Search Legislation

Gorchymyn Ymddygiad Aelodau (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) 2001

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 2289 (Cy.177)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Ymddygiad Aelodau (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) 2001

Wedi'i wneud

21 Mehefin 2001

Yn dod i rym

28 Gorffennaf 2001

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 50(2), 50(4), 81(2) ac 81(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000(1), a phob pŵ er arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, ar ôl cynnal y cyfryw ymgynghori ag sy'n ofynnol yn rhinwedd adran 50(5) o'r Ddeddf honno a chan ei fod wedi'i fodloni fod y Gorchymyn hwn yn gyson â'r egwyddorion sydd am y tro wedi'u pennu mewn gorchymyn o dan adran 49(2) o'r Ddeddf honno(2) yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddygiad Aelodau (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) 2001 a daw i rym ar 28 Gorffennaf 2001.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i bob awdurdod perthnasol yng Nghymru.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn —

  • ystyr “awdurdod perthnasol” (“relevant authority”) yw —

    (a)

    cyngor sir,

    (b)

    cyngor bwrdeistref sirol,

    (c)

    cyngor cymuned,

    (ch)

    awdurdod tân a gyfansoddwyd gan gynllun cyfuno o dan Ddeddf y Gwasanaethau Tân 1947(3), a

    (d)

    awdurdod Parc Cenedlaethol a sefydlwyd o dan adran 63 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (4)); ac

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 2000.

Cod ymddygiad enghreifftiol

3.—(1Mae cod enghreifftiol o ran yr ymddygiad a ddisgwylir oddi wrth aelod o awdurdod perthnasol wedi'i nodi yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.

(2At ddibenion adran 50(4) o'r Ddeddf, mae darpariaethau'r cod enghreifftiol i'w hystyried yn rhai gorfodol.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

21 Mehefin 2001

Erthygl 3

ATODLENCOD YMDDYGIAD ENGHREIFFTIOL I AELODAU CYNGHORAU SIR, CYNGHORAU BWRDEISTREF SIROL A CHYNGHORAU CYMUNED, AWDURDODAU TÅN AC AWDURDODAU PARCIAU CENEDLAETHOL YNG NGHYMRU

RHAN I

Dehongli

Yn y cod hwn —

  • mae “aelod” (“member”) yn cynnwys aelod cyfetholedig;

  • ystyr “aelod cyfetholedig” (“co-opted member”), mewn perthynas ag awdurdod perthnasol, yw person nad yw'n aelod o'r awdurdod ond sydd —

    (a)

    yn aelod o unrhyw un o bwyllgorau neu is-bwyllgorau'r awdurdod, neu

    (b)

    yn aelod o unrhyw un o gyd-bwyllgorau neu o gyd-is-bwyllgorau'r awdurdod ac yn cynrychioli'r awdurdod arno,

    ac y mae ganddo hawl i bleidleisio ar unrhyw gwestiwn sydd i'w benderfynu yn unrhyw un o gyfarfodydd y pwyllgor neu'r is-bwyllgor hwnnw;

  • ystyr “cyfarfod” (“meeting”) yw unrhyw gyfarfod —

    (a)

    o'r awdurdod perthnasol;

    (b)

    o unrhyw weithrediaeth neu fwrdd i'r awdurdod;

    (c)

    o unrhyw bwyllgor, is-bwyllgor, gyd-bwyllgor, gyd-is-bwyllgor neu bwyllgor ardal o'r awdurdod perthnasol neu o unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor o unrhyw weithrediaeth neu fwrdd i'r awdurdod ; neu

    (ch)

    pan fydd aelodau neu swyddogion o'r awdurdod yn bresennol.

RHAN II

Cwmpas

Darpariaethau Cyffredinol

1.  Rhaid i aelodau gadw'r cod ymddygiad hwn pryd bynnag y byddant:

(a)yn cynnal busnes yr awdurdod;

(b)yn ymgymryd â rôl aelod yr etholwyd hwy neu y penodwyd hwy iddi; neu

(c)yn gweithredu fel cynrychiolwyr yr awdurdod.

2.  Rhaid i'r cod ymddygiad hwn, oni nodir fel arall, fod yn gymwys i'r gweithgareddau hynny y mae aelod yn ymgymryd â hwy yn rhinwedd ei swydd fel aelod yn unig .

3.  Pan fydd aelod yn gweithredu fel cynrychiolydd yr awdurdod ar gorff arall, rhaid i'r aelod hwnnw, wrth weithredu yn rhinwedd y swydd honno, gydymffurfio â'r cod ymddygiad hwn, oni fydd yn gwrthdaro ag unrhyw rwymedigaethau cyfreithiol sy'n codi yn sgî l gwasanaethu ar y corff hwnnw. Pan na fydd penodiad aelod i gorff arall yn deillio o safle'r aelod fel aelod o'r awdurdod, ni fydd y cod hwn yn gymwys i'r aelod, a fydd yn hytrach yn ddarostyngedig i god ymddygiad y corff arall. Er hynny, disgwylir i aelod felly roi sylw i egwyddorion cyffredinol ymddygiad(6) a pheidio â dwyn anfri ar swydd aelod nac ar yr awdurdod.

Hybu Cydraddoldeb a Pharch at Eraill

4.  Rhaid i aelodau o'r awdurdod:

(a)cyflawni eu dyletswyddau a'u cyfrifoldebau â sylw dyladwy i'r angen i hybu cydraddoldeb cyfle i bawb, waeth beth yw eu gender, eu hil, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rywiol, eu hoed neu eu crefydd, a dangos parch ac ystyriaeth at eraill,

(b)peidio â gwneud dim sy'n cyfaddawdu, neu sy'n debygol o gyfaddawdu, didueddwch gweithwyr cyflogedig yr awdurdod.

Atebolrwydd a Bod yn Agored

5.  Rhaid i aelodau:

(a)peidio â datgelu gwybodaeth a roddir yn gyfrinachol, heb gydsyniad pendant person a awdurdodir i roi'r cydsyniad hwnnw, neu onid yw'r gyfraith yn mynnu hynny;

(b)peidio â rhwystro unrhyw berson rhag cael gweld gwybodaeth y mae gan y person hwnnw hawl i'w gweld yn ôl y gyfraith.

Dyletswydd i gynnal y gyfraith

6.—(1Rhaid i aelodau:

(a)yn rhinwedd eu swyddi neu fel arall, beidio â chyflawni tramgwydd troseddol na pheri bod un yn cael ei gyflawni;

(b)yn rhinwedd eu swyddi neu fel arall, beidio ag ymddwyn mewn dull y gellid yn rhesymol ei ystyried fel un sy'n dwyn anfri ar swydd aelod neu ar yr awdurdod;

(c)adrodd i'r Comisiynydd Lleol dros Weinyddu Lleol yng Nghymru ac i swyddog monitro'r awdurdod ar unrhyw ymddygiad gan aelod arall y maent yn credu ei fod yn golygu neu ei fod yn debygol o olygu methiant i gydymffurfio â'r cod ymddygiad hwn;

(ch)adrodd, p'un ai drwy weithdrefn adrodd gyfrinachol yr awdurdod neu'n uniongyrchol i'r awdurdod priodol, ar unrhyw ymddygiad gan berson arall y maent yn credu ei fod yn golygu neu ei fod yn debygol o olygu ymddygiad troseddol;

(d)mewn perthynas ag (c) uchod peidio â gwneud unrhyw gwynion blinderus neu faleisus yn erbyn personau eraill.

(2Rhaid i aelod o'r awdurdod (heblaw aelod sy'n destun ymchwiliad gan swyddog monitro yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 73(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000(7)) gydymffurfio ag unrhyw ofyniad a wneir gan swyddog monitro'r awdurdod hwnnw mewn cysylltiad ag ymchwiliad o'r fath.

Anhunanoldeb a stiwardiaeth

7.  Rhaid i aelodau:

(a)yn rhinwedd eu swyddi neu fel arall, beidio â defnyddio'u safle yn amhriodol i roi neu i sicrhau mantais neu anfantais i unrhyw berson ac yn benodol felly eu teulu, eu cyfeillion neu'r rhai y mae ganddynt gysylltiad personol agos â hwy nac i sicrhau mantais iddynt eu hunain;

(b)pan fyddant yn defnyddio neu'n awdurdodi defnyddio adnoddau yr awdurdod gan aelod arall, wneud hynny'n ddarbodus ac yn unol â'r gyfraith a gofynion yr awdurdod; ac

(c)sicrhau nad yw adnoddau'r awdurdod yn cael eu defnyddio'n amhriodol at eu dibenion preifat eu hunain, eu teulu, eu cyfeillion a'r personau y mae ganddynt gysylltiad personol agos â hwy.

Gwrthrychedd a Gwedduster

8.  Wrth wneud penderfyniadau rhaid i aelod:

(a)gwneud penderfyniadau ar sail rhagoriaethau'r amgylchiadau ac er lles y cyhoedd;

(b)gwneud penderfyniadau gan roi sylw i unrhyw gyngor perthnasol a ddarperir gan swyddogion yr awdurdod – yn benodol gan y canlynol:

(i)Prif Swyddog Cyllid yr awdurdod yn gweithredu yn yn unol â dyletswyddau'r swyddog hwnnw o dan adran 114 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988(8);

(ii)Swyddog Monitro'r awdurdod yn gweithredu yn unol â dyletswyddau'r swyddog hwnnw o dan adran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989(9);

(iii)Prif Swyddog Cyfreithiol yr awdurdod y dylid ymgynghori ag ef os oes unrhyw amheuaeth ynghylch pŵ er yr awdurdod i weithredu, neu ynghylch a yw'r cam a gynigir yn dod o fewn y fframwaith polisi y cytunwyd arno gan yr awdurdod; os gallai canlyniadau cyfreithiol gweithredu neu fethu â gweithredu gan yr awdurdod gael ôl-effeithiau pwysig;

(c)rhoi rhesymau dros benderfyniadau yn unol â gofynion yr awdurdod ac, yn achos cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol sy'n gweithredu trefniadau gweithrediaeth, yn unol â rheoliadau a wneir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru(10).

Uniondeb

9.  Rhaid i aelodau:

(a)cadw'r gyfraith a rheolau'r awdurdod sy'n llywodraethu hawlio costau a lwfansau mewn cysylltiad â'u dyletswyddau fel aelodau;

(b)osgoi derbyn rhoddion oddi wrth neb, na lletygarwch (heblaw'r lletygarwch swyddogol, megis derbyniad dinesig neu ginio gweithio, a awdurdodir gan yr awdurdod) na buddiannau neu wasanaethau materol iddynt eu hunain neu i unrhyw berson y mae'r aelod yn byw gyda hwy a fyddai'n eu rhoi o dan rwymedigaeth amhriodol, neu y byddai'n rhesymol iddo ymddangos fel pe bai'n gwneud hynny.

RHAN IIIDATGELU A CHOFRESTRU BUDDIANNAU

10.  Ym mhob mater rhaid i aelodau ystyried a oes ganddynt fuddiant personol, ac a yw cod ymddygiad yr awdurdod yn ei gwneud yn ofynnol iddynt ddatgelu'r buddiant hwnnw.

11.  Mae gan aelod fuddiant personol mewn mater os yw'r aelod hwnnw'n rhag-weld y gellid yn rhesymol ystyried y byddai penderfyniad arno yn debygol o roi mantais neu anfantais:

(a)i'r aelod, un o deulu'r aelod neu i gyfaill, neu i unrhyw berson y mae gan yr aelod gysylltiad personol agos â hwy, neu

(b)i gorff sy'n cyflogi'r personau hynny, neu y mae gan y personau hynny unrhyw radd o berchenogaeth, rheolaeth neu ofalaeth drosto,

i fwy o raddau nag sydd gan drethdalwyr eraill y cyngor, ardrethdalwyr neu drigolion ardal yr awdurdod.

12.  Rhaid i aelodau ystyried bod ganddynt fuddiant personol mewn mater i'r graddau y mae'n ymwneud:

(a)ag awdurdod perthnasol arall y maent yn aelod ohono;

(b)â chorff y maent yn dal swydd o reolaeth neu ofalaeth gyffredinol arno;

(c)â chorff y maent wedi'u penodi neu wedi'u henwebu iddo gan yr awdurdod fel cynrychiolydd.

13.  Rhaid i aelodau ystyried bod ganddynt fuddiant personol mewn mater i'r graddau y mae'n ymwneud:

(a)ag unrhyw gyflogaeth, swydd, masnach neu broffesiwn llawn-amser, rhan-amser neu ysbeidiol a redir ganddynt er mwyn elw neu enillion;

(b)ag unrhyw berson sy'n eu cyflogi neu sydd wedi'u penodi, unrhyw ffyrm y maent yn bartner ynddi, ac unrhyw gwmni y maent yn gyfarwyddwr arno sy'n derbyn tâl;

(c)ag unrhyw berson, heblaw awdurdod perthnasol, sydd wedi gwneud taliad iddynt mewn perthynas â'u hetholiad neu unrhyw gostau a dynnwyd wrth gyflawni eu dyletswyddau;

(ch)ag unrhyw gorff corfforaethol sydd â lle busnes neu dir yn ardal yr awdurdod, y mae gan yr aelod fuddiant llesiannol mewn dosbarth o warannoedd y corff hwnnw sy'n werth mwy na £25,000 neu un ganfed ran o gyfanswm cyfalaf cyfrannau dyroddedig y corff hwnnw (pa un bynnag yw'r isaf);

(d)ag unrhyw gontract am nwyddau, gwasanaethau neu weithfeydd a wnaed rhwng yr awdurdod a'r aelod, ffyrm y mae'r aelod yn bartner ynddi, cwmni y mae'r aelod yn gyfarwyddwr arno, neu gorff sy'n dod o fewn is-baragraff (ch);

(dd)ag unrhyw dir y mae gan yr aelod neu un o deulu'r aelod fuddiant llesiannol ynddo ac sydd yn ardal yr awdurdod;

(e)ag unrhyw dir y mae'r awdurdod yn landlord arno a ffyrm y mae'r aelod yn bartner ynddi, cwmni y mae'r aelod yn gyfarwyddwr arno, neu gorff sy'n dod o fewn is-baragraff (ch) yn denant arno;

(f)ag unrhyw dir yn ardal yr awdurdod y mae gan yr aelod drwydded arno (yn unigol neu ar y cyd ag eraill) i'w feddiannu am fis neu fwy; ac

(ff)ag unrhyw ymweliad y tu allan i'r Deyrnas Unedig y mae'r awdurdod wedi talu amdano neu'n mynd i dalu amdano.

14.  Rhaid i aelodau ystyried bod ganddynt fuddiant personol mewn mater i'r graddau y mae'n ymwneud ag unrhyw aelodaeth, neu safle o reolaeth neu ofalaeth gyffredinol sydd ganddynt mewn unrhyw gorff. Mae cyrff o'r fath yn cynnwys:

(a)unrhyw glwb neu gymdeithas breifat, megis y Seiri Rhyddion, clwb adloniant, clwb gweithwyr, neu glwb buddsoddi preifat;

(b)unrhyw gorff y mae un o'i brif ddibenion yn cynnwys dylanwadu ar farn neu bolisi cyhoeddus megis grwp lobïo ;

(c)unrhyw undeb llafur(11) neu gymdeithas broffesiynol;

(ch)unrhyw gwmni, cymdeithas ddiwydiannol a darbodus(12) neu gorff arall y mae ganddo ddibenion elusennol.

15.  Gall aelodau ystyried nad oes ganddynt fuddiant personol mewn mater i'r graddau y mae'n ymwneud:

(a)â swyddogaethau tai'r awdurdod, pan gaiff yr aelod ddal tenantiaeth neu brydles gan yr awdurdod, ar yr amod —

(i)nad oes ganddynt ôl-ddyledion rhent o fwy na dau fis, a

(ii)bod yna nifer arwyddocaol o denantiaid nad ydynt yn aelodau a fyddai'n cael eu heffeithio mewn perthynas â'r mater yn yr un modd neu mewn modd tebyg â'r aelod o dan sylw;

(b)â swyddogaethau'r awdurdod mewn perthynas â phrydau bwyd ysgolion, cludiant ysgolion a chostau teithio ysgolion, os yw'r aelod yn rhiant â phlentyn mewn addysg llawn amser, oni bai —

(i)bod y mater yn ymwneud yn benodol â'r ysgol y mae'r plentyn yn ei mynychu; neu

(ii)bod y mater yn ymwneud ag amgylchiadau penodol yr aelod ei hun yn unig;

(c)â swyddogaethau'r awdurdod mewn perthynas â thâl salwch statudol o dan Ran XI o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992(13), —

(i)os yw'r aelod yn cael, neu fod ganddo'r hawl i gael, y tâl hwnnw oddi wrth awdurdod perthnasol; a

(ii)nad yw'r mater yn ymwneud ag amgylchiadau penodol yr aelod ei hun yn unig; ac

(ch)â swyddogaethau'r awdurdod mewn perthynas â lwfans neu daliad a wneir o dan Adrannau 173 i 176 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(14) neu Adran 18 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989.

16.—(1Rhaid i aelod sydd â buddiant personol mewn mater a bennir ym mharagraff 12 ac sy'n mynd i gyfarfod o'r awdurdod pan yw'r mater yn cael ei drafod, ddatgelu bodolaeth a natur y buddiant ar ddechrau'r drafodaeth honno, neu pan amlygir y buddiant. Mewn achos o'r fath caiff aelod siarad ond rhaid iddo beidio â phleidleisio ar y mater.

(2Rhaid i aelod sydd â buddiant personol mewn mater a bennir ym mharagraffau 13 neu 14 uchod ac sy'n mynd i gyfarfod o'r awdurdod pan yw'r mater yn cael ei drafod, ddatgelu bodolaeth a natur y buddiant ar ddechrau'r drafodaeth honno, neu pan amlygir y buddiant. Mewn achos o'r fath rhaid i'r aelod hwnnw dynnu'n ôl rhag ystyried y mater oni roddir gollyngiad iddo gan y pwyllgor safonau perthnasol.

(3Rhaid i aelod sydd â buddiant personol mewn mater na phennir mohono ym mharagraffau 12, 13 neu 14 ac sy'n mynd i gyfarfod o'r awdurdod pan yw'r mater yn cael ei drafod, ddatgelu bodolaeth a natur y buddiant ar ddechrau'r drafodaeth honno, neu pan amlygir y buddiant. Os yw'r buddiant personol hwnnw o fath y gallai aelod o'r cyhoedd yn rhesymol ddod i'r casgliad y gallai effeithio'n arwyddocaol ar allu'r aelod i weithredu ar ragoriaethau'r achos yn unig ac er lles y cyhoedd yn unig pe bai'r aelod hwnnw i gymryd rhan yn y drafodaeth ar y mater hwnnw, rhaid i'r aelod hefyd dynnu'n ôl rhag ystyried y mater oni roddir gollyngiad iddo gan y pwyllgor safonau perthnasol.

17.—(1Mewn perthynas â mater y mae gan aelod awdurdod dirprwyedig i wneud penderfyniad arno, bydd gan yr aelod fuddiant personol os byddai'n rhesymol i aelod o'r cyhoedd ganfod gwrthdaro rhwng rôl yr aelod wrth wneud y penderfyniad hwnnw ar ran y cyngor cyfan a rôl yr aelod wrth gynrychioli buddiannau etholwyr yn ward yr aelod.

(2Rhaid i aelod sydd â buddiant personol mewn mater y mae gan yr aelod hwnnw awdurdod dirprwyedig i wneud penderfyniad arno ddatgelu bodolaeth a natur y buddiant a thynnu'n ôl rhag cymryd rhan yn y penderfyniad hwnnw, gan ei gyfeirio at aelod neu bwyllgor sydd â phŵ er i wneud y penderfyniad hwnnw. Yn achos cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol sy'n gweithredu trefniadau gweithrediaeth, rhaid cynnwys y ffaith fod datganiad felly wedi'i wneud yng nghofnod y penderfyniad(15).

18.  At ddibenion paragraff 16(2) a (3), rhaid i'r pwyllgor safonau beidio ag ystyried rhoi gollyngiad onid yw'r aelod cyn hynny wedi hysbysu'r swyddog monitro o'r buddiant hwnnw, ynghyd â manylion perthnasol.

19.  Rhaid i unrhyw fuddiannau a ddatgelir gael eu cofrestru yn y gofrestr a gedwir gan y swyddog monitro o dan Adran 81(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.

20.  Rhaid i aelodau arfer cyfrifoldeb personol wrth benderfynu a oes ganddynt fuddiant personol o fath y dylent ei ddatgelu. Gallant geisio cyngor gan swyddog monitro'r awdurdod a rhaid iddynt roi sylw i unrhyw gyngor gan y pwyllgor safonau perthnasol wrth wneud hynny.

21.  Rhaid i aelodau hysbysu swyddog monitro'r awdurdod o unrhyw newid yn y buddiannau a bennir o dan baragraff 19 o fewn mis ar ôl iddynt ddigwydd.

Cofrestru rhoddion a lletygarwch

22.—(1Yn ddarostyngedig is-baragraff (2) isod, rhaid i aelod hysbysu swyddog monitro'r awdurdod am fodolaeth a natur unrhyw roddion, lletygarwch, buddiannau neu fanteision materol a gaiff yr aelod, neu hyd y gwyr yr aelod a gaiff unrhyw berson y mae'r aelod yn byw gyda hwy, oddi wrth unrhyw gwmni, corff neu berson sy'n berthnasol i safle'r aelod neu'n codi ohono, pan fydd gwerth yr eitem neu'r buddiant a geir dros y cyfryw swm y bydd yr awdurdod o dro i dro yn ei bennu.

(2Nid oes angen hysbysu swyddog monitro'r awdurdod hwnnw o unrhyw rodd a dderbynnir gan aelod ar ran awdurdod perthnasol yr aelod hwnnw.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn.)

Mae Rhan III o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (“y Ddeddf”) yn sefydlu fframwaith moesegol newydd ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru.

Mae adran 50(2) o'r Ddeddf yn darparu y caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy orchymyn, gyhoeddi cod enghreifftiol o ran yr ymddygiad a ddisgwylir oddi wrth aelodau ac aelodau cyfetholedig awdurdodau perthnasol yng Nghymru.

Yr awdurdodau perthnasol cynghorau sir, cynghorau bwrdeistref sirol a chynghorau cymuned, awdurdodau tân ac awdurdodau Parc Cenedlaethol ond nid awdurdodau heddlu.

Mae'n rhaid i god ymdddygiad a gyhoeddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 50(2) o'r Ddeddf fod yn gyson â'r egwyddorion a bennir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 49(2) o'r Ddeddf.

Mae'r Gorchymyn hwn yn cyhoeddi cod ymddygiad enghreifftiol i aelodau ac aelodau cyfetholedig awdurdodau perthnasol yng Nghymru.

Mae'r cod ymddygiad enghreifftiol mewn tair ran.

Mae Rhan I o'r cod yn ymdrin â dehongli.

Mae Rhan II o'r cod yn ymdrin â'r amgylchiadau pan fydd yn rhaid i aelodau ac aelodau cyfetholedig gadw'r cod, ynghyd â materion ymddygiad sy'n ymwneud â hybu cydraddoldeb a pharch at eraill, atebolrwydd a bod yn agored, dyletswydd aelodau ac aelodau cyfetholedig i gynnal y gyfraith, anhunanoldeb a stiwardiaeth, gwrthrychedd a gwedduster ac uniondeb.

Mae Rhan III o'r cod yn ymdrin â'r amgylchiadau pan gaiff aelodau ac aelodau cyfetholedig awdurdod perthnasol ystyried nad oes ganddynt fuddiant personol mewn mater a phan fydd rhaid iddynt ystyried bod ganddynt fuddiant o'r fath. Mae'r cod yn darparu ar gyfer yr amgylchiadau pan ddylid datgelu buddiant personol, yn ei gwneud yn ofynnol i aelodau ac aelodau cyfetholedig gofrestru buddiannau o'r fath yn y gofrestr sy'n cael ei chadw o dan adran 81(1) o'r Ddeddf ac, os yw'n gymwys, i dynnu'n ôl rhag ystyried y mater.

Mae Rhan III o'r cod yn ymdrin hefyd â chofrestru rhoddion a lletygarwch.

(2)

Gorchymyn Ymddygiad Aelodau (Egwyddorion) (Cymru) 2001 (O.S. 2001/2276 (Cy.166)).

(6)

Gorchymyn Ymddygiad Aelodau (Egwyddorion) (Cymru) 2001.

(7)

Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) 2001 (O.S. 2001/2281(Cy.171)).

(10)

Rheoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurodau Lleol (Penderfyniadau, Dogfennau a Chyfarfodydd) (Cymru) 2001 (O.S. 2001/2290 (Cy.178)).

(11)

Diffinnir “trade union” yn adran 1 o Ddeddf Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cyd-grynhoi) 1992 (p.52).

(12)

Wedi'u cofrestru o dan Ddeddfau Cymdeithasau Diwydiannol a Darbodus 1965 i 1978.

(13)

1992 p.4.

(14)

1972 p.70.

(15)

Rheoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Penderfyniadau, Dogfennau a Chyfarfodydd) (Cymru) 2001.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources