Gwenwynau 1972 (p. 66)(32)).

22.  Y pŵer i drwyddedu delwyr helgig a lladd a gwerthu helgig.

Adrannau 5, 6, 17, 18 a 21 i 23 o Ddeddf Hela 1831 (p. 32); adrannau 2 i 16 o Ddeddf Trwyddedu Helgig 1860 (p. 90), adran 4 o Ddeddf Tollau Cartref a Chyllid y Wlad 1883 (p. 10), adrannau 12(3) a 27 o Ddeddf Llywodraeth Lleol 1874 (p. 73), ac adran 213 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70).

23.  Y pŵer i gofrestru a thrwyddedu safleoedd ar gyfer paratoi bwyd.

Adran 19 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 (p. 16).

24.  Y pŵer i drwyddedu iardiau sgrap.

Adran 1 o Ddeddf Delwyr Metel Sgrap 1964 (p.69).

25.  Y pŵer i roi, diwygio neu amnewid tystysgrifau diogelwch (cyffredinol neu arbennig) ar gyfer meysydd chwaraeon.

Deddf Diogelwch Meysydd Chwaraeon 1975 (p. 52)(33).

26.  Y pŵer i roi, dileu, diwygio neu amnewid tystysgrifau diogelwch ar gyfer eisteddleoedd rheoledig mewn meysydd chwaraeon.

Rhan III o Ddeddf Diogelwch Rhag Tân a Diogelwch Lleoedd Chwaraeon 1987 (p.27).

27.  Y pŵer i roi trwyddedau tân.

Adran 5 o Ddeddf Rhagofalon Tân 1971 (p.40)

28.  Y pŵer i drwyddedu safleoedd ar gyfer bridio cwn.

Adran 1 o Ddeddf Bridio Cwn 1973 (p. 60) ac adran 1 o Ddeddf Bridio a Gwerthu Cwn (Lles) 1999 (p. 11).

29.  Y pŵer i drwyddedu siopau anifeiliaid anwes a sefydliadau eraill lle caiff anifeiliaid eu bridio neu eu cadw er mwyn cynnal busnes.

Adran 1 o Ddeddf Anifeiliaid Anwes 1951 (p. 35)(34); adran 1 o Ddeddf Sefydliadau Byrddio Anifeiliaid 1963(p. 43)(35); Deddf Sefydliadau Marchogaeth 1964 a 1970 (1964 p. 70 a 1970 c. 70)(36)); adran 1 o Ddeddf Bridio Cwn 1973 (p. 60)(37), ac adrannau 1 ac 8 o Ddeddf Bridio a Gwerthu Cwn (Lles) 1999.

30.  Y pŵer i gofrestru hyfforddwyr ac arddangoswyr anifeiliaid.

Adran 1 o Ddeddf Anifeiliaid Perfformio (Rheoleiddio) 1925 (p.38)(38)).

31.  Y pŵer i drwyddedu sŵau.

Adran 1 o Ddeddf Trwyddedu Sŵau 1981 (p.37)(39).

32.  Y pŵer i drwyddedu anifeiliaid gwyllt

Adran 1 o Ddeddf Anifeiliaid Gwyllt Peryglus (p.38).

33.  Y pŵer i drwyddedu iardiau naceriaid.

Adran 4 o Ddeddf Lladd-dai 1974. Gweler hefyd Orchymyn Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid 1999 (O.S. 1999/646).

34.  Y pŵer i drwyddedu cyflogi plant.

Rhan II o Ddeddf Plant a Phersonau Ifanc 1933 (p.33), is-ddeddfau a wneir o dan y Rhan honno, a Rhan II o Ddeddf Plant a Phersonau Ifanc 1963 (p.37).

35.  Y pŵer i gymeradwyo safleoedd ar gyfer gweinyddu priodasau.

Rhan 46A o Ddeddf Priodasau 1949 (p. 76) a Rheoliadau Priodasau (Safleoedd a Gymeradwywyd) 1995 (O.S. 1995/510)(40).

36.  Y pŵer i gofrestru tir comin neu lawntiau trefi neu bentrefi, ac eithrio os yw'r pŵer yn arferadwy ar gyfer rhoi effaith i'r canlynol yn unig—

(a)cyfnewid tiroedd y mae gorchymyn o dan adran 19(3) o Ddeddf Caffael Tir 1981 (p.67) neu baragraff 6(4) o Atodlen 3 iddi yn effeithio arnynt; neu

(b)gorchymyn o adran adran 147 o Ddeddf Amgáu Tiroedd 1845 (p. 8 a 9 Vict. p.118).

Rheoliad 6 o Reoliadau Cofrestru Tiroedd Comin (Tiroedd Newydd) 1969 (O.S. 1969/1843).

37.  Y pŵer i gofrestru amrywiadau ar hawliau comin.

Rheoliad 29 o Reoliadau Cofrestru Tiroedd Comin (Cyffredinol) 1966 (O.S. 1966/1471)(41).

38.  Y pŵer i drwyddedu personau i gasglu ar gyfer achosion elusennol ac achosion eraill.

Adran 5 o Ddeddf yr Heddlu, Ffatrïoedd etc. (Darpariaethau Amrywiol) 1916 (p.31) ac adran 2 o Ddeddf Casglu o Dŷ i Dŷ 1939 (p. 44)(42).

39.  Y pŵer i roi cydsyniad ar gyfer gweithredu uchelseinydd.

Atodlen 2 i Ddeddf Sŵn a Niwsans Statudol 1993 (p.40).

40.  Y pŵer i roi trwydded ar gyfer gweithfeydd stryd.

Adran 50 o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gweithfeydd Stryd 1991 (p.22).

41.  Y pŵer i drwyddedu asiantaethau ar gyfer cyflenwi nyrsys.

Adran 2 o Ddeddf Asiantaethau Nyrsys 1957 (p.16).

42.  Y pŵer i roi trwyddedau ar gyfer symud moch.

Erthygl 12 o Orchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) 1995 (O.S. 1995/11).

43.  Y pŵer i drwyddedu gwerthu moch.

Erthygl 13 o Orchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) 1995.

44.  Y pŵer i drwyddedu canolfannau casglu ar gyfer symud moch.

Erthygl 14 o Orchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) 1995.

45.  Y pŵer i roi trwydded i symud gwartheg o farchnad.

Erthygl 5(2) o Reoliadau Adnabod

46.  Y pŵer i ganiatáu gosod sgip adeiladwr ar briffordd.

Adran 139 o Ddeddf Priffyrdd 1980.

47.  Y pŵer i drwyddedu plannu, cadw a chynnal coed etc. ar ran o'r briffordd.

Adran 143 o Ddeddf Priffyrdd 1980.

48.  Y pŵer i drwyddedu gweithfeydd mewn perthynas ag adeiladau etc. sy'n rhwystro'r briffordd.

Adran 169 o Ddeddf Priffyrdd 1980.

49.  Y pŵer i gydsynio i ollyngiadau neu gloddiadau mewn strydoedd.

Adran 171 o Ddeddf Priffyrdd 1980.

50.  Y pŵer i hepgor y rhwymedigaeth i godi palis neu ffens.

Adran 172 o o Ddeddf Priffyrdd 1980.

51.  Y pŵer i gyfyngu ar osod rheiliau, trawstiau etc. dros briffyrdd.

Adran 178 o o Ddeddf Priffyrdd 1980.

52.  Y pŵer i gydsynio i adeiladu selerydd etc. o dan y stryd.

Adran 179 o Ddeddf Priffyrdd 1980(43).

53.  Y pŵer i gydsynio i wneud agoriadau i selerydd etc. o dan strydoedd, a goleuadau ac awyryddion ar y pafn.

Adran 180 o Ddeddf Priffyrdd 1980.

54.  Y pŵer i ganiatáu defnyddio rhannau o adeiladau ar gyfer storio selwloid.

Adran 1 o Ddeddf Ffilm Selwloid a Sinematograff 1922 (p.35).

55.  Y pŵer i gymeradwyo safleoedd cynhyrchion cig.

Rheoliadau 4 a 5 o Reoliadau Cynhyrchion Cig (Hylendid) 1994 (O.S. 1994/3082)(44).

56.  Y pŵer i gymeradwyo safleoedd i gynhyrchu briwgig neu baratoadau cig.

Rheoliad 4 o Reoliadau Briwgig a Pharatoadau Cig (Hylendid) 1995 (O.S. 1995/3205).

57.  Y pŵer i gymeradwyo sefydliadau llaeth.

Rheoliadau 6 a 7 o Reoliadau Cynhyrchion Llaeth (Hylendid 1995 (O.S. 1995/1086)(45).

58.  Y pŵer i gymeradwyo sefydliadau cynhyrchion wyau.

Rheoliad 5 o Reoliadau Cynhyrchion Wyau 1993 (O.S. 1993/1520).

59.  Y pŵer i roi trwyddedau i siopau cigyddion manwerthol sy'n cyflawni gweithrediadau masnachol mewn perthynas â chig amrwd sydd heb ei lapio ac sy'n gwerthu neu'n cyflenwi cig amrwd a bwydydd sy'n barod i'w bwyta.

Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Hylendid) Bwyd yn Gyffredinol) (Siopau Cigyddion) (Diwygio) (Cymru) 2000 (O.S. 2000/3341(46)).

60.  Y pŵer i gymeradwyo safleoedd cynhyrchion pysgod.

Rheoliad 24 o Reoliadau Diogelwch Bwyd (Cynhyrchion Pysgodfeydd a Physgod Cregyn Byw) (Hylendid) 1998 (O.S. 1998/994).

61.  Y pŵer i gymeradwyo canolfannau dosbarthu neu ganolfannau puro.

Rheoliad 11 o Reoliadau Diogelwch Bwyd (Cynhyrchion Pysgodfeydd a Physgod Cregyn Byw) (Hylendid) 1998.

62.  Y pŵer i gofrestru llongau pysgota y mae perdys neu fwlysgiaid yn cael eu coginio arnynt.

Rheoliad 21 o Reoliadau Diogelwch Bwyd (Cynhyrchion Pysgodfeydd a Physgod Cregyn Byw) (Hylendid) 1998.

63.  Y pŵer i gymeradwyo llongau ffatri a sefydliadau cynhyrchion pysgodfeydd.

Rheoliad 24 o Reoliadau Diogelwch Bwyd (Cynhyrchion Pysgodfeydd a Physgod Cregyn Byw) (Hylendid) 1998.

64.  Y pŵer i gofrestru marchnadoedd ocsiwn a marchnadoedd cyfanwerthu.

Rheoliad 26 o Reoliadau Diogelwch Bwyd (Cynhyrchion Pysgodfeydd a Physgod Cregyn Bwyd (Hylendid) 1998.

65.  Y ddyletswydd i gadw cofrestr o safleoedd busnesau bwyd.

Rheoliad 5 o Reoliadau Safleoedd Bwyd (Cofrestru) 1991 (O.S. 1991/2828).

66.  Y pŵer i gofrestru safleoedd busnesau bwyd.

Adran 19 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 (p.16) a Rheoliad 9 o Reoliadau Safleoedd Bwyd (Cofrestru) 1991.
C. Swyddogaethau sy'n ymwneud ag iechyd a diogelwch yn y gwaith
Swyddogaethau o dan unrhyw un o'r “darpariaethau statudol perthnasol” o fewn ystyr Rhan I (iechyd, diogelwch a lles mewn cysylltiad â gwaith, a rheoli sylweddau peryglus) o Ddeddf Iechyd a Diogewlch yn y Gwaith etc. 1974, i'r graddau y mae'r swyddogaethau hynny'n cael eu cyflawni heblaw yn rhinwedd swyddogaeth yr awdurdod fel cyflogwr.Rhan I o Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith etc. 1974 (p. 37)(47).
CH. Swyddogaethau sy'n ymwneud ag etholiadau

1.  Y ddyletswydd i benodi swyddog cofrestru etholiadol.

Adran 8(2) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (p. 2)(48).

2.  Y pŵer i ddyrannu swyddogion mewn perthynas ag angenrheidiau'r swyddog cofrestru.

Adran 52(4) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983.

3.  Y pŵer i ddileu cynghorau cymuned.

Adran 28 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

4.  Y pŵer i wneud gorchmynion ar gyfer grwpio cymunedau

Adran 29 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972

5.  Y pŵer i wneud gorchmynion i ddileu grwpiau a gwahanu cynghorau cymuned oddi wrth grwpiau.

Adran 29A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

6.  Y ddyletswydd i benodi swyddog canlyniadau ar gyfer etholiadau llywodraeth leol.

Adran 35 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983.

7.  Y ddyletswydd i roi cymorth yn etholiadau'r Senedd Ewropeaidd.

Paragraff 4(3) a (4) o Atodlen 1 i Ddeddf Etholiadau Senedd Ewrop 1978 (p. 10)(49).

8.  Y ddyletswydd i rannu'r etholaeth yn rhanbarthau pleidleisio.

Adran 18 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983.

9.  Y pŵer i rannu adrannau etholiadol yn rhanbarthau pleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol.

Adran 31 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983.

10.  Pwerau mewn perthynas â chynnal etholiadau.

Adran 39(4) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983

11.  Y pŵer i dalu costau a dynnir yn briodol gan swyddogion cofrestru etholiadol.

Adran 54 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983.

12.  Y pŵer i lenwi lleoedd gwag os na cheir digon o enwebiadau.

Adran 21 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985.

13.  Y ddyletswydd i ddatgan bod yna le gwag mewn swydd mewn rhai achosion.

Adran 86 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

14.  Y ddyletswydd i roi hysbysiad cyhoeddus o le gwag achlysurol.

Adran 87 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

15.  Y pŵer i wneud penodiadau dros dro i gynghorau cymuned.

Adran 91 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

16.  Y pŵer i benderfynu ffioedd ac amodau ar gyfer rhoi copïau o ddogfennau etholiadol neu ddarnau allan ohonynt.

Rheol 48(3) o Reolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) 1986 (O.S. 1986/2214) a Rheol 48(3) o Reolau Etholiadau Lleol (Plwyfi a Chymunedau) 1986 (O.S. 1986/2215).

17.  Y pŵer i gyflwyno cynigion i'r Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer gorchymyn o dan adran 10 (cynlluniau peilot ar gyfer etholiadau lleol yng Nghymru a Lloegr) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 2000.

Adran 10 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 2000 (p. 2).

18.  Swyddogaethau etholiadol amrywiol o dan Ran II, OS 1999/450.

Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 1999, OS 1999/450.
D. Swyddogaethau sy'n ymwneud ag enw a statws ardaloedd ac unigolion

1.  Y pŵer i newid enw sir, neu enw bwrdeistref sirol

Adran 74 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

2.  Y pŵer i newid enw cymuned.

Adran 76 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

3.  Y pŵer i roi teitl henadur mygedol neu i dderbyn rhywun yn henadur mygedol.

Adran 249 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

4.  Y pŵer i ddeisebu o blaid siarter i roi statws bwrdeistref sirol.

Adran 245A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
DD. Y pŵer i wneud, diwygio, diddymu neu ail-ddeddfu is-ddeddfauUnrhyw ddarpariaeth mewn unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys Deddf leol), pryd bynnag y cafodd ei phasio, ac Adran 14 o Ddeddf Dehongli 1978 (p.30)(50).
E. Y pŵer i hybu neu i wrthwynebu Mesurau lleol neu bersonol.Adran 239 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
F. Swyddogaethau sy'n ymwneud â phensiynau etc.

1.  Swyddogaeth sy'n ymwneud â phensiynau llywodraeth leol, etc.

Rheoliadau o dan adran 7, 12 neu 24 o Ddeddf Blwydd-dâl 1972 (p. 11)(51).

2.  Swyddogaethau o dan Gynllun Pensiwn Dynion Tân sy'n ymwneud â phensiynau, etc, mewn perthynas â phersonau a gyflogir yn aelodau o frigadau tân a gynhelir yn unol ag adran 4 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân 1947.

Adran 26 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân 1947 (10 ac 11 Geo.6 p. 41)(52).
FF. Swyddogaethau amrywiol

1.  Y pŵer i greu llwybrau troed a llwybrau ceffylau.

Adrannau 25 a 26 o Ddeddf Priffyrdd 1980 (p. 66).

2.  Y pŵer i gau llwybrau troed a llwybrau ceffylau.

Adran 118 o Ddeddf Priffyrdd 1980.

3.  Y pŵer i wyro llwybrau troed a llwybrau ceffylau.

Adran 119 o Ddeddf Priffyrdd 1980.

4.  Y ddyletswydd i ddatgan a diogelu hawliau i'r cyhoedd ddefnyddio a mwynhau priffyrdd.

Adran 130 o Ddeddf Priffyrdd 1980.

5.  Pwerau sy'n ymwneud â symud pethau a ollyngwyd ar briffyrdd mewn modd sy'n eu gwneud yn niwsans.

Adran 149 o Ddeddf Priffyrdd 1980.

6.  Y ddyletswydd i barhau i adolygu map a datganiad diffiniol.

Adran 53 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (p. 69).

7.  Y ddyletswydd i ailddosbarthu ffyrdd a ddefnyddir fel llwybrau cyhoeddus.

Adran 54 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981

8.  Y ddyletswydd i gymeradwyo datganiad awdurdod o'i gyfrifon, ei incwm, a'i wariant a'i fantolen neu ei gofnod o dderbyniadau a thaliadau (yn ôl fel y digwydd).

Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio 1996 (O.S. 1996/590(53)).

9.  Swyddogaethau sy'n ymwneud â physgodfeydd môr.

Adrannau 1, 2, 10 a 19 o Ddeddf Rheoleiddio Pysgodfeydd Môr 1966 (p. 38).

10.  Pwerau sy'n ymwneud â chadw coed.

Adrannau 197 i 214D o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 a Rheoliadau Coed 1999 (OS. 1999/1892).

11.  Pwerau sy'n ymwneud â diogelu gwrychoedd pwysig.

Rheoliadau Gwrychoedd1997 (O.S. 1997/1160).

12.  Y pŵer i wneud gorchymyn calchbalmant.

Adran 34(2) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (p. 69).

13.  Y pŵer i wneud rheolau sefydlog.

Adran 106 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(54) a pharagraff 42 i Atodlen 12 iddi.

14.  Y pŵer i benodi staff.

Adran 112 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

15.  Y pŵer i wneud rheolau sefydlog ynghylch contractau.

Adran 135 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

16.  Y pŵer i ystyried adroddiadau anffafriol gan y Comisiynydd Lleol.

Adran 31A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1974.

Rheoliad 9

ATODLEN 2SWYDDOGAETHAU A ALL FOD YN GYFRIFOLDEB I FWRDD AWDURDOD (OND NAD OES ANGEN IDDYNT FOD FELLY)

1.  Unrhyw swyddogaeth a dan Ddeddf leol heblaw swyddogaeth a bennir neu y cyfeirir ati o'r cyfarwyddiadau yn Atodlen 1.

2.  Dyfarnu ar apêl yn erbyn unrhyw benderfyniad a wnaed gan yr awdurdod neu ar ei ran.

3.  Penodi byrddau adolygu o dan reoliadau o dan is-adran (4) o adran 34 (dyfarnu ar geisiadau ac adolygiadau) o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1998(55).

4.  Gwneud trefniadau yn unol ag is-adran (1) o adran 67 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (apelau yn erbyn gwahardd disgyblion) ac Atodlen 18 iddi.

5.  Gwneud trefniadau yn unol ag adran 94(1) a (4) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (apelau derbyn) ac Atodlen 24 iddi.

6.  Gwneud trefniadau yn unol ag adran 95(2) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (plant y mae adran 87 yn gymwys iddynt: apelau gan gyrff llywodraethu) ac Atodlen 25 iddi.

7.  Gwneud trefniadau o dan adran 20 (cwestiynau ynghylch materion yr heddlu mewn cyfarfodydd cyngor) o Ddeddf yr Heddlu 1996(56) i ganiatáu gofyn cwestiynau ynghylch cyflawni swyddogaethau awdurdod heddlu.

8.  Gwneud penodiadau o dan baragraffau 2 i 4 (penodi aelodau gan gynghorau perthnasol) o Atodlen 2 (awdurdodau heddlu a sefydlir o dan adran 3) i Ddeddf yr Heddlu 1996.

9.  Cynnal adolygiadau'r gwerth gorau yn unol â darpariaethau unrhyw orchymyn sy'n dwyn effaith am y tro o dan adran 5 (adolygiadau'r gwerth gorau) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999(57).

10.  Unrhyw swyddogaeth sy'n ymwneud â thir halogedig(58)).

11.  Cyflawni unrhyw swyddogaeth sy'n ymwneud â rheoli llygredd neu reoli ansawdd aer(59).

12.  Cyflwyno hysbysiad atal mewn perthynas â niwsans statudol(60)).

13.  Pasio cynnig y dylai Atodlen 2 i Ddeddf Sŵn a Niwsans Statudol 1993 fod yn gymwys yn ardal yr awdurdod(61).

14.  Archwilio ardal yr awdurdod i ddod o hyd i unrhyw niwsans statudol(62).

15.  Ymchwilio i unrhyw gŵyn ynghylch bodolaeth niwsans statudol(63)).

16.  Sicrhau gwybodaeth o dan adran 330 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(64) ynghylch buddiannau mewn tir.

17.  Sicrhau manylion personau sydd â buddiant mewn tir o dan adran 16 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976(65).

18.  Gwneud cytundebau ar gyfer gwneud gwaith priffyrdd(66).

19.  Penodi unrhyw unigolyn—

(a)i unrhyw swydd heblaw swydd y mae'n cael ei gyflogi ynddi gan yr awdurdod;

(b)i unrhyw gorff heblaw—

(i)yr awdurdod;

(ii)cyd-bwyllgor o ddau neu ragor o awdurdodau; neu

(c)i unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor i gorff o'r fath,

a diddymu unrhyw benodiad o'r fath.

20.  Y pŵer i wneud taliadau neu i roi budd-daliadau eraill men achosion camweinyddu etc.(67)

21.  Cyflawni unrhyw swyddogaeth gan awdurdod sy'n gweithredu fel awdurdod harbwr.

Rheoliad 10(1)

ATODLEN 3SWYDDOGAETHAU NAD YDYNT I FOD YN GYFRIFOLDEB I FWRDD AWDURDOD YN UNIG

(1)(2)
Cynlluniau a strategaethauCyfeiriad
Cynlluniau Cymorth YmddygiadAdran 527A o Ddeddf Addysg 1996
Cynllun Perfformiad y Gwerth GorauAdran 6(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999 (p.27)
Cynllun Gwasanaethau PlantParagraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf Plant 1989 (p.41)
Cynllun Gofal CymunedolAdran 46 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19).
Strategaeth GymunedolAdran 4 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p.22).
Strategaeth i Ostwng Troseddau ac AnhrefnAdrannau 5 a 6 o Ddeddf Troseddau ac Anhrefn 1998 (p.37)
Cynllun Datblygu'r Blynyddoedd CynnarAdran 120 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998
Cynllun Strategol AddysgAdran 6 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998
Cynllun Gwasanaethau Gorfodi'r Gyfraith BwydAdran 12 o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (p.28)
Cynllun Trafnidiaeth LleolAdran 92 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000 (cyhyd ag y bydd wedi sicrhau'r Cydsyniad Brenhinol)
Cynllun Trefniadaeth YsgolionAdran 26 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998
Cynlluniau ac addasiadau sydd gyda'i gilydd yn ffurfio'r Cynllun DatblyguAdran 10A o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990
Cynllun Iaith GymraegAdran 5 o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993
Cynllun Cyfiawnder IeuenctidAdran 40 o Ddeddf Troseddau ac Anhrefn 1998 (p.37).

Rheoliad 11

ATODLEN 4AMGYLCHIADAU NAD YW SWYDDOGAETHAU I FOD YN GYFRIFOLDEB I FWRDD AWDURDOD ODANYNT

(1)(2)
Y SwyddogaethYr Amgylchiadau

1.  Mabwysiadu neu gymeradwyo cynllun neu strategaeth (boed statudol neu anstatudol), heblaw cynllun neu strategaeth i reoli benthyciadau neu wariant cyfalaf yr awdurdod neu gynllun neu strategaeth y cyfeirir atynt yn Atodlen 3.

Mae'r awdurdod yn dyfarnu y dylai'r penderfyniad a ddylai'r cynllun neu'r strategaeth gael eu mabwysiadu neu eu cymeradwyo gel ei gymryd ganddynt hwy.

2.  Dyfarnu ar unrhyw fater wrth gyflawni swyddogaeth—

(a)sy'n gyfrifoldeb i'r bwrdd; a

(b)sy'n ymwneud â chyllideb yr awdurdod, neu eu benthyciadau neu eu gwariant cyfalaf.

Mae'r unigolyn neu'r corff y mae'r dyfarniad i gael ei wneud ganddo yn rhinwedd unrhyw un o adrannau 14 i 17 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 neu ddarpariaeth a wneir o dan adran 18 neu 20 o'r Ddeddf honno—

(a)

o blaid dyfarnu ar y mater yn groes i'r canlynol neu heb fod yn gyfan gwbl unol â hwy—

(i)

cyllideb yr awdurdod; neu

(ii)

y cynllun neu'r strategaeth sydd am y tro wedi'u cymeradwyo neu wedi'u mabwysiadu gan yr awdurdod mewn perthynas â'u benthyciadau neu eu gwariant cyfalaf; a

(b)

heb ei awdurdodi o dan drefniadau amgen yr awdurdod, ei reoliadau ariannol, ei reolau sefydlog neu ei reolau neu ei weithdrefnau eraill i wneud dyfarniad yn y termau hynny.

3.  Dyfarnu ar unrhyw fater wrth gyflawni swyddogaeth—

(a)sy'n gyfrifoldeb i'r bwrdd; a

(b)y mae cynllun neu strategaeth (boed statudol neu anstatudol ) wedi'u mabwysiadu neu wedi'u cymeradwyo gan yr awdurdod mewn perthynas â hi.

Mae'r unigolyn neu'r corff y mae'r dyfarniad i gael ei wneud ganddo yn rhinwedd unrhyw un o adrannau 14 i 17 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 neu ddarpariaeth a wneir o dan adran 18 neu 20 o'r Ddeddf honno o blaid dyfarfnu ar y mater mewn termau sy'n groes i'r cynllun neu, yn ôl fel y digwydd, i'r strategaeth a fabwysiadwyd neu a gymeradwywyd gan yr awdurdod.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae Rhan II o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (Deddf 2000) yn darparu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru bennu pa awdurdodau lleol a gaiff weithredu “trefniadau amgen” (h.y. trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau'r awdurdod nad ydynt yn golygu creu a gweithredu gweithrediaeth i'r awdurdod) (adran 31(1)(b)) a pha ffurf y dylai'r trefniadau hynny ei chymryd (adran 32(1)).

Mae'r Rheoliadau hyn yn caniatáu i bob cyngor sir a phob cyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru weithredu trefniadau amgen, ar yr amod bod y trefniadau hynny ar y ffurf y mae'r Rheoliadau hyn yn gofyn amdani.

Mae rheoliad 4 yn pennu'r pwyllgorau y mae'n rhaid eu sefydlu pan fydd awdurdod yn gweithredu trefniadau amgen, sef Bwrdd, prif bwyllgor craffu ac unrhyw bwyllgorau craffu eraill y penderfynir arnynt gan y cyngor (sef o leiaf dri a hyd at wyth yn ychwanegol at y prif bwyllgor craffu). Mae gan yr awdurdodau ddisgresiwn a ddylid sefydlu pwyllgor cynllunio, pwyllgor trwyddedu, pwyllgorau ardal a phwyllgorau archwilio.

O dan drefniadau amgen, mae pwyllgorau ac is-bwyllgorau yn dod o dan ofynion Rhan VA o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (Deddf 1972) ac mae'n ofynnol cydymffurfio ag adran 15 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (dyletswydd i ddyrannu seddi i grwpiau gwleidyddol) (rheoliad 5). Hefyd, rhaid i'r awdurdodau ddyrannu cadeiryddiaethau pwyllgorau (cyn belled ag y bo'n ymarferol) i adlewyrchu'r grwpiau gwleidyddol mewn awdurdod lleol (rheoliad 5(3)).

Mae'r pwyllgorau a sefydlir at ddibenion trefniadau amgen (ac eithrio pwyllgorau ardal a sefydlir o dan reoliad 4) i gynnwys hyd at ddeg aelod neu ugain y cant o aelodau'r awdurdod (p'un bynnag yw'r mwyaf) (rheoliad 5(2)). Wrth gyfrifo'r ganran hon dylai'r rhifau gael eu talgrynnu i fyny os nad ydynt yn rhifau cyfan.

Rhaid i bwyllgorau cynllunio, trwyddedu neu ardal sy'n ymdrin â materion a bennir yn Rhan A o Atodlen 1 (cynllunio gwlad a thref a rheoli datblygu) gael o leiaf wyth aelod (rheoliad 5(4)).

Os cânt eu sefydlu, rhaid i bwyllgorau ardal gyda'i gilydd ymdrin â'r cyfan o ardal yr awdurdod lleol. Rhaid cael o leiaf dri ohonynt a bydd gan bob aelod o'r awdurdod hawl i eistedd ar un pwyllgor ardal (rheoliad 5(5)).

Caiff Bwrdd awdurdod lleol gynnwys cadeirydd pwyllgor cynllunio'r awdurdod (os oes pwyllgor o'r fath wedi'i sefydlu) a chadeiryddion unrhyw bwyllgorau ardal sydd gan yr awdurdod (os oes pwyllgorau o'r fath wedi'u sefydlu).

Pan fydd awdurdod lleol yn sefydlu pwyllgor archwilio caiff ddirprwyo i'r pwyllgor hwnnw ar yr amod nad oes unrhyw ddeddfiad arall yn ei wahardd. Ni all pwyllgorau archwilio gynnwys aelodau o'r Bwrdd ond fe gânt gynnwys aelodau nad ydynt yn aelodau o'r awdurdod. Nid oes gan y personau hynny hawl i bleidleisio. Rhaid i Gadeirydd pwyllgor archwilio berthyn i grwp gwleidyddol gwahanol i'r un y mae Cadeirydd y Bwrdd yn perthyn iddo (ac eithrio lle nad oes ond un grwp gwleidyddol ) a rhaid iddo fod yn aelod o'r awdurdod. Caiff pwyllgorau archwilio benodi is-bwyllgorau.

Mae rheoliad 6 yn nodi'r gofynion mewn perthynas â phrif bwyllgorau craffu a phwyllgorau craffu eraill. Rhaid i brif bwyllgor craffu beidio â chynnwys aelodau o'r Bwrdd ac mae ei gadeirydd i ddod o grwp gwleidyddol sy'n wahanol i grwp cadeirydd y Bwrdd (rheoliad 6(1)). Caiff pwyllgorau craffu (heblaw prif bwyllgor craffu) gynnwys hyd at dri o aelodau'r Bwrdd ond rhaid i aelodau nad ydynt yn aelodau o'r Bwrdd ffurfio mwyafrif aelodaeth y pwyllgorau hyn. Ni chaiff aelodau'r Bwrdd gadeirio pwyllgorau craffu (rheoliad 6(2)).

Nodir y pwerau hynny sydd i'w dirprwyo i bwyllgorau craffu gan yr awdurdodau lleol yn rheoliad 6(3). Mae'r un pwerau i gael eu dirprwyo i brif bwyllgorau craffu ag i bwyllgorau craffu eraill ond cyfyngir arfer y pwerau hynny i swyddogaethau Bwrdd awdurdod (rheoliad 6(4)).

Rhaid i awdurdod lleol sy'n gweithredu trefniadau amgen ddarparu mecanwaith i alluogi prif bwyllgor craffu a phwyllgor craffu i gyfeirio penderfyniadau neu benderfyniadau arfaethedig gan y Bwrdd (sy'n ymwneud â swyddogaethau'r prif bwyllgor craffu neu bwyllgor craffu) at y Cyngor llawn i'w hystyried (rheoliad 6(9)).

Caiff prif bwyllgorau craffu a phwyllgorau craffu gynnwys aelodau nad ydynt yn aelodau o'r awdurdod, ond ni all yr aelodau hyn gael hawliau pleidleisio (rheoliad 6(10)) ac nid oes ganddynt hawl i gadeirio pwyllgorau o'r fath.

Os nad yw swyddogaeth yr awdurdod lleol o gynnal adolygiadau'r gwerth gorau (adran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999) yn gyfrifoldeb i'r Bwrdd, gall yr adolygiadau hynny gael eu cynnal gan brif bwyllgor craffu neu gan unrhyw bwyllgor craffu.

Mae rheoliad 6 hefyd yn nodi'r gofynion mewn perthynas â hawliau aelodau o brif bwyllgorau craffu a phwyllgorau craffu i godi materion sy'n berthnasol i swyddogaethau pwyllgorau o'r fath a'r hyn y gall y pwyllgorau hynny ei wneud yn nhermau presenoldeb aelodau nad ydynt yn aelodau o'r pwyllgor yn eu cyfarfodydd.

Mae rheoliad 7 yn pennu bod rhaid i awdurdod ddirprwyo i Fwrdd, o dan gyfyngiadau penodol.

Mae rheoliadau 8, 9, 10 ac 11, drwy gyfeirio at yr Atodlenni i'r Rheoliadau, yn nodi'r cyfyngiadau ar ba swyddogaethau a all gael eu harfer gan Fwrdd awdurdod lleol. Yn Atodlen 1 rhestrir y swyddogaethau hynny na all gael eu harfer gan y Bwrdd ac yn Atodlen 2 rhestrir y swyddogaethau hynny a all fod yn gyfrifoldeb i Fwrdd awdurdod os bydd yr awdurdod yn penderfynu felly. Mae Rheoliad 10, drwy gyfeirio at Atodlen 3, yn nodi'r camau na allant fod yn gyfrifoldeb i Fwrdd awdurdod yn unig. Yn ôl rheoliad 11, nid yw'r swyddogaethau hynny a restrir yn Atodlen 4, a fyddai'n gyfrifoldeb i Fwrdd heblaw am reoliad 11, i fod yn gyfrifoldeb i'r Bwrdd o dan yr amgylchiadau a nodir yng ngholofn (2) o'r Atodlen honno.

Caiff Bwrdd gyfarwyddo bod unrhyw benderfyniad sydd i'w wneud gan bwyllgor cynllunio, pwyllgor trwyddedu neu bwyllgor ardal mewn perthynas â chynllunio gwlad a thref a rheoli datblygu (rheoliad 12 a Rhan A o Atodlen 1) i gael ei gymryd gan yr awdurdod.

Mae rheoliad 13 yn caniatáu i awdurdod lleol, neu i Fwrdd yr awdurdod, wneud y trefniadau o dan adran 101(5) o Ddeddf 1972, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau rheoliad 19 sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r trefniadau hyn gael eu gwneud gyda Bwrdd awdurdod lleol arall neu awdurdod lleol arall. Mae'r rheoliad hefyd yn cynnwys darpariaethau penodol ynghylch cyflawni swyddogaethau gan gyd-bwyllgor o dan amgylchiadau o'r fath, gan gynnwys, yn rheoliad 19(8), yr angen i gydymffurfio â Rhan VA o Ddeddf 1972 (cyfle i fynd i gyfarfodydd ac i weld dogfennau), mewn perthynas â chyd-bwyllgorau.

Yn ychwanegol at gyflawni swyddogaethau drwy'r Bwrdd cyfan, caiff Bwrdd awdurdod lleol gyflawni ei swyddogaethau drwy un aelod o'r Bwrdd, drwy bwyllgor o'r Bwrdd neu drwy un o swyddogion yr awdurdod (rheoliad 13(b)).

Mae rheoliadau 15 ac 16 yn darparu i swyddogaethau awdurdod lleol gael eu cyflawni gan awdurdod lleol arall neu gan Fwrdd arall o dan amgylchiadau penodedig. Os oes trefniadau mewn grym, yn unol â rheoliadau 15 ac 16, i unrhyw un o swyddogaethau Bwrdd gael ei chyflawni gan Fwrdd awdurdod lleol arall, mae'r swyddogaethau sydd i fod yn destun y trefniant hwnnw i gael eu trin fel pe baent yn swyddogaethau i'r awdurdod arall at ddibenion Deddf 2000 (rheoliad 17).

Pan fydd awdurdod lleol yn arfer swyddogaethau o dan drefniant o dan reoliad 15 (lle mae'r swyddogaethau yn swyddogaethau i Fwrdd awdurdod arall) caiff yr awdurdod sy'n arfer y swyddogaethau gyflawni'r swyddogaethau hynny drwy bwyllgor, is-bwyllgor neu swyddog (rheoliad 18).

(4)

1989 p.42. Diwygiwyd adran 18 gan adran 99(3) i (9) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.

(6)

Diwygiwyd adran 173(4) gan Ddeddf Llywodraeth Lleol a Thai 1989 (p.42), Atodlen 11, paragraff 26. Gwnaed eithriad perthnasol gan erthygl 3(2) o Orchymyn Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (Cychwyn Rhif 11 ac Eithriadau) 1991 (OS 1991/344).

(7)

1993 p.28, y ceir diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(8)

1985 p.68. Gwnaed diwygiadau perthnasol, yn is-adran (3) o adran 32 ac is-adran (1)(a) o adran 43, gan baragraff 3(a), (d) ac (e) o'r Atodlen i O.S. 1997/74.

(9)

1992 p.14; mewnosodwyd adrannau 52I, 52J, 52T a 52U gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1999 (p.27) Atodlen 1, paragraff 1.

(11)

Adran 70(1)(a) a (b) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p.8).

(12)

Mewnosodwyd adran 73A gan Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991 (p.34), Atodlen 7, paragraff 8.

(13)

Mewnosodwyd adran 70A gan Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991, adran 17.

(14)

Amnewidiwyd adran 316 gan adran 20 o Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991. Yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1992/1982 a 1998/2800.

(15)

Amnewidiwyd adrannau 191 a 192 gan adran 10 o Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991.

(16)

O.S. 1992/666, y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(17)

Mewnosodwyd adran 196A gan adran 11 o Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991. I gael yr amgylchiadau y gall yr hawl gael ei harfer odanynt, gweler adrannau 196A i 196C o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

(18)

Mewnosodwyd adrannau 171C a 187A gan adrannau 1 a 2 o Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991. Amnewidiwyd is-adrannau (1) i (5A) o adran 183 gan adran 9 o Ddeddf Cynllunio Gwlad ac Iawndal 1991.

(19)

Amnewidiwyd adran 172 gan adran 5 o Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991.

(20)

Mewnosodwyd adran 187B gan adran 3 o Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991.

(21)

Gweler hefyd Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 (O.S. 1990/1519), y ceir diwygiadau iddynt nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(22)

Mewnosodwyd adran 44A gan Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991 (p.34) Atodlen 3, paragraff 7.

(23)

Y ceir diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(24)

Y ceir diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(25)

Mewnosodwyd Atodlen 5ZA gan O.S. 1995/3231, erthygl 5(6).

(26)

Y ceir diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(27)

Y ceir diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(28)

Y ceir diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(29)

A ddiwygiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, adran 204(6) a Deddf Llywodraeth Leol, Cynllunio a Thir 1980, adran 1(6), Atodlen 6 paragraff 11 ac Atodlen 34, Rhan VI.

(30)

A ddiwygiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1974, (p.7), Atodlen 6, paragraff 1, adran 18 o Ddeddf Llywodraeth Leol, (Darpariaethau Amrywiol) 1976 (p.57) ac adran 186 o Ddeddf Llywodraeth Leol, Cynllunio a Thir 1980 (p.65). Amnewidiwyd adran 94(8) gan Orchymyn Dadreoleiddio (Deddf Diwygio Deddfau Iechyd y Cyhoedd) 1997 (O.S. 1997/1187).

(31)

A ddiwygiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, adran 204(9).

(32)

Diwygiwyd adran 5 gan Ddeddf Llywodraeth Leol, Cynllunio a Thir 1980, Atodlen 6, paragraff 13(1).

(33)

A ddiwygiwyd gan Ddeddf Diogelwch Tân a Diogelwch Lleoedd Chwaraeon 1987 (p.27). Gweler, yn benodol, Ran II o'r Ddeddf honno ac Atodlen 2 iddi.

(34)

A ddiwygiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1974, adran 42 ac Atodlen 8.

(35)

A ddiwygiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1974, Atodlen 6, paragraff 17 a chan Ddeddf Diogelu Anifeiliaid (Diwygio) 1988 (p.29), adran 3(2) a (3) a'r Atodlen.

(36)

A ddiwygiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1974, adran 35(1) a (2) ac Atodlen 6, paragraff 18 a chan Ddeddf Diogelu Anifeiliaid (Diwygio) 1988, adran 3(2) a (3) a'r Atodlen.

(37)

Diwygiwyd adran 1 gan Ddeddf Llywodraeth Leol, Cynllunio a Thir 1980, adran 1(6), Atodlen 6, Atodlen 34, paragraff 15 a chan Ddeddf Diogelu Anifeiliaid (Diwygio) 1988, adran 3(2) a (3) a'r Atodlen.

(38)

A ddiwygiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1974, adrannau 35(1) a (2) a 42, Atodlen 6, paragraff 2(1) ac Atodlen 8.

(39)

A ddiwygiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol, Cynllunio a Thir 1980, Atodlen 6, paragraff 6, a chan adran 3 o Ddeddf Ddiogelu Anifeiliaid (Diwygio) 1988.

(40)

Mewnosodwyd adran 46A gan adran 1 o Ddeddf Priodasau 1994 (p.34).

(41)

A ddiwygiwyd gan O.S. 1968/658.

(42)

A ddiwygiwyd gan adran 22 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 (p.30).

(43)

A ddiwygiwyd gan adran 22 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 (p.30).

(44)

A ddiwygiwyd gan reoliad 2 o Reoliadau Cynhyrchion Cig (Hylendid) (Diwygiadau) 1999 (O.S. 1999/683).

(45)

A ddiwygiwyd gan O.S. 1996/699.

(46)

Mae'r rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Diogelwch Bwyd yn Gyffredinol) 1995 (O.S. 1995/1763).

(47)

I gael y diffiniad o “y darpariaethau statudol perthnasol” gweler adran 53(1) o Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith etc 1974. Gweler hefyd y diffiniadau o “the existing statutory provisions” a “health and safety regulations” yn adran 53(1) ac, o ran “health and safety regulations”, adran 15(1) o'r Ddeddf honno a amnewidiwyd gan Ddeddf Diogelu Cyflogaeth 1975 (p.71), Atodlen 15, paragraff 5.

(48)

Amnewidiwyd is-adran (4) o adran 52 gan Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985 (p.50), Atodlen 4.

(49)

A ddeddfwyd yn wreiddiol fel Deddf Etholiadau Cynulliad Ewrop 1978 a'i hailenwi yn rhinwedd adran 3 o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd (Diwygio) 1986 (p.58). Amnewidiwyd Atodlen 1 gan Ddeddf Etholiadau Senedd Ewrop 1999 (p.1), Atodlen 2.

(50)

Mae adran 14 o Ddeddf Dehongli 1978 yn cael ei chymhwyso at is-ddeddfau a wneir o dan Adran 235 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 gan adran 22(1) o Ddeddf Dehongli 1978 a pharagraff 3 o Ran 1 o Atodlen 2 iddi.

(51)

O ran adran 7 gweler hefyd adran 99 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p.22). Diwygiwyd adran 12 o Ddeddf Blwydd-dâl 1972 gan adran 10 o Ddeddf Pensiynau (Darpariaethau Amrywiol) 1990 (p.7).

(52)

Y ceir diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(53)

A wnaed o dan adran 23 (rheoliadau ynghylch cyfrifon) o Ddeddf Cyllid Llyodraeth Leol 1982 (p.32) fel y'i diwygiwyd gan adran 27 o Ddeddf y Comisiwn Archwilio 1998 (p.18).

(54)

Gweler hefyd adrannau 8 ac 20 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989.

(55)

1998 p.14. Mae adran 34(4) yn disodli adran 63(3) o Ddeddf Gweinyddu Nawdd Cymdeithasol 1992. Mae effaith Rheoliadau Budd-daliadau'r Dreth Gyngor 1992 (O.S. 1992/1814) a Rheoliadau Budd-daliadau Tai (Cyffredinol) 1987 (O.S. 1987/1971), y ceir diwygiadau iddynt nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn, yn parhau yn rhinwedd adran 17(2)(b) o Ddeddf Dehongli 1978 (p.30), er bod adran 63(3) o Ddeddf Gweinyddu Nawdd Cymdeithasol 1992 wedi'i diddymu.

(56)

996 p.16.

(57)

1999 p.27.

(58)

Rhan IIA o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (p.43) ac is-ddeddfwriaeth o dan y Rhan honno.

(59)

Gweler Deddf Atal a Rheoli Llygredd 1999 (p.24), Rhan IV o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p.25), Rhan I o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (p.43) a Deddf Aer Glân 1993 (p.11).

(60)

Adran 80(1) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990.

(61)

Adran 8 o Ddeddf Sŵn a Niwsans Statudol 1993 (p.40).

(62)

Adran 79 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990.

(63)

Adran 79 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990.

(64)

1990 p.8.

(65)

1976 p.57.

(66)

Adran 278 o Ddeddf Priffyrdd 1980 (p.66), a amnewidiwyd gan Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gweithfeydd Stryd 1991 (p.22), adran 23.

(67)

Adran 92 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources