xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLENCOD YMDDYGIAD ENGHREIFFTIOL I AELODAU CYNGHORAU SIR, CYNGHORAU BWRDEISTREF SIROL A CHYNGHORAU CYMUNED, AWDURDODAU TÅN AC AWDURDODAU PARCIAU CENEDLAETHOL YNG NGHYMRU

RHAN II

Cwmpas

Darpariaethau Cyffredinol

1.  Rhaid i aelodau gadw'r cod ymddygiad hwn pryd bynnag y byddant:

(a)yn cynnal busnes yr awdurdod;

(b)yn ymgymryd â rôl aelod yr etholwyd hwy neu y penodwyd hwy iddi; neu

(c)yn gweithredu fel cynrychiolwyr yr awdurdod.

2.  Rhaid i'r cod ymddygiad hwn, oni nodir fel arall, fod yn gymwys i'r gweithgareddau hynny y mae aelod yn ymgymryd â hwy yn rhinwedd ei swydd fel aelod yn unig .

3.  Pan fydd aelod yn gweithredu fel cynrychiolydd yr awdurdod ar gorff arall, rhaid i'r aelod hwnnw, wrth weithredu yn rhinwedd y swydd honno, gydymffurfio â'r cod ymddygiad hwn, oni fydd yn gwrthdaro ag unrhyw rwymedigaethau cyfreithiol sy'n codi yn sgî l gwasanaethu ar y corff hwnnw. Pan na fydd penodiad aelod i gorff arall yn deillio o safle'r aelod fel aelod o'r awdurdod, ni fydd y cod hwn yn gymwys i'r aelod, a fydd yn hytrach yn ddarostyngedig i god ymddygiad y corff arall. Er hynny, disgwylir i aelod felly roi sylw i egwyddorion cyffredinol ymddygiad(1) a pheidio â dwyn anfri ar swydd aelod nac ar yr awdurdod.

(1)

Gorchymyn Ymddygiad Aelodau (Egwyddorion) (Cymru) 2001.