Search Legislation

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Cyflawni Swyddogaethau) (Cymru) 2001

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 2287 (Cy. 175 )

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Cyflawni Swyddogaethau) (Cymru) 2001

Wedi'u gwneud

21 Mehefin 2001

Yn dod i rym

28 Gorffennaf 2001

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 18(1), (2), 19(1), (2), (4), (5), (6), 20(1), (2), 105(2) a 106(1) a (2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (1):—

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Cyflawni Swyddogaethau) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 28 Gorffennaf 2001.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys yng Nghymru yn unig.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “Deddf 1972” (“the 1972 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 1972(2);

  • ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 2000;

  • ystyr “person perthnasol” (“relevant person”) at ddibenion Rheoliadau 6(2), (3) ac 11(4) yw—

    (a)

    y maer etholedig os oes gan yr awdurdod lleol weithrediaeth maer a chabinet;

    (b)

    y rheolwr cyngor os oes gan yr awdurdod lleol weithrediaeth maer a rheolwr cyngor;

    (c)

    arweinydd y weithrediaeth os oes gan yr awdurdod lleol weithrediaeth arweinydd a chabinet a bod y pwer i wneud y trefniadau yn codi yn rhinwedd is-baragraffau (b), (c) neu (ch) o reoliad 4(1);

  • ystyr “pwyllgor ardal” (“area committee”) yw pwyllgor neu is-bwyllgor i awdurdod lleol fel y'i diffinnir yn adran 18(3) o Ddeddf 2000.

Y pŵ er i wneud trefniadau: gweithrediaethau maer a chabinet

3.  Yn achos awdurdod lleol a chanddo weithrediaeth maer a chabinet, mae gan y personau canlynol bŵ er i wneud trefniadau o dan reoliadau 6 a 7 ac i wneud trefniadau o dan adran 101(5) o Ddeddf 1972 yn unol â rheoliad 11—

(a)y maer etholedig mewn perthynas ag unrhyw swyddogaethau sy'n gyfrifoldeb i'r weithrediaeth;

(b)oni bai bod y maer etholedig yn cyfarwyddo fel arall, gweithrediaeth yr awdurdod lleol, aelod o'r weithrediaeth heblaw'r maer etholedig, neu bwyllgor o'r weithrediaeth mewn perthynas ag unrhyw swyddogaethau a all gael eu cyflawni, yn rhinwedd adran 14 o Ddeddf 2000, gan y weithrediaeth, yr aelod hwnnw neu, yn ôl fel y digwydd, y pwyllgor hwnnw.

Y pŵ er i wneud trefniadau: gweithrediaethau arweinydd a chabinet

4.—(1Yn achos awdurdod lleol a chanddo weithrediaeth arweinydd a chabinet, mae gan y personau canlynol bŵ er i wneud trefniadau o dan reoliadau 6 a 7 ac i wneud trefniadau o dan adran 101(5) o Ddeddf 1972 yn unol â rheoliad 11—

(a)y weithrediaeth, aelod o'r weithrediaeth, neu bwyllgor o'r weithrediaeth mewn perthynas ag unrhyw swyddogaethau a ddyrennir gan drefniadau gweithrediaeth i'r weithrediaeth, i'r aelod hwnnw neu, yn ôl fel y digwydd, i'r pwyllgor hwnnw;

(b)yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod, y weithrediaeth, aelod o'r weithrediaeth neu bwyllgor o'r weithrediaeth mewn perthynas ag unrhyw swyddogaethau y mae arweinydd y weithrediaeth wedi trefnu iddynt gael eu cyflawni gan y weithrediaeth, yr aelod hwnnw, neu yn ôl fel y digwydd, y pwyllgor hwnnw;

(c)yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod, pwyllgor o'r weithrediaeth, mewn perthynas ag unrhyw swyddogaethau y mae'r weithrediaeth wedi trefnu iddynt gael eu cyflawni gan y pwyllgor hwnnw yn rhinwedd adran 15(5)(a) o Ddeddf 2000;

(ch)arweinydd y weithrediaeth mewn perthynas ag unrhyw swyddogaethau sy'n gyfrifoldeb i'r weithrediaeth i'r graddau nad ydynt wedi'u dyrannu drwy ddarpariaeth a wnaed mewn trefniadau gweithrediaeth.

(2Os yw arweinydd y weithrediaeth yn gwneud unrhyw drefniadau o dan reoliad 6 neu 7 neu'n gwneud trefniadau o dan adran 101(5) o Ddeddf 1972 yn unol â rheoliad 11, caiff gyfarwyddo, bryd hynny neu ar unrhyw adeg ddilynol, nad yw paragraff (1)(b) neu (c) uchod i fod yn gymwys i unrhyw un o'r swyddogaethau sy'n dod o dan y trefniadau hynny neu nad yw i fod yn gymwys i unrhyw un o'r swyddogaethau hynny mewn unrhyw achosion neu amgylchiadau y gallai arweinydd y weithrediaeth eu cyfarwyddo.

Y pŵ er i wneud trefniadau: gweithrediaethau maer a rheolwr cyngor

5.  Yn achos awdurdod lleol a chanddo weithrediaeth maer a rheolwr cyngor, mae gan y personau canlynol bŵ er i wneud trefniadau o dan reoliadau 6 a 7 ac i wneud trefniadau o dan adran 101(5) o Ddeddf 1972 yn unol â rheoliad 11—

(a)y rheolwr cyngor mewn perthynas ag unrhyw swyddogaethau sy'n gyfrifoldeb i'r weithrediaeth;

(b)gweithrediaeth yr awdurdod lleol mewn perthynas ag unrhyw swyddogaethau a all gael eu cyflawni, yn rhinwedd adran 16 o Ddeddf 2000, gan y weithrediaeth.

Cyflawni swyddogaethau gan bwyllgorau ardal

6.—(1Caiff person sydd â phŵ er i wneud trefniadau o dan y rheoliad hwn drefnu i unrhyw swyddogaethau sy'n gyfrifoldeb i weithrediaeth yr awdurdod lleol perthnasol gael eu cyflawni gan bwyllgor ardal o'r awdurdod hwnnw.

(2Os gall unrhyw swyddogaethau gael eu cyflawni gan bwyllgor ardal yn rhinwedd y rheoliad hwn, yna, oni bai bod y person perthnasol yn cyfarwyddo fel arall, caiff y pwyllgor ardal drefnu i unrhyw un o'r swyddogaethau hynny gael ei chyflawni gan is-bwyllgor o'r pwyllgor hwnnw neu gan un o swyddogion yr awdurdod.

(3Os gall unrhyw swyddogaethau gael eu cyflawni gan is-bwyllgor o bwyllgor ardal yn rhinwedd paragraff (2) uchod, yna, oni bai bod y pwyllgor ardal neu'r person perthnasol yn cyfarwyddo fel arall, caiff yr is-bwyllgor drefnu i unrhyw un o'r swyddogaethau hynny gael ei chyflawni gan un o swyddogion yr awdurdod.

(4Nid yw unrhyw drefniadau a wneir o dan y rheoliad hwn gan berson a bennir yn rheoliad 3, 4 neu 5 uchod ar gyfer cyflawni unrhyw swyddogaethau gan bwyllgor ardal i atal y person hwnnw rhag arfer y swyddogaethau hynny.

(5Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl gwneud trefniadau o dan y rheoliad hwn, rhaid i'r weithrediaeth sicrhau bod copïau o ddogfen sy'n nodi darpariaethau'r trefniadau ar gael ym mhrif swyddfa'r awdurdod i gael eu harchwilio gan aelodau'r cyhoedd ar bob adeg resymol.

(6Wrth baratoi'r ddogfen y cyfeirir ati ym mharagraff (5) uchod, rhaid i'r weithrediaeth roi sylw i unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 38 o Ddeddf 2000.

Cyflawni swyddogaethau gan awdurdod lleol arall

7.—(1Caiff person sydd â phŵ er i wneud trefniadau o dan y rheoliad hwn wneud trefniadau gydag awdurdod lleol arall yn unol â'r rheoliad hwn.

(2Caiff trefniadau o dan y rheoliad hwn ddarparu—

(a)i swyddogaeth sy'n gyfrifoldeb i weithrediaeth un awdurdod lleol gael ei chyflawni naill ai gan awdurdod lleol arall neu gan weithrediaeth yr awdurdod arall hwnnw os yw'r swyddogaeth honno yn swyddogaeth i'r awdurdod lleol arall hwnnw ond nad yw'n un sy'n gyfrifoldeb i weithrediaeth yr awdurdod lleol arall hwnnw;

(b)i swyddogaeth sy'n gyfrifoldeb i weithrediaeth un awdurdod lleol gael ei chyflawni gan weithrediaeth awdurdod lleol arall os yw'r swyddogaeth honno yn swyddogaeth sy'n gyfrifoldeb i weithrediaeth yr awdurdod lleol arall hwnnw;

(c)i swyddogaeth sy'n gyfrifoldeb i weithrediaeth un awdurdod lleol gael ei chyflawni gan weithrediaeth awdurdod lleol arall os nad yw'r swyddogaeth honno yn swyddogaeth i'r awdurdod lleol arall hwnnw a bod gan yr awdurdod arall hwnnw weithrediaeth;

(ch)i swyddogaeth sy'n gyfrifoldeb i weithrediaeth un awdurdod lleol gael ei chyflawni gan awdurdod lleol arall os nad yw'r swyddogaeth honno yn swyddogaeth i'r awdurdod lleol arall hwnnw ac nad oes gan yr awdurdod arall hwnnw weithrediaeth.

(3Nid yw unrhyw drefniadau a wneir o dan y rheoliad hwn i atal y person a wnaeth y trefniadau rhag arfer y swyddogaethau y maent yn ymwneud â hwy.

Trefniadau i swyddogaethau awdurdod lleol gael eu cyflawni gan weithrediaeth awdurdod lleol arall

8.—(1Caiff awdurdod lleol wneud trefniadau gydag awdurdod lleol arall i weithrediaeth yr awdurdod lleol arall hwnnw gyflawni unrhyw swyddogaethau i'r awdurdod cyntaf a grybwyllwyd nad ydynt yn gyfrifoldeb i weithrediaeth yr awdurdod hwnnw —

(a)os nad yw'r swyddogaethau yn swyddogaethau i'r awdurdod lleol arall hwnnw; neu

(b)os yw'r swyddogaethau yn swyddogaethau i'r awdurdod lleol arall hwnnw ac yn gyfrifoldeb i weithrediaeth yr awdurdod arall hwnnw.

(2Nid yw unrhyw drefniadau a wneir o dan y rheoliad hwn i atal yr awdurdod a wnaeth y trefniadau rhag arfer y swyddogaethau y maent yn ymwneud â hwy.

Swyddogaethau a ddirprwyir i awdurdod lleol arall at ddibenion adrannau 14 ac 16 o Ddeddf 2000

9.  Os oes trefniadau mewn grym yn rhinwedd rheoliad 7 neu 8 uchod i unrhyw un o swyddogaethau awdurdod lleol, neu i unrhyw swyddogaethau sy'n gyfrifoldeb i weithrediaeth yr awdurdod hwnnw, gael eu cyflawni gan weithrediaeth awdurdod lleol arall, rhaid trin y swyddogaethau hynny, at ddibenion adrannau 14 i 16 o Ddeddf 2000, fel swyddogaethau sy'n gyfrifoldeb i weithrediaeth yr awdurdod lleol arall hwnnw.

Arfer swyddogaethau gan awdurdod lleol arall

10.—(1Os oes trefniadau mewn grym, yn rhinwedd rheoliad 7 uchod, i unrhyw swyddogaethau sy'n gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod lleol gael eu cyflawni gan awdurdod lleol arall, yna, yn ddarostyngedig i delerau'r trefniadau, caiff yr awdurdod arall hwnnw drefnu i unrhyw un o'r swyddogaethau hynny gael ei chyflawni gan bwyllgor, is-bwyllgor neu swyddog iddynt.

(2Os gall unrhyw swyddogaethau gael eu cyflawni, yn rhinwedd paragraff (1) uchod, gan bwyllgor i awdurdod lleol, yna, oni bai bod yr awdurdod hwnnw'n cyfarwyddo fel arall, caiff y pwyllgor drefnu i unrhyw un o'r swyddogaethau hynny gael ei chyflawni gan is-bwyllgor neu swyddog i'r awdurdod.

(3Os gall unrhyw swyddogaethau gael eu cyflawni, yn rhinwedd paragraff (1) neu (2) uchod, gan is-bwyllgor i awdurdod lleol, yna, oni bai bod yr awdurdod hwnnw neu, yn ôl fel y digwydd, y pwyllgor hwnnw yn cyfarwyddo fel arall, caiff yr is-bwyllgor drefnu i unrhyw un o'r swyddogaethau hynny gael ei chyflawni gan un o swyddogion yr awdurdod.

Arfer swyddogaethau ar y cyd

11.—(1Rhaid i drefniadau a wneir o dan adran 101(5) o Ddeddf 1972 gan berson y mae rheoliad 3, 4 neu 5 uchod yn rhoi'r pŵ er iddo wneud hynny, gael eu gwneud yn unol â'r rheoliad hwn.

(2Rhaid i'r trefniadau gael eu gwneud —

(a)os yw'r swyddogaethau y mae'r trefniadau'n ymwneud â hwy yn gyfrifoldeb i weithrediaeth yr awdurdod lleol arall o dan sylw, gyda'r person sydd, yn rhinwedd rheoliad 3, 4 neu 5 uchod, â phwer i wneud trefniadau o'r fath ar ran yr awdurdod hwnnw;

(b)mewn unrhyw achos arall, gyda'r awdurdod lleol arall.

(3Os yw'r trefniadau yn darparu i swyddogaethau gael eu cyflawni gan gyd-bwyllgor, rhaid i benodiadau'r personau sydd i gynrychioli pob awdurdod lleol ar y pwyllgor hwnnw gael eu gwneud, a rhaid i nifer y personau hynny sydd i'w penodi gael ei benderfynu, gan y person sy'n gwneud y trefniadau ar ran yr awdurdod hwnnw.

(4Yn ddarostyngedig i delerau'r trefniadau ac oni bai bod y person perthnasol mewn perthynas â'r awdurdod lleol y mae ei swyddogaethau'n destun y trefniadau yn cyfarwyddo fel arall, caiff cyd-bwyllgor a benodir yn unol â'r rheoliad hwn drefnu i unrhyw un o'i swyddogaethau gael ei chyflawni gan is-bwyllgor neu swyddog i un o'r awdurdodau o dan sylw, ac yn ddarostyngedig i delerau'r trefniadau ac oni bai bod y cyd-bwyllgor neu'r person perthnasol mewn perthynas â'r awdurdod lleol y mae ei swyddogaethau'n destun y trefniadau yn cyfarwyddo fel arall, caiff unrhyw is-bwyllgor o'r fath drefnu i unrhyw un o'i swyddogaethau gael ei chyflawni gan swyddog o'r fath.

(5Nid yw unrhyw drefniadau a wneir yn unol â'r rheoliad hwn gan berson a bennir yn rheoliadau 3, 4 neu 5 uchod i unrhyw swyddogaethau gael eu cyflawni gan gyd-bwyllgor i atal y person hwnnw rhag arfer y swyddogaethau hynny.

(6Os yw trefniadau a wneir ar ran awdurdod lleol yn unol â'r rheoliad hwn gan berson a bennir yn rheoliad 3, 4 neu 5 uchod yn darparu ar gyfer penodi personau nad ydynt yn aelodau o weithrediaeth yr awdurdod hwnnw i gyd-bwyllgor, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl gwneud y trefniadau, rhaid i'r person hwnnw sicrhau bod copïau o ddogfen sy'n nodi darpariaethau'r trefniadau ar gael ym mhrif swyddfa'r awdurdod i gael eu harchwilio gan aelodau'r cyhoedd ar bob adeg resymol.

(7Rhaid i berson sy'n paratoi'r ddogfen y cyfeirir ati ym mharagraff (6) uchod roi sylw i unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 38 o Ddeddf 2000.

(8Bydd Rheoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Cael Mynediad i Gyfarfodydd a Chael Gweld Dogfennau) (Cymru) 2001(3) yn gymwys i gyfarfod o gyd-bwyllgor —

(a)a sefydlir gan drefniadau a wneir yn unol â'r rheoliad hwn yn unig gan weithrediaethau, aelodau gweithrediaethau neu bwyllgorau gweithrediaethau os yw'r holl weithrediaethau o dan sylw yn cynnal eu cyfarfodydd yn breifat; a

(b)nad oes yr un o'i aelodau yn aelod o un o'r awdurdodau lleol o dan sylw ond nad yw'n aelod o weithrediaeth yr awdurdod hwnnw,

fel pe bai cyfarfodydd y cyd-bwyllgor hwnnw yn gyfarfodydd preifat o bwyllgor gweithrediaeth awdurdod lleol, oni bai bod yr holl weithrediaethau hynny yn cytuno fel arall.

(9Ac eithrio fel y disgrifir ym mharagraff (8) uchod, bydd Rhan VA o Ddeddf 1972 (cael mynediad i gyfarfodydd a chael gweld dogfennau awdurdodau, pwyllgorau ac is-bwyllgorau penodol) yn gymwys i gyd-bwyllgor a sefydlir yn unol â'r rheoliad hwn.

Aelodau cyd-bwyllgorau

12.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3) isod, rhaid i bob person a benodir i gyd-bwyllgor yn unol â rheoliad 11 uchod gan weithrediaeth, aelod gweithrediaeth neu bwyllgor gweithrediaeth fod yn aelod o'r weithrediaeth honno, ac ni fydd y gofynion ynglŷn â chydbwysedd gwleidyddol yn gymwys wrth benodi aelodau o'r fath.

(2Os gweithrediaeth maer a rheolwr cyngor yw'r weithrediaeth o dan sylw —

(a)rhaid i'r maer etholedig beidio â bod yn aelod o'r cyd-bwyllgor; a

(b)caiff y rheolwr cyngor naill ai fod yn aelod o'r cyd-bwyllgor neu drefnu i un arall o swyddogion yr awdurdod lleol fod yn aelod o'r cyd-bwyllgor, a bydd yr aelod hwnnw yn aelod gyda phleidlais o'r pwyllgor hwnnw.

(3Os—

(a)oes gan y cyd-bwyllgor swyddogaethau mewn perthynas â rhan yn unig o ardal un o'r awdurdodau lleol o dan sylw;

(b)yw'r swyddogaethau hynny yn gyfrifoldeb i weithrediaeth yr awdurdod hwnnw; ac

(c)naill ai—

(i)nad yw arwynebedd y rhan honno yn fwy na dwy ran o bump o gyfanswm arwynebedd yr awdurdod; neu

(ii)nad yw poblogaeth y rhan honno, yn ôl amcangyfrif yr awdurdod, yn fwy na dwy ran o bump o gyfanswm poblogaeth yr awdurdod yn ôl yr amcangyfrif hwnnw,

caiff cynrychiolwyr yr awdurdod hwnnw ar y cyd-bwyllgor gynnwys unrhyw aelodau o'r awdurdod hwnnw sydd wedi'u hethol dros adrannau neu wardiau etholiadol sydd yn gyfan gwbl neu'n rhannol o fewn y rhan honno o ardal yr awdurdod, ac ni fydd y gofynion ynglyn â chydbwysedd gwleidyddol yn gymwys wrth benodi'r aelodau hynny.

(4Os oes gan y cyd-bwyllgor swyddogaethau mewn perthynas â rhan o ardal un o'r awdurdodau lleol o dan sylw a bod cynrychiolwyr yr awdurdod hwnnw ar y pwyllgor hwnnw yn cael eu penodi gan yr awdurdod, ni fydd y gofynion ynglyn â chydbwysedd gwleidyddol yn gymwys wrth benodi'r cynrychiolwyr hynny a rhaid i'r cynrychiolwyr hynny fod yn aelodau o'r awdurdod lleol hwnnw sydd wedi'u hethol dros adrannau neu wardiau etholiadol sydd yn gyfan gwbl neu'n rhannol o fewn y rhan honno o ardal yr awdurdod.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(a)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

21 Mehefin 2001

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae Rhan II o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (“y Ddeddf”) yn darparu i'r awdurdodau lleol wneud trefniadau (“trefniadau gweithrediaeth”) ar gyfer creu a gweithredu gweithrediaeth o'r awdurdod, sef trefniadau y mae rhai o swyddogaethau'r awdurdod yn gyfrifoldeb i'r weithrediaeth odanynt.

O dan adrannau 18 a 19 o'r Ddeddf, caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru wneud darpariaeth, drwy reoliadau, sy'n galluogi gweithrediaeth awdurdod lleol yng Nghymru, neu bwyllgor neu aelod penodedig o weithrediaeth o'r fath, i wneud trefniadau i unrhyw swyddogaethau sydd, o dan y trefniadau gweithrediaeth yn gyfrifoldeb i'r awdurdod, gael eu cyflawni gan bwyllgor ardal o'r awdurdod neu gan awdurdod lleol arall.

Mae adran 19 o'r Ddeddf hefyd yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth sy'n galluogi awdurdod lleol yng Nghymru i wneud trefniadau i unrhyw un o swyddogaethau'r awdurdod gael ei chyflawni gan weithrediaeth awdurdod lleol arall.

O dan adran 20 o'r Ddeddf, caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth sy'n galluogi awdurdod lleol yng Nghymru i wneud trefniadau i unrhyw swyddogaethau sydd, o dan y trefniadau gweithrediaeth, yn gyfrifoldeb i weithrediaeth yr awdurdod gael eu cyflawni gan yr awdurdod hwnnw ac un neu ragor o awdurdodau lleol eraill ar y cyd.

Mae Rheoliadau 3, 4 a 5 yn pennu'r personau sydd â'r pwer i wneud trefniadau o'r fath yn achos gweithrediaeth maer a chabinet, gweithrediaeth arweinydd a chabinet a gweithrediaeth maer a rheolwr cyngor yn y drefn honno.

Mae Rheoliad 6 yn darparu ar gyfer gwneud trefniadau i swyddogaethau sy'n gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod lleol yng Nghymru gael eu cyflawni gan bwyllgor ardal o'r awdurdod hwnnw.

Mae Rheoliad 7 yn darparu ar gyfer gwneud trefniadau i swyddogaethau sy'n gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod lleol yng Nghymru gael eu cyflawni gan awdurdod lleol arall.

Mae Rheoliad 8 yn darparu ar gyfer gwneud trefniadau, o dan amgylchiadau penodedig, i swyddogaethau nad ydynt yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod lleol yng Nghymru gael eu cyflawni gan weithrediaeth awdurdod lleol arall.

Os oes trefniadau wedi'u gwneud o dan Reoliad 7 neu 8 i swyddogaethau awdurdod lleol yng Nghymru gael eu cyflawni gan weithrediaeth awdurdod lleol arall, mae Rheoliad 9 yn darparu bod y swyddogaethau hynny i gael eu trin fel swyddogaethau sy'n gyfrifoldeb i weithrediaeth yr awdurdod lleol arall hwnnw at ddibenion adrannau 14 i 16 o'r Ddeddf.

Os oes trefniadau wedi'u gwneud o dan Reoliad 7 i swyddogaethau sy'n gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod lleol yng Nghymru gael eu cyflawni gan awdurdod lleol arall, mae Rheoliad 10 yn darparu i'r dasg o arfer y swyddogaethau hynny gael ei dirprwyo i bwyllgor, is-bwyllgor neu swyddog o'r awdurdod lleol arall hwnnw.

Mae Rheoliad 11 yn darparu ar gyfer gwneud trefniadau i swyddogaethau sy'n gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod lleol yng Nghymru gael eu cyflawni gan yr awdurdod hwnnw ac un neu ragor o awdurdodau lleol eraill ar y cyd neu gan gyd-bwyllgor.

Mae Rheoliad 12 yn darparu ar gyfer aelodaeth cyd-bwyllgor a benodir yn unol â threfniadau a wneir o dan Reoliad 11.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources